Welsh Newspapers

Search 15 million Welsh newspaper articles

Hide Articles List

4 articles on this Page

WATCYN WYN.

News
Cite
Share

WATCYN WYN. Dywedodd Gurnos, ryw dro, am bentref y Bettws, Sir Forganwg, lie y bu byw am gyfnod- I Yma mae stop ar bopeth Ond ar dramps a chodi'r dreth." Safai'r Bettws rhwng cymoedd poblog y. Llynfi a'r Garw ac yn y dyddiau hynny gwelid mwy o grwydriaid a chasglwyr trethi ar heolydd y Bettws nag hyd yn oed o bentrefwyr diddan. Teimlai Watcyn Wyn a Gurnos dipyn o ddyddordeb mewn tramps. Gwelais y ddau, ryw dro, yn rhoddi tybaco ym mhibell un o'r tramps ar yr heol. Llan- wai Gurnos bibell y tramp hyd yr ymylau ac yna rhoddai Watcyn dan ar y pentwr. Golygfa ddoniol oedd hi, yn enwedig pan oedd Gurnos yn siglo Haw a'r hen bererin blin ac yn dymuno'n dda iddo. Daeth cymeriad hynod o ardal Llandebie at ddrws yr Ysgoldy, un diwrnod. Gan fod y cymeriad a'r ymddiddan yn ddoniol cafodd y myfyrwyr bob cyfleustra i wrando'r ysgwrs. Baich cais y doniol-ddyn oedd, fod ganddo fachgen bychan talentog-yn athrylith bob modfedd o'i glai. Dywedai'r dyn wrth yr athraw, er mwyn profi galluoedd uwchraddol ei fab, i'r crwt ysgrifennu llythyr i Wolver- hampton i geisio corgi o waed neilltuol; "a chredwch fi, syr," ebe fe, fe ddaeth y ci, ac fe gyfarfyddodd yn iach ar Orsaf Llandebie." Da iawn," ebe Watcyn Wyn, gyrrwch y bachgen bach yma i'r ysgol, ac fe ddysga i iddo, os bydd eisieu, i ordero menagerie o ben draw'r byd." Daeth y crwt i'r ysgol drannoeth ac er i'w dad Sol ei roddi dan anfantais, gofalodd yr athraw sefyll rhyngddo a stori'r corgi o Loegr. Pe buasai Watcyn Wyn o natur lwfr-fel Islwyn, gwelsid ef yn ei wely ganwaith yn lie treulio "noson gyda'r Delyn;" ond yr oedd mor ffyddiog fel yr ymlusgodd mewn gwendid ganwaith i gymoedd Morganwg gyda'i ddarlith a'i bregeth. Ganwyd ef ar ddiwrnod heulog, a bu yntau yn ddigon call i weld yr ochr oleu i bob tro chwyrn, o'r Gwter Fawr i Chicago. Pan gollodd ei "Long" yng Nghaerdydd diolchodd fod y cadben yn fyw. Beth yw'r gwydryna sy'n nho'r ysgoldy ? ebe rhywun difeddwl wrtho, ryw dro. Fachgen," ebe fe, dyna ysgol pregethwyr i ti i'r dim—goleu oddi fry." Yr oedd te hen lanciau yn y Gwyn- fryn un haf ac nid oedd yr un ddynes i ddod yn agos i'r He, oddigerth Mrs. Williams: efe, wrth gwrs, oedd yn ei gwahodd hi i fesur y te cyn ei roddi yn y tepot rhag i'r te droi yn freci. Cododd un o'r myfyrwyr, ar y diwedd, i ddiolch i Mrs. Williams am fesur y te ac ychwanegodd, fwy nag un- waith, fod y te yn un anarferol. Aeth y gair anarferol yn dramgwydd chwerthingar. Cododd y prif-athraw ar ei draed a chydag un gair holltodd y fro ar ben y myfyriwr. Ebe fe, Ait-arferol, am fod 'Aiiit iii" yiiia' a neb arall.(O'r Gcnincn" Cyhoeddiad Cenedlaethol).

Y DYFODOL.

Advertising

Bwrdd y Gol.