Welsh Newspapers
Search 15 million Welsh newspaper articles
9 articles on this Page
Hide Articles List
9 articles on this Page
NODION NED LLWYD.
News
Cite
Share
NODION NED LLWYD. CONWY. Cymer.af yn ganiataol y bydd £ t Llywar.cih Hen yn ysgrifennu sylwadau am y Gymanfa Ddirwestol Iwyddianus fu yma yr wythnos ddi- weddaf. Yn unig dywedaf mae canmol mawr sydd y cyfarfodydd, nid yn unig y rhai a gynhaliwyd yng Nghonwy, ond y rhai hefyd oedd yn yr ardaloedd cylchynol. Tipyn yn hallt oedd y sylwadau a wnaed ar waith yr ynadon yng Nghonwy yn gwrthod gwrandlaw ar Lais y bobl. Os y bu achos erioed yn teilyngu gwran- dawiad, yr oedd yr achos hwnnw. Dichon y bydd yn rhwyddach ganddynt gydsynio- y tro, nesaf. Y MAER NEWYDD. Llonigyfarohiadau calonog i'r Cynghorydd John Williams ar ei ddyrchafiad i brif gadair swvddogol Conwy. Yr oedd efe yn haeddu 3T anrhydedd hwn, gan ei fod wedi bod yn Gyng- horydd ffyddlon am gynifer o. flynyddoedd. Ni raid i neb bryderu na bydd iddo lanw y swydd gydasr urddas. Dymunaf iddo bob rhwyddineb a llwyddiant yn ystod tymihor ei Faeroliaeth. Diau y bydd gofyn ami am ei wasanaeth i wa- hanol gyfarfodydd. Mae y meddygon enwoc. Dr. Pricfeard a Dr. Morgan, wedi bod yn Sydd- Ion iawn i'r swydd, ac wedi ennill pa.rch ac ed- mygedd cyffreddnol, a chredaf y bydd y Maer neWydd yn olynydd1 teiIwng iddynt. LLANFAIRFECHAN, Mae y Ficer nnrchus sydd yma yn trefnu i gael arriryw socials ar nos Sadyrnau yn ystod y gauaf. Da iawn. wir, ydyw gweled rhai yn darparu adloniant iachus ar gyfer yr ieuenctyd. Hyderaf y byddant yn llwyddiant mawr, ac y rhoddir iddynt gefnogaeth gyftredinol. HTawdd ydyw beio pobl ieuainc am rodianna, &c., yn eu horiau hamddenol; yn lie hynny, darpaxei ar eu cyfer. MERCHED CWERYLGAR. Nos Sadwrn diweddaf, yn Ll-, yr oedd merched yn ymladd a'u gilydd, ac yn peri cyffro mawr yn y lie. Mae gweled dynion yn dar- ostwng eu huruain i wneud Deth fel hyn yn. ddi- frifol, ond mae gweled merched yn gwneud yn llawer mwy felly. Buasai yn llawer gwell i'r cldwy oedd yn gwneud hynny nos Sadwrn roddi eu hamser i rywbeth amgenach. Rhag cywilydd iddynt, meddaf fi. Mae arnaf awydd roddi eu henwau i lawr y tro hwn, ond nis gwnaf: ond mor wir a bod Llanfairfechan rhwng Aber a Phenmaenmawr, dyna wnaf y tro nesaf y clywaf eu bod yn 'gwneud eto. Felly, gochelwch. COLWYN. Yr oedd yn ddrwg gennyf nas gallaswn iyned i'r cyfarfod He yr oedd Penllyn a'i briod yn cael eu hanrhegu. Cefais wahoddiad caredig, ond nis gallwn gydsynio. Cyfeiriais, amser yn ol, at y bwriad oedd i'w hanrhegu. Mae Pen- llyn wedi gwneud gwaith ffyddlon yng Nholwyn yn ystod cyfnod ei weinidogaeth. Mae vn debyg mai efe oedd cvchwynydd yr Eisteddfod sydd wedi dod yn sefvdliad mor bwysig ar y Dydd Calan yn flynyddol—Eisteddfod sydd yn dwyn elw svlweddlol, yn ddiau. Caffed ef a'i briod oes hir i fod yn ddefnyddiol eto. Teimlad hapus ydyw gweled ardal ac eglwys yn cydnabod gwasanaeth. Mae yn debyg y bydd Penllyn yn ysgrifennu mwy nac erioed wedi cael y type- writer. Amiheuwn i dd,im na fyddai cysodwyr y Weewlv Kews" yn faldh pe byddai rhywun yn ddigon caredig i roddi un i Ned Llwyd hefvd. Beth ddeudwch chwi,- hogiau? (" Wel, byddwn, wir. Bendith arnynt "-Nr hogiau.) Sut bvnnag, hwyl a llawenydd i Penllyn ddoniol a'i briod. PENMAENMAWR. Dyma ychydig o'r pethau a glywais yma yn ddiweddar Fod Tom Jones, R.A.M., wedi cael hwyl eithriadol mewn cyngherdd yn Llundam vr wythnos o'r blaen.—Fod hynny wedi bod yn fantais iddo ar gyifer y dyfodol.—Fod darlith y Parch. D. Lloyd Morgan, Pontardulais, ar ei Rhwng ei gryd a'i groes," yn Salem, yn rhag- orol.—Fod son mawr am dani trwv v lie fel un o'r rhai goreu glybuwyd erioed.—Fod cwyno na byddai rhai meTched yn aros yn fwy yn eu tai, yn Ile sefyll ar ben y drysau.—Fod rhai yn awgrymu gofyn i Dr. Clifton Hughes ddyfod ar ymweliad a'r ne.-Fod y Doctor doniol wedi rhoddi gwers iddynt un tro pan oedd yn myned heibio.—Fod y C6r Meibion yn rhy ddistaw yn ddiweddar.—Fod amrvw yn holi beth vdvw y mater?—Fod yn bryd iddynt ddeffro, as am fynd i Golwyn Bay v Calan.—Fod yn dro gwael na buaswn wedi cael gafael ar rhvw lythvr dder- bvniwyd yma y dydd o'r blaeTi.-Fod yn natuTiol i mi deimlo vn siomedig am y gwrthoddad.—Fod Cor Meibion Llanfairfechan wedi casglu at eu gilydd eto.-Fod y C6r yn bwniadu cystadlu mewn gwahanol leoedd yn fuan.-Fod cyngherdd ganddynt cyn diwedd y mis hwn, er cyohwyn ronfa-Fod test-vnau Eisteddfod Gerizim allan o'r Wasg.—Fod Dr. Lloyd Williams wedi bod vn Llanfairfechan yn rhoddi ei ddarlith ar Ddamhegion y Llvsiau," i gymdeithas len- yddol Horeb.—Dyna'i chwi ychydig o'r pethau a glywais. DWEYD Y GWIR. Chwi gofrweh i mi roddi cyngor i beidio rhedeg ar ol yr het pan fyddai v gwyntyn ei chymeryd i ffwrdd. Nos Sadwrn diweddaf yr oedd Mr Jones, yr insurance agent o Aber, yn Llanfairfechan, ac aeth y gwynt yn ddigon hyf i fynd a'i het. Cofiodd yn y fan am gyngor Ned Llwyd," ac wele y peth yn cael ei brofi. Yn y fan mi welai ddau frawd caredig yn rhedeg cymaint fyth ar ei hoi. Goeliwch chwi, bellach. fy mod yn dweyd y gwir? CYSTADLU. Cymaint ydyw awydd rhai prwyllgorau am rhywbeth newydd, fel y gwelais y dydd o'r blaen gystadleuaeth i ferched i ohwibanu "Ton y Botel," a hynny mewn addoldy. Dyna i chwi wreidd,i-c)ldeb beiddgar.-Er mwyn tynnu crowd, mae un ghowman yn myned trwy y wlad, ac yn darparu ar gyfer yr ysbryd cystadleuol sydd N-nom fel cenedl. Yr hyn a wna ef ydyw rhoddi cystadleuaeth i ganu unrhyw gan ddigrif, a bod pob cystadleuydd i ganu a dal mochyn byw yn ei freichiau yr un pryd y gynulleidfa i farnu pwy yw y goreu; a'r wobr ydyw y mochyn. A synais pan glywais fod cynifer yn ymgeisio yn y gwahanol leoedd yr ymwelir a hwywarchod pawb, beth fydd y nesaf, tyb,ed," EGLWYSBACH. Yr oedd y cyngherdd plant, nos Wener, yn gampus yn ol barn pawb. Mae y cyfeillion sydd yma yn llafurio gyda hwynt yn teilyngu cefnog- aeth, a balch oeddwn i ddeall fod yi ysgoldy yn or lawn, a phawb yn canmol, ac yn dymuno cael cyngherdd cyffelyb eto yn fuan. Y rhai sydd yn cymeryd y drafferth i'w dysgu ydynt: Athraw yr ysgol, a Mr R. E. Huglhes a Mr Owen Williams, A.C., tri brawd galluog a gweithgar. Bydd y plant yn son gydag edmygedd am lafur y tri hyn ymhen blynyddoedd eto, a diau fod Thieni v plant yn falch iawn o honynt. Nid oes dim yn well'na rhoddi cvchwyn priodol i'r plant, cael rhai parod i aberthu i wneud hynny sydd yn anhawda mewn llawer lie. G-ofyna gaual einioes Yr hyn a wneir wanwyn oes." DEWI MAI 0 FEIRION. Gwelais y bardd a'r dadganwr penillion en- wog hwn dydd Sadwrn, ar ei daith i Lanberis. Yr oedd yn dda gennyf ei weled yn edrych mor iach a chalonog. Brawd parod ei ddawn ydyw Dewi, ac un sydd yn gwasanaethu yn ami fel beirniad, ac arweinydd, &c. Yn ol a ddywed- odd, digon tywyll ydyw pethau yn parhau yn Ffestiniog. NED LLWYD, Weekly Ne7vs, Conwy.
Advertising
Advertising
Cite
Share
EVANS' CELEBRATED LLANDUDNO TOFFEE, obtainable from leading confectioners or direct from manufacturer, Mostyn-avenue, LLandrudirso. Tel. riy. 1107
INodion Llywarch Hen
News
Cite
Share
Nodion Llywarch Hen Daw'r gaeaf a'i helyntion. Un o bethau cylch- oedd ein capeli, yw'r cymdeithasau dadleuol. Ar- gyhoeddir ni bellach o brinder testynau; a'r hen lwybrau'n goch. Eto, pan goinir testyn newydd grai, noson ddistaw fydd honno. Ni chred y lliaws mewn chwilio llawer na loesi tir newydd. Gwell ganddynt anwyldeb yr hen gynefin. Er ein bod yn ysgrifennu fel hyn, credwn y creant lawer o fywyd newydd, a gloywant lawer barn. Mag pobl ynddynt wroldeb, a dysgant lefaru eu meddyliau'n gyhoeddus. Ni bydd marw ein gwladgarwch chwaith, oblegid y maent danwydd da ar din ein bywyd cenedlaethol. Er nad ydym yn hen, daeth newid ofnadwy dros Gymru yn ein hamser. Llios- ogodd ei manteision yn afrifed. Beth fydd y cyn- hauaf draw ? Ymlaen yr a Cofiant Tom Ellis," o dan olyg- iaeth Mri. O. M. Edwards a D. R. Daniel. Ceisia Mrs. Ellis fenthyg llythyrau a ddichon fod yn y wlad o waith ei diweddar briod. Ysgrifenwyd yn barod gofiantau bychain da a dyddorol iddo. Ond blasusfwyd o'r fath a gar goreuon ein cenedl fydd y cofiant hwn pan ddaw. Ynddo disgwvliwn gael goleu ar ein bywyd presenol yn ei gryd, a phwy a'i siglodd. Bugeiliaid deffroad yw llythyrau cyfrinachol ei arweinwyr. Hwy a gorlanant yr egnion i wasanaeth y rhai a arlwya'r wledd. Gwir mai pethau diflas i'r lliaws ydynt—y bobl ddar- Henant gofiant er mwyn ei chwedlau. 1'r hanesydd, hwy vw'r diliau mgl yn yr ysgerbwd, # Yn Adgofion Syr Wilfrid Lawsofl," crybwyllir am etholiad Lloyd George yn 1890. Cymerodd Lawson, Acland, a Mrs. Acland ran yn y frwydr, a'r ddau hyn oedd yr unig aelodau seneddol, medd Syr Wilfrid Lawson, a gymmerodd ran yn honno. Y canu a swynodd y Saeson. Canwyd George i fuddugoliaeth. Bu'r canu yn suo yn ei glustiau am ddyddiau lawer taniodd galon Syr Wilfrid, er na ddeallai air o'r hyn genid. Chwareu teg i wr yr "Adgofion." Bu'r canu yn ein trydanu ninnau. Ni chlywais ddim mewn etholiad fel Y Gwir Anrhydeddus David Lloyd George ar un o frawddegau'r Sosban bach." Gall George ddiolch am wasanaeth caneuon gwladgar yn y gorffenol. Pa esboniad sydd i'w roddi ar y ffaith na chenir caneuon gwladgarol Cymreig yng nghyfarfodydd y Ceidwadwyr? Ceir yno lawer gwladgar ei galon, ond nid cydnaws rywfodd a Cheidwadaeth Cymru yw caneuon gwladgar. Y maent fel yn cynhyrfu'r duwiau a'u gwneud yn aniddig. Canwyd barddoniaeth Ceirio, a deff- rodd y rhai hyny y genedl i egnion newydd ac uwch. Rhyddfrydiaeth Cymru biau rhan y l!ew am ein deffroad presenol. Cychwyna Llyfrgell Caerdydd gyhoeddiad miso ynglyn a'r llyfrgell a'i changhenau. Y mae'n llyfryn nodedig o ddyddorol, yn neilltuol i lyfrwyr. Rhydd syniad cryno am gwrs llenvddiaeth a meus- ydd darllen. Yn yr oes brysur hon da gan lawer gael syniad am lyfr oddi ar fwrdd eraill. Ni chant hamdden eu hunain, a chywilyddiant o'u han- wybod am gwrs byd llyfrau. Rhoddir yma len o Begwn y Gogledd a'r gwibdeithiau iddo. Y mae'n rhestr ddyddorol. Ai Cymro oedd y Parry a enwogodd ei hun yn ei ymgael ar ystlys y llan- nerch bell? Diau y ca'r "Libraries Review" Ie yn y wlad, am ei fod yn rhoddi syniad cryno am gylch darllen. Bellach am Dy'r Arglwyddi y bydd y son. Na chamddealler y ffaith. Y mae yno wleidyddwyr penigamp, goreuon ein teyrnas Amheuaf a'i doeth ei ddiddymu. Clirio ei sothach segur a diofal sy'n llwyr angenrheidiol. Beirniadwyd hwy'n llyrn gan Arglwydd Lyveden. A phwy gymhwysach, gan ei fod yn engraifft ei hun o'i bobl od. Cyn cael yr enw mawr, teithiodd lawer o Iwybrau chwith i ddarpar arglwydd. Dyma rai o'r swyddau- milwr cyffredin yn y fyddin, actiwr yn y chwareudy, tendio'r bwrdd mewn ty bwyta, stewart ar fwrdd llong, meistr cwmni chwareu, tyfwr tomatoes. 0 ganol y man fedd- ianau hyn i enill bara beunyddiol esgynodd i Dy'r Arglwyddi. Chwareu teg iddo, condemnia'r drefn a'i cododd i ddeddfwrfa'r wlad yn ddiarbed. A dywed betha hallt am fywyd a chymeriad rhai o'r brodyr gyd-eisteddant ag ef yng Nghastell cewri anobaith ein cenedl. Beth bynag am ei ddiddymu, idylid chwynu llysiau'r bendros sydd sydd ynddo, Ceir tuedd amlwg mewn dynion i efelychu'r naill y llall. Y mae cymaint a hyn o'r mwnci ynom, faint bynag arall sydd, Bu bron i Balfour regi wrth ymosod ar Mr Ure, Pob peth yn dda, cadwodd ef y balans yn weddol. Ond hawyr anwyl, dyma bob mab iar yn y Buarth geidwadol yn ysgwyd ei esgyll i glochtar fel y pen. Tor- sythant a llefant Most wilful, disgraceful, and damnable falsehood, damnable lies." Y mae'r damnable" fel tocyn trydydd dosbarth yn eu dwylaw oil, a rhan o hono yn ymddangos fel rhan ddefnyddiol o'u bywyd cyffredin. Gwastradwyd y pen hyd adref am ei ymadroddion. Rhoddodd gyffeu i Mr Ure i enill enwogrwydd. Gall y rhai bach ymdawelu yn niogelwch y llwch, ond ar ddamwain dichon sethrir hwythau. Cwyna Rector Cerrigydrudion yn erbyn Awdur- dod Addysg Sir Ddinbych, eu bod yn anwybyddu gweithrediadau Llywodraethwyr Lleol yr Ysgolion Eglwysig. Y mae'r lefain hwn yn lefeinio'r holl does, a chwyna Llywodraethwyr Lleol yr holl ysgolion yn ddiwahaniaeth. Enw gwag yw eu swydd, a choegni noeth yw eu gwaith. Llew llonydd yw'r Awdurdod Addysg, a ffugia gysgu. Ni chlyw, ni ddychryn rhag eu llefau hwy. Deddf geidwadol ei hanian yw hon, anwerinaidd hollol yn ei threfn weinyddol. Rhyw argraffiad llogell o drefn weinyddol Bwrdd Addysg Llundain. Yr holl awdurdod yn yr un man, ac i raddaupellyn nwylaw swyddogion. Condemnia'r Rector y Llywodraethwyr Dosbarth y mae Arfon wedi eu dileu. A chollwyd yn eu colli unig gyfleustra'r Llywodraethwyr Lleol i wyntio eu cwynio yng nghlyw'r awdurdodau. Yn awr anwybyddir hwy. A chaent gwyno fel adar nos yng nghysgod eu llwyn eu hunain, heb neb yn gwrando eu llefain. Tybiais unwaith weled ynddi wynder y bore hir ddisgwyliwyd, ond rhaid cael awel werinaidd gref cyn cliria'n ddydd. Gwr grasol yw Mr. Jones Morris, y gwr a gilr garu Meirion. Ni chollodd ei dymer yn yr ugain mlynedd y bu'n gwasanaethu'r cyhoedd. Os aifÍ i'r Senedd, rhwydd hynt a gaffo i ddofi peth ar Balfour a Lloyd George, canys collant hwy bin y cauad yn achlysurol, a dweyd y lleiaf. Er nad oes gwall ar ei dymer, y mae gwall amlwg ar ei gof. Plaid heddwch yw'r Ceidwadwyr, yn ol a gofia ef. Plaid heddwch yw'r blaid wariodd ddau gant a hanner o filiwnau yn Ne Affrica i dywallt gwaed, i foddio balchter Chamberlain, a dofi ystvfnigrwydd Paul Kruger. Cred mai'r mpdd i gael heddwch yw adeiladu llynges a'i llanw A gwyr parod i ryfel. Belled yw pobl Cymru oddi wrth ysbryd yr efengyl. Gan gofio, fel sant a Christion yr arfaetha'r gwr hwn lunio ei holl barotoadau rhyfel. Na lusger crefydd i ffroen y fagnel, ac na hoger fidog yn enw'r sant. Digon i grefydd ei ffaeleddau ei hun, heb dywallt ar ei marwor gwyn afonydd o waed yn aberth i falch- ter a rhaib gwledydd aflonydd. Rhodded Prydain a Germany eu cyfoeth i leddfu angen a newyn a eu deiliaid, yn lie eu lluchio ar arfau llofrudd- iaeth. Gwawried y bore y byddo'r cleddyfau'n sychau a charwyr rhyfel gartref yn aredig. Pwy fydd milwyr dirwest y dyfodol ? Yr hen arfer oedd efengylu ac hvfforddio yn benaf o dan nawdd ein heglwysi. Bellach, dysgir egwyddor- ion dirwest yn ein hysgolion. Rhed wleid- yddol trwy lawer o'r areithiau dirwestol, yn benaf o achos ymyriad y fasnach a'u hetholiadau a'i dylanwad ar ein Senedd, yn benaf Ty'r Arglwyddi. Daw daioni o hyn. Rhaid i'r wladwriaeth orch- fygu'r gelyn hwn neu gael ei gorchfygu ganddo. Apelio at galon o achos trueni meddw-dod oedd yr hen arfer. Daw gwyddoniaeth i fewn i'r llys yn awr, a lleda ei gwedd hi ar y cwestiwn o flaen y deall. A bellach y mae'r ddiod yn dinystrio am- gylchiadau, enaid, a chorff. Cyll y ddiod hen loches anwyl, lloches y feddyginiaeth. A'r prif feddygon yn bendant yn ei herbyn. Ceir ambell feddyg lleol yn rhoi ifordd i amgylchiadau, gan ei chaniatau i'r claf fel y feddyginiaeth a gAr gael, pan na byddo'r anhwyldeb yn bwysig. Cam ofnadwy bwysig. Gwthiwyd rhai yn dyn i'w chrafangau yn y wedd hon. Bendith fawr ei gwerth fyddai sobri ein holl feddygon a'u gwroli at eu hargyhoeddiadau. Asgwrn cynen llawer teulu a ddirfawr heddwch yw'r ewyllus. Anhawdd digoni a boddloni pobl ag arian, a chyll llawer un ei syniadau teg wrth eu rhanu. Y mae'n debyg mei llenydcliaeth ewyllus yw ei hyd, a'r unig ddyddordeb i lawer yn ei chylch, oddigerth fod y swm yn tynu dwfr o'u danedd-meluster i eraill a dim i ni. Gwasgarodd Iarll Carysfort haner miliwn o bunnoedd a 150 o eiriau, ond bu raid i Dduc Dyfnallt gael 18,000 i wasgar swm tebyg. Tri gair oedd hyd ewyllus gwr ieuanc o Streatham, ond eu bod feichiog o ystyr, a thlysed a'r un delyneg a gyfansoddwvd erioed, all for mother." Cafwyd corif Mr Borck- hardt o Sant Albans 3m farw ar Matterhorn a chard wrth ei ochr-" I am dying on Matterhorn, I leave all I possess to you, my dear sister, God bless you." Deuddeg gair oedd hyd papur cymun Arglwydd Russell o Killowen. Buasai cael copi ohoni yn fantais i lawer, nid i wneud eu hewyllys- :au, ond i ysgrifenu eu telegramiau. Dyna un ochr i ddalen cymdeithas ar hona mae'r enwau'n brin. Ewyllys y lliaws yw, Duw a'ch bendithio," a hwyrach mai hon wnaeth fwyaf o ddaioni i'r byd.
.....-... Cymru a'r Beibl.
News
Cite
Share
Cymru a'r Beibl. AT LLYWARCH HEN. Anwyl Syr,—Yn eich "Nodion" yn y Weekly News am yr wythnos ddiwedd (p. 5, col. 4, par. 5), yr ydych wedi ceisio dangos fod y frawddeg gan- lynol (allan o'm llythyr at y Parch W. J. Jones) yn feichiog o gamgymeriadau a chamarweiniol ofnadwv": "The Catholic Church has done nothing else for the last nineteen hundred years only for her there would be no Bible to had now, even in Wales." Y mae y frawddeg hon yn hollol hanesyddol, svr. Ac, yn gyntaf, cofiwch mai annheg iawn ydyw'r gair mwy o'ch rhan chwi pan ddywedwch- "Gicawydyn llonydd gamgymeriadau doniol o nod wedd fod yr Eglwys Babaidd yn gwneuthur daioni er's nineteen years a mwy, ac felly o flaen yr Apostolion a Christ ei hun." Pwy a ddvwedodd wrthych fod yr Eglwys Babaidd wedi gwneuthur daioni o flaen yr Apostolion a Christ ei hun," yr Hwn a'i sefydlodd hi ? Yn awr, medraf eich sicrhau mai na fuasai Beibl yng Nghymru oni bae'r Eglwys Babaidd." Darllenwch hyn—" Catholic honour and revere the Holv Bible as the Word of God, and any state- ment to. the contrary is in opposition to Catholic teaching. The principal difference between the Catholic and Protestant attitude towards the Bible is that the one recognizes, while the other rejects, the need for an infalable authority to be the guide and interpreter of the sacred text. Catholics accept the .Bible on the authority of the Catholic Church, which originally drew up the Canov," or list of writings which make up the Bible Without the Church there would have been no Bible. Although there were a large number of sacred writings, these required to be examined, collected and selected. Catholic believe that the Church, in making the selection, was aided by Almighty God, and thus they have a logical and sufficient reason for saying of the Catholic Bible, as interpreted by the Church, This is the Word of God A dyna'r Beibl a gymerodd y Diwygiwyr oddiwrth yr Eglwys Babyddol. Methaf ddeall," meddwch chwi eto, i'r Eglwys Gatholig roddi i ni un gyfran o'r Ysgrythyrau yn ein hiaith. oddi gf--rth I Gwedd' 'r Arglwydd,' Can Mair,' a rhyw ddarn neu ddau arall." A welsoch chwi erioed ein llyfrau gweddi a'n Epistolau ac Efengylau a ddarllenasoch chwi y Myfyrian Archaeology a'r "lolo MSS," etc. ? Os naddo, beth a ddymunwch chwi ddweyd ? Clywch hyn yn awr-" The Church has ever been the guardian and preserver of the Bible. How, except for the labours of the monks, would the sacred writings have been handed down as they were for many centuries before the era of printing? When printing was discovered, its first fruits were offered to God. The first printed book was the Catholic Bible, printed by John Gutenburg, and known afterwards as the Mazarin Bible. There were many Catholig editions of the Bible in print before Luther's time. Prefixed to the Douai Bible is a letter from Pope Pius VI., warmly commending the popular reading of the Holy Scripture." Pa fodd," meddwch chwi yn olaf, yr ydych yn cysoni eich gosodiad a gwaith Pabyddion amser cyfieithu'r Beibl, yn casglu'r Beiblau oddiar y bobl a'u llosgi'n golcerthi gwaradwyddus." Y mae'r esboniad yn syml iawn, syr. If the Church has, at the time of the 'Reformation,' restricted Bible-reading by the common people, such action was taken for the protection of the people themselves against the false teaching of the reformers.' These men sought to interpret the Scriptures in a sense contrary to the teaching of the Church, and erroneous versions of the Bible were issued for the purpose of helping their views; and these versions, constituting a menace to the faith of the unlearned, were rightly condemned by the Church." O.Y.—Am eich dosbarthrod ar farwolaeth Ferrer yn y Weekly News o'r wythnos o'r blaen, gadewch i mi ddweyd fod ynddi lawer o gam- gymeriadau. Pwy a ddywedodd wrthych fod yr Eglwys Gatholig yn atebol am farwolaeth y dyn hwnnw ? Pa fodd y medwch chwi, fel cristion, cefnogi athrawiaeth y terfysgwyr, sydd ganddynt arwydd-air fel hyn—" Na Duw na meistr ? Beth oedd bai yr offeiriad oedd yn ceisio parotoi am gyfiawnder Duw-ddyn ac oedd wedi cael ei gondemnio, nid heb achos (cofiwch laddfa Barce- lona), gan gyfiawnder ffaeledig llywodraeth ei wlad ? J. M. TREBAOL, O.M.I.
Dirwest yn Rhydyfoel.
News
Cite
Share
Dirwest yn Rhydyfoel. Cynhaliodd Undeb Dirwestol Dosbarth Abergele gvnhad- ledd lwyddianus yng Nhapel Salem (W.) y lie uchod, y cyfarfod cyntaf am 3 o'r gloch. dan lywyddiaeth y Parch Darley Davies, Is-lywydd yr Undeb. Yr oedd y lleoedd canlvnol yn cael eu cynrychioli. Abergele, Bettws, Llysfaen, Moelfre, Llanddulas, Towyn, a'r Morfa. Dechreuwyd trwy ddarllen a gweddio gan y Parch J. Aneuron Enoch, Llari- ddulas, Darlienodd yr ysgrifenydd grofnodion cynhadledd y Morfa, ynghyda gwaith ypwyllg-orau. pa rai a gadarnhawyd. Agorwyd y mater gorhiriedig, sef Llwyr-vmwrthodiad a'r diodydd meddwol yn ammod aelodaeth Eglwysig" gan y Parch J. A. Enoch mewn araeth gynhwysfawr yn cael ei dilyn gan amryw o frodyr eraill. Gan nad oedd pawb o'r un farn ar y mater, penderfynwyd ei ohirio eto, y Parch Robert Williams, Tywyn, i'w agor yn y gynhadledd nesaf. Y mater nesaf fu dan sylw oedd "Ein perygl gwladol gyda'r fasnach feddwol," yn cael ei agor yn glir ac yn rymus gan y Parch Robert Williams, yn cael ei ddilyn gan Mrs. Morgan Davies, Abergele. Etholwvd y rhai canlynol i fod yn swyddogion am y tymor nesaf:—Llywydd, y Parch D. Darley Davies, Llanddulas ysgrifennydd, Mr. J. R. Ellis, Abergele (yr hwn oedd ysgrif- ennydd cyntaf yr Undeb); trysoryddes, Miss Jones, Bodeifion, Abergele. Diolchwyd i'r cyn-swyddogion, yn neillduol i'r ysgrifennydd Mr. Henry Lloyd. Talodd y Parch S. Glyn Davies, yss/nfennycid Gymanfa Ddirwestol Gwynedd, ymweliad a'r Gynhadledd hefyd croesawyd y Parch David Morris (W.), Abergele, i'n plith. Yn yr hwyr cynhalivvyd cyfarfod cyboeddus, dan lywydd- iaeth Mr. Samuel Valentine, Llywyddd yr Undeb, pryd y caed annerchiadau grymus gan y Parchn. J. Glynn Davies, David Morris, ac eraill. Diolchwyd yn wresog i gyfeillion y lie a Chymdeithas Ddirwestol Undebol Llanddulas am dderbyniad mor groesawgar i'r Gynhadledd. H.M.L.
LLINELLAU COFFA
News
Cite
Share
LLINELLAU COFFA Ar ol fy hen gyfaill anwyl, Owen Williams, Tal-y-Waen, Penmachno. ei fron oedd tirionwch, Ddyfned loes oedd fyn'd i lwch. Cilr anwyl, cywir hynod-oedd Owen Ddiwair, darfu'i ddiwrnod Da achos y Duw uchod,- Pan yn iach, oedd pen ei • T. HERBERT HUGHES.
Advertising
Advertising
Cite
Share
IN MEMORIAM CARDS. Choice m Stock. To be had at R. E. JONES & BROS'. Central Library, 8, Station-road, Colwyn Bay; Rose Hill-street, and Bangor-r'cad, Conway. Misses THOMAS, I Fanc9 Drapers and Millinrs ARE Now SHEWING THE LATEST PRODUCTIONS IN M'UJNERY. INCLUDING: FELT, BEAVER AND COVERED F V* HATS in the Leading Styles, Y- "?'•> ALSO y Y 'fT& v ? T & H a S B CHIHDRENS OUTFITTING Agents for Pullar's Dye Works. 7, MIOM ST., COUWAY.
! Atebiad "Llywarch Hen" i'r…
News
Cite
Share
Atebiad "Llywarch Hen" i'r Tad Trebaol. Gwel y darllenydd ar unwaith fod fy nghon- demniad o frawddeg gamarweiniol y Tad Trebaol yn hollol gywir, ac fel!y'n esgusodol. A'r cyfaill yra mlaen i lunio ei thebyg. Dengys ei lith gyflwr beirniadaeth yn yr Eglwys Babaidd, sef amddifad- rwydd hollol o ymchwiliad diragfarn i ddysgeid- iaeth yr oes am hanes y Beibl, a dilTyg cvdnabydd- iaeth & hi. Ni chydnabydda ddim, ond dysg un ochrog, anghywir, a hunanol, ei Eglwys ei hun. Ni ddylech chwi, gyfaill, ymyraeth yn yr ymrafael- ion hyn. Gwr rhwym ydych, gwedi ymdynghedu i wrthod pob gwirionedd ond a fo ffafriol i'ch Eglwys chwi, ac a osodir allan ganddi. A dis- gwylia'r Cymry i bawb gydnabod gwirionedd ym mha Ie bynag y bo. Drwg crenyf am y "Myfiaeth" grefyddol ofnadwy sy'n hagru ei epistol. Ysbryd dieilig yw'r hunanol- deb hwn sy'n andwyo ein Heglwysi, hyfdra rhy- fygus i honi mai hwy yw'r wir Eglwys, a hereticiaid pawb arall. Nid Crist biau'r Eglwys, ei Eglwys fawr ei hun yr ydym ni o genfigen a balchter yn ceisio llunio ei therfynau, a chau ei drysau. Enwad yw Eglwys Rhufain yn yr Eglwys fawr ysbrydol, enwad ffaeledig iawn ei farn a'i fuchedd. Gwn y ffieiddiwch y syniad. Ond diffyg ysbryd Crist yw hyny, a diffyg am I wg yn neall ei wir deyrnas. Gofynwch—"Pwy ddywedodd wrthyf fod yr Eglwys Babaidd wedi gwneuthur daioni o fiaen yr Apostolion a Christ ei hun." Da chwi, rhowch heibio'r dull merchedaidd hwn o ymresymu. Pwy ddywedodd wrthych." Nid mater o hel chwedlau ydyw, a holl werth y chwedl yw gorwedd ar y neb a'i taenodd. Y mae'r Protestaniaid yn treio chwilio'r gwir trostynt eu hunain; hoffant ddwfr Hygad y ffynon. A choeliant y gwir o'i achos ei hun. Ond gan eich bod yn gofyn—Chychwi eich hun a'i llefarodd. Wele eich geiriau chwi eich hun—" The Catholic Church has done nothing else for the last nineteen hundred years." Yn ol y cvfrif Cristionogol, 1909 o flynyddoend sy er geni Crist. Nid oes nineteen hundred years er pan ddechreuodd ei waith cyhoeddus, a llai fyth er pan ymddiriedodd ei waith i'w apostolion. Chwi ddywedodd fod eich eich Eglwys yn gwneud daioni ers 1900 o flynyddoedd, cyn i'r Iesu fynd i'r wyl yn i2eg oed, a bron ddeng mlynedd ar hugain cyn iddo ddewis ei apostolion. Y mae eich honiad mai'r Eglwys Babaidd oedd yr Eglwys yn amser Crist a'r oes Apostolaidd yn wyrdroad anheilwng o hanes. Dyma engraifft ryfygus o'r hunanoldeb enwadol y cyfeiriais ato. Pair yr hunan hwn i ddynion sangu gwirionedd o dan draed, a'i wyrdroi i'w hamcanion hunanol eu hunain. Na lefarwch rhyw ffiloreg enwadol o fath hon yng Nghymru, rhag i'r bobl eich cyfrif yn ynfyd. Hoffwn i'r wlad ddeall brawddeg fel hon a gofnodwch yn ol rhyw awdurdod yn eich Eglwys fel un o'i phrif egwyddorion-" infallible authority to be guide and interpreter of the sacred faith." EGLWYS RHUFAIN YN ANFFAELEDIG. Hen egwyddor bwdr, gondemniedig, anghyson a rheswm, a hanes, ac a'r Beibl ei hun. Y mae Protestaniaeth y byd yn gondemniad a gwrthodiad o'r egwyddor afresymol hon. Yr Eglwys Babaidd yn anffaeledig? Agor beddau aflendid fyddai adrodd pethau hagr hanes, i brofi ftaeledigrwydd Pabau Rhufain. Meddyliwch am y dynion aflan ac anuwiol fu yng Nghadair Pedr, ond er eu holl anuwioldeb yn arweinyddion an- ffaeledig i Eglwys Dduw yn y byd. Wele res o honiadau hollol anghywir fel hanes 1. Fod yr Eglwys Babaidd yn ddehonglydd an- ffaeledig ar y Beibl i'r Bobl. 2. Mai'r Eglwys Babaidd gasglodd y Canon. 3. I Dduw ei chynorthwyo i ffurfio'r Canon. 4. Na fuasai Beibl onibai am yr Eglwys Babaidd. 5. Mai Beibl yr Eglwys Babaidd ddefnyddiodd y Diwygwyr. i. Ysbryd Duw yw'r unig esboniwr anffaeledig ar y gwirionedd. Y mae'r gwynt yn chwythu'r lie myno, felly ei weithrediadau yntau. Coledda Eglwys Rufain v gredo afnadwy hon er cadw ei deiliaid yn ei chredoau a'u chyfeiliornadau ei hun. 2. Honiad noeth yw mai Eglwys Rufain, fel y cyfryw, benderfynodd Ganon y Beibl. Yr oedd Canon yr Hen Destament yn derfynedig i bob pwrpas cyn y Cyfnod Cristionogol. Yr unig beth pendant, hollol briodol iddi ei hun, wnaeth Eglwys Rufain ynglyn A'r Canon oedd treio Caioneiddio rhanau o'r Apocrypha yng Nghyngor Trent. Oherwydd fod stori Bel a'r Ddraig yn fwy cyd- naws a chwaeth isel yr Eglwys ar y pryd. Yr adeg honno yr oedd chwedlau Eglwysig yn fwy cydnaws a. chyfiwr anysbrydol ac ofergoelus yr Eglwys na'r gwirionedd fel y mae yn yr Iesu. 3. Diau i Dduw gynorthwy Ei Eglwys i gadw ei air. Ei Eglwys, cofier, a'r Eglwys Babaidd yn rhan ohoni, y mae'n wir. Nid Duw, cofier, na thrwy Dduw y llosgodd y Babaeth ei hoff bethau ei hun i'w Beibl. + Na fuasai Beibl oni bae'r Eglwys Babaidd." "Without the Church there would be no Bible." Os yr Eglwys gyffredinol feddyliwch, cydolygaf yn rhwydd. Os yr Eglwys Babaidd, gwyr hyd yn od fechgyn Cymru eich bod yn camarwain ac yn cyfeiliorni. Dylech wybod fod yr Eglwysi Dwy- reiniol yn meddu llawer mwy o MSS o'r Testa- ment Newydd na'r Eglwys Babaidd Orllewinol. Eglwysi'r Dwyrain yn benaf fu cartref y Beibl. A chaniatau mai eiddo'r Eglwys Babaidd yw'r "version" Lladinaidd. Ni fu ideli ran na chyfran a' yng nghadw'r versions Aiphtaidd, Armeniaidd, Ethiopiaidd a Syriaidd. Cymerwch y Llaw Ysgrifau pwysicaf. Yn y Vatican y mae Codex B. Yn y British Museum y mae Codex A, Codex Alexandria, a daeth yno o ofal a chadwraeth un o Batrieirch Eglwys Arminia. Ystyriwch y Tadau Groegaidd a'u hysgrife iadau. Nid Pabyddion oeddynt hwy. Beth am Eglwys Groeg, a holl Gristionogaeth. y Dwyrain ? Pa ddiben colli amser. Yr wyf yn maddeu i chwi eich anwybod, melltith eich Eglwys yw'r rheswm o hono. Ond dylech sylweddoli eich safle. Gwr ydych aberthodd ei reswm a'r rhyddid roddwyd iddo gan Dduw, ar allor gwasanaeth ufudd-dod trais anfod eich Eglwys. 5. Mai Beibl yr Eglwys Babaidd ddefnyddiodd y Diwygwyr. Yr ydych yn anghyson a chwi eich hun. Oblegid cyhuddwch y Diwigwyr o ddwyn allan argraffiadau Ilygredig i brofi eu cyfeiliorn- adau ym mhellach ym mlaen yn eich llith. Addefwn i'r Diwigwyr, y rhai roddodd y Beibl i'r Byd, fanteisio ar yr Ysgrifau oedd ym meddiant yr Eglwys Babaidd. Ond camgymeriad anesgusodol fai honi na fuasai Beibl oni bai am dani hi. Yr oedd toraeth yr MSS o'r tu allan iddi. Os Beibl yr Eglwys Babaidd ddefnyddiodd y Diwigwyr, beth sy'n cyfrif am y gwahaniaeth rhwng y Beibl Pab- aidd a'r Beibl Protestanaidd ? Cellwair ynfyd yw eu cyhuddo o llugru'r copi. Oblegid y mae'r gwhaniaeth yn seiliedig ar yr MSS mwyaf gwerth- fawr a safonol. 0 barth cyfiaethu'r Beibl i'r Gymraeg. Ysgrif- enais y gwir a dim ond y gwir. Ydyw, y mae eich Llyfr Gweddi genyf. Nid ymddanghosodd unrhyw ffurf ar hwnw yn Gymraeg hyd 1670. Yn 1837 yr ymddanghosodd yn gyflawn. Rhyw ym- gais i achub y gweddill oedd ei gyhoeddiad. Daliwvd fi a syridod weled ynddo gymaint o air dyn a chan lleiad o Air Duw. Ydyw'r, y mae'r "Myfyrddian Archaiology" genyf. Gwasanaeth ladin oedd gwasanaeth crefyddol Eglwys Rufain i Gymry'r Oesoedd Canol. Druain, ni ddeallent air o'u gwasanaeth crefyddol ger bron Duw. Damniwyd hwy yn eu hanwybod gan Eglwys a ymgyfenwai ar enw Crist. A fedrwch chwi brofi i wasanaeth Eglwys Rufain, pan oedd yn Eglwys y Cymrv, gael ei droi i iaith y bobl? Cyfiaethodd Dafydd Ddu o Hiraddug Wasanaeth Mair i'r Gymraeg. Nid ar ochymyn yr Eglwys, ni chan- molwyd ef gan yr Eglwys am ei waith, ac ni ddefnyddiwyd ef. Ei afiaeth lenyddol ei hun a'i cymhellodd i'r gorchwyl. Gan mai chwi oedd ceidwaid y Beibl, paharn na roddasoch un Efengyl neu Epistol i ni yn ein hiaith. Cyfiaethwyd i'r Gymraeg yn yr amseroecld Pabaidd hyny ddigon o EfengyJau ffugiol, hen chwedlau maswaidd a chelwyddog fel Efengyl Nicodemus," "Efengyl Pawl Apostol," Efengyl Judas Iscariot," a buch- e-id,j,u llu o saint, a luniwyd yn fodau anffaeledig gan fynachod. Ni wyddai'r Cymry ddim o'r Beibl ramyn ei Pader, os gwyddant hyny, hyd adeg dymchweliad y Babaeth. Eich cwymp chwi oedd ein cyfodiad ysbrydol. A'ch nos chwi oedd ein bore oleuni. Rhoddwch i ni ychydig ychwaneg o hanes yr Eglwys Babaidd yn argraffu Beiblau. Ym mha ial th ? At wasanaeth pwy? Nid yng Nghymru. Felly y mae ein gosodiad yn dal ei dir. Ai'r Beibl oedd y llyfr cyntaf a argraffwyd erioed ? Chwil- iwch. Luther roddodd Feibl i Germany ar weithaf eich Eglwys chwi. John Wycliffe ymwrolodd i roddi'r Beibl i'r Saeson, oddeutu 1382, lawn dri- ugain mlynedd cyn dechreu argraffu. Felly nid yw eich son am argraffu ond gwegi diystyr yng ngoleu hanes. Heretic anfad oedd Wycliffe yng nghyfrif yr Eglwys Babaidd. Ymlidiwyd ef yn greulawn. Cafodd fyw yng nghysgod Rhyfel dau Bab, a oedd yn ymladd fel bleiddiaid a'u gilydd am Gadair Pedr. Tra yr oedd y ddau anffaeledig hyny yn cablu eu gilydd, gan alw eu gilydd yn dwyllwyr a chelwyddwyr, cafodd ef hamdden i droi'r Beibl i iaith y bobl. Cydmarodd Wycliffe 170 o wahanol MSS er rhoddi'r gwirionedd yn bur yn nwylaw'r bobl. Er ei fod yn Babydd, ond yn Babydd goleuedig, gwrthododd y peth a elwch chwi yn Feibl awdurdodedig y Babaeth. Pender- fynodd y dyn hwnw, yng ngrym cydwybod oleu- edig, roddi'r goleuni i'r bobl mor bur ag y medrai ef. Soniwch am y Douai Bible ac fod y Pab yn anog ei ddarllen. Darllenwch ei ragymadrodd eto chwi welwch y rheswm paham, sef fod here- tical translations poisoning the people." Lladd dylanwad y Diwygiad oedd yr amcan, ac nid goleuo',f bobl. Ni chyhoeddwyd y Douai Testa- ment" hyd ym mhen can mlynedd wedi dechreu argraffu'r Beibl yn Saesoneg. Y mae eich esboniad ar waith yr Eglwys Babaidd yn llosgi'r Beiblau yn arddanghosiad o'i chulni, a'r nwyd llywodraethol greulon trwy'r hon y duodd hanes crefydd, nes peri ei fod yn warth i wareidd- iad. Cyhuddwch y Diwygwyr o esbonio'r Beibl yn groes i athrawiaethau'r Eglwys. Ystyr y gwir- ionedd ei hun yw'r pwngc anfeidrol bwysig i enaid colledig. Dichon eich bod chwithau yn camesbonio'r Beibl, gan ei wyrdroi i brofi athraw- iaethau ac arferion y mae ei holl ystyr yn eu con- demnio. Eled gwirionedd i'r man yr elo eich pwngc yw dal yr Eglwys ar ei thraed. Am y Diwygwyr dywedwch—Erroneous versions of the Bible were issued for the purpose of helping their views." Fel darn o hanesiaeth Eglwys Babaidd, a ysgrifenwvd ar y pryd, y mae'r uchod yn ddigon naturiol, yn fwy o ffrwyth chwerwder ymrafael yr amser, nag o farn deg a rhesymol. Os ydych yn cynyg yr uchod fel beirniadaeth ddiweddar ar waith y Diwygwyr, y mae yn anghywir, ac anheil- wng. Profa hanes Beirniadaeth Feiblaidd iddynt wneud gwaith anhygoel, dan yr amgylchiadau, iddynt ddewis y darlleniadau goreu oedd yn eu cyraedd. A saif eu gwaith yn golofn o lafur gonest. A chaniatau fod eich gosodiad yn wir, ai da vnoeh oedd llosgi Beiblau a phersonau i ddifa o'r tir bob peth croes i gredo'r Eglwys. Cysonwch yr ymddygiad anwaraidd a. chrefydd Crist, ac ag egwyddorion moesol. Llosgasoch eich hunain allan o Brydain wrth losgi Hereticiaid. Saint y Goruchaf a farn eu llofruddion rhyw fore a ddaw. 0 barth eich sylw ar Ferrer, yr ydych yn ddoniol hefyd hefo'ch—"Pwy ddywedodd wrthych." Y mae eich nodiad chwi eich hun yn brawf arnlwg o elyniaeth eich Eglwys at y truan hwnw. Darllen- wch y Newyddiaduron, am eu ffug brawf, am ferthyrdod. Cynhyrfodd Iwrop drwyddi, a chyna'r Ysbaen i'w seiliau. A chondemnir yr Eglwys Babaidd gan filoedd Itali a Ffrainc. Cofio lladdfa Barcelona, cofiwch chwithau, na phrofwyd yn deg fod un berthynas rhwyng Ferrer a Barcelona. Soniwch am llywcdroeth wladol ffaeledig." Profa hanes hyn, ffarwel am ryddid a thegwch, pan ymyro'r Eglwys Babaidd a'r llywodraeth wladol. Chwi gewch eich cwpaneidiau chwerw yn ddau ddyblyg am erlid a thywallt gwaed gwirion. Ymwrolwch i'r farn a ddaw arnoch. Diwigiad y dyfodol fydd, chwalu'r caerfeydd eglwysig, a dwyn dynion i ryddid y gwirionedd. Rhaid i derfydd ystywiau enwadol o'r tir, onid e & yr wlad yn domen o anffyddiaeth fel Ffrainc. Diau'r ysgydwch eich pen yn ddifrifol wrth ddarllen fy llythyr. Conwch mai Heretic o Brotestan ydwyf, cynefin a cbredu ffeithiau ar eu pwys eu hunain, a hollol anghynefin a llyngcu seigiau diflas offeiriadaidd, heb eu profi. Yr ydwyf yn ddigon hyf ac anuwiol i wenu yng ngwyneb Pab, pan gyhoeddo osodiadau croes i banes a chroes i'r gwirionedd. Chwi dyngasoch yn ddiau, fel eich brodyr, ufudd-dod dall i'ch Eglwys. Arferwch eich rheswm i farnu'n deg. Nid oee i un Eglwys hawl i sefyll rhwng dynion a'r gwirionedd, rhwng dynion a Duw.
IThe Wonderful Story of the…
News
Cite
Share
The Wonderful Story of the "Peace." The whole history of Africa has always been one of intense interest of marvellous discovery and fas- cinating story. It has been the land where many heroes have written, with their vital energies, a consecration to ideals, the wonderful stories of their lives, in letters that can never be effaced from the history of the world. Amongst the most recent ar those of General Gordon, Livingstone, Emin Pasha, Hill Stanley, and George Grenfell. It was in 1877 that Stanley crossed Africa, and discovered that the Congo was connected without doubt with the Lualaba, a river which Livingstone believed to form the upper reaches of the Nile. The Congo is 3,029 miles long, or 13 times the distance from Llandudno to London, and is one of the first rank rivers of the world. From its mouth it is navigable as far as Matadi, 90 miles thence it is impeded for 230 miles, or a little further than from Llandudno to London, by 32 cataracts, until Stanley Pool is reached, from which there is 1,000 miles clear river to Stanley Falls. The following year, the committee of the Bap- tist Missionary Society requested Messrs Comber & Grenfell, who had been working in the Camerons, to proceed to the Congo, prospect and report. Meanwhile Mr. Arthington started a fund of Ci,ooo. Having returned to the Camerons, their report was accepted and they were r sent out as the first missionaries to the Congo. In 1880, Mr. Arthington offered Ci,ooo towards the purchase of a steam-launch, and £ 3,000 to be invested towards its maintenance. The total cost of the steamer was £ 2,000, the other £ 1,000 being raised by subscriptions. The people of Liverpool took special interest in the raising of this money, and suggestions having been asked for the naming of the boats, Mr. Hugh Kyflhi Evans, a native of Old Colwyn, then suggested Peace." This name was adopted as most faithfully expressing to the Congo natives the nature of its mission amongst them. Mr. Grenfell returned home to watch the con- struction of the vessel, and Mr. Dohe, an engineer, was appointed for service with him, and together they went out with the vessel. Mr. Dohe died of fever only three weeks after landing, and Mr. Gren- fell was left alone to superintend the laborious work of transporting the 800 loads, each about 64 lbs. from the coast to Stanley Pool, and the piecing together and the setting to work of the vessel. Two other engineers were sent out to assist him, but what must have been his feelings when he wrote thus Quentin Thomas dead at Victoria the two engineers sent out for the Peace,' both dead, and the new missionary, Hartly, dead also. But we have not lost heart." The work was accomplished and the Peace launched in July, 1884, a monument of a great work accomplished in the heart of Africa by a man trained as a missionary and not as an engineer. When steam was up, and she began to move, one of the natives cried, She lives master, she lives!" No wonder they were astonished, when you compare the native canoe, the only vessel they had ever seen, with the Peace," larger and better even than their huts and propelled by an unseen power. So the Peace commenced her great career, and proved the trustworthy material means by which the heart of the Dark Continent was opened up. Grenfell traversed thousands of miles on board the little steamer, only 70 feet long by 10 feet 6 inches broad, and incidentally mad for himself a name as one of Africa's greatest explorers and geographers. The Peace encountered many obstacles and had several disasters, being badly damaged by a cyclone, running on rocks, getting fiixed on sand- banks. On one occasion the cylinder cover broke, a new one was made of ironwood, and she ran many miles with it until an iron one was obtain- able. In 1887, she was loaned to Stanley, and used by him in connection with the Emin Pasha relief ex- pedition. In 1890, she was seized by the State for use in an expedition. Many months of pal- aver between London and Brussells elapsed before it was admitted that the State had exceeded its powers, and the Peace was restored. Shortly after the Goodwill joined the Peace." On July 1st, 1906, George Grenfell passed to his rest; after his death the Peace," having grown old in service, did very little more work, and in November, she was towed from Yakusi to Stanley Pool by the Endeavour, the latest addition to the Congo fleet, repairs were effected. She did a few journeys after this, and in August, 1908, she was drawn up on shore only a little distance from the spot where she first touched water 24 years before. Her forepart abaft the second bulkhead was cut off native boys and sent to England. This part of the Peace," with her cabin, will form most inte- resting features of the Great Missionary Exhibition to be held at Llandudno during the last week in November, and will bring inspiration to manv. Even, as centuries ago, a little ship bore rhe Sav- v iour about on the Sea of Galilee, so this little vessel has borne the tidings of the work He accomplished from point to point in the heart of Africa, and has been the means of bringing Christ- ian civilization to the ignorant, superstitious Congolese. It is worthy of note that at this Exhibition there will also be a large relief map of the whole basin of the Congo River, together with a native hut and many other interesting objects from Congo, as well as from India and China.