Welsh Newspapers

Search 15 million Welsh newspaper articles

Hide Articles List

2 articles on this Page

NODIADAU LLENYDDOL.

News
Cite
Share

NODIADAU LLENYDDOL. Y mae Pwyllgor Eisteddfod Colwyn Bay i'w longyfarch am y rhaglen ddestlus mae wedi drefnu gogyfer a'r Wyl yr wythnos nesaf. Mae pob adran wedi ei threfnu gyda manylder, ac ond i'r cystadleuwyr a'r ym- welwyr astudio y gwahanol gyfarwyddiadau, ni fydd angen am unrhyw anghydwelediad nac anrhefn yn ystod yr wythnos. Mae "Asaph," yr ysgrifennydd, yn hen law ar wneud llyfrau, ac mae'n eglur ei fod wedi rhoddi goreu ei brofiad maith yn nhrefniant y rhaglen hon. Y Gymdcithas Lyfryddol. Ar adeg yr Eisteddfod Genedlaethol y ,cynhelir cyfarfodydd blynyddol y Gym- deithas newydd hon, ac yn y cynulliad a drefnir eleni, i gymeryd lie prydnawn ddydd Mawrth, Medi 13, y mae Mr. J. Ballinger, llyfrgellydd Aberystwyth, i ddarllen papur ar Llyfrgell Genedlaethol Cymru, mewn per- thynas i Lyfrgelloedd a Sefydliadau ereill." Disgwylir Syr John Williams i lywyddu, a aicr y bydd y papur yn un teilwng o'r am- gylchiad, ac o'r darllennydd galluog. Gwir fod y testun yn un amserol, canys y mae angen dwyn y Llyfrgell Genedlaethol i sylw'r cyhoedd. Ar yr un pryd, byddai yn dda gennym pe rhoddai Mr. Ballinger rhyw fras- restr o'r cyhoeddiadau llenyddol sydd gennym fel ffrwyth arbennig yr Eisteddfod. Yn y blynyddoedd diweddaf hyn mae Cym- deithas yr Eisteddfod yn gofalu am gyhoeddi cynyrchion blynyddol yr Wyl; ond y mae yna nifer liosog o fan lyfrau, ar hyd a lied Cymru, y rhai a gofnodant gynyrchion yr hen sefydliad ym mlynyddoedd ei thrallodion ddechreu y ganrif o'r blaen. Hen Adroddiadau. Byddai'n ddyddorol gwybod, er engraifft, am ba Eisteddfod y cyhoeddwyd yr adrodd- iad" cyntaf. Mae hanes manwl am Eis- teddfod Caerfyrddin, 1819, wedi ei gynnwys yn Awen Dyfed, a chyhoeddwyd adroddiad yn Saesneg am weithrediadau Eisteddfod Gwrec- sam, yr hon a gynhaliwyd ym Medi, 1820. Mae'r adroddiad hwn o'n blaen pan yn ysgrifennu, a dyddorol ydyw rhoddi cipdrem i'r hyn a gymerodd le rhyw gan mlynedd yn ol. Yn yr oes honno mynnai y beirdd wisgo eu hurddau arbennig, a rhoddwyd iddynt groesaw calonnog gan bwyllgor yr Eisteddfod. Yn wir, darllenwn yn yr adroddiad y costau a ganlyn £ s. d. For a dinner to the Bards, &c. 8 17 8 Gratuities to Bards, travelling expenses ••• 26 8 0 Yr hyn a brawf y rhoddid bri ar yr hil farddol yn y blynyddoedd hynny. Gwobr am Englyn. Un o hynodion yr Eisteddfod hon ydoedd y ffaith y rhoddid pum gini o wobr am yr englyn goreu—" Pa beth yw awen." Gwallter Mechain oedd y beirniad, a dyfarnwyd eiddo Cais ab Ceisiedydd yn oreu. Nid oedd y gwr yn bresennol, ac ar ol chwilio cafwyd mai Mr. Griffith James, Telynor Rhydychain, oedd yr awdwr. Dyma'r englyn :— Gwen a rhywiog len rhagluniaeth-nwyfiant 0 Nefawl wybodaeth; Dylif o ysbrydoliaeth Yw dawn a firwd Awen ffraeth. Rhoddir gini o wobr yn Eisteddfod Colwyn Bay am englyn, ac mae 153 o ymgeiswyr. Mae'n naturiol holi a fyddai'r ymgeiswyr bum waith mor lliosog pe cynnygid gwobr o bum gini eto? Yr oedd un peth arall gwerth sylwi arno ynglyn a'r beirdd yn yr Eisteddfod honno. Pan atebai'r gwr i'w ffugenw byddai raid iddo adrodd neu ddarllen ei gyfansoddiad i'r dorf! Beth pe bae yr arferiad hwn yn cael ail- gychwyniad- dyweder ynglyn a'r bardd coronog a'i bryddest 0 fil 0 linellau Man Bamphledau. Ond ar wahan i'r cynyrchion buddugol, y mae'r Eisteddfod wedi achosi llu mawr o bamphledau, ydynt o ddyddordeb arbennig i'r hanesydd a'r iaithgarwr. Byddai cael rhestr o'r rhai hyn eto yn gaffaeliad dirfawr, a rhoddent lawer o gyfarwyddyd i ni am egnion yr Eisteddfod, a'i chefnogwyr dros urddas yr iaith a chadwraeth ein nod- weddion a'n llenyddiaeth ddihafal. Ar wahan i hynny, mae amryw o honynt yn gywrain a defnyddiol. Dyna, er engraifft, bamphledyn bychan gan un o'r enw J. G. Pym Ap Ednyfed," yr hwn a ysgrifenodd ragarweiniad i'r Wyl yn Beaumaris, a gyn- haliwyd ar Llun y Pasc, 1859. Enw y pam- phledyn ydyw, A Half Hour with the Druids," a'i amcan ydyw clodfori yr hen Dderwyddon a'u credo. Gan na chynelid yr Eisteddfod ond yn achlysurol yn y blynydd- oedd hynny, pleidia yr awdwr dros gael yr Eisteddfod yn sefydliad blynyddol, gan eangu ei chenhadaeth fel ag i apelio at bob dosbarth o bobl, yn ogystal ag i gynnwys pob gwyddor a ddysgir gennym. Ac mae'r hyn a awgrymid ganddo wedi dod yn ffaith erbyn heddyw. Gwaith y Gymdeithas. Y mae cylchgrawn bychan wedi ei gych- wyn gan y Gymdeithas, a byddai'n werth rhoddi rhifyn cyfan o hono at hanes yr hen gynyrchion Eisteddfodol. Feallai y gwna'r golygwyr hynny gogyfer ag adeg Eisteddfod Caerfyrddin, canys byddai hyn yn foddion effeithiol, nid yn unig i greu dyddordeb yn yr Eisteddfod a'i hanes, eithr yng ngwaith ag amcan y Gymdeithas Lyfryddol hefyd. Gwaith hawdd yw cael areithiau a phapurau ar bynciau pen-agored. Yr hyn sydd ei angen yw gwaith a bery am oesau. Cofiant Emrys ap Iwan. Un o'r llenorion coethaf fagodd Cymru yn ystod y ganrif ddiweddaf oedd Emrys ap Iwan. Pregethwr gyda'r Methodistiaid Cal- finaidd fu'r Parch. R. Ambrose Jones—canys dyna ei enw priodol-ond prin yr adnabydd- wyd ef yn ei oes, ac ni chafodd ond clod pregethwr o'r ail ddosbarth tra yn gweini- dogaethu. Pregethwr coeth a dysgedig ydoedd Emrys, ac nid gwr o hwyl a dawn ac hwyrach mai dyna oedd yn cyfrif am ei absenoldeb o'r prif gymanfaoedd. Mae dwy gyfrol o'i bregethau wedi eu cyhoeddi eisoes, a 'does dim byd gwell yn yr iaith na hwy o ran arddull a chyfansoddiad. Yn awr daw'r newydd fod Mr. T. Gwynne Jones, o'r Llyfr- gell Genedlaethol Aberystwyth, ar fin dwyn allan Gofiant o'r llenor adnabyddus, Emrys ap Iwan, a diau y gwna pawb sydd a Ilythyrau o'i eiddo eu benthyg am ychydig amser i'r cofiantydd, fel ag i wneud cyfiander a'r cymeriad hynod fu'n gwasanaethu yn y Rhewl gyda'r fath lwyddiant, ond mewn dinodedd hollol! Manion. Gan mai yng Nghaernarfon yr urddwisgir y Tywysog, rhaid i haneswyr astudio cof- nodion y ddinas hon hyd hynny. Mae Plaid Llafur yn son am gyhoeddi newyddiadur wythnosol. Un peth yw siarad am ddwyn papur newydd allan; ond pwnc arall ydyw rheoli'r fath newyddiadur am ddwy neu dair blynedd. Bu arwerthiant llyfrau ym Mangor ddiwedd yr wythnos ddiweddaf, a daeth llu mawr o lyfrau Cymraeg gwerthfawr o dan y morth- wyl. Ymysg y casgliad helaeth oedd cyfres gyflawn o'r Archtealogia Cambrensis," sef 59 cyfrol, y rhf i a brynwyd gan Mr. Williams, Ruthin, am y pris isel o £ 17. Deallwn fod y Clwb Cymraeg wedi sicrhau amryw o'r cyfrolau goreu, ym mha le y ceir casgliad tra dyddorol yn awr o brif lenyddiaeth einpobl. Dyna fel y dylai fod.

CAERNARFON A'R TYWYSOG.