Welsh Newspapers
Search 15 million Welsh newspaper articles
3 articles on this Page
Advertising
Special Offer to PIMP ,OKeft" ReadersA. .&&& CAMBRIA The FOUNTAIN PEN FOR 3/6 EACH. GUARANTEED FOR TWO YEARS. IF' I A PERFECT Writing Implement at last within the reach of all. <*3aS&t £ 2> Superior to any offered at Half a Guinea, and suitable to all writers. Large 14 Carat Gold Nib, in all points and degrees of flexi- Best Vulcanite holder, twin feed and British make through- Will prove a faithful com- panion for a lifetime with fair wear and use. Every pen carefully tested and guaranteed for Two Years. Send a steel nib and style of writing, and we will fix you up with a reliable pen—and not a »nBnnnnEHBH bility. Best Vulcanite holder, twin feed and British make through- out. c Will prove a faithful com- panion for a lifetime with fair wear and use. Every pen carefully tested and guaranteed for Two Years. Send a steel nib and style of writing, and we will fix you up with a reliable pen—and not a toy. »nBnnnnEHBH Money Returned if not satisfied. PRICE 3s. 6d. POST FREE. Send for one at once and save 7s. AGENTS WANTED EVERYWHERE. To be had only at 'KELT" OFFICE, n 302, GRAY'S INN RD., LONDON, W.C.
CREFYDD A BYW.
CREFYDD A BYW. Hen syniad pur gyffredin yn y cylchoedd crefyddol ydyw, mai swydd ddi-dal ddylai'r gwaith o bregethu yr efengyl fod bob amser. Ac mae llu o'n harweinwyr Ymneilltuol yng Nghymru yn gweithredu yn ol yr egwyddor hon, canys os oes unrhyw beth ynglyn a'n heglwysi sydd ag angen diwygiad arno, credwn mai ymddygiad ein swyddogion ynglyn a'r gydnabyddiaeth a roddir i'r gweinidogion yw hwnnw. Yn rhai o brif gynghorau y gwahanol enwadau y mae'r mater wedi cael ymdriniaeth achlysurol era amryw flynyddoedd, ond pan geisir gosod unrhyw fwriad newydd mewn gweithrediad clywir yr hen flaenoriaid gwledig, yn dyfynu yn rhigl y frawddeg honno derbyniasoch yn rhad, rhoddwch hefyd yn rhad," gan anghofio fod yr un llyfr yn cydnabod hefyd mai teilwng i'r gweithiwr ei fwyd. Diau fod y gweinidogion eu hunain yn gyfrifol i raddau helaeth am yr ystad an- foddhaus bresennol. Nid ydynt erioed wedi rhoddi yr arweiniad priodol ynglyn a'r mater hwn. Maent megys yn ofni cael eu cyhuddo o fod yn fydol ac ariangar pan ant i ymdrin a'r pwnc ariannol bob amser, ac nid oes un math o undeb neu gyd-ddeall- twriaeth yn bodoli cydrhyngddynt. Pan Iwydda gwr dawnus i ennill ychydig fri a dylanwad mae yn abl i sicrhau y cyflog uchaf ar bob adeg, a digon o gyhoeddiadau ar hyd y flwyddyn, tra y gwelir ami i hen ddoethawr gwir grefyddol ond prin yn cael digon i ddwyn dau ben y llinyn ynghyd. Yr oedd yn amserol, felly, i Undeb yr Anibynwyr yn Llanbedr yr wythnos ddi- weddaf i ail-godi yr hen gwyn, a'r bwriad yno ydoedd sefydlu cronfa fel ag i allu sicrhau tua £ 80 o leiaf i bob pregethwr yn flynyddol. Yn ol y dadleniadau wnaed mae nifer liosog o eglwysi yn ein gwlad yn dis- gwyl i'w bugeiliaid eu gwasanaethu am lai na 160 y flwyddyn. Pan y gwyddis fod treuliau byw yn myned yn uwch a'r gofyn- ion ar ein gweinidogion yn lliosogi, ai teg, neu yn wir ai gweithred gristionogol ydyw, i'r eglwysi hyn wrthod gwella'u cydnabydd- iaeth yn unol a safon newydd yr oes ? Addefir yn bur gyffredin fod yn rhaid gwneud rhywbeth ar fyrder, canys os esgeu- lusir y trefniadau gogyfer a byw, ofer dis- gwyl i'n gwyr ieuainc talentog droi i'r weinidogaeth fel yn y blynyddoedd gynt. Mae digon o gyfoeth yn perthyn i'n enwad ond rhoddi iddo y cyfeiriad priodol, a hyderwn y gwneir hyn ar ol i'n blaenoriaid siarad mor llawn o gydymdeimladfa'r mater yn yr wyl flynyddol eleni.
YR ORSEDD YN LLYDAW.
YR ORSEDD YN LLYDAW. UNO'R LLWYTHAU CELTAIDD. Wythnos gyda'r Llydawiaid. Dyma hanes Gorsedd Beirdd Ynys Prydain yr wythnos hon. Aeth catrawd liosog dros y do a dan arweiniad Dyfed, ac ni welwyd erioed y fath gynrychiolaeth o'r hen wlad ar dir tramorol. Nid oes ond ychydig ddyddiau wedi myned heibio er y bu cynhadledd fawr yn Llundain yn dadlu hawliau y cenhedloedd bychain, a chyn i swn y gynhadledd honno gilio o'r tir, wele brawf diymwad nad pethau dibwys a diystyr yw bodolaeth y man lwyth- au. Myn y Celt ei le ymhob gwlad, ac yn Ffrainc, megys ym Mhrydain, mae y Llydawr yn allu pwysig ym mywyd cyhoeddus y weriniaeth fawr honno. Er mwyn cadw yn fyw yr ysbryd cenedlaethol ac i barchu a chysegru yr hen nodweddion y cedwir yr Eisteddfod yn Llydaw, megys ym Mhrydain, a thystiai y miloedd welwyd yn yr wyl fod cymaint bri ar yr hen sefydliad ymhlith ein cymmrodyr yno ag yn ein tir ni. Y daith dros y don. Deuai'r gynrychiolaeth Gymreig o bob cwr o'r ynys. Trefnwyd y gweithrediadau gan Mr. T. Mathews, M.A., o Landebie-un o'r ysgolorion goreu sydd gennym mewn Ffrancaeg a Llydawaeg. Gwnaeth pawb ei ffordd i Southampton erbyn nos Iau yr wythnos ddiweddaf. 0 Abertawe a Chaer- dydd y daeth y cynulliad mwyaf, a chyfar- fyddwyd a'r rhai hyn gan wyr y Gogledd- barth, rhai o Lerpwl, ac o Lundain. Ni phrofodd y tywydd yn ffafriol iawn. Yn wir, pan aed ar fwrdd y llong, dywedai'r swyddogion nad oedd yr elfennau yn argoeli yn foddhaus. Yr oedd y llwyth yn fawr, pob congl o'r llong wedi ei gymeryd, a bu raid i amryw aros ar y dec dros y nos. Yr oedd awr hanner nos yn cael ei chyhoeddi ar awrlais drefoi Southampton pan godwyd hwyliau, a dechreuai y gwlaw ddisgyn nes gwneud y bwrdd yn bur anghysurus. Cyn toriad y wawr roedd gwedd y beirdd wedi cyfnewid cryn lawer. Ceisiai rhai gysuro • ell hunain yn eu gwelyau, ond yr oedd ys- gydwad y bad yn ormod i ganiatau cwsg esmwyth, ac i ychwanegu at ein cyflwr an- ffodus cyhoeddodd y cadben nas gallem lanio yn St. Malo cyn naw o'r gloch. Cafwyd golygfa brydferth ar ynysoedd y sianel Jersey a Guernsey, a'r min ynysoedd ereill— ac erbyn cyrraedd gororau Ffrainc yr oedd yr hin wedi tawelu a'r haul yn ail-ymddangos fel ag i wneud math o iawn dros erwinder y noson gynt. Edrychai muriau St. Malo yn gadarn i'n croesawu, a thywynai yr haul g belydrau tanbaid ar y bau pan ddaeth yn adeg i lanio. Rhoddwyd croesaw caredig i ni gan y swyddogion yno, a phan ddeallasant ein bod yn gynrychiolaeth swyddogol ni fu un math o anhawster ynglyn ag archwiliad y dollfa. A'r teimlad cyffredinol wrth lanio oedd, mai diogel oedd bod ar dir, er mai tir estron ydoedd. Y Cwmpeini. Pwy oeddem, meddech? Wel, fel yr hysbyswyd eisoes, yr oedd yr Archdderwydd Dyfed yno yn blaenori y llu, ac efe fu'r pennaeth ar hyd y daith, a phennaeth di- gymar fu hefyd, a thystiodd pawb na welwyd erioed arweinydd diogelach, na'r un llyw a gafodd ganlynwyr mwy parod a ffyddlon. Ymhlith y gorseddogion ac ereill dan ei ofal oedd Eos Dar, Ifano, Cochfarf, Trevor Evans, D. Rhys Phillips, Mr. Hicks Morgan, Aber- tawy; Arglwydd Fafer Caerdydd, Maer Castellnedd, yr Henadur D. Harris (Aber- tawy) a Mrs. Harris; yr Henadur Gwilym Morgan Mr. Evans (Brythoii), Lerpwl; Mr. D. R. Hughes; Mr. Samuel Davies, Llun- dain Mr. Fox, Aberammon; Mr. Mathews,.