Welsh Newspapers
Search 15 million Welsh newspaper articles
3 articles on this Page
A BYD Y GAN.
A BYD Y GAN. [GAN ALAWYDD]. Talu'n ol. Yr oedd yn ddyddorol gennyf ddarllen yn y CELT diweddaf am fwriad Cor o Fechgyn Canada, a'u bryd ar dalu ymweliad a'r wlad hon. Mae'n amlwg fod ein cydgenedl o'r'tu hwnt i'r Werydd yn awyddus am dalu'r pwyth yn ol i ni, a phrofi nad yw'r cyfandir gorllewinol heb feddu rhyw gymaint o'r .elfen gerddorol. Trefnir rhoddi nifer o gyiigherddau yng Nghymru yn ogystalacyn Llundain, a diau y rhoddir pob cefnogaeth i'r cantorion hyn fel ag i sicrhau llwyddiant yr ymweliad cyntaf o'u heiddo. Mae'r cor yn un gwir haeddiannol o gefnogaeth, canys medda ar leisiau swynol, ac mae eisoes wedi ennill cryn fri yn y Taleithau ac yn Canada. Mewn ymgom a gefais gyda Dr. Dan Protheroe yn ystod ei arosiad yn Gwalia Hotel yr wythnos ddiweddaf dywedodd fod y bechgyn yn gerddorion gwych iawn, ac iddo gael y cytle o'u gwrando yn ddiweddar yn un o gystadleuon mawr Chicago. Credai ef eu bod yn rhagori fel lleiswyr ar aml i barti a ddanfonir o Gymru i'r Taleithau yn y blynyddoedd hyn. Cor Glyndwr Richards. Tra yn son am gor yn dyfod o'r America, dyma'r newydd fod cor Gyudwr eto ar godi hwyl tu hwnt i'r don. Y tro diweddaf bu cor Mr. Richards yn yr Unol Daleithau cafodd dderbyniad croesawgar iawn. Yn wir, prawf yr ail wahoddiad roddwyd iddo ei fod wedi profi yn un o'r partion mwyaf derbyniol tu draw i'r Werydd. Bydd y cor yn ymdeithio am rai misoedd, ac yn ol pob hanes caiff yrfa tra boddhaol eto. Ond nid ,cor o fechgyn yn unig sydd i groesi'r Werydd yr Hydref hwn, canys deallaf fod cor Madame Hughes Thomas eto ar fin myned drosodd i lenwi rhaglen faith o gyhoeddiadau. Myn rhai pobl fod gor mod o awydd aruom i ddanfon corau i'r America, ond os rhoddir y fath groesaw iddynt y mae'n amlwg fod lie iddynt yn ogystal a <iymuniad parhaus am gael eu clywed. Eisteddfodau. Yn ol yr adroddiadau ddel i law yn wyth- nosol, y mae'r gwyliau Ileol yng Nghymru wedi bod yn dra llwyddiannus eleni eto. Mae'n wir fod y tywydd wedi pari yn rhwystr i lu o honynt, ond gwlaw neu beidio, fe fyn y Cymro gwledig ei wyl leol, a cheir canu tra edmygol ynddynt oil hefyd. Ond rhagor na bod yn bethau cystadleuol i gantorian lleol, gwneir yr Eisteddfodau hyn yn esgusawd, fel rheol, i roddi cyngherddau "Uwchraddol ar hyd a lied y wlad, a daw'r hanes fod amryw o'n dinasyddion yn cymeryd rhan ynddynt. Mr. Dyfed Lewis. Ar ol bod am daith hirfaith. draws yr America, y mae'r tenorydd adnabyddus hwn eto yn ei gartref yn Llundain, ac yn edrych Qior ieuanc a nwyfus a phe ond llanc yng nghymdogaeth yr ugain oed. Mae Mr. Lewis wedi cael gyrfa faith a llwyddiannus, c yn un sydd wedi cymeryd rhan flaenllaw yn ein gwahanol fudiadau am flwyddi oaeithion. Gan ei fod yn bwriadu aros yn y wJad hon dros y gaeaf, hwyrach y ceir man- tais i'w glywed yn awr ac eilwaith yn rhai on cyfarfodydd cenedlaethol. COlwyn Bay. Er nad oes ond tri chor yn bwriadu cys- tedlu ar y prif ddarn yn yr wyl fawr eleni, 111 raid i neb feddwl fod yr adran gerddorol yn wan. Yn wir, a chymeryd yr holl ad- rannau at eu gilydd, fe fydd yno rhyw ddeg -ar hugain o gorau yn cymeryd rhan. Erbyn hyn y mae'r holl drefniadau ynglyn a'r wyl wedi eu cwblhau, ac yn ol y rhaglen cymer y brif gystadleuaeth gorawl a chystadleuaeth corau y merched le ar y dydd cyntaf yr ail ddiwrnod, yr ail gystadleuaeth gorawl; y trydydd niwrnod, corau'r plant; pedwerydd dydd, corau meibion; tra y cyfyngir y dydd olaf—y Sadwrn-i gystadleuon y seindyrf a'r offerynau cerdd. Y Cyngherddau. Nid yw rhaglen y cyngherddau a roddir yn ystod wythnos yr Eisteddfod yn llai dyddorol ychwaith, canys ar nos Fawrth ceir perfformiad o Saul o Tarsus," gan Gor yr Eisteddfod, o dan arweiniad Mr. John Williams, Caernarfon. Y prif unawdwyr fyddant Miss Edith Evans, Mr. Lloyd Chandos, a Mr. Ivor Foster. Nos Fercher rhoddir perfformiad o'r "Psalm of Life" (D. Jenkins), a gwaith newydd o eiddo Syr Hubert Parry. Cenir yr unawdau gan Miss Percival Allen, Madame Edna Thornton, a Mr. David Evans. Nos Iau perfformir y Messiah," a chymerir yr unawdau gan Miss Percival Allen, Miss Dilya Jones, Mr. Ben Davies, a Mr. David Hughes. Nos Wener,[cyngerddamrywiaethol: datgeiniaid, Madame Ada Crossley, Madam Laura Evans- Williams, Mr. Gwilym Wigley, a Mr. James Coleman; a nos Sadwrn cyngerdd Cymreig, pryd y cymer amryw o'r cantorion uchod ran, ynghyd a Mr. James Sauvage, Mr. David Ellis, Miss Amy Evans, Deiniol Fychan, Eos Dar, ac ereill. I Bias Gogerddan." Mae Madame Teify Davies a'i phriod yn treulio ychydig ddyddiau yn hen balasdy enwog Gogerddan, ger Aberystwyth, y dyddiau hyn, drwy wahoddiad caredig Syr Edward Pryse a'r teulu. Ddechreu yr wythnos hon rhoddwyd At Home yno i nifer o wahoddedigion, ac un o emau cerdd- orol y noson oedd datganiad Madame Teify Davies o'r hen alaw "I Bias Gogerddan." Gwyr pawb am y bencerddes y gall roddi hwyl a mynd yn yr hen alawon Cymreig hyn
HUGH HUGHES YN LLUNDAIN.
HUGH HUGHES YN LLUNDAIN. Un o fechgyn mwyaf athrylithgar Cymru yn y ganrif o'r blaen oedd Hugh Hughes, yr arlunydd. Ganwyd ef ym mhlwyf Llan- dudno yn 1790, a bu farw yn 1863. Erys ei glod yn bennaf heddyw fel awdwr The Beauties of Cambria," sef cyfrol yn cynnwys trugain o ddarluniau o Dde a Gogledd Cymru, y rhai a gyfrifir yn gelfwaith rhag- orol ac yn un o'r casgliadau destlusaf o olygfeydd Cymru a gyhoeddwyd erioed. Gwnaeth y llyfr hwn ei ymddangosiad yn 1823, ond erbyn heddyw y mae yn hynod brin, ac anaml y ceir copi o hono yn y farchnad. Ar wahan i'w waith fel arlunydd o'r dos- barth blaenaf gwnaeth Mr. Hughes le pwysig iddo ei hun yn y byd Cymreig fel lienor coeth. Golygodd amryw gyfrolau yn ym- wneud a hanes a llen-gwerin y Cymry, a bu'n gyd-olygydd a Mr. D. Charles, Caer- fyrddin, ar yr Addysgydd." Merch hynaf D. Charles oedd ei wraig, ac ar ol eu huniad yng Nghaerfyrddin yn 1827 daeth- ant i fyw i Lundain, gan gymeryd ty yn Greek Street, Soho, ac ymaelododd y ddau yn hen gapel Jewin Crescent. Dyddiau cythryblus oedd y blynyddoedd hyn yn y byd gwleidyddol a chrefyddol, a choleddai Hugh Hughes ddaliadau eithafol fel Radical ac Ymneilltuwr. Yn y flwyddyn 1828 danfonodd nifer o'r gwyr ieuainc mwyaf pybyr yn Eglwys Jewin ddeiseb at y Llywodraeth i bleidio Rhyddid Crefyddol, a phrofai y ddeiseb honno fod teimlad cryf yn bodoli yn Jewin ar y pryd yn erbyn yr Eglwys Sefydledig i hawlio pob braint a swydd. Ond yr oedd rhai o'r hen bobl yn yr eglwys y pryd hwnnw fel ag a geir yn awr yn protestio yn groyw yn erbyn y ddeiseb, a bu hon yn achos rhwyg yn y gynulleidfa, cymaint, yn wir, fel bu raid cael John Elias o Fon i arfer ei ddylanwad i heddychu y pleidiau. Fel y gwyddis, un o fechgyn yr "hen ysgol" oedd John Elias. Yn wir, gellir ei restru fel un o'r Ceidwadwyr mwyaf cul a chreulon a welwyd erioed yng Nghymru. Pan welodd ef gopi o'r Ddeiseb oedd gwyr ieuainc Jewin wedi ddanfon i'r Llywodraeth, ffromodd yn aruthr, a danfonodd ateb nod- weddiadol o hono i'r swyddogion yn Jewin. Yn ei lythyr cyfeiria at y rhai oedd yn gyf- rifol am y ddeiseb fel rhai "yn debycach i rai yn ceisio dysgu y llywodraethwyr, ac yn eu beio yn drwm, nag i rai yn deisyf ffafr ganddynt"; ac ychwanega, ni fuasem ni yn goddef i neb yn ein Corff danysgrifio Deiseb wedi ei eirio yn y dull hwn," &e. Yna, ar ol eu candemnio yn llym, a dweyd wrth yr awdurdodau yn Jewin eu bwrw allan o'r eglwys, ychwanega na fydded i chwi wrando eu dadl dros eu gwaith yn yr Eglwys, gan fod drygioni eu gweithred yn ddigon amlwg. Nid yw yn debyg o ateb un dyben da eu gwrando hwy yn eu hamddiffyn ni wna hynny ond terfysg a gofid yn yr Eglwys. Ar ol eu diarddel ni bydd gennych chwi ddim mwyach a wneloch a'r peth." Gwelir oddiwrth ysbryd yr uchod fod John Elias yn llymach ei gerydd na'r un Pabydd, a dilynwyd ei gyngor gan Eglwys Jewia, canys cafodd Hugh Hughes a'i gyf- eillion eu diarddel am eu gwaith yn pleidio achos rhyddid crefyddol. Rhyfedd faint y cyfnewidiad yn ystod y pedwar ugain mlynedd hyn Cyffrodd yr amgylchiad anffodus hwn ysbryd Hugh Hughes hyd ei waelodion gan beri iddo roddi mwy o sylw o hyn allan i ymladd brwydrau rhyddid nag ymhyfrydu i dynu lluniau. Cyhoeddodd lyfrau yn curo yn chwerw ar waith y Methodistiaid yn vmyrryd a rhyddid crefyddol ac yn beio John Elias yn chwerw iawn. Arweiniodd hefyd gadgyrch yn erbyn y Degwm, ac ysgrifennodd lawer i'r cyfnodolion ar y pryd i oleuo ein Hymneillduwyr ar y mater hwn. Yn wir, gellir ei restru fel seren fore y gadgyrch dros Ddatgysylltiad. Tra yn Llundain daeth i gysylltiad agos ag arweinwyr Rhyddfrydol yr oes, ac yfodd yn helaeth o wersi y chwyldroad Ffrengig. Yn wir, byddai rhai yn ei feio am ei ddal- iadau eithafol gan honni ei fod yn pleidio Gwerin-lywo iraeth, ac yr oedd hynny yn waeth trosedd yn yr oes honno nag yw bod yn Sosialydd rhonc yn awr. Gaa. mai helbulus fu ei yrfa yn Llundain, ac iddo ddyfod i wrthdarawiadau parhaus a gwyr mawr y dydd, ni lwyddodd yn ei amgylchiarlau bydol, a ba raid iddo droi yn ol i Gymru i chwilio am if on ei gynhaliaeth. Aeth i Gaernarfon yn 1834, ac ymhon rhai blynyddau wedyn symudodd i'r Bermo, a pharhodd i ysgrifennu pamphledau ar bync- iau rhyddid am y gweddill o'i oes. Gan iddo ddwyn cymaint bri ar ei genedl yn Llundain, onid doeth fyddai i'r gynulleidfa yn Jewin heddyw wneud iawn am y tro anffodus hwnnw yn ei hanes, a gosod mynor ar far y capel i ddweyd fod y gwr athrylithgar hwn wedi bod yn un o addolwyr yr eglwys rhyw bedwar ugain mlynedd yn ol ?
[No title]
Mae'n bechod anfaddeuol i ddysgu personau i ymladd a dyrnau, ond yn rhin- wedd i'w dysgu i ymladd a chleddyfau ac a megnyl. Rhyw fyd yn llawn anghysonderau ydyw hwn.