Welsh Newspapers
Search 15 million Welsh newspaper articles
4 articles on this Page
COFIO TOM ELLIS.
COFIO TOM ELLIS. Syniad hapus ar ran cyfeillion y diweddar Tom Ellis oedd gosod cofeb ar fur yr hen gapel lie yr arferai addoli yng Nghymru. Ac ar adeg ei dadorchuddiad daeth torf o .edmygwyr yno i gadw ei goffa yn wyrddlas ymysg cenedlaetholwyr Cymru. Yn ei araith goffhaol am dano, dywedai ei hen gyfaill, Mr. Lloyd George, fod un-mlynedd-ar-ddeg a throsodd wedi myned heibio er pan ddaeth y newydd am farwolaeth Mr. Tom Ellis fel saeth i galon Cymru, ond yr oedd ei goffa- dwriaeth mor fyw yng nghalon Cymru ag erioed. Yr oedd yr argraff wnaed ganddo ar galon Cymru yn ddwfn, a hollol annileadwy. Ond beth oedd y rheswm am hynny ? Nid oedd efe ond dyn ieuanc pan dorwyd ef i lawr; gwr deugain oed oedd efe. Wrth edrych dros gronicl arwyr Cymru, fe welid fod y mwyafrif o honynt ddwbl oed Tom Ellis pan yn gwneud gwaith mawr dros Gymru-John Elias, Henry Rees, Christmas Evans, Williams o'r Wern, Henry Richard, a Thomas Gee-buont hwy oil farw wedi cyrraedd dwbl oed Tom Ellis. Yr oedd y rhan fwyaf o ddynion cyhoeddus wedi colli eu nerth a'u hyni cyn cyrraedd y safle honno o ddylanwad y gallent ddylanwadu ar eu cenedl. Dyna un o "tragedies" bywyd cyhoeddus gweriniaeth. Anaml y cai gwerin y goreu oddiwrth ei phobl, am nad oedd yn adnabod eu hansoddau nes yn rhy hwyr. Mantais fawr Cymru ydoedd i Tom Ellis gael cyfle i wneud gwasanaeth tragwyddol iddi cyn ei dorri i lawr yn ddyn ieuanc. Os oedd ei dorri i lawr pan y gwnaed yn tragedy," yr oedd Cymru yn ddyledus i Ragluniaeth ddwyfol am ei godi pan y gwnaeth. Yr oedd cyfnod yn hanes pob cenedl pan gymerai cyfnewidiad cyflym le yn yr arolwg a gymerai ar bethau; a dyma'r amser yn yr hwn y codwyd Tom Ellis. Pan yn 27 oed, nid oedd yn adnabyddus ond i ychydig o gyfeillion personnol a gredai ynddo pan yn 28 oed, yr oedd yn arweinydd cenedl (cymeradwyaeth)—De, Gogledd, Dwy- rain, a Gorllewin-o Gaergybi i Gaerdydd- yr oed pob Cymro yn glynnu wrth enw Tom Ellis, ac ymuno dan ei faner. Gwnaeth ei waith, yn wir, o fewn y tair blynedd cyntaf o'i fywyd cyhoeddus; a phe torasid ef i lawr yn fab deng-mlwydd-ar-hugain, buasai enw Tom Ellis ar gael tra Cymru yn bod. 'Roedd y gwaith wedi ei wneud. Torwyd ef i lawr yn ngrym ei alluoedd, gyda holl asbri ieu- enctid ganddo, a holl aeddfedrwydd profiad yn perthyn iddo. Beth roddodd i Tom Ellis y fath ddylanwad mewn dwy flynedd o amser ? Un rheswm am hyn ydoedd ei wladgarwch angerddol, ysol. Ni welodd ef (Mr. Lloyd George) ddyn a garai Gymru yn fwy ac yn well na Tom Ellis. Carai ei hiaith, ei thraddodiadau, ei llenyddiaeth, ei chrefydd, ei hafonydd, ei mynyddoedd, ac uwchlaw'r cwbl, carai ei phobl. Heddyw, yr oeddynt yn dadorchuddio tabled bychan i'w goffadwriaeth. Ar furiau capel bychan Cefnddwysarn yr oedd y tabled hwn; ond yr oedd tabled wedi ei godi i'w goffadwr- iaeth a ddarllenid pan na fyddai gareg ar gareg o'r capel-tabled ar galon Cymru. Gweithiodd dros Gymru, a gweithiodd ei hun allan erddi. Byddai i'w waith sefyll, a sefyll dros byth. Gallai rhai o honynt fyw yn ddigon hir i weled â'u llygaid eu hunain Gymru a welodd Tom Ellis a llygad ffydd na phylwyd erioed mo honi-Cymru a feddai ar bobl wedi eu dysgyblu trwy addysg, pobl yn byw mewn dyffrynoedd wnaed yn ffrwyth- lawn gan wyddoniaeth Cymru y byddai ei phobl yn rhai deallus yn caru eu hiaith, eu crefydd; Cymru fyddai yn annibynol a rhydd; Cymru yn ofni Duw, ac yn ofni neb arall. Y siaradwyr ereill oed dent-The Master of Elibank, y tri A.S. Haydn Jones, Llewelyn Williams, a J. Herbert Lewis, a'r Parch. J. Gwynoro Davies, ysgrifennydd y mudiad. Wele'r ysgrif oedd ar y gofeb :— "THOMAS EDWARD ELLIS, A.S. Ganwyd Chwef. 16, 1859; bu farw Ebrill 5, 1899. Etholwyd yn A.S. tros Feirion Gorffennaf 1886. Dewiswyd yn flaenor Medi 1895. A myfi yn ewyllysgar iawn a dreuliaf ac a ym- dreuliaf dros eich eneidiau chwi.2 Cor. xii. 15."
Am Gymry Llundain.
Am Gymry Llundain. WILLESDEN. Alae'r trefniadau ynglyn ag adeiladu yr eglwys newydd yn Willesden yn myned ymlaen yn hwylus, a bydd seremoni'r cerrig sylfaen" yn cymeryd lie un o'r dyddiau nesaf yma. EALING. Nos Fercher nesaf rhoddir cyngerdd Cymreig ar raddfa eang yn Neuadd Drefol Ealing er budd yr Eglwys Fethodis- taidd yn yr ardal. Llywyddir y cyngerdd gan Faer y rhanbarth, yn cael ei gynorthwyo gan Mr. Timothy Davies, Fulham. Mae unawdwyr penigamp wedi eu sicrhau, fel y gwelir mewn colofn arall. COR MERLIN MORGAN.—Deallwn y gwneir rhai cyfnewidiadau ynglyn a'r cor hwn yn ystod y gaeaf dyfodol, ac fod rhai o'r pwyll- gor yn dra awyddus i sicrhau gwell cefnog- aeth iddo nac y mae wedi gael hyd yn hyn gan ein harweinwyr cenedlaethol yn y brif- ddinas. Teimlir yn bur gyffredin na chafodd y gefnogaeth a haeddai yn y cyngerdd roddwyd ganddo yn ystod y gaeaf diweddaf ac oni bae i rai o garedigion y cor danys- grifio yn amserol tuag at y treuliau, byddai y canlyniadau yn wir anffodus. Yn sicr, gydag ychydig o undeb a brwdfrydedd cenedlgarol, dylid gwneud y cor yn deilwng o honom fel cynrychiolwyr Cymru gwlad y gan yn y ddinas hon. ST. PADARN.—Y Sul nesaf, ar nos Lun can- lynol, cynhelir cyfarfodydd diolchgarwch yr Eglwys uchod. Pregethir yn Gymraeg ar yr achlysur gan y Parch. T. D. James, Llan- erfyl; ond prydnawn Sul ceir pregeth Saes- neg gan y Parch. Saunders Lloyd, ficer Holy Trinity, Haverstock Hill. CLAPHAM JUNCTION.—Gwelir fod y cyfeill- ion yn y lie hwn yn myned ymlaen yn hwyliog gyda gwaith eu cyngerdd, ac wedi sicrhau eisoes nifer o dalentau rhagorol i'w gwasanaethu. Oadwer y dyddiad ar gof, canys bydd yn gyngerdd gwerth myned iddo. FALMOUTH ROAD.-Cymer cyfarfod agor- iadol y Gymdeithas Ddiwylliadol y ffurf o wledd," gyda'r trefniadau ar gynllun ciniaw cyhoeddus. Wedi clirio y danteithion ddarperir gan foneddigesau yr eglwys, ceir caneuon ac areithiau. Cynygir llwncdes- tynau, ac atebir gan y Mri. Matthew Keating, A.S., D. R. Daniel, a T. Huws Davies, a'r Parchn. J. Morgan Jones, M.A., Merthyr, a John Rowlands, Penmaenmawr. Gyda'r fath arlwy, y syndod yw nad yw'r Pwyllgor yn codi mwy na swllt am y tocynau. Cafwyd cyfarfod tebyg y gauaf diweddaf, sef Gwledd yr Arglwydd Faer," a bu hwnnw yn llwyddiant mawr.
[No title]
Bu Eos Dar, fel arfer, yn llawn ynni yn dyddori'r torfeydd lawer gwaith yn ystod wythnos yr Eisteddfod—yn yr Orsedd ac yn y cyngherddau, gyda'i benillion doniol. Wele rai i Lloyd George:- Cymro bach yn Gymro mawr A geir yn awr yn gyru Llawer un i golli ei ras, A dweyd yn gas am Gymru, Nid pob Cymro sydd yn dod I ennill clod fel hynny. Fe geir rhai yn beio'r gwr Sy'n arwr pawb synhwyrol, Am roi rhan o'r ddyled fawr Ar war y cawr cyhyrol Byddai llawer un yn falch I gladdu'r gwalch gogleddol.
NODIADAU LLENYDDOL.
am dir cyffredin, ac nid am wlad a gerir gyda chariad didroi-yn-ol. Buasai yn well pe dechreuid gyda-" Dear Land." O'r Saesneg i'r Gymraeg. Mae'r Cymro yn fwy hapus pan yn troi darnau o'r Saesneg i'r Gymraeg, ac hwyrach fod rhai o'r darnau goreu sydd gennym yn gynnyrch awgrym roddwyd i'r awdwyr gan feirdd Seisnig, neu yn gyfieithiad llythrennol o gan arbennig. Byddai yn anhawdd cael gwell cyfansoddiad yn y Gymraeg na chyf- ieithiad Dafis Castellhywel o Gray's Elegy. Yn hon mae'r cyfieithydd wedi llwyddo i gyfleu y gennad mewn gwisg hollol Gymreig. Yr wythnos cyn y ddiweddaf rhoddwyd darn bychan ymhlith ein nodion Seisnig dan yr enw "A City Elegy." Gofynwyd am gyf- ieithiad, a da gennyf allu cyflwyno un hynod addawol, yr hwn gyrhaeddodd yma o ganol Swydd Lancaster, yr hyn brawf nad yw ardal fyglyd y gweithfaoedd yno wedi llwyr fygu yr awen Gymreig yn yr awdwr. Dyma ei ymgais— Pan geir mewn cwsg fy nghalon drom yn disgyn, I'm beddrod na ddewiser araul fan, Na phlanner trosof fioled na rhosyn,— Mewn bywyd ni ddaeth neb a rhai'n i'm rhan. Chwilier am fynwent hen yn amdo niwl y ddinas Lie gorwedd—tan sel gaeth y cuddug trwm- Yn dyrrau clos, y meirwon dibris, di-dras, Gan wthio'u gilydd yn eu gwely llwm. Na thorrer cerdd i ymbil gwael dosturi- Y linell hon fy mywyd oil yn grwn- "Yma y gorwedd un na fyn ei enwi, Eiddo y ddinas gorff ac enaid hwn." Mr. Lyn Harding. Dyma'r gwr sydd a'i enw yng ngenau pob un sy'n hoff o'r ddrama yn Lloegr heddyw. Er nad yw ond ieuanc, saif yn rheng fiaenaf ein chwareuwyr, ac mae'r wasg Seisnig yn canu ei glodydd yn barhaus. Un o fechgyn bro Morganwg yw Mr. Harding, ac mae'n ymfalchio yn y ffaith ei fod yn Gymro, ac hwyrach fod a fynno ei ysbryd Celtaidd a'r naturioldeb, a pha un y portreada ei gymer- iadau pan yn ymddangos o flaen y cyhoedd. Y dydd o'r blaen daeth i'm llaw bamphledyn bychan o waith Mr. Raymond Blathwayt; a sieryd y critic hwn yn uchel iawn am dano. Gwrandewch arno, fel engraifft- I have rarely witnessed so remark- able a performance as that of Lyn Harding's in this strong (The Speckled Band) and melodramatic play of Sir A. Conan Doyle's. And the art of it all is that sheer intellectuality Lyn Harding lifts the whole play clean out of the realms of melodrama, and he gives us instead a play that is dominated by science and mentality a play in which we obtain a penetrating vision into the underworld of souls-and bodies, too- that have degenerated from their once high estates, and oh the pity of it." Gan fod cymaint o siarad am y ddrama yn Nghymru heddyw byddai yn werth cael barn gwr o safle Lyn Harding i draethu ei farn ar y mater. A'i ni fyddai'n bosibl cael araith ganddo ar y pwnc ger bron Cym- deithas y Cymmrodorion ? Beth ddywed Sir Vincent Evans am hyn ?