Welsh Newspapers
Search 15 million Welsh newspaper articles
3 articles on this Page
----ADDYSG YNG NGHYMRU.
ADDYSG YNG NGHYMRU. Yn ol y dadleniadau a wnaed yn ddiweddar ynglyn a'r Brifysgol, a'r adroddiad anfodd- haus a gyhoeddwyd y dydd o'r blaen gan Fwrdd Addysg Llundain, nid yw cyfundrefn addysg Cymru yn un y gallwn ymfalchio ynddo ar hyn o bryd. Yn wir, mae'r diffyg- ion mor amrywiol, ac mor beryglus, fel y mae'n rhaid i'n harweinwyr fyned ati o ddifrif, a hynny heb un oediad, er rhoddi terfyn ar y sefyllfa ddifrifol bresennol. Gan mai cenedl yn dechreu ar ei chynllun addysg ydyw Cymru, y mae yn berygl iddi, ac yn naturiol ddigon hefyd, wneud cam- gymeriadau; ond pan ddangosir iddi y cam- gymeriadau hyn, ei dyledswydd cyntaf ydyw ad-drefnu ei thy, ac osgoi y gwendidau yn y dyfodol. Ac hwyrach fod a fynno'r gwahanol awdurdodau ynglyn a'n haddysg a'r sefyllfa anfoddhaus yn awr. Yr ydym ers blynyddau wedi gofyn am gynllun i unoli ein cyf un- drefn, er gosod y cyfan o dan yr un awdurdod —o'r elfenol hyd at y Brifysgol-ond hyd yn awr nid oes ond ychydig wedi ei gyflawni. Wedi cael y dadleniadau hyn, feallai y gwelir y pwysigrvvydd o osod y cyfan ar seiliau priodol ac hyd nes y gwneir hyn, ofer fydd ein bost fod ein gwlad fechan ni yn meddu ar gyfundrefn all gymharu ag eiddo unrhyw wlad arall. Yn wir, rhaid gwasgar yr hunllef hwn o'n plith, ac addef ar unwaith fod yn rhaid wrth welliantau amrywiol, os ydym am i'n to ieuanc fod yn gydradd ag ysgolorion gwledydd ereill. Hyd nes y ceir hyn, gorffwys y cyfrifoldeb yn hollol wrth ddrysau y gwahanol "fyrddau" a chynghorau" sydd ar hyn o bryd ag awenau yr holl gyfundrefa yn eu dwylaw.
Beirdd Cymru yn Ngorsedd Llydaw.I
Beirdd Cymru yn Ngorsedd Llydaw. A DDAU ARCHDDERWYDD, DYFED A CALEDFWLCH, ar y Maen Llog. ARGLWYDD FAER CAERDYDD yn traddodi araith ar y Maen Llog. 0
YR ORSEDD YN LLYDAW.
YR ORSEDD YN LLYDAW. CROESAW NANTES I BLANT BLLtf. Nid gwaith pleserus yw teithio rai can- noedd o filltiroedd mewn cerbydau digysur. Mae mantais ac anfantais wrth roddi'r ffordd haiarn ym meddiant y llywodraeth, ac hwyrach fod yr anghysur ynglyn a cher- bydau trens Ffrainc i'w priodoli i raddau pell i ddiffyg cydymgais. Rhagor na hyn, nid yw'r daith o St. Malo i Nantes ar y goreu yn un gyflym iawn. Bu raid i'r beirdd gael adnewyddu yr awen ar goffi St. Malo ar ol gorffen gorchwyl y dollfa, ac i hwyluso y daith rhoddasom ein llwythau dillad a'n blychau i ofal swyddogion y ffordd haiarn. Addawodd y rhain, gyda'u boneddigeiddrwydd naturiol, i'n rhyddhau o bob rhwystr, drwy anfon y parseli ar eu hunion i Orsaf Nantes, lie y byddent yn ein disgwyl pan gyrhaeddem yno yn yr hwyr. Ond trodd yr ymddiriedaeth yn siom chwerw, gan beri anghysur i lawer o'r cwmni ar eu harosiad y noson gyntaf yn y ddinas honno Cyrhaeddwyd dinas enwog Rennes erbyn canol dydd, a chan fod gwyl yr hedfanwyr yn cymeryd lie ar y dydd hwnnw, bu raid aros am rai oriau yno i gael adgyfnerthiad i'r corff, a rhoddi cyfle i weled hedegwyr Ffrainc yn trin eu peiriannau yn yr awyr las. Yr oedd miloedd o ymwelwyr wedi tyrru tua'r ddinas enwog hon, ac edrychai unwaith eto mor brysur a'r adeg y bu Dreyfus yno yn sefyll ei brawf. Gwir mai nid o gylch yr adeilad hardd lie y cynhelid y prawf fythgofiadwy hwnnw yr oedd yr ymwelwyr heddyw, eithr ar faesdir agored o'r tuallaa i'r ddinas. Er hyn oil, yr oedd gwedd fywiog ar bopeth yno, a phob llety yn llawn, a'r tai gwledda oil ar eu heithaf yn paratoi erbyn yr hwyr. Llwyddwyd i gael tren cyflym o Rennes i Nantes, ond wfft i'r teithio! Ysgydwai y cerbydau mor frawychus nes peri i ni bryderu am ein diogelwch. Daethom i sylweddoli drwy y rhain, faint y cysur no roddir i deithwyr ym Mhrydain drwy ddef- nyddio cerbydau trymion. Yn hytrach 11a dilyn esiampl y Pullman" gwell gan reolwyr y ffordd haiarn yn Ffrainc efelychu cerbydau y Cambrian neu'r M. 6, M. rhyw chwarter canrif yn ol! Bu'r ysgydwadau hyn eto yn foddion i ail-gynyrchu selni'r mor yn rhai o'r cwmni, a llawen oeddem i weled tyrrau Nantes gyda'r hwyrnos i dystio fod y daith ar derfynnu. Croesaw Dinas Nantes. Pe llwyddasem i gyrraedd y ddinas ganol dydd, fel y bwriedid ar y dechreu, yr oedd gorymdaith forwrol wedi ei threfnu i'n- croesawu; ond os collwyd honno, mynnodd y dinasyddion roddi derbyniad brwdfrydig i ni. Yn yr orsaf yr oedd torf o Lydawiaid, ynghyd a Maer y ddinas ac amryw o urddas- olion lleol. Traddododd y Maer annerch o groesaw, a chanwyd yr anthem genedlaethol. Yna ffurfiwyd yn orymdaith faith mewn cerbydau, y rhai a flaenorid gan seindorf filwrol y rhanbarth. Yr oedd yr heolydd wedi eu llenwi gan filoedd o edrychwyr, a'u haddurno gan faneri hardd, ar y rhai y gwelid Cymru am byth," Croesaw," Breiz da Virviken (Llydaw am byth), a'r cyffelyb. Cludwyd y fintai i'r Hotel du France, a bu raid canu croesaw yno gan y seindorf a chan frodyr y lie. Er fod yr awr yn hwyr, eto yr oedd miloedd wedi dyfod ynghyd, ac er mor flinedig oeddem wedi'r daith, yr oedd swn oriau mgn y boreu wedi taro cyn cael cwsg y noson honno. Ac i ychwanegu at yr anghysur yr oedd y luggage heb gyrraedd, a mawr fu'r bendithio ar swyddogion y ffordd haiarn cyn rhoddi hun i'n hamrantau. Trannoeth yn blygeiniol bu raid galw'r cadau ynghyd, a gwnai'r Cymry eu hym- ddangosiad swyddogol cyntaf mewn cyng- erdd Cymreig yn y prydnawn. Trefnwyd hwn yn yr arddangosfa fawr, mewn lie wedi ei neilltuo at gyfarfodydd o'r fath. Cys- godid ef gan goed talfrig, ac yno yr ymgyn- ullodd Mr. Trevor Evans a'i fintai cerddorol, a buwyd yn llonni'r dorf drwy y prydnawn âg awelon melus y Cymry. Cymerwyd rhan yn y gwaith gan Mri. Trevor Evans, Mr. D. Morris Evans (ei frawd), Eos Dar; Miss Cordelia Rhys Miss Elizabeth Hall (Pem- brey), a Miss J. Evans (Llundain), ynghyd a'r telynorion Miss Bessie Jones (Telynores Gwalia), Mrs. Gruffydd Richards, Miss Maggie Jones (Pontnewydd), a Mr. Pedr James (trioedd o delynorion Llanover). Rhoddwyd derbyniad calonnog i'r oil o'r rhai hyn, a chymaint oedd mwynhad y dorf fel y bu raid rhoddi ail-adroddiad o'r cyfan prydnawn ddydd Llun yn yr un lie. Gof- alodd Eos Dar roddi croesaw priodol i'r Llydawiaid ar y cychwyn, ac ymhlith ei benillion oedd a ganlyn I Gymry glan y rhandir hwn Y daliwn ein deheulaw Maent wedi cadw'r iaith yn fyw, A hwylus yw eu halaw Ac fel Gomeriaid cynta'r tir Dilledir brodyr Llydaw. Mae Llydaw i'n defodau drud Yn astud ac yn ystwyth Ac yn yr hen Frythonig bau, Nid yw'r awenau'n ddiffrwyth; Cant heddyw fendith Cymru lan, A'i thelyn gan i w thylwyth.