Welsh Newspapers

Search 15 million Welsh newspaper articles

Hide Articles List

11 articles on this Page

NODION NED LLWYD.

News
Cite
Share

NODION NED LLWYD. CONWV. Deallaf fed y Parch. Luther Thomas weiíí rhoddi pregeth ragorol yn y cyfarfod i'r Maear a'r Gorfforaeth. Gwr ydyw ef all ddweyd oeth- au cryfion. Yr oedd y testyn a'r mater yn am- serol—" Crist ionogaeth a'u cyfrifoldeb dinesig." NEWID PULPUD. Mae symudiad ar droed gan Gyngor Eglwysi Rhyddion Conwy i newid pulpudau unwaith yn y chwarter. Da iawn! Bydd hyn yn fantais i'r gwahanol eglwysd gael clywed yr oil o. weinr- dogion y dref. Yr oedd yn dda gennyf ddearl fod y Parch. William Edwards (B.) Conwy, yn pregethu yn addoldy yr Anibynwyr wythnos i'r Saboth diweddaf, a'r Parch. Luther Thomas yn addoldy y Bedyddwyr yn y Junction. Dyna ddechreu. Panhaed brawdgarweh. EGLWYSBACH. Yr oedd y Parch. Gwynfryn Jones yma nos Fercher diweddaf yn rhoddi ei ddarlith ar Ty yr Arglwyddi." Gresyn nas galLad Gwynfryn ymweled a phob ardal i roddi y ddarlith am- serol hon. Yr oedd cynulliad lliosog yn addoldy y Wesleyaid J'I1 gwrando arno, a phawb yn ei mwynhau. Mr Mills, o Lanrwst, oedd yn ) gadair, a gwnaeth araith bert. Talwyd diolch cynnes i'r darlithydd a'r cadeirydd gan y gwein- idog, y Parch. Gwilym Roberts, ac eiliad dyn d^ithr oedd yno. Y MERCHED. Bu helynt fawr gyda rhai o honynt yng Nghaernarfon. Yr oedd dwy o honynt wedi llogi y N euadd Gyhoeddus yno, a daeth cynull- iad Iliosog. Ond ni oddefwyd iddynt gael dweyd ond ychydig. Yr wyf wedi derby-n y llythyr canlynol oddiwrth Dora ac y mae hi, fel y gwelir, yn nodi rhesymau Lawer dros hawliau jnerched. Nis gallaf wneud yn well na'i roddi ma j HAWLIAU MERCHED. Yr ydys wedi gofyin. i ni amryw weithiau yn ddiweddar ein barn am hawl merched i bleid- leisio yn etholiad Seneddol. Gallwn ateb yn hawdd, ein bod yn dyn, ers hir amser, dros iddynt gael yr hawlfraint honno. Y maent yn cael bod yn athrawesau yn athrofeydd yr aelwyd ac yn yr ysgolrion Sabothol, ac yn y sefydliadau addysg mwyaf eu dylanwad yn y deyrnas. Y mae yn rhydd iddynt farddoni a thraethodi a hanesyddu, a dhymeryd eu lIe fel awduresau ymysg enwogion yr oesau; ac y mae llawer o honynt yn. dyfod allan bob mis i gymeryd llwybrau uchaf llenyddiaeth a hanes- yddiae-fth, a phrif ffyrdd y celfyddydau a'r gwybodaethau, ac hyd yn oed feusydd uchai ao eangaf diwinyddiaeth. Y maent yn awr yn cymeryd eu lie ar feinciau blaenaf ein colegau meddygol; ac y maent yn ennill y graddau uchaf yno, ac yn cael gweinyddu fel nurses mewn yspytai ac mewn gwersylloedd; a buasai yn dda heddyw i achos physigwriaeth yn ei boll gylohoedd pe buasent yn cael yr hawl- fraint hynny yn gynt ac yn llawnach. Y mae ganddynt eu pwyllgorau i weithio o blaid Beibl- gymdeithasau, a chymdeithasau cenhadol, a phob sefydliad o ehLsen a dyngarwch; ac y mae eu diwydrwydd a'u gweithgarweh yn dy- lanwadu er lies eang i gymdeithas. Y maent yn cael pleidleisio yn etholiad gweinidogion a swyddogion yn yr eglwysi lie y maent yn ael- odau. Y maent yn cael anfon deisebau a chofebau i ddau Dy y Senedd, ar anerchion pan y mynant at orsedd y Brenin, neu at fyrdd- au llysoedd tramor. Y maent yn gyffredin yn cael bod yn frenhinesau yn eu teuluoedd gar- tref, ac ni byddai yn ddim colled pe caent Íwy o lywodraeth mewn ambell i deulu. Y maent yn ami iawn yn cael llywodraethu pleidlais y gwr, neu y brawd, neu y mab, neu y cariad, ymhob lie y mae yn myned. Y maent yn cael gwneud ac arwyddo cytundebau, a dal a meddu tiroedd, a chadw masnachdai, a chodi a chadw arian, a thalu pob trethoedd, a gwneud eu llythyrau cymiun. Y maent yn cael canu a gweddio, a pbregethu, a darliithio, a bod yn famaethod a hena.duresau yng nghyniulleidfa y saint, ac yn ddiaconesau a gweinidogesau yn yr eglwysi. Y maerut ) n gorfod dw\n eu llawn ran o holl feichiau cym- deithas, ac y maent yn gwneud eu llawn ran tuag at gynnal a chyfnerthu y wladwriaeth ac nis gallwn wybod paham na byddai yn deg iddynt gael pleidleisio yn etholiad Seneddwr. Os dywedir y byddai yn drwm gweled march brydweddol, foneddigaidd, wylaidd, yn gorfoa ymwasgu drwy fintai o. feddwon budron, geir- won, isel eu moes a'u hiaith, tua bwth y bléd. lais, gellid ateJb eu bod yn gorfod bod ymysg rhai felly mewn mannau eraill—yn y faxebnad ac yn y cerbyd, ar ben heol y dref, ac ar yr aelwyd gartref. A dichon y gall eu presenol- deb oddeuitu porth y bleidlais fod yn foddion i foneddigeiddio a moesoli yohydig ar yr anwar- iaid gwrrywiaidd fyddanlt yno. Y mae gan- ddynt eu dawn a'u dylanwad, a dylent gael chware teg i'w defnyddio ar adeg etholiad fel ar adegau eraill, a chael rhoddi eu pleidlais yn y "polling-booth" fel yng nghylchoedd eraill cymdeithas. Y maent yn cael bod yn frenhinesau," a byddai yn eithaf anghyson mewn gwlad i wadu a gwrtho-d hawl merch i bleadleisio, pan y cofiwn y bu merch yn eis- tedd mewn parch a bri a defnyddioldeb, ar or- sedd y wlad hon. Y mae dyngarwyr blaenaf a mwyaf meddylgar ac athronyddol yr oes yn barnu yn. bwyllog y dylent gael defnyddio eu hawl i bleidleisio mewn etholiadau, ac y bydd- ai hynny yn foddion i gryfhau teyrngarwch a gwladgarwch y deiliaid, ac yr effeithiau mewn llawer dull er goleuo a chyfoethogi a dyrchafu y wlad. Y mae eu hawl i'r bleidlais yn dyfod yn fwy-fwy eglur bob blwyddyn, a daw pob gwlad GristionDgol" i gydnabod hynny cyn bo hir a bydd yn gywilydd gan Lywodraethau a Senjeddau yr oesau a ddaw, fod hawlfra'nt mor bwysfawr wedi cael ei chadw gyhyd o',u cytrhaedd. Well done, Dora," y mae yn dda iawn:. LLANFAIRFECHAN. Nos Fawrth cyn y diweddaf yr oedd yma gyngherdd gan y Glanlafan Male Voice Party. Bu y cor hwa un enwog am gyfnod hir, ond rhoisant eu teynmau ar 3"r helyg. Ymddengys eu bod am fyned i Lerpwl tua'r Nadolig i gvstadlu. Eu har.veinydd ydyw Mr ugh J. Jon-es, A.C. cerddor ac arwemydd galluog ydyw ef. Cymer. wyd rhan yn y cyngherdd gan y dadganwr en- wog, Mr Will Roberts, Bangor, a Miss Gwlodys Hug-hes, boneddiges ieuanc yn meddu ar lais swynol Jawn. Yr oedd yr hen gyfeillion, Mri. John Hughes a Thomas Hughes yn canu mor swynol ac erioed, ac yn cael cymeradwyaeth fawr. Cvfeiliwyd yn feistrolgar gan Mrs H. R. Davies, Richmond House, a Mr William John Jones. Canodd y cor amryw ddarnau yn nei.ll- tuol o ganmoladwy. Nid oedd ganddynt lywvdd ir cyngherdd, ond arweiniwyd ac adroddwyd gan ddyn diarth. Da gennyf oedd clywed fod y Fleer parcbus wed, cyfrannu yn haelionus i drysorfa y cor, a bod Dr. Clifton Hughes yn noddydd caredig iddynt bob amser.—Yr oedd y brawd Mr William M. Eames 3^1 llywyddu mewn darlith yn Aber y nos o'r blaen. NED LLWYD," Weekly News Office, Conwy. (Methasom a chyhoeddi y llith hon yr wythnos Qiweodaf o achos prinder gofod. GOL.)

Advertising

Nodion Llywarch Hen

..-.clill Yr Arglwyddi a'r…

Deganwy Schoolmaster's Action.

-----.--Forward Movement in…

Advertising

Rev. Seth Joshua at Colwyn…

--.----Roe Wen Miniature Rifle…

..-.---Christmas in Many Lands.

...--.--.... Abergele Coursing…