Welsh Newspapers

Search 15 million Welsh newspaper articles

Hide Articles List

2 articles on this Page

CYMRU A'R SENEDD.

News
Cite
Share

CYMRU A'R SENEDD. [GAN GLAN HAFREN.] Gan ein bod yn mwynhau ychydig o seibiant gwleidyddol ar hyn o bryd, y mae yn adeg fanteisiol i ni daflu cipdrem ar waith ein cynrychiolwyr yn y Senedd, er gweled a ydyw Cymru yn cael ei safle haedd- iannol yn ein hymdrafodaethau ymherodrol, yn ogystal a'r sylw dyladwy fel cyfran o'r ynysoedd Prydeinig. Y mae'n weddus i mi, er hynny, hysbysu'r darllenydd ar y dechreu, nad wyf am restru fy hunan ymhlith y dosbarth hwnnw o wleidyddwyr sydd bob amser am bigo beiau a nodi ffaeleddau ein cynrychiolwyr. Nid ydynt yn bersonau uwchlaw beirniadaeth, mae'n wir ond credaf mai ein dyledswydd ni, y rhai sydd o'r tuallan i'r cylch swydd- ,og:)I, ydyw rhoddi cyfeiriad priodol i'r rhai sydd yn enau i ni yn St. Stephan. Ac os digwydd iddynt weithredu yn unol a'n cynghorion boed y clod a'r bri yn eiddo iddynt hwy. Yr oil a geisiaf fi ydyw lles- iant y wlad fel cyfangorff. Yr wyf yn ddigon hen i gofio am feirniaid gwleidyddol cyn y rhai ddaethant i fodol- aeth ar adeg yr etholiad ddiweddaf. Bum yn gwrando, droion, ar Mri. William Jones ac Ellis Griffith, heb son am Llewelyn Williams, Ellis Davies, a Haydn Jones, yn traddodi geiriau llym yn erbyn y Blaid Seneddol," pan nad oedd yr un o honynt yn perthyn iddi, a rhyfedd y cyfnewidiadau a addawent pe etholid hwy yn aelodau o'r Blaid Yr oeddwn yn teimlo, ar ol gwrando pob un, fod gwawr ein milflwyddiant gwleidyddol i dorri os digwyddai i un o honynt fyned i'r Seuedd Ond rhyfedd fel y ciliodd fy mreuddwydion i gyd. Mor gynted ag yr etholwyd y personau hyn llyncid hwy gan arferion y Blaid a rheolau y Ty, fel nas clywir eu Ilef ond anaml ar ran y wlad y proffesent gymaint drosti pan heb eu llyfetheirio gan gulni y ddwy lythyren A.S." Ac hwyrach y cofia'r darllenydd am rai o areithiau Mr. Edgar Jones pan yn llanc ieuanc diwygiadol yn troedio trwy y Deheu- barth Hawdd oedd beirniadu y pryd hwnnw, ond unwaith y daeth yntau yn aelod o'r Blaid Gymreig collodd ei bersonoliaeth, ac y mae wedi ymdoddi yn un o'r hen sort," ac efe a gyfrifir fel yr amddiffynydd pennaf heddyw dros "gadw pethau fel y maent" Mae hen ddywediad gan ladron fod yn hawdd denu y cwn ieuainc sydd yn gwylio y ty, drwy daflu asgwrn iddynt; ac mae'n amlwg fod arweinwyr y blaid Gymreig wedi dysgu yr egwyddor hon, caays y mae gobaith am safle a hudoliaeth swyddi wedi distewi pob critic yn y blynyddoedd diweddaf hyn nes peri i mi anobeithio y gwelir to arall o .genedlaetholwyr pybyr am genhedlaeth neu ragor yn Westminster. Pwy sydd i arwaia ? Yr anhawster ynglyn a Chymru heddyw ydyw penderfynu ffynhonell ein harweiniad gwleidyddol. Yr wyf wedi gofyn y cwest- iwn droion, ond hyd yma wedi methu cael atebiad boddhaol, pa un ai'r Aelodau Senedd- ol sydd yn arwain Cymru, ynte Cymdeith- asau Rhyddfrydol Cymreig sydd yn rhoddi arweiniad i'r Aelodau Seneddol ? Dro yn ol ffurfiwyd Cyngor Rhyddfrydol i gynrychioli Cymru ymhob ymdrafodaeth ynglyn a'n materion Seneddol, ac o bob Cymdeithas ddifudd a difywyd yng Nghymru, hwyrach nad oes yr un mor ddi-ddylanwad a hon! Ychydig yw nifer y rhai a fynychant ei phwyllgorau, ac nid oes rhyw hanner dwsin yn teimlo ei bod yn werth aberthu amser i bresenoli eu hunain yn y cyfarfodydd oni fydd Mr. Lloyd George neu ryw aelod arall o'r Cabinet yn bresennol! Ac os ei hanwy- byddir gan y cynrychiolwyr Sirol pa ryfedd fod yr Aelodau Seneddol yn edrych ar y cyfan gyda dirmyg? Gwir fod Arglwydd Tyddewi yn ben ar y Cyngor, ac oni bae am ei ddylanwad eithriadol ef a'i gynorthwy parod i'r Blaid, byddai'r cyfan wedi myned yn fethiant hollol ers talm. Bu cyfarfod o aelodau'r Cyngor hwn yn y Mwythig yr wythnos ddiweddaf. Yn ol yr adroddiadau a glywais ni ddaeth ond dau aelod Seneddol Cymreig yno, sef Mri. William Jones ac Edgar Jones. Mae'r blaenaf, yn rhinwedd ei benodiad fel cyfar- wyddwr i'r Chwip Ryddfrydol, megis dan orfodaeth i fod yn bresennol, tra mae'r olaf fel un o'r rhai ieuengaf yn y Senedd yn awyddus i ddeall holl gynlluniau y byd newydd y try ynddo yn awr. Llywyddwyd gan Arglwydd Tyddewi ei hun, a gellid cyfrif y gweddill ar fysedd ein dwylaw gyda rhwyddineb Rhyw ddyrnaid o bobl i setlo materion dyfodol ein bywyd cenedlaethol, ac o'r nifer nid oedd ond tri y geUid dweyd eu bod yn cynrychioli neb ond eu hunain Yn ol yr ymdrafodaeth fa yno yr ydym i ddeall fod pob symudiad ar ran y pwyllgor hwn, a phob gweithred a datganiad, i'w rheoli yn hollol yn ol y cyfarwyddyd ddaw oddiwrth y Blaid Gymreig trwy enau Arglwydd Ty Ddewi. Os yw hyn yn gywir, yna oddi uchod y mae'r awdurdod. Mae Cymru yn hollol anibynol ar garedigrwydd y rhai a'i cynrychiolant yn y Senedd. A dyna, feallai, sydd i gyfrif am dawelwch a difrawder yr aelodau eu hunain. Gwyddant yn dda nad oes yr un cymdeithas na chyngor o un dylanwad yng Nghymru a feiddia eu beirniadu na'u cyfarwyddo, ac am hynny y mae'r dirywiad cenedlaethol wedi syrthio i'r dinodded a gofnodwyd gennych yn eich colofnau ychydig wythnosau yn ol. Colli Cenedl, ennill Plaid! Yr hyn sydd i gyfrif yn bennaf am gyflwr anfoddhaus ein bywyd gwleidyddol heddyw ydyw'r ffaith ein bod wedi anwybyddu yr elfen Genedlaethol o bopeth cysylltiedig a'n gwleidyddiaeth. Gwir ein bod wedi ennill cefnogaeth y blaid Ryddfrydol am y tro, ond wrth wneud hyn yr ydym wedi colli y genedl yn llwyr Cyn byth yr adferir gwleidydd- iaeth i'w bri cynteng rhaid i ni gael yr elfen Gymreig ynglyn a phob cwestiwn, a rhoddi agwedd Gymreig i'r materion hynny yr ymdrinir a hwy yn ein cynhadleddau. Ofer disgwyl codi hwyl a brwdfrydedd drwy ail- adrodd hen bynciau Seisnig wrth etholwyr Cymreig. Yr ydym fel cenedl wedi cyhoeddi wrth ein cynrychiolwyr fod yna faterion pwysig y dylid cael cydweithrediad arnvnt Ysgrifennvdd Cymreig, Bwrdd Addysg Cymreig, Ymreolaeth Leol, heb son am fain bynciau fel Datgysylltiad; ond ni chaed rhagor na chydnabyddiaeth hannerog ar yr un o'r anghenion hyn Paham ? Am nad oeddent yn y rhaglen Ryddfrydol Seisnig Caiff Cymru ddigon o gyfleusterau i gyhoeddi ei barn yn ystod yr wythnosau dyfodol hyn, canys deallaf fod ym mwriad rhai o'r Cymdeithasau Rhyddfrydig i gynnal cyfarfodydd cyhoeddus. Os digwydd i'r aelodau fod yn bresennol, a'i gormod dis- gwyl i rai o'r cenedlaethol wyr ieuainc godi eu llais cyn yr aiff hi yn rhy ddiweddar ? Y mae gennym rhyw hanner dwsin neu ddwsin o aelodau a honnant fod yn genedlaetholwyr ond iddynt gael y gefnogaeth haeddiannol yn yr etholaethau eu hunain. Ai ni ellir sicrhau y geinogaeth hon iddynt? A oes rhai o'r Cymdeithasau gwledig heb syrthio yn aberth i gyfoethogion y blaid ? Os oes, boed i'r ysbryd Cymreig hwnnw ddeffro gan hawlio y gydnabyddiaeth haeddiannol o hyn allan i Gymru a'i harbenigion yn hytrach nag i'r blaid Ryddfrydol Seisnig, yr hon sydd hyd yn hyn wedi methu sicrhau yr un diwygiad cymdeithasol arbennig i Gymru, ond yn unig yn nghynffon y diwygiadau cyffelyb a sicrheir ganddi i'r cenhedloedd cylchynol hefyd.

Bwrdd y Gol.