Skip to main content
Hide Articles List

3 articles on this Page

Am Gymry Llundain.

News
Cite
Share

Am Gymry Llundain. GWYL Y BANG.—Oafwyd tywydd rhagorol yma ar ddydd Gwyl y Bane, a chynulliadau lliosog ynglyn a'r gwahanol wibdeithiau Cymreig. CAU Y DRws.-Mae'r Senedd wedi ei gohirio hyd Tachwedd 15fed, a'r Aelodau Cymreig wedi gwahannu i bob cyieiriad i fwynhau eu seibiant haeddiannol. YMGOM A'R AELODAU.—Bu nifer o gyn- rychiolwyr C.M. Llundain ar ymweliad a'r Aelodau Cymreig cyn gorffen y tymor yn Westminster, gyda'r bwriad i'w hannog i wneud rhywbeth ynglyn a'r ddeddf i sicrhau tir i adeiladu capelau arno, a man gwynion ereill sydd gan Ymneilltuwyr yn erbyn tir- feddianwyr. Mae argoelion y ceir gwell- iantau yn ystod y tymor nesaf. GYDA'R LLYDAWIAID.—Aeth catrawd gryno o Lundeinwyr i gymeryd rhan yng Ngor- sedd Llydaw, gynhaliwyd yn Nantes yr wythnos ddiweddaf. Ymysg y cwmni oedd Mri. Kelt Edwards, Samuel Davies (Fal- mouth Road), D. R. Hughes, Pepyat W. Evans, a thair o'i chwiorydd; Miss K. Cordelia Rhys, a Mr. David Jones, Farring- don Street. PRIODAS BOBLOGAIDD.-Dydd o lawen wyl ydoedd dydd Mercher, yr 20fed o Orffennaf, yn ardal Dwyreinbarth Llundain, canys dyma'r dydd yr unwyd mewn glan briodas Mr. T. Llewelyn Powell, South Kensington, a Miss Elenor Lloyd, Salmon Lane, Lime- house. Gweinyddwyd gan y Parch. H. Watkins, B.A., caplan Eglwys Burdett Road. Cymerodd y seremoni le yn Eglwys hynafol Bow. Y best man ydoedd Mr. D. Powell, Bow Road, brawd y priodfab, a'r morwynion priodas oeddynt Miss M. Lloyd (nith), Miss A. Davies a Miss L. Davies, dwy gyfnither y briodferch. Wedi dod allan o'r eglwys aed tua gwesty enwog y Three Nuns Hotel, lie 'roedd gwledd anghymar wedi ei harlwyo ar gyfer y gwahoddedigion. Gwelsom yno heblaw y rhai a enwyd eisoes Mrs. Powell, Bow Road; Mr. a Mrs. D. Lloyd, Upton Park Mr. a Mrs. Davies, Lambeth Mrs. Morgan, Kensington; Mr. Young, Manor Park a Mr. W. J. Williams, Burdett Road. Gwledd i'w chofio oedd hon, ac areithiau arosant yn hir yn y cof gafwyd wrth gynnyg ac eilio gwahanol lwnc-destynau. Yn yr hwyr gyrrwyd i'r Lyceum i wrando a mwyn- hau The White Man." Foreu dranoeth hwyliodd y pgr ieuainc i Ffrainc a Belgium i fwynhau ychydig amser o ferw a dwndwr y Fabilon fawr. Brodor o ardal Penllwyn yw'r priodfab, ac aelod parchus o Eglwys y Boro. Genedigol o ardal dawel Cilcenin, glannau'r Aeron, yw'r briodferch, ac un o aelodau ffyddlonaf Eglwys fechan Burdett Road. Gan fod y ddeuddyn mor boblogaidd, nid syndod fod rhestr yr anrhegion drud- fawr yn rhy faith i'w chroniclo, ond rhaid cael lie i gan un o'r beirdd a bynciwyd cyn i'r cwmni ymwahanu, ac wele hi:— Gwn am fardd gan nos a dydd Meirionydd a'i morwynion," Arall wr o'r awen wir Gynhyrfir dros Ga'narfon, Am bob tlos ym mro y ddau Mae degau'n Ngheredigion. Dafydd Gywydd fu'n y fro 'N cyweirio tannau cywrain, Ac fe ganai nos a dydd Am rudd ei Forfydd firain, Ond fe fethodd cawr yr iaith Roi 'i thegwch mewn saith-ugain" Wele frawd fu'n iach ei hynt Drwy helynt ei dreialon, Pasiai ferched ar bob llaw Yn ddifraw iawn ei ddwyfron, Nes y gwelodd wyneb glan Y dega' Ngheredigion. Fe anghofiodd ef bob cwyn Pan Elen fwyn a welodd, Llawer cerdd a llawer can I'w eilun lan a luniodd, Ac er lleddfu cur ei fron I'w gysur hon a geisiodd. Yn glaf o serch yn hir y bu 'N ymholi am ei Elen, Swynol wen yr eneth wyl Ro'i newydd hwyl i'w awen,— Bellach byw'n ei chwmni ga Mewn llonder yma'n Llunden. Gwilym Aeron. LLYWYDDU EisTEDDFODAU.-Bu galw am nifer o'n dinasyddion i lywyddu eisteddfod- au yng Nghymru yr wythnos ddiweddaf. Mr. Howell J. Williams, C.S.LI., oedd un o lywyddion Eisteddfod fawr Corwen, a thraddododd araith galonogol iawn i'r dorf enfawr ddaeth ynghyd. Yng Nghastell- newydd-Emlyn, llenwid y gadair yn y boreu gan Mr. John Hinds, Blackheath, ac yng nghyngerdd yr hwyr yn yr un lie bu Dr. D. L. Thomas, Stepney (un o fechgyn Emlyn), yn llongyfarch y pwyllgor am drefnu y fath wledd o gan i'r gynulleidfa. MR. DAVID THOMAS (Finsbury.) MARWOLAETH HEN GYMRO LLUNDEINIG.— Ddydd Sul yr wythnos ddiweddaf bu farw Mr. David Thomas, yr adeiladydd enwog o Finsbury Pavement, ar ol ychydig ddyddiau o gystudd, ac efe yn 75 mlwydd oed. Brodor ydoedd o ardal Ceinewydd, Ceredigion, a daeth i Lundain yn 1858, gan ymsefydlu yma fel adeiladydd. Ymaelododd yn hen eglwys yr Anibynwyr yn Fetter Lane, ac am yn agos i ddeugain mlynedd bu yn un o flaenoriaid parchusaf yr eglwys honno-yn ei hen gartref, ac yna yn y Tabernacle, King's Cross. Claddwyd ei weddillion yn Abney Park ddydd Mercher yr wythnos ddiweddaf, pryd y gweinyddwyd gan ei weinidog, y Parch. H. Elfet Lewis, M.A. Gedy briod ac un ferch i alaru eu colled am un o'r cymer- iadau mwyaf hynaws a charedig a droediodd balmantau y ddinas hon. ELFED A'I DAITH.-Y Sadwrn diweddaf hwyliodd Elfed am daith tua'r Goillewin. Tra yn yr America bwriada y prif-fardd gadw ei fri fel teithiwr digymar, canys deallwyn fod rhaglen ei waith fel a ganlyn :— Dechreu ei gwrs o ddarlithiau yn Northfield, Mass., yn Ysgol Moody, ddydd Sadwrn, Awst 13; yn Granville, West Pawlet a Fair Haven, Vt., o Awst 20-23; yn Racine, Wis., 28; Cambria, Wis., 29 Chicago, nos Fawrth, 30; Plymouth, Pa., Sul a Llun, Medi 4-5 (darlith nos Lun). Cymanfa Hyde Park, Scranton, Pa., Medi 10, 11 a 12 Edwardsville, Pa., Sul y 18fed; Cymanfa Oneida yn Remsen, Holland Patent, Utica, Nelson a Plainfield, o Medi 21-29. Dina& New York, 11th street, Medi 30. Gwelir fod rhai dyddiau heb eu llanw ar y ffordd, ond y mae digon o geisiadau mewn llaw i fwy na'u llanw, ac y mae y Sabothau oil wedi eu sicrhau.

[No title]

NODIADAU LLENYDDOL.