Welsh Newspapers
Search 15 million Welsh newspaper articles
3 articles on this Page
Advertising
Special Offer to Kelt' Readers. ÃAÃAAÿ.&& TheCAMORIA FOUNTAIN PEN FOR 3/6 EACH. GUARANTEED FOR TWO YEARS. pqJI! 11 A PERFECT Writing Implement |!| at last within the reach of all. iP li If li Superior to any offered at I fflllll Half a Guinea, and suitable to all writers. gjlj »1 Large 14 Carat Gold Nib, in ratfV all points and degrees of flexi- bility. ll9 CCS2J8^5> 1 HHi Best Vulcanite holder, twin II ijj9| feed and British make through- ID out. CG3SS8S3 ( 1 HI Will prove a faithful com- I IHi panion for a lifetime with fair Hi wear and use. HH cr 14 HUM Every pen carefully tested and IP flj guaranteed for Two Years. (r;5) NmN Send a steel nib and style of HM writing, and we will fix you up JIB with a reliable pen-and not a toy. t!f k11ø- Money Returned if not satisfied. PRICE 3s. 6d. POST FREE. Send for one af once and save 7s. AGENTS WANTED EVERYWHERE. To be had only at 'KELT" OFFICE, 302, BRAY'S INN RD., LONDON, W.C.
ANGEN AM ADFYWIAD.
ANGEN AM ADFYWIAD. Tymor y gwyliau ydyw hwn, ac mae ysbryd y tymor wedi disgyn ar bopeth ynglyn a Chymru. Ar eu gwyliau mae'r Seneddwyr, ac ni chlywir eu llais rhwng mynyddoedd yr hen wlad; ar eu gwyliau mae'r arweinwyr crefyddol, a throir ein pulpudau yn gywreinfeydd y doniau dieithr ar eu gwyliau mae'r ysweiniaid lleol, a cha'r gwerinwr cyffredin ryddid i anadlu yn rhydd am ddeufis o amser; ar eu gwyliau mae'n harweinwyr Llafur, a cheir cynnen ac anghydwelediad rhwng pob Undeb drwy y Deheubarth. Ie, tymor o seibiant ydyw hwn, a chaiff Cymru gyfle i edrych yn hamddenol o'i deutu er gweled a ydyw ei chyflwr cenedl- aethol yr hyn ddylai fod. Ar ol pob seibiant daw tymor gwaith, ac addeflr yn gyffredin, gan bob plaid yng Nghymru, fod yna lawer o waith i'w gyf- lawni eto cyn y gellir hawlio fod ein gwlad wedi esgyn cyfuwch a'i manteision. Mae ei holl arweinwyr cenedlaethol wedi aros yn segur, gan blethu eu dwylaw megis mewn difaterwch hollol, am dros dair blynedd o amser; gan ymfoddloni yn unig ar y briws- ion ddaw i'n gwlad fel rhan o'r Deyrnas gyfunol. Yr un, hefyd, ydyw cyflwr y cylch crefyddol, canys y mae'r doniau fu'n ceisio ysbrydoli ein bywyd gwledig ar adeg Di- wygiad 1905 wedi anghofio'r fendith honno, a throi i fantoli'r gydnabyddiaeth a roddir i weinidogion, gan ddisgyn i iselderoedd buddianaeth y dydd a'i ofynion, yn hytrach na choffhau am addewidion bywyd gwell a threfnu gogyfer ag ymweliad Diwygiad arall. Mae dosbarth Llafur wedi aros yn yr unfan gan waeddi a chyhoeddi bygythion diswmp, a thra yn yr ymarfer blynyddol hynny wele hwynt yn colli un o'u breintiau pennaf heb obaith ymwared mewn llys barn na chan Weinyddiaeth sydd yn rhy dila i wneud dim ond awgrymu cymod ynglyn a phob pwnc dadleuol, neu ofyn am gyflafareddiad lie dylai hawl ac egwyddor fod yn arweinydd pendant i benderfynu'r mater unwaith ac am byth. Yn ystod y tymor hwn o ddifaterwch daw'r newydd i ni nad yw'n cyfundrefn addysg yr hyn ddylai fod, gan brofi fod yr efelychiad o'r cynllun Seisnig yn hollol anaddas i'n gwlad ni. Ar ol hyn wele gri o'r Brifysgol yn cyhoeddi fod rheolaeth y sefydliad cenedlaethol hwnnw yn bwdr hollol, ac fod perygl i aberth y tadau fyned yn ofer os na cheir diwygiadau ar frys. Nid cynt y derfydd yr ymryson yn y maes hwn nag y gwelir yr hen gweryl rhwng De a Gogledd yn cael ei ail-adfer nes peri ym- raniadau nas anghofir hwy yn hir. A thra y mae'r holl helyntion hyn yn crynhoi o'n hamgylch y mae'r rhai a ddylent fod yn gyfarwyddwyr i'n cenedl yn aros yn ddistaw a didaro nes peri i ni anobeithio am lwydd- iant ac undeb y genedl yn ystod yr oes sydd yn codi. Pan ddaeth difrawder cyffelyb dros ein cenedl rhyw ddeng mlynedd ar hugaia ynol, torrodd gwawr o obaith ar y caddug cenedl- aethol yn nyfodiad llu o fechgyn ieuainc gobeithiol hyderus i arwain y genedl i'r goleuni newydd. Yr oedd yr hen arweinwyr wedi llesgau ar y daith-y Senedd a'r Pulpud wedi myned i hepian gan golli pob gweled- igaeth. Yr ydym eto ar fin yr un cyflwr, ond a oes to o arweinwyr newydd yn barod i godi at y gwaith sydd i'w gyflawni ? Gan yr ieuanc mae'r ddawn i weled gweledigaethau, ac yn y breuddwydiwr y mae gobeithion y byd newydd yn creu hyder am ddyddiau gwell. A ydyw ein sefydliadau diweddar yn paratoi y defnyddiau priodol gogyfer a'r gofynion newydd hyn? Os ydynt, yna fe ddaw yr adfywiad cenedlaethol a dry gam- rau'r genedl eto i gyfeiriad y wawr, ac i ail- droedio llwybrau y tadau hynny a wnaethant genedlaetholdeb yn werth i ni aberthu rhywbeth er ei fwyn.
[No title]
Ym mha le y claddwyd Llewelyn ein LIyw Olaf ? Myn rhai fod ei weddillion yn hen Abatty Cwm Hir ond dywed ereill nas gall fod yno, ac mai yn rhywle yn y Gogleddbarth y gorwedd ei weddillion. Paham na welir mo enw Mr. William Jones, A.S., fel un o brif siaradwyr yr Eis- teddfod yn Colwyn Bay ? Bu Cymdeithas Dafydd ap Gwilym un adeg yn gwneud gwaith dros Gymru a'i llenyddiaeth, ond yn ystod y blynyddoedd diweddaf hyn mae wedi troi ei holl fryd ar goginiaeth! Dau chwarterolyn yr Eisteddfod ydynt Marsiant ac Eifionydd, golygwyr y Nation- alist a'r Geninen." Gellir dweyd am y blaenaf ei fod yn chwarter Sais, ond mae'r olaf yn fwy na chwarter Cymro Dyma englyn a wnai'r tro i fod yn ddarn cystadleuol mewn Eisteddfod :— Ci, mul, llew, oen, camel, llwynog-eryr, Carw, gafr, draenog, Hwyaden, gwydd, eidion, gog, Bwch, ceffyl, buwch, cyffylog. Mae un o feibion y diweddar Barch. O. R. Owen, Glandwr (wedi hynny o Lerpwl), yn synnu cynulleidfaoedd yng Nghymru y dyddiau hyn fel pregethwr. Mae wedi ennill yr enw hyll boy preacher i'w hun eisoes. Ddechreu yr wythnos ddiweddaf, bu farw Mr. 0. Owen, yn ei breswylfod yn West Kensington, yn 75 mlwydd oed. Llanwodd Mr. Owen gylchoedd eang yn ei ardal ened- igol Corris flynyddoedd lawer yn ol, fel cynrychiolwr, Pregethwr Wesleyaidd, Cad- eirydd y Bwrdd Ysgol, a swyddau ereill, ac ni bu segur ar ol dyfod i'r Brifddinas. Yr oedd ei ysgwyddau yn dyn o dan yr Achos Cymreig yn City Road, a bydd yno golled dirfawr ar ei ol. Yr oedd yn frawd i'r diweddar Barch. R. T. Owen, Caer.