Welsh Newspapers

Search 15 million Welsh newspaper articles

Hide Articles List

13 articles on this Page

Advertising

Nodion Llywarch Hen

Advertising

!Cymru a'r Beibl.

-4)JI88.. Cyfarfod Misol Dyffryn…

.._.. Tysteb i "Hyfreithon."

Advertising

'Newyrth Huw yn Llanymor.

News
Cite
Share

'Newyrth Huw yn Llanymor. (PARHAD.) Gawn ni fyn'd am dro bach, Huw? Fum i fawr allan heddiw. Mi euthon i fyny'r ceue, a thrwy lidiard y mynydd, ac i fyny yno,, i dawelwch nef, He nad oedd ond y ni, a natur, a Duw. Mi esteddsom ar dorian esmwyth. Fum i 'riœd mor ddedwydd ar fynydd a'r prynhawn hwnw. On' ydi'r mynyddoedd yma'n grand, Huw," ebra Gwendo, mor gadarn a diysgog. Mae'r storom yn 'i rhuthro nhw'n ddigon mynych ond dyma lie maen' nhw 'r un fath yn union wedi i bob storom fyn'd heibio. 'Dydyn nhw ddim yn cymryd arnynt byth i bod nhw wedi bod dan y <torom. Oni dydi blode'r myn- ydd yn biwtiffwl? Wel' di'r grug yma? Wel- odd neb yrioed o'r blaen y blode clysion yma, a f'alle na wel neb eto monyn nhw byth. Dim gwabaniaeth gen y grug, mae o yma'n distaw foli'i Grewr allan o olwg a chlyw'r byd. 'Does dim hunan yn hwn, Huw. A dacw'r haul yn hwylio dan y gaere. Mor ddifir mae o'n edrych ar derfyn d'wrnod o waith, ac fel tae o'n deyd, Mi a orphenes fy ngyrfa.' 0 mi leicswn i fod yr un fath a'r rhei'n, Huw." Er 'y mod i'n cydymdeimlo a'i geirie hi, deyd wrthi hi'n ddigri ddar'um i, nad own i ddim wedi meddwl i bod hi'n dod i'r mynydd i brygethu, ne gadw seiat." Tt ^STid prygeithu 'roeddwn i, ond deyd be' oedd y rhei'n yn br-ygethru i mi; a mi fydda' i'n ceisio gneud i bopeth bryge,thu i mi, ac mi fydda'n ceisio troi popetih alia' i'n ddennydd seiat, ac 'r ydw i'n teimlo'n b'rottach i beth felly heno nag un amser, am TO i. Fum i 'rioed yn teimlo'n fwy dedwydd, Huw." Gwendo, felly fine; ond am danat ti 'r ydwv i'n meddwl mwya', ac am gael bod ag efo'n gilidd yn byw yn dda ac yn ddedwydd." Ie, Huw dydi'r ffordd ene ddim yn ddierth i'm meddwl ine vchwaith." Yrwan, Gwendo, gan fod yr hen bobol wedi rhoi consent, bryd y cawn ni briodi?" "0! Huw, nid ar unweth. Gad i mi dipin bach o amser cyn penderfynu. Mi fydd yn ddifir iawn fel hyn am 'chydig, ys cawn ni'n dau iechid,— a nice little time of it." Mi fydd yn fwy difir ganweth pan, fydd Gwendo'n wraig i mi, a mine'n wr i Gwendto. Na, bryd y cawn ni briodi Huw, fedra i ddim d'ateb di am dipyn." Pa'm, Gwendo, pa'm?" Mae un peth yn rhwstro i mi ateb?" Beth, Gwendo?" Wel, mae'n iawn i ti gael gwybod, debig gen i. Mi fase'n well gen' i o lawer i ti beidio gwasgu am i mi ateT). Na, gad i mi wybod be' sy'n rhwystxo." Ar ol bod yn ddistaw am funud ne ddau, mi ddedodd, Mae rhwbeth yn deyd i mi o hyd na fydda' i ddim byw yn hir a mae rhw ball ar fy iechid i er's tro. Wyr nhad a mam ddim chwaith, a fuom. i ddim efo un doctor na pheth." Tase hyny'n bod, 'dydi o ddim yn rheswm dros i ni beidio priodi. 'Does neb ar y ddeuar 'nai fwy i ti, tae ti'n myn'd yn sal, nag y nawn i.. Gwendo^. Raid i hyna ddim bod ar y ffordd." 'Does gen' i ddim doubt am hyny, Huw, ac mi .'rydw' i'n dy garu di hefyd nes mae hi'n myn'd yn fwy anodd bob dydd byw heibddot ti. Ond os oes gen i le i ofni fod fy iechid i heb fod yn ddigon da, fydde fo ddim yn iawn i mi briodi, ac y mae gneud popeth yn iawn hyd y medra i, yn. rheol 1 mywyd i. £ Nei di ddim gofyn i mi eto heno, huw, 'nei di?" ebra hi, gan dafiu edrychiad taer i fyw fy llygid i. Very well" ebrai ine, os ydi o'n ddymuniad gen ti; ond y tro nesa ynte." "Ie," atebe,hithe. Yr oedd yr haul yn myn'd i lawr, a chychwyn- son nine'n ol, yn. ddifir odieth. Ond yr oedd rhwbeth wedi myn'd i 'nghalon i 'r un pryd wrth wel'd Gwendo mor ddifri'n son am 'i hiechid. Wedi cyredd y Glyn, mi es i ddeyd nos daw'oh wrth Rhobet a Mrs Vaughan, ac 'roeddwn ni o'r ddwy ochr yn teimlo na fuo' ni 'rioed yn rhoi'r nos dawch yr un, fath. 'Roedd riw dine newydd, rwsut, yn y ddau nos diawch,—'i hun nhw, a f' un ine. 'R oed den ni'n teimlo'n ods o agos at y'n gilidd. Mi es i ddeyd nos dawch wedyn wrth Gwendo. 'Cha i mo dy wel'd di am yn hir eto., Huw." Mi wydde fod busnes y tyddyn yn peri i mi fod o gartre am wthnos ar ol y nosweth hono. 'Rydw' i'n myn'd yn ffol ar unweth, Huw, ac yn tedmlo y bydde'n dda gen i i ti fod yma o hyd ond cha' i mo dy wel'd di'n hir eto. Rhaid tendio'r fferm a'r fyfolieth ne fedre'n ni ddim priodi berth bynag." Paid ti bod yn ddigalon, Gwendo bach; wneith hyny ddim lies iechid i ti. 'Rydw' i'n dis- gwyl na bydd gen' ti ddim ofm> dy iechid pan ddoi adre." O d'wn i ddim. Tipin o ofn sy ama' i, tae ofn hefyd. 'Rydw' i'n fodd- Ion i 'wyllys yr Arglwydd, Huw. Bydd dithe felly." Daeth i nanfon i i ben yr allt. 'Roedd hi fel yn methu 'ngadel i, a mine'n methu 'i gadel hithe. Bore dranoeth mi gychwynes i nhaith yn bur fore. ac wrth fyn'd dros ysgwydd y bryn gyfer- byn a Glynbreilw, mi edryches tuag yno, ac mi welwn rwbeth gwyn yn ysgwyd ynghwr yr ardd. Mi graffes, a mi weles mai ngeneth i oedd yno yn ysgwyd j cihadach pooed fel i ddeyd ffar- wel." Mi atebes ine .gyda,'m cadach poced oeddwn i wedi gael yn bresent geni hi, a mi fu tipin Of gyhwfan ar y ddau cyn colli golwg ar y'n gilidd. Pan gyraeddes i'r Cwm yn ol ymhen yr wth- nos, y peth cynta glywes i oedd bod Miss Vaughan, Y Glyn, yn. sal iawn," a phawb yn yr ardal ymron tori c'lone gen ofn iddi hi farw. Ar ol cael tamed, rhedes gynted gallwn i'r Glyn. Yr oedd Rhobet Vaughan yn y parlwr bach 'i hunan. Pan welodd fi, mi dorodd allan i lefen, a mi fethes ine beidio tori allan i lefen. 'Roedd yi doctor yn y llofft er's medtyn. Mi ddaeth y doctor i lawr toe. Sut 'rydech chi'n 'i gwel'd hi heno, doctor?" ebra'r hen wr. Pur sal yn wir!" Oes rhw obeth, doctor anwyl?" Wel," ebra'r doctor, I rhai byw oil y mae gobeth, Mr Vaughan, a mi nawn nine'n, gore, gan ddisgwil am fendith yr Arglwydd. Y mae ami ymwared gyda'r Arglwydd.' Mi weles yn glir, glir, Nyw, mai gwan oedd pob gobeth fedde'r doctor, a mi deimlwn 'y mrest fel tas,e hi'n myn'd i dori, a nghalon i fel tase hi mron myn'd yn dipie. Ce's fyn.'d i'r rwm am funud ond 0 mi welwn fod 'y Ngwendo anwyl i'n rhy bell i wbod dim mod i yno. Mi gofies 'i geirie hi 'r noson ola gwelswn i hi, ac mi gofias am y cadach camric yn ysgwyd yn yr awel. 0 Nyw, dene wthnos i mi oedd yr wythnos yr oedd cariad 'y nghalon i ar lame'r hen lotddonen. Yr oeddwn i'n dysyfu bod yno gyda hi, rhiw hir- aeth am allu 'i helpu hi. On' toeddwn i'n ffol -yn bechadurus ffol, a mine'n gwbod i bob sicr- wydd fod y gwr fedre dori grym y dyfroedd yn siwr 0 fod yno yn i helpu hi. Ond be nei di? Felly 'rown i'n, teimlo. Mi fuo agos i mi rwg- nach cwmin nes digio 'Nhad Nefol; ond mi gwmpes with 'i draed 0, gan lefen am ei dru- garedd i mi yn 'y nhywydd, ac mi ces, hi hefyd, yn 'i ffordd 0 'i Hun, a hono ydi'r ffordd ore, Nyw. Wedi i mi godi oddiar 'y nglinie mi agores yr hen Lyfr, ac ar ba eirie y disgynodd y llygid yma ond ar eirie gwynfyd y dyn mae Duw yn 'i geryddu, yn llyfr Job. Mi wyles afon, am wn i; ond wvlo, a deyd yr un pryd,— D'wyllys Di a wneler." Mi es i'r capel drw'r dydd y Sul, ac yn yr ysgol, yr adnode ddedes i oedd adnode Eliphaz am y gwynfyd. 'Rydw' i'n 'i cofio nhw bob gair y funed yno: "Wele gwyn ei fyd y dyn a geryddo Duw am hyny na ddir ystyra gerydd yr Hollalluog. Canys Efe a. glwyfa ac a. rwyro Efe a archolla, a'i ddwylaw Ef a iachant. Mewn chwech, o gyfyngderau Efe a'th wared di; ie, mewn saith ni chyffwrdd drwg a thi." (Job v. 17-19.) Fed'swn i ddim peidio 'i dteyd nhw dan deimlad, ac mi deimlodd yr hogie druan yn y class gymin wrth wr,ando'r ad- node nes colli deigryni bob ag un. Bore Llun 'doedd yr un wyneb sych yng Nghwmygog. Yr oedd Gwendo anwyl wedi myn'd! Mi deimles fod yr hen Gwm "fel tase fo'n berffetli wag. Mi fuo'n dda iawn i mi am adnode Eliphaz pan glywes i 'r newydd. Mi es i'r Glyn i edrech am yr hen bobol. 'Roedden nhw'n anwyl ohcnwy i, a mine'n teimlo'n anwyl ohonyn nhwthe, worth i ni ddeyd y'n teimLade wrth y'n gilidd. Mi fethes yn glir a myn'd i'r clydigeth wel'di. I'r mynydd ytr es i heb ddeyd yr un gair i neb b'le ro'wn, i'n myn'd. Mi es i'r fan 'roedd Gwenda a mine'n eiste'r prynhawn hwnw. Mi welwn, y Glyn gwag. Mi weIwn y bobol yn casgiu o bob cyfeiriad,—cerbyd ar ol oerbyd, a mintai ar ol mintai- Mi welwn y dorf yn cychwyn o'r Glyn. A rwbeth od 'iawn i deimlad ydi gwel'd clydigaeth yn cychwyn o'r ty. Ond gwel'd clydigeth Gwendo'n cychwyn oedd yn beth tost! Myn'd yn ara at v capel, o'r capel at lan y bed'd, a rhoi corpn Gwendo' yn y pridd. Mi welwn, bene gwinion Evan Peters, Talybont, a Mr Edwards, y Bala. Mi glywn y dorf jin canu'r hen anthem, Y cyfiawh drig yn y nef." Mae swn canu'r lein,- Maent wedi cyraedd pen. eu taith," yn 'y nglust i r' funud ym.a. Mi glywn ambell air o weddi Mr Edwards, yn enwedig pan yn codi 'i lef ar ran yr hen bobol. Mae'r bwlch yn fawr," meddai, ond gelli Di lanw'r Bwlch." 'Roeddwn ine'n teimlo'r bwlch yn fawr ofnadwy, wel'di. 0-nd, Nyw, mi weles 'y Ngheidwad yn dod i' rbwlch, a mi clywes o'n deyd y funud hono. Pan elych drwy y dvfroedd, Myfi a fydd- af gyda thi; a thrwy yr afonydd, fel na lifonr drosot." 'Ro'wn i yn y dyfroedd a'r afonydd, ond yr oedd ynte yno yn 'y nal i rhag boddi. Wel, Nyw bach, madde i mi ami fod mor hir yn deud y secred. Ddedes i 'rioed o'r blaen moni hi. Wybu neb dan heno b'le 'roeddwn i dd'wrnod claddu Gwendo. Mae Gwendo- yn eiddo i mi heddiw, a hi fydd byth; ac wedi croesi'r afon, y peth cynta 'na i, ar ol i mi wel'd Iesu Grist, fydd myn'd i chwilio am Gwendo. Synwn i ddim, ran hyny, na fydd hi yn 'y nis- gwil i ar y lail draw, ac maihi neiff ddangos y ffordd gynta i fyn'd ar union at lesu Grist. Mi fydd yn dda iawn gen i wel"d 0 megis ag y mae, a gwel'd Gwendo. NEFOEDD!" EDNYWEN.

Eisteddfod Fawr Colwyn Bay.

Conway Market.

Advertising

Trip Ysgol Sul Capel Ni.

Nodion Llywarch Hen