Skip to main content
Hide Articles List

2 articles on this Page

A BYD Y GAN.

News
Cite
Share

A BYD Y GAN. [GAN ALAWYDD]. Bellach, mae uchel wyliau cerddorol ein cenedl am y flwyddyn hon wedi gorffen, a rhoddir cyfleustra i ni felly daflu cipdrem ar y cynnydd sydd wedi cymeryd lie yn y blynyddoedd diweddaf hyn ynglyn a'n bywyd cerddorol. Yr ydym yn dra hoff o'r dywediad Gwlad y Gan," a myn rhai beirniaid edliw hyn i ni yn bur ami, gan wawdio ein bost fel cenedl gerddgar, a honni ein bod yn mhell iawn ar ol y Sais yn hyn o ddawn. Yr Eisteddfod. Yn y Gogledd, yr wyl hon fu tynfa ein prif gerddorion ddechreu Medi, a chydna- byddir yn gyffredin fod pwyllgor Colwyn Bay wedi llwyddo yn rhagorol i ddenu y torfeydd, yr hyn a brawf fod yr wyl yn boblogaidd er cymaint y curo a'r beirniadu sydd arni y naill flwyddyn ar ol y llall. Y gwyn gyffredin ynglyn a gwyliau cerddorol ydyw nas gellir tynnu y cyhoedd iddynt, ond am yr Eisteddfod myn y werin ei chefnogi hi, er mor angherddgar ydyw, a chadwodd Colwyn Bay y cymeriad hwn yn rhagorol. Ond wrth edrych ar yr wyl o safon y cerddor, diau fod yma lawer o bethau ynglyn â hi oedd yn dra anfoddhaus i ni fel Cymry. Yn un peth, yr oedd colli y prif wobrau i gorau Seisnig yn loes chwerw, ac yr oedd safon isel y cyfansoddiadau cerddorol yn brawf nad ydyw'r gelf hon yn cael y sylw dyladwy yn ein hysgolion a'n colegau. Gan na ddaeth ond un cor Cymreig i'r maes ar y prif ddarn, ni chawsom fantais i glywed Cymru ar ei goreu. Er hyn oil, yr oedd y cor hwn yn canu yn rhagorol, ac yn llawn haeddu y ganmoliaeth roddwyd iddo. « Eisieu Diwygiad. Y mae'r beirdd wedi llwyddo i wneud rhai gwelliantau ynglyn a'u hadran hwy yn y blynyddoedd diweddaf hyn, ac onid yw yn bosibl i ninnau sicrhau nifer o ddiwygiadau ynglyn a'r adran gerddorol ? Buaswn yn awgrymu fod pwyllgor cenedlaethol yn cael ei ffurfio dan nawdd Cymdeithas yr Eistedd- fod, ac fod y pwyllgor hwn i drefnu yn flynyddol pa weithiau ddylid eu gosod yn ddarnau cystadleuol yn y brif gystadleuaeth gorawl, yn ogystal a'r ail gystadleuaeth gorawl. Drwy hyn gellid sicrhau amryw- iaeth a rhoddi cyfleustra i'n prif gorau ym- gydnabyddu a'r cyfansoddiadau newyddaf a mwyaf addas i gystadlu arnynt. Yn adran yr unawdwyr, hefyd, mae gwir angen am ddiwygiad. Gwelir yr un cystadleuwyr yn y gornestau hyn y naill flwyddyn ar ol y llall, a'r un rhai yn fuddugol droion. Ar ol ennill unwaith, yn sicr nid oes unrhyw anogaeth bellach i gystadleuydd rhagor na'r wobr ac mae gwneud yr Eisteddfod yn fath o prize hunting ground" yn beth gwrthun i'r eithaf. Awgrymodd Mr. David Evans yn un o'i feirniadaethau, na ddylid aniatau i'r un person gystadlu am ddeng mlynedd o leiaf ar ol bod yn fuddugol un- waith yn yr Wyl Genedlaethol. Fe gofia'r darllennydd i bwyllgor Eisteddfod Llundain wneud rheol fel hon, ni chaniateir i unrhyw berson gystadlu ar yr unawdau os byddant wedi ennill dwy neu ragor o wobrau fel unawdwyr yn yr Eisteddfod Genedlaethol," ac mae'n hen bryd gwneud hon yn rheol safadwy. Y Safon Seisnig. Nid oes un o'n gwyliau cenedlaethol yn gyflawn oni cheir rhyw Sais enwog i fod yn feirniad ynddi. Mae hon yn fath o reol bendant nes gwneud i bawb gredu nad oes bersonau yng Nghymru yn ddigon cymwys i fod yn feirniaid. Os yw hyn yn wir, y mae'n adlewyrchu yn dra anffafriol ar ein cyfundrefn addysgol ynglyn a cherddoriaeth. Mae ein prifysgol yn awr yn abl i roddi dysg a diwylliant i'n meibion a'n merched ymhob adran, ac onis gall droi allan ambell i fab neu ferch yn meddu ar ddigon o dalent i fod yn feirniad mewn gwyl gerddorol heb ein gorfodi i iyned tuhwnt i Glawdd Offa am y Mus.Bac. hwn a'r "Doctor" arall ? A'r canlyniad naturiol i ddyfodiad y di- eithriaid hyn ydyw dwyn safon Seisnig i bopeth ynglyn a'r Wyl. Nid wyf am ddweyd i neb gael cam yn yr Eisteddfod eleni, ond y mae'n eglur wrth ddyfarniad y beirniaid ar y corau meibion, lie y dyfarn- wyd y brif wobr i gor Seisnig trwy fwyafrif, fod y gwahaniaeth yn bur fychan cydrhwng y ddau gor. Ac mae'n ffaith gwerth sylwi mai Saeson oedd o blaid gwobrwyo y cor Seisnig, tra yr oedd y Cymry yn bleidiol i'r cor Cymreig Ac mae'r awydd am foddio'r beirniaid Seisnig wedi andwyo ami i gor cyn hyn. Mewn darnau cerddorol, lie mae'r geiriau yn Saesneg a Chymraeg, cred rhai corau fod yn fwy manteisiol iddynt ganu y geiriau Saesneg. Camgymeriad mawr ydyw hyn, heb son am ei ffolineb a'i wrthuni. Rhoddwyd esiampl nodedig i ni yn hyn o beth gan gor y merched Gwyddelig yn Colwyn Bay. Canasant hwy y darn yn Gymraeg, tra yr oedd pob un o'r corau Cymreig wedi ymarfer y darn ar y geiriau Saesneg 0 dipyn i beth fe ddeuir yn fwy doeth ar y mater hwn, mi obeithiaf. Gwyl Caerdydd. Ar ol i'r Eisteddfod yn Colwyn Bay fyned heibio wele'r cantorion yn tyrru i Gaerdydd i'r wyl gerddorol yno. Fel mae'n hysbys, cynhelir hon bob tair blynedd, ac mae eisoes wedi ennill lie pwysig yn y cylch cerddorol. Yn anffodus, nid oes un o'r gwyliau a gyn- haliwyd wedi troi allan yn llwyddiant ariannol. Cymaint, yn wir, yw y diffyg eleni fel y sonir am roddi'r wyl heibio hyd nes y ceir gwell cefnogaeth iddi. Y mae hyn yn anffodus, ond nid yw yn beth i synnu ato. Y gwyn bennaf a glywid yr wythnos ddiweddaf ydoedd fod y masses," fel y dywedir, yn anwybyddu'r wyl; a'r casgliad naturiol oddiwrth hyn ydoedd, fod y Cymry yn genedl angherddgar. Y ffaith syml ydyw, mr,i diffyg trefniant oedd yn gyfrifol nad oedd y werin yn bresennol yng Nghaerdydd. Yn un peth, nid oes ond neuadd fechan yno, un a ddeil tua 2,500 o bersonau. Y canlyniad oedd, fod yn rhaid codi pris uchel ar y rhai fynychent y cyfar- fodydd, a chan fod y prisiau mor uchel nis gallai y werin fforddio fyned yno. Gwir fod y treuliau yn fawr, ond buasai yn well cael neuadd lawn bob tro, am brisiau rhes- ymol na gweled nifer liosog o seddau gwag ymhob perfformiad. Cyn y llwyddir gwneud hon yn Wyl lwyddiannus rhaid cael neuadd fwy eang a chyfle i'r cyhoedd fynychu'r cyfarfodydd am brisiau rhesymol. Diraddio yr Eisteddfod. Yr oedd yn flin gennyf weled y cyfeir- iadau gwawdus wnaed yn ystod yr wythnos yng Nghaerdydd at Eisteddfod y Cymry. Amcan y cyfeiriadau hyn oedd ceisio dyrch- afu yr Wyl Gerddorol ar draul bychanu yr hen sefydliad cenedlaethol. Nid dyna'r ffordd i lwyddo yn sicr, ac mae'r hen Eis- teddfod wedi gwreiddio mor ddwfn yng nghalonau y werin fel mai gwaith ffol ydyw ei gwawdio ac awgrymu nad yw'r ddawn gerddorol gan y neb sydd yn ymwneud a hi. Yn ol pob hanes ceir cystal cyngherddau yn yr Eisteddfod ag a roed yng Nghaerdydd, ac nid teg felly yw beio'r bobl am gadw draw. Dr. Cowen oedd prif arweinydd yr Wyl yng Nghaerdydd, a gwyr pawb am dano ef ei fod yn bur barod i gondemnio yr Eisteddfod a'i gwaith er hyn oil nid oedd ei waith ef yng Nghaerdydd yn rhywbeth y gellir myned i orphwylledd o edmygedd am dano. Gwir fod llawer i'w ddweyd ar ran yr Wyl Gerddorol hon, ond yn sicr nid trwy ddir- mygu sefydliad cenedlaethol y mae i ni sefydlu Gwyl ar gynllun Seisnig yn y byd Cymreig.

NODIADAU LLENYDDOL.