Skip to main content
Hide Articles List

7 articles on this Page

TROS Y WERYDD.

News
Cite
Share

TROS Y WERYDD. Son am newid pulpudau wir. Dyna i chwi Elfed yn pregethu yn yr Unol Daleithau ddydd Sul diweddaf, ac un o bregethwyr y Taleithau yn pregethu yn King's Cross Un o bregethwyr mwyaf poblogaidd Chicago yw Dr. Gunsaulus, y gwr sy'n llenwi pulpud City Temple y dyddiau hyn. Yn ei eglwys ef mae Dr. Dan Protheroe yn arweinydd y gan, a chyfrifir y gwasanaeth yno fel un o'r goreuon yn y cyfandir newydd. Hysbysir ni gan gyhoeddiad crefyddol parchus, medd y Drych, fod cnwd y D.D. yn llai eleni nag y mae wedi bod ers tro. Ym- ddengys fod rhywbeth allan o le ynglyn a'r supply neu y demand yn ein plith ni y Cymry, yn y Taleithau. Mae y gweithfau heb archebion neu y mae y gweithwyr yn sefyll allan neu rywbeth. Clywsom fod un felin arferai droi allan gryn gyflawnder o'r nwydd wedi cau i lawr o herwydd rhyw reswm neu gilydd. Mae un arall o blant y gan o'r America newydd ddod drosodd i Gymru, sef Mr. W. R. Jones, arweinydd canu yn eglwys Hebron, Chicago. Beth bynnag am glod y ddinas honno fel lie annuwiol, y mae yno nifer o eglwysi llewyrchus iawn, a chymer y Cymry ran flaenllaw mewn amryw o honynt. Dydd Sadwrn diweddaf, Awst 13eg, oedd y Welsh Day yn Scranton, America, a bu'r ddinas mewn llawn hwyl am y dydd, a thyrrai'r Cymry yno o bob man i gadw gwyl. Eisteddfoda a chanu a chroesawu eyfeillion fu prif orchwylion y dydd yno. Pan fo gwyl yn yr America ni fydd ball ar rialtwch y bobl. Y diwrnod mawr yn y Taleithau yw'r "fourth of July," sef dydd dathliad rhyddid y wlad honno. Gofynai cyfaill i Gwilym Glan Conwy un tro- Dywed i mi," meddai, "beth mae y Fourth of July yma yn i feddwl ? 0," atebai Gwilym, coffadwriaeth ydi o am yr adeg y darfu y wlad yma roi cweir i'r Hen Wlad." Wel, bobol anwyl, os dyna ydi o, be 'dasa'r Hen Wlad yn cadw gwyl am bob cweir ro'th hi i wledydd ereill; Fourth of July fasa hi yno am byth." Bwriedir cynnal eisteddfod fawr yn Chicago ar adeg y Calan nesaf, ac er mwyn rhoddi tipyn o atyniad i gorau o Daleithau ereill y mae'r gwobrau yn rhai lied haelionus. Mae'r hwyl eisteddfodol mewn cryn fri yn y Cymro wedi croesi'r Werydd, ac mae'r hen sefydliad a chymaint o "fynd" arno a phe yn yr Hen Wlad. Mae Cymdeithas Elusengar Utica a'r cylchoedd wedi anfon cais am ddarlith gan y Parch. Elved Lewis ar Williams Panty- celyn,' yn ystod ei ymweliad a'r ddinas. Gan fod y Gymdeithas hon yn anenwadol gellid disgwyl cynulleidfa fawr i wrando y gwr athrylithgar. Ysgrifenna Mr. E. J. Morgan, Milwaukee, yr hwn fu ar ymweliad a Llundain ychydig amser yn ol, hanes ei daith yn y papur Americanaidd. Ar ol bod yn gwrando y Parch. R. J. Campbell yn y boreu," meddai, aethom i gapel y Bed- yddwyr yn Heol y Castell-capel yr enwog Lloyd George, yn yr hwyr. Yno cwrdd- asom a Miss Gwen Evans, yr hon sydd yng ngwasanaeth y Brenin er's amser maith, a rhoddodd wahoddiad i ni i ymweled a Buckingham Palace. Nos dranoeth, yn ol y gwahoddiad, aethom i'r Palace Breninol, a chawsom dderbyniad croesawgar iawn gan. Miss Evans. Trwy fod y Fam-Frenines Alexandra, ei chwaer, y gyn Ymerodres Marie o Rwsia, a dau neu dri o freninoedd Ewrop yno, cawsom weled pethau ar eu goreu. Yr oedd yr Ymerawdwr William o Germani newydd ymadael y prydnawn hwnnw, felly ni chawsom gymaint a chyff- wrdd a godreu ei wisg na'i weled o hir-bell, ond gwelsom yr ystafelloedd lie yr oedd yn aros, a'r bwrdd ciniaw wedi ei osod yn barod i'r rhai oedd wedi aros. Gwelsom ystafell yr orsedd yn yr hon yr oedd y diweddar Frenin Edward, neu yr hyn oedd farwol o hono, yn gorwedd cyn ei gymeryd i West- minster Abbey. Yr ystafell hon yw y fwyaf a'r fwyaf gorwch yn y palas. Gwelsom lawer o ystafelloedd ereill, y rhai, wrth gwrs, oeddynt oil yn wychion. Nid oedd gennym amser i edrych ar y dar- luniau ardderchog oeddynt yn gorchuddio y muriau, ond tynwyd ein sylw yn neillduol at un o'r Frenines Alexandria, ac er ei weled yn briodol trodd Miss Evans y goleuni trydanol, a goleuwyd chandelier anferth o cut glass nes oedd yn edrych fel coelcerth fawr o dan amryliw, yn ddigon i gymeryd yr anadl allan o honom.

[No title]

ARWEST GLAN GEIRIONYDD.

[No title]

Y BEIRDD YN LLYDAW.

[No title]

TROS Y WERYDD.