Welsh Newspapers
Search 15 million Welsh newspaper articles
13 articles on this Page
Hide Articles List
13 articles on this Page
Advertising
Advertising
Cite
Share
FRISTER & ROSSMANN'S RiglKlass Sewing machines FOR EVERY HOME. i WITH WALNUT COVERS. FULL SET OF ATTACHMENTS. HAND VIBRATING SHUTTLE. TREADLE £ 3 7 6 £ 4 14 6 CAM ACTION. A2 16 0 A4 4 0 You may pay more, but you cannot buy better. Over i,ooo,ooo sold. F. & R's Machines are finest cash value on the market. SOLE AGENTS FOR THIS DISTRICT: RHYDWEN JONES & DAVIES. Ilk Rppduxn ion oviolawalkwam IV W'W L- -Jl' Complete House Furnishers, Upholsterers, Cabinet Makers, RHYL, COLWYN BAY, LLANDUDNO. ¡ .Jf- J} 3 '1<> U ^Presents rorxmas^l ras -RdJ J l, ] Ladies' Vanity Bags. Travelling Requisites. Down Quilts. I Folding Draught Screens. Occasional Chairs. Tables. Bureaux. Divan Chairs. i Chesterfields. Souvenirs of Wedgwood, Worcester, Crown Derby, Coalport, Delft, Minton, and other leading makes. Plushettes. Wool Serges. Tapestry. Chenille and Wool Bordered Curtains. Cushions. Tea Cosies.
Nodion Llywarch Hen
News
Cite
Share
Nodion Llywarch Hen Beth fydd pwngc llosgawl yr etholiad nes&t t Rhydd Ty'r Arglwyddi'r Gyllideb fel amdo wen i'r wlad i'w barnu. Ond can yr arweinwyr man eu corn hela ar y lliaws i fan arall, i bendroni yng nghylch Masnach Rydd a Chaeth Fas- nach." Lie y mae'r egwyddor? Cyflwyna'r duweiaid gwleidyddol yn y Senedd y Gyllideb i'r wlad a chlywir eu swn heb leferydd yng nghlustiau'r man gapteniaid yn eu gorchymyn i hela hydd Tariff Reform." Na sonier am eg- wyddor a chysondeb, egwyddor ein plaid ni yw ei llwyddiant. Os cyflwynir i ni'r Gyllideb i'w barnu, rhowch lonydd uwch ei phen, a pha- ham y ffy'r Ceidwadwyr at ddim arall. Ofnant golli ar y Gyllideb, a ffoant am gwch Caeth- fasnach." Plentyn horddach y geilw Mr. Balfour Fasnach Rydd." Gan bwyll Mr Bal- four. Na faeddweh gymeriad yr enethig landeg hon, hi gadwodd ei myrddiynau rhag newyn. 0-; yw dydd ei hangladd yn agos, eleddweh hi'n barchus, am y daioni wnaeth. Horddach vn wir! Ganwyd hi yng ngwely glan Rihyddfryd- iaeth. Yr oedd eich plaid chwi yn ymloni cy- mainit yn ei hunan gariad, fel na phuteiniai hyd yn oed er daioni. Chwi fethasoch ei lladd ar ei geni. Methasoch ei chroeshoelio dair blyn- edd yn ol. Er eich bod yn, hogi eich arfau— Byw fyth fo Masnach Rydd." Y mae'r Blaid Wyddelig fel hen Fynachlog a'i phen ynddi, yn breuddwydio yng ngoleu'r Lloer ar ei hadfeilion dibwrpas ei hun. Ym- golla i'w hunanles, a brasa ei chalon ar ei breuddwydion hunangar. Ni chofia am gyfiawn- der i eraill, a phallodd ei golwg. Ni wel y gwasga ei hun wrth wasgu eraill, y rhiaid i'r ffrwd. wrth y ffynon. Llefai Mr John Redmond yn Nulun—" If Irish industries could be pro- tected against England by Tariff Reform, he would be for it." Agored rheswm ei lygaid am un mynydun. Pe'r noddai ddiwidianau'r Iwer- ddon rhag Llbegr, oni noddai hefyd ddiwidian:- au Lloegr rhag yr Iwerddon. Cofier mai llafn dau finiog yw'r Tariff Reform yn y wedd hon. I ba le Mr Redmond yr aech chwi a'ch chwisgi, a'ch gwartheg, moch, ieir, wyau, a'ch Tatw? Onid yw addefiad Mr. Redmond yn cynwys grym y twyll sy'n twyllo eraill. Enill rhyw fudd bach, agos, ar draul d-inistrio holl gwrs mtasnach y wlad. Gwae'r bobl hunangar, cyfeillion hunanol John Redmond, ac addolwyi breuddwydion Joseph Chamberlain; y bobl sy'n sychedu am waed duwies "Masnach Rydd," er mwyn gosod ar ei gorsedd deg hi, yr eulu.n- dduw mamon—noddwr cribddeilwyr. O'm blaen y mae swim y gwastraff ym mhalas- au'r gyfeddach—yr arian wariwyd i borthi'r wangç am ddiod feddwol. Dyma hwy:- Yn 1S99 yr oedd yn £ 185,927,227, neu'n £ 4 us. 8c. ar gyfer pob un o honom yn y wlad. Er dued y cwmwl, y mae'r lleihad yn llawen- ydd. Swm dnadwy! Digon o faint [ droi pob tin rhesymol, a rhyw faint o dda yn ei gialon, yn elyn anghymodlawn i'r felltith hon. Yr ydym yn ochain yng n.ghylch y Bension a chosit- au eraill. Wele "ddigon o for o arian i nofio ein "holl fan-gychod elusengar yn hwylus. Gwnai-r arian ofer hyn ddigon i roddi coron yr un yn wythnosol i 12,389,266 o bersonau. Rhodder arian y ddiod, aberth duw Bachus, am un flwy- ddyn i grefydd y gwir Dduw, i weled pa un o'r ddwy oruohwylaaeth wna fwyaf o ddaioni. Rhodder-hwy am flwyddyn arall yn waddoliad i Ysbyttai'r wlad. A welwch chwi filoedd o rudd- iau yn loywon hardd' gan ddagrau gwir lawen- ydd, am godi'r sefydliadau hyny uwchlaw angen. am byth. 0 fy ngwlad, cartref rhyddid a rhin- wedd, pa fodd y mae dy sefydliadau daionus yn haner newynu, a'r ddiod sy'n dy ddamnio yng nghanol llawnder. Un arall o'n ceubyEau diwaelod yw'r Llynges a'r Fvddin. Gwaria Ffrainc, Germany, a Phrvdain rhyngddynt y swm hardd 0 £ 148,917,714 o arian yn flynyddol ar eu gwyr ewaedlvd. Crogir llofruddion cyffredm, a daw arswyd a dyahryn pan laddo neb wladwr yn ei balas, neu ddinesydd ar yr heol. Ax yr un pryd. dyfeisiw-i yr aifau mwyaf manteiaiol 1 lada pool mewn rhyfel, a dysgir dynion i lofruddio eu cyd-ddynion. Nid ydynt ddim amgen na gwaed gwn, sychedig am waed. Brasa arritbell newydd- iadur ei logau ar bwys ei ysbryd rhyfelgar. Os yw'r pethau hyn gyson a rheswm, ac a moesau r wlad, nid oes ynddynt un cydgord ag egwydd- orion y Testament Newvdd. Coelia rhai am danynt eu hunain, illai" eU nheges fawr yn y bvd yw hau hadau anghydfod, hogi r cledd, a chadw'r fagnel yn ddirwd. Ffrwyth y trechaf treisied yw heddwch grym arfau. Ysgafnach yw na eweei yng nghlorianau'r nef, am nad oes ™diT?wyitos a ctariad brawdol. Y nme h?ll egwyddorion moesol ein natur yn ei gondemnio. Pobir credoau fel bara can, ac adrodda dynion hwynt yn ben uehel, heb feddwl unwaith am eu byw'n feunyddiol, rhoddi eu hewyllus yn anacli einioes yn eu cred. Daeth i'm Haw heddyw, ddwy gyfrol gyhoedd- edig gan y "Bangor Welsh Manuscript Society. Fel y dengus ei henw, cykoeddi hen Ysgrifiau Cymreig, ac Ysgrifiau perthynol i Gymru ydyw ei gwaith. Cododd y Gymdeithas hon yn ol yr an^en i gyhoeddi ein hen dirysorau, eu codi o'u beddau o'n Llyfrgelloedd, a'u dwyn i oleu'r dydd. Rhodded y wlad iddi gefnogaeth, fel y medio ddwyn allan weithiau sylweddol, a chyf-
Advertising
Advertising
Cite
Share
Yn Y GENINEN," y flwyddyn nesaf, parheir yr ysgrifau ar Gvcbwvniad v Gwahanol Enwad- au yng Nghymru." Ysgrifenir hwynt gan rai o brif lenyddion y genedl.
!Cymru a'r Beibl.
News
Cite
Share
Cymru a'r Beibl. To THE EDITOR OF THE Weekly News. Sir,—In a paragraph of one of his weekly Nodion," Llywarch Hen asked me to explain a sentence which he quoted out of a letter of mine published, the previous week in your paper. The explanation I sent to your office,-iii time (I thought) for insertion in the current week's issue,—but did not appear until last week, when it was immediately followed by a long answer signed by Llywarch Hen." That reply, which is only a tissue of insults both to me personally, and to a Church I love much more than my own life, that reply does not destroy any of my arguments. At all events, I have had the manliness of fighting an open figlit,-I)ccause I am a "free man," whatever Llywarch Hen may like to say about it. But, what about himself, when he dares not even have the courage of his opinions and assume, before the public, the responsibility of his potentious assertions ? To be sure, if he speaks the truth and nothing but the truth,"—" y gwir a dim ond y gwir,"—why should he be afraid of fighting face to face with a poor little Pabydd lost here among hundreds of people who, educated by him and his colleagues at their purely Biblical school, consider the Papists as a terrible sect so-called Christians well worthy of the hatred they inspire them ? Besides, what is the use of my trying to argue with such a scholar ? I have,—so he says,— "sacrified my reason and liberty in order to obey the oppressive nothingness of my Church Let me only tell him that this Church will survive his Calvinistic Methodism, and, in God's own time, will be again, as it once was, "the Church of the Cyrnry."—I am, &c. Llanrwst. G. M. TREBAOL, O.M.I.
-4)JI88.. Cyfarfod Misol Dyffryn…
News
Cite
Share
-4 )JI88 Cyfarfod Misol Dyffryn Clwyd. Cynhaliwyd hwn yn y Groes, Dinbych, dyddiau Iau a Gwener diweddaf, dan lywyddiaeth Mr Robert Owen, U.H., Dinbych. Hysbyswyd fod Eglwys y Groes wedi cydsynio a Stryd Henllan i fod dan ofalaeth fugeiliol. Anfiafriol oedd eglwysi Llysfaen a Llanddulas i alw ymhellach am wasanaeth gweinidog. Caed hanes yr achos yn y Groes dan arweiniad y Parch J. D. Owen a Mr O. Williams, Bodfari. Cysurus i raddau oedd profiad y swyddogion, a chalonogol iawn ydoedd y wedd allanol, dim ond ychydig ddyled yn aros ar yr holl adeiladau. Y mater dan sylw ydoedd, Yr eglwys a dirwest." Agorwyd gan y Parch J. Glyn Davies, Rhyl, a siaradwyd ymhellach gan y Parch O. Ffoulkes, Bettws. Rhoddwyd derbyniad caldnog i'r Pdrch T. R. Jones ar ei sefydliad yn weinidog i Caerwys. Penderfynwyd fod y C.M. nesaf i'w gynnal yn Clwyd-street, Rhyl, Rhagfyr 16eg. Caed anerchiad gan y Parch E. James Jones ar ran yr achosion Seisnig. Cyhoeddwyd i bregethu y Parchedigion Owen Ffoulkes, Bettws E. James Jones, Rhyl Owen Owen, Rhyl J. Tudno Williams, Dinbych Edward Thomas, Llanrhaiadr a J. Glyn Davies, Rhyl.
.._.. Tysteb i "Hyfreithon."
News
Cite
Share
Tysteb i "Hyfreithon." Yng nghapel Salem (M.C.) Penmachno, nos Wener diweddaf, cynhaliwyd cyfarfod igyflwyno tysteb i'r bardd-bregethwr, Mr. J. Owen Jones Hyfreithon), ar ei waith yn ymgymeryd a gofal- fugeiliol Eglwysi y Graig a Dylife, yn Sir Drefald. wyn. Llywyddwyd gan y Parch. T. J. James. Cafwyd anerchiadau pwrpasol gan Mri. J. E. Roberts, Henrhiw O. Williams, Chester House; Owen Evans, Bron Dderw; Robert Morris, London- terrace, a chafwyd hanes dyddorol a manwl gan Mr. John Evans, Graianfryn, ar Y Pregethwyr a godwyd yn Eglwvs Salem." Dywedai fod yna saith o bregethwyr wedi eu codi: Parchn. D. Davies, Abermaw; John Jones, Pandy Thomas Jones, Penmachno, a William Jones, Port Dinor- wig, y pedair yna wedi ei claddu yr oedd yn fyw yParchn. William Jones, Conwy; D. E. Roberts, Llaneueain a J. O. Jones (Hyfreithon). Cyflwyn- wyd y dysteb, ar ran yr Eglwys, gan Mr. Hugh Hughes, yn cynnwys llyfrau a phwrs o aur. Cyd- nabyddwyd yn ddiolchgar deimladau da ei hen gyfeillion gan Hyfreithon. Dadganwyd yn ys!od ¡ y cyfarfod gan Barti Aelwyd Angharad" dan arweiniad Mr. R. D. Owen.
Advertising
Advertising
Cite
Share
Y GENINEN ein Prif Gylchgrawn Cened- laethol.- Ysgrifenir iddo gan oreugwyr llenyddol genedl. Rhodder archeb am y flwyddyn nesaf yn ddioed, ihag cael siomedigaeth.
'Newyrth Huw yn Llanymor.
News
Cite
Share
'Newyrth Huw yn Llanymor. (PARHAD.) Gawn ni fyn'd am dro bach, Huw? Fum i fawr allan heddiw. Mi euthon i fyny'r ceue, a thrwy lidiard y mynydd, ac i fyny yno,, i dawelwch nef, He nad oedd ond y ni, a natur, a Duw. Mi esteddsom ar dorian esmwyth. Fum i 'riœd mor ddedwydd ar fynydd a'r prynhawn hwnw. On' ydi'r mynyddoedd yma'n grand, Huw," ebra Gwendo, mor gadarn a diysgog. Mae'r storom yn 'i rhuthro nhw'n ddigon mynych ond dyma lie maen' nhw 'r un fath yn union wedi i bob storom fyn'd heibio. 'Dydyn nhw ddim yn cymryd arnynt byth i bod nhw wedi bod dan y <torom. Oni dydi blode'r myn- ydd yn biwtiffwl? Wel' di'r grug yma? Wel- odd neb yrioed o'r blaen y blode clysion yma, a f'alle na wel neb eto monyn nhw byth. Dim gwabaniaeth gen y grug, mae o yma'n distaw foli'i Grewr allan o olwg a chlyw'r byd. 'Does dim hunan yn hwn, Huw. A dacw'r haul yn hwylio dan y gaere. Mor ddifir mae o'n edrych ar derfyn d'wrnod o waith, ac fel tae o'n deyd, Mi a orphenes fy ngyrfa.' 0 mi leicswn i fod yr un fath a'r rhei'n, Huw." Er 'y mod i'n cydymdeimlo a'i geirie hi, deyd wrthi hi'n ddigri ddar'um i, nad own i ddim wedi meddwl i bod hi'n dod i'r mynydd i brygethu, ne gadw seiat." Tt ^STid prygeithu 'roeddwn i, ond deyd be' oedd y rhei'n yn br-ygethru i mi; a mi fydda' i'n ceisio gneud i bopeth bryge,thu i mi, ac mi fydda'n ceisio troi popetih alia' i'n ddennydd seiat, ac 'r ydw i'n teimlo'n b'rottach i beth felly heno nag un amser, am TO i. Fum i 'rioed yn teimlo'n fwy dedwydd, Huw." Gwendo, felly fine; ond am danat ti 'r ydwv i'n meddwl mwya', ac am gael bod ag efo'n gilidd yn byw yn dda ac yn ddedwydd." Ie, Huw dydi'r ffordd ene ddim yn ddierth i'm meddwl ine vchwaith." Yrwan, Gwendo, gan fod yr hen bobol wedi rhoi consent, bryd y cawn ni briodi?" "0! Huw, nid ar unweth. Gad i mi dipin bach o amser cyn penderfynu. Mi fydd yn ddifir iawn fel hyn am 'chydig, ys cawn ni'n dau iechid,— a nice little time of it." Mi fydd yn fwy difir ganweth pan, fydd Gwendo'n wraig i mi, a mine'n wr i Gwendto. Na, bryd y cawn ni briodi Huw, fedra i ddim d'ateb di am dipyn." Pa'm, Gwendo, pa'm?" Mae un peth yn rhwstro i mi ateb?" Beth, Gwendo?" Wel, mae'n iawn i ti gael gwybod, debig gen i. Mi fase'n well gen' i o lawer i ti beidio gwasgu am i mi ateT). Na, gad i mi wybod be' sy'n rhwystxo." Ar ol bod yn ddistaw am funud ne ddau, mi ddedodd, Mae rhwbeth yn deyd i mi o hyd na fydda' i ddim byw yn hir a mae rhw ball ar fy iechid i er's tro. Wyr nhad a mam ddim chwaith, a fuom. i ddim efo un doctor na pheth." Tase hyny'n bod, 'dydi o ddim yn rheswm dros i ni beidio priodi. 'Does neb ar y ddeuar 'nai fwy i ti, tae ti'n myn'd yn sal, nag y nawn i.. Gwendo^. Raid i hyna ddim bod ar y ffordd." 'Does gen' i ddim doubt am hyny, Huw, ac mi .'rydw' i'n dy garu di hefyd nes mae hi'n myn'd yn fwy anodd bob dydd byw heibddot ti. Ond os oes gen i le i ofni fod fy iechid i heb fod yn ddigon da, fydde fo ddim yn iawn i mi briodi, ac y mae gneud popeth yn iawn hyd y medra i, yn. rheol 1 mywyd i. £ Nei di ddim gofyn i mi eto heno, huw, 'nei di?" ebra hi, gan dafiu edrychiad taer i fyw fy llygid i. Very well" ebrai ine, os ydi o'n ddymuniad gen ti; ond y tro nesa ynte." "Ie," atebe,hithe. Yr oedd yr haul yn myn'd i lawr, a chychwyn- son nine'n ol, yn. ddifir odieth. Ond yr oedd rhwbeth wedi myn'd i 'nghalon i 'r un pryd wrth wel'd Gwendo mor ddifri'n son am 'i hiechid. Wedi cyredd y Glyn, mi es i ddeyd nos daw'oh wrth Rhobet a Mrs Vaughan, ac 'roeddwn ni o'r ddwy ochr yn teimlo na fuo' ni 'rioed yn rhoi'r nos dawch yr un, fath. 'Roedd riw dine newydd, rwsut, yn y ddau nos diawch,—'i hun nhw, a f' un ine. 'R oed den ni'n teimlo'n ods o agos at y'n gilidd. Mi es i ddeyd nos dawch wedyn wrth Gwendo. 'Cha i mo dy wel'd di am yn hir eto., Huw." Mi wydde fod busnes y tyddyn yn peri i mi fod o gartre am wthnos ar ol y nosweth hono. 'Rydw' i'n myn'd yn ffol ar unweth, Huw, ac yn tedmlo y bydde'n dda gen i i ti fod yma o hyd ond cha' i mo dy wel'd di'n hir eto. Rhaid tendio'r fferm a'r fyfolieth ne fedre'n ni ddim priodi berth bynag." Paid ti bod yn ddigalon, Gwendo bach; wneith hyny ddim lies iechid i ti. 'Rydw' i'n dis- gwyl na bydd gen' ti ddim ofm> dy iechid pan ddoi adre." O d'wn i ddim. Tipin o ofn sy ama' i, tae ofn hefyd. 'Rydw' i'n fodd- Ion i 'wyllys yr Arglwydd, Huw. Bydd dithe felly." Daeth i nanfon i i ben yr allt. 'Roedd hi fel yn methu 'ngadel i, a mine'n methu 'i gadel hithe. Bore dranoeth mi gychwynes i nhaith yn bur fore. ac wrth fyn'd dros ysgwydd y bryn gyfer- byn a Glynbreilw, mi edryches tuag yno, ac mi welwn rwbeth gwyn yn ysgwyd ynghwr yr ardd. Mi graffes, a mi weles mai ngeneth i oedd yno yn ysgwyd j cihadach pooed fel i ddeyd ffar- wel." Mi atebes ine .gyda,'m cadach poced oeddwn i wedi gael yn bresent geni hi, a mi fu tipin Of gyhwfan ar y ddau cyn colli golwg ar y'n gilidd. Pan gyraeddes i'r Cwm yn ol ymhen yr wth- nos, y peth cynta glywes i oedd bod Miss Vaughan, Y Glyn, yn. sal iawn," a phawb yn yr ardal ymron tori c'lone gen ofn iddi hi farw. Ar ol cael tamed, rhedes gynted gallwn i'r Glyn. Yr oedd Rhobet Vaughan yn y parlwr bach 'i hunan. Pan welodd fi, mi dorodd allan i lefen, a mi fethes ine beidio tori allan i lefen. 'Roedd yi doctor yn y llofft er's medtyn. Mi ddaeth y doctor i lawr toe. Sut 'rydech chi'n 'i gwel'd hi heno, doctor?" ebra'r hen wr. Pur sal yn wir!" Oes rhw obeth, doctor anwyl?" Wel," ebra'r doctor, I rhai byw oil y mae gobeth, Mr Vaughan, a mi nawn nine'n, gore, gan ddisgwil am fendith yr Arglwydd. Y mae ami ymwared gyda'r Arglwydd.' Mi weles yn glir, glir, Nyw, mai gwan oedd pob gobeth fedde'r doctor, a mi deimlwn 'y mrest fel tas,e hi'n myn'd i dori, a nghalon i fel tase hi mron myn'd yn dipie. Ce's fyn.'d i'r rwm am funud ond 0 mi welwn fod 'y Ngwendo anwyl i'n rhy bell i wbod dim mod i yno. Mi gofies 'i geirie hi 'r noson ola gwelswn i hi, ac mi gofias am y cadach camric yn ysgwyd yn yr awel. 0 Nyw, dene wthnos i mi oedd yr wythnos yr oedd cariad 'y nghalon i ar lame'r hen lotddonen. Yr oeddwn i'n dysyfu bod yno gyda hi, rhiw hir- aeth am allu 'i helpu hi. On' toeddwn i'n ffol -yn bechadurus ffol, a mine'n gwbod i bob sicr- wydd fod y gwr fedre dori grym y dyfroedd yn siwr 0 fod yno yn i helpu hi. Ond be nei di? Felly 'rown i'n, teimlo. Mi fuo agos i mi rwg- nach cwmin nes digio 'Nhad Nefol; ond mi gwmpes with 'i draed 0, gan lefen am ei dru- garedd i mi yn 'y nhywydd, ac mi ces, hi hefyd, yn 'i ffordd 0 'i Hun, a hono ydi'r ffordd ore, Nyw. Wedi i mi godi oddiar 'y nglinie mi agores yr hen Lyfr, ac ar ba eirie y disgynodd y llygid yma ond ar eirie gwynfyd y dyn mae Duw yn 'i geryddu, yn llyfr Job. Mi wyles afon, am wn i; ond wvlo, a deyd yr un pryd,— D'wyllys Di a wneler." Mi es i'r capel drw'r dydd y Sul, ac yn yr ysgol, yr adnode ddedes i oedd adnode Eliphaz am y gwynfyd. 'Rydw' i'n 'i cofio nhw bob gair y funed yno: "Wele gwyn ei fyd y dyn a geryddo Duw am hyny na ddir ystyra gerydd yr Hollalluog. Canys Efe a. glwyfa ac a. rwyro Efe a archolla, a'i ddwylaw Ef a iachant. Mewn chwech, o gyfyngderau Efe a'th wared di; ie, mewn saith ni chyffwrdd drwg a thi." (Job v. 17-19.) Fed'swn i ddim peidio 'i dteyd nhw dan deimlad, ac mi deimlodd yr hogie druan yn y class gymin wrth wr,ando'r ad- node nes colli deigryni bob ag un. Bore Llun 'doedd yr un wyneb sych yng Nghwmygog. Yr oedd Gwendo anwyl wedi myn'd! Mi deimles fod yr hen Gwm "fel tase fo'n berffetli wag. Mi fuo'n dda iawn i mi am adnode Eliphaz pan glywes i 'r newydd. Mi es i'r Glyn i edrech am yr hen bobol. 'Roedden nhw'n anwyl ohcnwy i, a mine'n teimlo'n anwyl ohonyn nhwthe, worth i ni ddeyd y'n teimLade wrth y'n gilidd. Mi fethes yn glir a myn'd i'r clydigeth wel'di. I'r mynydd ytr es i heb ddeyd yr un gair i neb b'le ro'wn, i'n myn'd. Mi es i'r fan 'roedd Gwenda a mine'n eiste'r prynhawn hwnw. Mi welwn, y Glyn gwag. Mi weIwn y bobol yn casgiu o bob cyfeiriad,—cerbyd ar ol oerbyd, a mintai ar ol mintai- Mi welwn y dorf yn cychwyn o'r Glyn. A rwbeth od 'iawn i deimlad ydi gwel'd clydigaeth yn cychwyn o'r ty. Ond gwel'd clydigeth Gwendo'n cychwyn oedd yn beth tost! Myn'd yn ara at v capel, o'r capel at lan y bed'd, a rhoi corpn Gwendo' yn y pridd. Mi welwn, bene gwinion Evan Peters, Talybont, a Mr Edwards, y Bala. Mi glywn y dorf jin canu'r hen anthem, Y cyfiawh drig yn y nef." Mae swn canu'r lein,- Maent wedi cyraedd pen. eu taith," yn 'y nglust i r' funud ym.a. Mi glywn ambell air o weddi Mr Edwards, yn enwedig pan yn codi 'i lef ar ran yr hen bobol. Mae'r bwlch yn fawr," meddai, ond gelli Di lanw'r Bwlch." 'Roeddwn ine'n teimlo'r bwlch yn fawr ofnadwy, wel'di. 0-nd, Nyw, mi weles 'y Ngheidwad yn dod i' rbwlch, a mi clywes o'n deyd y funud hono. Pan elych drwy y dvfroedd, Myfi a fydd- af gyda thi; a thrwy yr afonydd, fel na lifonr drosot." 'Ro'wn i yn y dyfroedd a'r afonydd, ond yr oedd ynte yno yn 'y nal i rhag boddi. Wel, Nyw bach, madde i mi ami fod mor hir yn deud y secred. Ddedes i 'rioed o'r blaen moni hi. Wybu neb dan heno b'le 'roeddwn i dd'wrnod claddu Gwendo. Mae Gwendo- yn eiddo i mi heddiw, a hi fydd byth; ac wedi croesi'r afon, y peth cynta 'na i, ar ol i mi wel'd Iesu Grist, fydd myn'd i chwilio am Gwendo. Synwn i ddim, ran hyny, na fydd hi yn 'y nis- gwil i ar y lail draw, ac maihi neiff ddangos y ffordd gynta i fyn'd ar union at lesu Grist. Mi fydd yn dda iawn gen i wel"d 0 megis ag y mae, a gwel'd Gwendo. NEFOEDD!" EDNYWEN.
Eisteddfod Fawr Colwyn Bay.
News
Cite
Share
Eisteddfod Fawr Colwyn Bay. AT OLYGYDD Y Weekly News. Mr. G,ol.Gan fod yr wyl fawr genedlaethol yn dyfod i Golwyn Bay, dyddorol iawn fyddai gweled amryw o'r dref yma, yn ogystal. a'r am- gylchoedd, yr derbyn yr anrhydedd o urdd, drwy arholiad, yn yr Orsedd fawr. Wedi'r holl drafferth, yr aed iddi i sicrhau yr Eisteddfod, gresyn. fyddai iddo fyned heiibio heb fod amryw o breswylwyr y lie yn dlangos y dyddordeb gy- merant yn Marddas y genedl drwy basio arhol- iadau yr Orsedd. Gwelaf oddiwrth hysbysiadau yn eu cylch, y bydd yr arholiadau yn cael eiu cynnal mewn gwahanol fannau ym mis Mawrth nesaf. Felly, goreu po gynted yr anfoner at Eifionydd, Cofiadur yr Orsedd, Caernarfon, am y wybodaeth angenrheidiol ynghylch yr arhol- iadau. Ap ELIAN.
Conway Market.
News
Cite
Share
Conway Market. FRIDAY, November ioth.-Fresh, butter, is. 3d. per lb. eggs, 2d. each.
Advertising
Advertising
Cite
Share
"Y GENINEN."—Trinir ynddi bob math o bwnc, yn enwadol, duwinyddol, athronyddol, gwyddonol, bywgraflfyddol, hynafiaethol, ieith- yddol, eisteddfodol, llenorol, hanesyddo], amaeth- yddol, chwarelyddol, glofael, &c.
Trip Ysgol Sul Capel Ni.
News
Cite
Share
Trip Ysgol Sul Capel Ni. Wedi canu'r glocih am chwarter wedi tri, prydnawn Sul, sylwodd yr arolygwr ei bod wedi dod yn amser i ni eleni etc, i benderfynu pa le i gael y trip blynyddol. Wedi gwneud y cy- hoeddiad, bu distawrwydd am ychydiig. Yr oedd yn amlwg, er hynny, fod y mater wedi ei drafod gan amryw o'r dosbarthiadau; oblegyd gwyddeot fod hynny i ddbd1 gerbron y prydnawn hwnnw. Gwelid arwyddi.on fod y pwnc pwysig yn cael sylw yn nosbarth Dafydd Puw. Dos- parfih o fechgyn ieuainc oedd ganddo,, a rhai hynny yn. siaradus iawn pan fyddai son am drip yr ysgol. Cododd Dafydd Puw ar ei draed ar gymhelliad y bechgyn, i gynnyg ein bod i fyned r0n ddiwrnod i'r Rhyl. Oblegyd," meddai, mae'r plant yn hoffi cael myned i lan y mor, ac i weled y gwahanol chwareuon sydd yno. Y foment yr eisteddbdd i Lawr, dyna Rhys Owen ar ei draed, ac yn edrych yn ffromllyn, ac medd- ai: Yr wyf yn synnu at Dafydd Puw yn cyn- nyg y fath beth. Mae myned a'r plant a ninnau i'r Rhyl yn golygu fod eisiau arian i dalu y costau ac mi wyddlom nad oes gan Dafydd Puw ddim llawer i'w roi at hynny, a pheth arall, fydd ill byth yn rhoi at wahanol achosion; ac eto i gyd, y fo ydi y cyntaf i gynnyg ein bod yn myned mor bell. Golyga hynny fod yn rhaid i rthywfai fyned yn ddwfn i'w llogellau. Yr wyf fi yn ddigon boddlon i fyned a'r plant i'r fan y mynoch, ond i ni gael arian at dalu y costau. O'm rhan fy hun, byddai yn well genoyf weled y plant yn cael te parti gartref, a thipyn o chwareuon diniwed." Meddai yr arolygwr Gwell fydldai i bawb sydd yn bwriadu siairad ar y mater, i wnoud hynaiy yn bwyllog, ac yn. fyr, a pheidio gwneud cyfeiriadau -ersionol angharedig." "Gadewclh iddo," meddai Dafydd Puw, "dyna ei arfer ef. Gwell fyddai i ni wneud, mae'n debyg, fel y meddylia ef. Mae yn medd- wl nad oes gan neb hawl i siarad ar fater fel hyn, ond efe. Os wyf yn dlawd, yr wyf mor onest ac yntau a byddaf yn gofalu, bob amser, am fod gartref yn gynnar nos Sadwrn gyda'm gwraig a'm plant." At pwy yr ydyoh yn cyfeirio?" meddai Rhys Owen, a golwg wyllt a dhyffrous arno. Nis gallaf oddef peth fel hyn. Gwnewch fel y mynoch." A chymerodd ei het yn ei law, a chododd i fyned allan-ac allan yr aeth gan wneud trwsit. Er ei fod yn ddyn pwysig yn ein capel ni, eto, fe wyddai amryw mae y lie olaf iddo alw ynddo ar nos Sadwrn oedd parlwr Llew Coch." Am hyny, y mae'n debyg, y diigiodd yn aruthr am y sylw a wnaeth Dafydd Puw. Yr oedd rhai o honom yn tueddu i feio yr hen frawd ond teimlem nad oedd fater iddo gael ei daraw yn ol. Wedi i Rhys Owen fyned allan, ceisiod yr Arolygwr gan eraill i ddweyd eu barn, a gwneud hynny yn rhwydd. Cynyg- iwyd o leiaf ddwsin o leoedd fel rhai cymhwys i fyned am drip. Ond o'r diwedd, penderfynwyd ar Llandudno. Cafwyd tipyn o drafferth, wedi hynny i godi pwyllgor i gario allan y trefniad- au. Gwrthodai y naill ar ol y llall. Yn fvnych iawn, ar amgylchiadau fel hyn, fe gynygir y rhai mwyaf amhiarod i weithredu, tra bydd eraill awyddus i'r swydd, yn cael eu gadael allan. Mae cael bod yn aelod o bwyllgor, beth bynnag fydd, yn uchelgais ambell un, ac ystyria hynny yn anrhydedd uchel. Wedi hir siarad, cytun- wyd ar dri o ddynion a thair o ferched i gario'r gwaith ymlaen. Cymihellwyd hwy i aros ar ol, a therfynwyd yr ysgol trwy weddi gan un o'r aelodau. Yn ei weddi cyfeiriai at y gwaith da a wneidr yn yr yagolr-ei bod yn hen sefydliad daionus ein bod vn darllen am ysgol yn amser Jacob, &c. Diwrnod y trip ymgasglodd Ilu i'r orsaf y bore hwnaw, yn. eu mysg. rhai na fuont yn yr ysgol ers misoedd; and nid oedd hynny yn gwneud gwahaniaeth, gan fod goihaith am drip a the am ddim. 1 el ac y mae wedi arfer, daeth yn wlaw mawr, ac yr oedd yn anifyr iawn. Gwlaw fyd awn ni yn ei gael bob two Yr wyf yn cofio un flwyddyn sych iawn, a bod son yn ein capel ni am gael cyttmfod gweddi i ofyn am wlaw. Fe gododd un brawd i gynnyg ein bod i gael trip yr ysgol Sul, mae felly y byddwn. debycaf i gael gwlaw! Mor anystyriol ydyw rhai, onide? Oherwydd y gwlaw, ni chafodd y plant bach, na r plant mawr, fawr o hwyl ar ddiwrnod trip ein capel ni. Yr oedd rhai yn gweld bai ar y pwyllgor na buasent wedi trefnu'r trip ar nhyw ddiwrnod arall, y dylasent hwy wybod pa dywydd fuasai y diwrnod hwnnw. Golwg ddi- galon iawn oedd ar y mwyafrif o honom yn dychwelyd gartref, a golwg sobr ar lawer, a rhai heb fod felly. Bu'r trip yn foddion i greu teim- ladau drwg rhwng amryw. Mae Mrs Jones, Tv Lapel, yn pasio Mrs Jenkins heb ddweyd gair byth er hynny, a mamau rhai o'r plant yn cwyno fod eraill wedi cael gwell bwyd na'u plant hwy. Fe wariwyd llawer o bres. Collwyd llawer o dymer ar ddiwrnod trip ein capel ni. Ond trwy drugaredd, mae wedi mynd heibio am eleni eto, a feallai, erbyn y bydd y nesaf, y daw pethau i drefn. Sonia rhai am, gael y nesaf yr un diwrnod a phobl capel Salem, eu bod hwy yn cael tywydd braf bob blwyddyn. Beth bynnag wnewoh chwi, pe gwelech Rhys Owen, cymerwch ofal am beidio son am drip capel ni. Y dydd o'r blaen, yn y chwarel, yn ddamweiniol hollol fe ddarfu Bob Jos ofyn iddo Yach chi wedi cael trip yr ysgol Sul eleni?" Fe ddigiodd Rhys yn bwt wrtho, gan y tybiai ei fod yn gwybod am yr hyn ddywedodd Dafydd Puw. Clywais y bydd yn. dychwelyd gartref yn gynarach ar nos Sadwrn byth ar ol yr awgrym roddodd Dafydd Puw. Mae rhy w ffordd i wella pawb o honom. BOB Huws.
Nodion Llywarch Hen
News
Cite
Share
lawni ei swydd er budd i'n llenyddiaeth. Y Parch. T. Shankland, o Goleg y Gogledd yw'r Ysgrifenyld. Amod aelodaeth yw taliad blyn- yddol bychan, a daw'r holl lyfrau'n rhad yn rhinwedd hono. < » Teitl un or ddwy gyfrol yw Vita Sancti Tathei and Buchedd Seint y. Katrin." Cyfrol ddyddorol o ddwy fuchedd Seintiau, hen Seint- iau'r Eglwys Babaidd. Gwyddel oedd Tathan Sant a ddaeth i Gymru o'r Werddon. Daetn dros y mor mewn cwch, heb hwyl, beb rwyf, heb lyw, nac angor. Gyrwyd ei gwch gan awel dyner adenydd angylion, a glaniodd yn ddiogel yn un o gilfachau Bro Gwent. Cafodd Cymru lawer o'i Seintiau o'r wlad dros y mor. Deff- rodd Cymru'n gynar, a lluniodd ei hysbryd lLengar Fabinogion yn lie Bucheddau Saint." Yr oedd yn barod wedi dwyfoli ei goreugwyr yng ngheingciau ei chwedlau lien. Gwnaeth ein cenedl Arthur yn frenin, cyn i'r Eglwys ddechreu creu Seintiau. Felly yr oedd defnydd- iau Seintiau i raddau'n brin yng Nghymru. Es- trones hollol i'n gwlad ni oedd "Seint y Katrin" hefyd. Cyfiaethwyd ei Buchedd i'n hiaith, a thyna ei holl gysylltiad a Chymru. Y mae'r chwedlau hyn yn ddyddorol, achos taflamt ffrwd o oleuni ar eu hamser a chrefydd eu hamser. Y rhai'n yw'r bucheddau defosi- ynol a roddodd yr Eglwys Babaidd i'w phobl yn lle'r gwirionedd. Olrhain ysbryd rhamant ym mywyd yr Eglwys yw olrhain hanes llunio "Bucheddau Saint." Yr oedd Cymru wedi deffro cyn i fynacbaetih ddiod i'r wlad. Felly ysbryd anghrefyddol yng Nghymru oedd ysbryd arwrol yr Oiesoedd Canol. a lluniodd hwnw hen arwyr y genedl yn dduwiau gwladol cyn i'r Eg- lwys gael cyfleu i'w llnnio'n dduwiau crefyddol. Peth newydd i genhedloedd y byd oedd addbli un duw. Llechodd yr hen duedd gyfrin ym meddwl yr oesau, olioifl hen arfer y byd a'i fraint, i lunio duwiau yn ol ei anian ei hun. Hanes rhodresgar, heb edafedd aur gwirionedd ynddo, oedd cymeriadau'r hen dduwiau. Dat- guddiad o wirionedd. noeth a phur yw'r datgudd- iad o gymeriad Duw. Methodd yr Eglwys ddi- fodi Daganiaeth ei deiliaid, yn hytrach magodd ef. Hoffasant deganau i'r llygaid ym Much- eddlau Saint yn fwy na'r gwirionedd trasgwydd- ol, yr hwn o syrndeith asu ag ef a droai fywyd vn gamp uchel alwedgaetih Duw. Hiraethai'r hen ysbryd yn ddistaw am dduwiau fel yr hen dduwiau. Ymgryfhaodd a lluniodd Seintiau i gymeryd eu lle, a lluniodd hwy yn ol ei anian. awd eulunaddolear. Tvfodd Mair addoliaeth a daeth Mair yn dduwies deg. Cadiwen o wyrthiau tlysion yw Buchedd Tath- an. Ond gwyrthiau diamean, plentynaidd, a hunanol er hyny. Nid oes angen i ni son, mai dychmygion Pabaidd yw'r oil. Wrth eu llunio, anghofiasant egwyddor amlwg cwrs cyflawni gwyrthiau Yn ol y Beibl, rhaid i bob moddion naturioll ballu cyn i'r goruwchnaturiol gyfryn)o;ti. Y mae gwaredigaethau gwyrthiol y Beibl fel rheol yn unig ffordd gwaredu. Ni wnaeth Crist un wyrth er ei fwyn ei hun, a methodd y diafol a'i demptio i hyny. Os methodd demptio Crist, tcmpitiodd grefyddwyr yr Oesoedd Canol i chwareu a gwyrthiau fel eu teganau eu hunain. Os collai Tathan foohyn, deuai'n ol yn Haw gwyrth. Cipiodd y barcut un o'i golomenod. Erbyn y bore, yr oedd y lleidr rheibus hwnw yn ddigon gctest a bonheddig i'w dwyn adref a'i gosod yn ddianaf wrth draed Tathan ar yr allor. Ysbryd rhyfygus ofnadwy a luniodd y chwareu hunanol hwn a'r dwyfol allu. Diddan a gwedd- aidd yw pethau rhyfedd hud a lledrith y Mabin- ogion. Ond cabledd ofnadwy yw llunio arwyr crefyddol gan briodoli i Dduw ddireidi cydnaws ag awch ofergoelus yr oes. Hwyrach fod onewyllyn Stori Catrin Santes yn wir. Os gwir y ffaith, gwisgwyd hi gan fynachod ag addurniadau gau. Cafodd fendith- ion a gwaredigaethau gwyrthiol; y maent yn ddigon naturiol, er yn hollol amheus. Tystia ei chofiantwyr na ddywedodd y forwyu hon erioed gelwydd, a bu fyw bywyd hollol berffaith ym mhob ystyr arall. Trwy'r perffeithrwydd hwn y gogoneddid ymnedlltuaeth fynachaidd a hyny ar draul esgeluso gwerth ymarferol bywyd i eraill. Eu rheswm hwy oedd llwyddo eu thamcan, hyd yn oed trwy freuddwydio'ir amhosibl. Ffug chwedlau mynachod oedd y Bucheddau hyn, hawdd canfod, wrth eu gogwvdd. Gwelir ynddynt yn amlwg y wedd ar grefydd y codasant hwy i'w harfer a'i hamddiffyn. Carodd yr Eg- lwys Babaidd gyfoeth, a boddlonodd ar ymgy- foethogi. Proitest fyw, mewn gair a buchedd, yn erbyn ei rhaib bydol, a'i diogi ysbrydol, oedd achos ffurfio rhai o'r urddau mynachaidd. Gwrthododd Datban fremhiniaeth ei dad, a di- brisiodd Katrin fod yn wraig brenin. Credai'r Eglwys Babaidd, mae hi biau'r ddwyfol hawl i lywodraethu'r gwledydd, ac ymladdodd yn ddewr am awenau pob gallu gwladol. Pobl yr encilion oedd y ddeuddyn hyn. Athraw c6r o wyr crefyddol oedd Dathan, a chenhades flin- derus ei byd cedd Catrin. Ymosod ar ei gelyn- ion a'r ddgred oedd arfer yr Eglwys Babaidd, a'u llosgi o'r tir. Syniad paganaidd oedd ei syniac am ryddid. Dioddef yw prif rinwedd bywyd Catrin, a thrwy dioddef argyhoeddi'r aTvir. Pwy o'r mynachod biau'r clod o lunio'r Seint- iau pur hyn, a'u dwyfoli a gwyrthiau? Ai'r Mynachod Duon? Ni cheir yma un arwydd o Fair addoliaeth, a hwy oedd ceidwaid yr ath- rawiaeth. Rhoddiasant i'r Eglwys orffenol gwyn. Lluniasant gymeriadau o'i gorffenol yn gorffor- iad byw o'u syniadau neilltuol hwy i'r amcan o hynvyddo'r agweddau newydd y codasant o'u herwydd. Amcan rhagorol. Ond camgymer- asant vn ofnadwy yn nefnyddio ysbryd salaf eu hoes i aredig en maes hau. Paham y creodd y mynachod Pabaidd ffug Seintiau, yn lie rhoddi i'r bobl yr hanes bigwyd gan Dduw o hanes oesau4r byd? Yr oedd eu ffug Seintiau yn fwy cydnaws ag ysbryd salaf yr oes, ei hen ysbryd eulun addolgar, ysbryd hud a lledrith byd Hen, a'r ysbryd ddwyfolodd Arthur ac a ddychmyg- odd Ynys Afallon. Ym Muchedd Seint y Katrin ymrithia ami gystrawen gynefin i'n clust, ond ddieithr i'r llygad. Ceid'w'r bobl ami hen gystrawen yn fyw, er gwaethaf ein harfer lenyddol. Yma dywedir y dodir coron am dy ben di." Ar ben y rhoddir coronau heddyw. Ny ddi- ohawn ef marw gan iawn Kanyt oes agheu yny anyan ef." Gan iawn," medd yr hen fyn- aoh, a gin iawn medd y bobl heddryw. "Yny geol y gwelynt wy oleuat," a'r geol oedd y car- char. Dygwch hi y maes o'r dref y ladd y phen," i ladd ei phen oedd y gorchymyn. Tori pen yw'r arfer heddyw, ond lleddir gwair a thanwydd. Myn yr hen air gadw'i hen ystyr yn,g nge.iau'r gwladwr ar faes y cynhaeaf.