Welsh Newspapers
Search 15 million Welsh newspaper articles
5 articles on this Page
NODIADAU LLENYDDOL.
NODIADAU LLENYDDOL. Un o'r cofiantau mwyaf dyddorol sydd wedi dyfod o'r wasg y misoedd diweddaf hyn ydyw Cofiant yr Hyglod Ddr. Rees, Bronant. Gweinidog gyda'r Methodistiaid yng Ngog- ledd Aberteifi oedd Dr. Rees, a daeth i feddiant o un o'r teitlau Americanaidd tua 1890 -yr adeg yr oedd cryn awydd am sicr- hau addurniadau o'r fath. Ar y goreu, dyn cymharol gyffredin ei gyrhaeddiadau oedd Dr. Rees, a diau mai trwy ychydig o ddireidi ar ran rhai o'i edmygwyr y llwyddwyd i'w gael. Nid ydym, wrth hyn, am ddweyd fod Dr. Rees wedi ei sicrhau mewn dull gwahanol i bobl ereill, ond teimlai amryw o'i frodyr yn y weinidogaeth nad oedd y llythrennau a feddai yn werth gwneud sylw o honynt yn Nyddiadur y Cyfundeb. Bu raid i'r Doctor ymladd ei hawl iddynt, ac ymhen dwy neu dair o flwyddi caniatawyd ei gais. Dadl yr Helynt. Ceisia. ei gofiantydd egluro yr holl hanes yn y gyfrol, ond mae y rhai a gyhuddir ganddo o geisio bychana y teitl wedi ffromi yn aruthr am y dadleuiadau a wneir. A'r canlyniad yw fod y Goleuad yn cyhoeddi llythyrau y naill wythnos ar ol y Hall er cyfiawnhau yr hyn a wnaed ar y pryd. Mae'n amlwg, yn ol y tystion hyn, fod yr hen batriarch wedi cael cryn drafferth i argy- hoeddi rhai o swyddogion y Cyfundeb fod gwerth yn y teitl. Y diwedd fa i'r llyth- Jennau gael ea gosod yn rheolaidd, ond bu raid gwneud nodiad nad oedd golygwyr y "Dyddiadur" yn cadarnhau nac yn con- demuio gwerth y teitl a roddwyd i'r hen bregethwr doniol o'r Bronant. Ond ar Wahan i firi'r teitl, y mae'r cofiant yn werth -ei ddarllen, ac y mae yn bortread lied gywir o'r Doctor a'i hynodion.
MYFYRDOD BOREU SABOTH.
MYFYRDOD BOREU SABOTH. YfansodduJyd yng Nghaernarfon ar foreu Sid, Gnrffennaf 17, 1910. O mor ardderchog, Arglwydd lor, Yw'th enw ar y ddaear faith Dy deg ogoniant welir o'r Mynydd-dir pell, hyd fin y mor, A hyd y draethell laith. D'ogoniant di, orachel Ion, A deimlir fel rhyw nerol swyn, Y pallt iaith i draethii 'i son, Ar Arfon a gororau Mon, Ac ar y Fenai fvvyn. D'ogoniant welir yn ddi-len Ar y mynyddoedd cribog draw Fob trum a ddyrcha tua'r nen, A 1 gorori iiiwliog ar ei ben, Arddengys waith dy law. Wrth edrych ar y bryniau ban, Wrth edrych ar y tonnog 11', Rwy'n cofio dyddiau mebyd, pan Yr oedd d'ogoniant ym mhob man o gylch fy llwybrau i. Ac heddyw, ar dy sanctaidd ddydd, 0 gyrraedd pob aflafar lef, Rwy'n esgyn ar adenydd ffydd. Rwy'n gwledda ar y manna cudd, Rwy'n profi ffrwythau'r nef Ac wedi'r ddwysaf, olaf awr, Hynyma fyddo'm bri a'm braint Pan dorro y dragwyddol wawr, Gael bod ym mhlith y dyrfa fawr, Gael bod.yng Nghaer y Saint! BODFAN.
DEALL EIN GILYDD.
DEALL EIN GILYDD. Fel mae y gauaf a'i waith yn agoshau mae yna un mater pwysig yn gwynebu pwyllgor lleol pob capel ac eglwys Gymreig yn y ddinas hon, sef penderfynnu noson y cyngerdd neu yr eisteddfod flynyddol. I'r rhai hynny sydd yn cymeryd y cyfrifoldeb o ymgyrraedd at lwyddiant cerddorol ac arianol y cyfarfod, mae yn bwngc sydd yn creu cryn benbleth, oblegid, hyd yn hyn, ychydig neu ddim ymgais wneir i beidio gwrthdaro ar gwestiwn dyddiad yr wyl. Peth digon cyffredin ydyw cael dau gyngerdd mawr- eddog, neu ddwy eisteddfod flynyddol, ym- hlith Oymry Llundain ar yr un noson. Pe byddai yn bosibl cael cyd-ddealltwriaeth ar y mater hwn byddai yn fantais i bawb. Yr unig gyfarwyddyd sydd i'w gael yn awr ydyw colofn y "Dyfodol" yn y CELT; ond defnyddir hon fel rhyw fath o rybudd-b6st i ddweyd hands olf" ar y noson a'r noson. Pan ystyrir fod y rhan fwyaf o'r eglwysi yn dibynnu i raddau helaeth ar y cyngerdd neu yr eisteddfod flynyddol am dafeil go drwchus o'u bara beunyddiol, a'u bod gan mwyaf yn apelio at yr un pobl haelfrydig a cherddgar am gynorthwy arianol, mae yn resynus na wneir rhyw ymgais i osgoi gwrth- darawiadau dyddiadol. Mae y prif anhaws- ter hwyrach yn gorwedd yn y ffaith fod y rhan fwyaf o'r eglwysi am gynnal eu prif wyliau cerddorol yn ystod misoedd Hydref a Thachwedd ond tybiwn mai mantais fyddai i bawb, yn gantorion, cystadleuwyr a gwran- dawyr, pe cynhelid rhai o'r cyfarfodydd mwyaf pwysig ar ol y Nadolig. Mae yna ddau undeb yn ein plith ar hyn o bryd, "machinery" pa rai y gellid fenthyca i gyrraedd cyd-ddealltwriaeth ary mater hwn, sef Undeb y Gweinidogion ac Undeb y Cym- deithasau Diwylliadol. Mae yn fater gwir deilwng o ystyriaeth y cyntaf.
Bwrdd y Gol.
Bwrdd y Gol. GWYL Y BEIBDD. Pan ddeallodd y Macwy fod y Gol. wedi hwylio am Lydaw, gyrrodd bellebrau ar ei union i'r hil farddol, a daeth y fath gynulliad ynghyd nas gwel- wyd ei ail er vr adeg y bu Iolo Morganwg yn cynnal Gorsedd ar Fryn y Briall dros gan mlynedd yn ol. Uwyddodd i sicrhau presenoldeb y Canghellor i lywyddu y cynulliad, a phan wnaeth y Cymro hyglod hwnnw ei bresenoldeb, wele Ieuan Huws, o Willesden, yn codi gan ei gyfarch yn iaith oreu yr orsedd— Gwron teg rodd' guarantee—y rhoi doll Ar dy yr Arglwyddi; Hawlia y caws o fol ci, A'r tiroedd o law'r Tori. Bu raid gwaeddi hwre ar ol y cyfarchiad hwn, a daeth amryw o'r beirdd ieuainc o gylch y maen Hog yr eisteddai'r Canghellor arno, ac yno cyflwynwyd Obeli," y bardd newydd iddo. Pan ddeallwyd fod hwn wedi llwyddo i basio arholiadau Eifionydd, dacw "Coetirfab" yn ei gyfarch— Diddig Obeli, gar diddan-delweddu Dy lwyddiant yw'n cyfran Yng Ngorsedd-y wledd wiwlan, Obeli geir a'i bill o gan. Ar hyn cyhoeddodd y cofiadur y byddai'r bardd newydd yn cael ei urddo yn llawn yn Colwya Bay, a rhoddodd wahoddiad cynnes i bawb fyned yno. Pa angen mynd i'r fath le sydd," gwaeddai'r Llinos, onid wyf fi yn fardd, yn ol braint a defawd, yn y ddinas hon? Ac fel prawf o'i fedr, wele ef yn canu yn siriol- RHOSYNAU FY NGARDD. Treulia'r awen lu o oriau 'N mysg rhosynau heirdd fy ngardd, Tawel seddant ar y cangau — Myn eu gwenau loni'r bardd Peraroglau braf sy'n llenwi 'R awel heini' rhwng y dail, Dyma balas harddaf tlysni Dan oleuni ter yr haul. Siglant ddwylaw a'r awelon Yn eu swynion ar eu sedd, Nef ddaearol i fy nghalon Yw prydferthion byw eu gwedd; Wedi derbyn o gusanau Ter wefusau'r huan tlos, Duw eneinia eu dalennau A defnynau gwlith y nos. Llinos Wyre. Da iawn, Llinos," ebai'r llywydd, yn gefnogol, os nad ydych yn fardd natur yr ydych yn fardd naturiol, a phobl naturiol iawn oedd yr hen Gymry ym mhob dim." Eitha gwir," ebai Hen Gymro,' ac mae n lloni'm calon wrth gofio am yr hen bobl blaen yr oes sy wedi mynd heibio. Pan own i yn hogyn, bywyd syml iawn oedd y bywyd Cymreig, dim rhodres a dim moethau o gwbl fel ag a geir yr oes hon. Er engraifft, dyma i chwi ddisgrifiad o FWVD YR HEN GYMRY. Canaf glod i fwyd y Cymry, Bwyd fu gynt yn codi cewri, Bwyd na fu ei fath yn unman 'Rol alltudio oes y crochan. Bwdran, syccan, a chawl erfin O'ent y dysglau mawr cyffredin, Ac ar foethau o'r fath yma Gynt y megid dewrion Gwalia. Er mai talp o haidd o'r dua Oedd y dorth, 'roedd bias ar fara, Ac os barfog oedd y cosyn Byddai'n flasus gyda'r enwyn. Llaeth heb hulen a maidd teneu 'Roent ddigymar wrid ar fochau Pwy feddyliai am eiddilod Ond cael bwyd fel hyn bob diwrnod." "Eitha gwir," ebai Ap Shon, "ond nid y bwyd oedd yr achos o bopeth da yn y Cymry gynt. Y bywyd gwledig oedd yn gyfrifol am lawer o'r iechyd a'r hoenusrwydd, a does dim yn ail i fywyd yn y wlad; a chyda Haw yr wyf am fyned yno fy hunan o hyn i ben wythnos." Paid son am fynd i'r wlad," ebai Twm Aeron, a'm gadael i fy hunan yn Llundain. Rwyf yn awr bron a thorri fy nghalon ar ol fy ngwraig a'm teulu, y rhai ydynt wedi mynd i lan y mor am rai wyth- nosau;" a chan sychu ei ddagrau bob yn ail llinell, wele ef yn crio fel hyn- HIRAETH DINESYDD AM El WRAIG A'l BLANT f YN Y WLAD. I Elen rhaid cyfaddef Hiraeth sy'n fy mron, Dagrau heillt a syrthiant, Anhawdd bod yn lion Hiraeth am f'anwyliaid Am eu cael yn ol Sydd yn peri tristwch- Onid ydwyf ffol! Chwi sy'n llawn llawenydd Draw yng ngwlad y gan— Onid hapus gwrando Cerdd yr adar man ? Yn yr ardd a'r berllan, Onid melus yw, Gweled ardderchowgrwydd Pethau prydferth Duw ? Morfudd fach fy nghariad, Gyda'i gwyneb gwyn, Dada gara'i gwasgu Ato ef yn dyn. Gwladys, fel ei mami, 'N wylaidd ac yn ffel 0 mae dada eisieu Gweld ei eneth ddel Blodwen hoff, fe garwn Gusan gennyt ti- Hyd ei caf, o danfon Lythyr bach i mi. Brysiwch adre eto, Mae eich eisieu'n wir, Heboch mae y dyddiau I mi'n fisoedd hir Twm Aeron. "Too bad, Twm," ebai'r Macwy, "gad lonydd iddynt i fwynhau eu hunain, a bydd dithau, am dro, mor llawen a siriol a hen lane fel y fi." Nawr, boys," torrai Llew Hughes i fewn, gadewch i ni gael rhywbeth mwy sylweddol na hynyna C-tisiwch godi y skfon, ac astudiwch rai o'r beirdd goreu. Dyma i chwi, er engraifft, fy astud- iaeth i o un o glasuron llenyddiaeth y byd Seisnig- SALM BYWYD. (Cyfieithiad o Longfellow's Psalm of Life.") Yn gwynfanllyd na ddyweda, Bywyd breuddwyd yw i gyd Marw yw yr enaid gysga, x'' Rhithiol ydyw pethau'r byd. Gwir yw bywyd llawn gwrhydri! Nid i'r beddrod cyrraedd fvn Llwch wyt ti, i'r llwch dychweli," Nid am enaid d'wedwyd hyn. Nid difyrwch, nid galaru, Yw ein tynghed, draw ym mhell; Byw — fdl byddo pob yfory Yn ein cael yn uwch, yn well. Hir yw celf, a byr yw Amser, A'n calonnau gwrol ynt Fel tabyrddau, llawn o bryder, Arwyl gad want ar eu hynt. Pan yn ymladd brwydr bywyd, Saf dros wirioneddau'th wlad. Nid fel da yn cael eu herlid Bydd yn arwr yn y gad
YR ORSEDD YN LLYDAW.
lilandebie (tad yr ysgrifennydd), ynghyd a nifer o gantorion a cherddorion teilwng i'w cynrychioli. Disgwyliwyd amryw ereill o'r hii fa-rddol, ond yn anffodus ar y funud olaf bu raid iddynt dynnu yn ol, yn bennaf oherwydd .ytnrwymiadau ereill a galwadau Seneddol. (I'w barhaa.)