Welsh Newspapers
Search 15 million Welsh newspaper articles
4 articles on this Page
Advertising
Special Offer to 4Kelt' Readers. ..AAAAÃAA.&A.A.- lam TheA,V,BRIA FOUNTAIN PEN FOR 3/6 EACH. GUARANTEED FOR TWO YEARS.- a; ..JœIII 8 Si! A PERFECT Writing Implement Iff li 1 at last within the reach of all. ■I' III cr »1 illHS Superior to any offered at 'III jlBBI Half a Guinea, and suitable to all writers. t flfe < £ 2S&&TS'> HM Large 14 Carat Gold Nib, in MWH all points and degrees of flexi- bility. c 11 S Best Vulcanite holder, twin NHNm feed and British make through- I I out. (i II T| Will prove a faithful com- V flV panion for a lifetime with fair F fl| wear and use. Kill 1 lii ■ Every pen carefully tested and ■s-hI guaranteed for Two Years. EBP I CJ 1 I Send a steel nib and style of I I writing, and we will fix you up with a reliable pen-and not a fW;.IUB W toy. BBOBBi r,;¡¡ Money Returned if not satisfied. PA ICE 3s. 6d. POST FREE. Send for one at once and save 7s. AGENTS WANTED EVERYWHERE. To be had only at 'KELT" OFFICE, n ul 30LI GRAT s INK RD., LONDON, W.C. «■" AR Y OWYLIAU, Gofalwch am gael y GSLT— yn rheolaidd pan ar eich gwyliau haf. Anfonir copi yn rheolaidd o'r swydd- fa ond gyrru stamps yn ol ljc. y rhifyn fel blaendal. Gyf- eirier pob archeb i- "GELT" OFFICE, 302, Gray's Inn Road, London, W, U.
PRIFYSGOL HEB ARWEINIAD.
PRIFYSGOL HEB ARWEINIAD. Er cymaint yr ydym wedi ymfalchio yn ein cylundrefn addysg yn y blynyddoedd diweddaf hyn, rhaid cydnabod nad ydyw'r sefyllfa ynglyn a'n prifysgol, ar hyn o bryd, yr un y gallwn edrych arno gydag unrhyw foddhad. Yn wir, mae'r dadleuon a gafwyd yn ddiweddar wedi peri llawer o ofid i'r rhai sydd yn dyheu am weled addysg Cymru ar y blaen i bob cyfundrefn arall, ac wedi profi tuhwnt i ddadl, fod angen am ddiwygiadau mawrion os am gyrraedd y nod osodwyd i ni gan y tadau, a'r rhai a lafuriaa- ant mor egniol i sefydlu y colegau presennol. Ac fel mae'n rhaid cyfaddef, nid diffygion ynglyn a'r trefniadau allanol yn unig sydd yn gyfrifol am y cyflwr anfoddhaus presen- nol. Yn wir, pe baem i roddi gwir hanes yr ystori, byddai yn rhaid i ni fyned yn ol i adeg dechreuad y Brifysgol, gan osod y rhan bwysicaf o'r diffyg wrth ddrysau y rhai geisiasant gynllunio popeth ynglyn a hi yn ol arfer y prifysgolion hynafol yn Lloegr. Cenedl heb arweinwyr addysgol oeddem pan lwyddasom i sicrhau y rhodd werthfawr hon, a chenedl yn parhau heb ddoniau o'r fath ydym yn aros hyd heddyw. Ers rhai blynyddau bellach, mae eistedd- iadau'r Cyngor sydd wrth lyw gweithred- iadau'r Brifysgol wedi dangos mor anaddas ydyw i ofalu am anghenion arbennig ein gwlad ni. 'Edrycha'r Cyngor ar bopeth o'r un safbwynt a'r Cvnghorau a reolant Brif- ysgolion Lloegr, ac nid syndod felly, fod y sefydliad yn dechreu colli tir, ac fod y werin yn dechreu amheu ei genedlaetholdeb. Mae'n wir fod amryw o'r aelodau a ffurfiant y Cyngor yn bersonau a haeddant y clod uchaf am eu brwdfrydedd a'u sel, ond rhywsut neu gilydd mae'r elfen Gymreig sydd arno yn hollol analluog i hawlio unrhyw well- iantau, neu ynte i gynnyg diwygiadau a fyddont o les i'r sefydliad ei hun. Ac mae'n amlwg, hefyd, fod y man ym- raniadau ymhlith yr aelodau wedi bod o gryn rwystr i wir gynnydd yn y blynydd- oedd diweddaf hyn. Myn rhai o aelodau'r Cyngor feirniadu eu gwrthwynebwyr yn barhaus, heb geisio unrhyw gynllun o ddi- wygiad. Gosodant yr elfen bersonol o flaen pob dim, ac nid ydyw yn syndod felly fod y fath ymrafaelion wedi atal amal i gynllun gael ei le haeddiannol ynglyn a'r gwaith. Deallwn fod un neu ddau o gyfnewidiadau pwysig wedi cymeryd lie yn ddiweddar ynglyn a swyddogion y Cyngor a'i gyfan- soddiad eto prin y credwn fod y rhai mwyaf cymwys wrth y Ilyw, canys dylid sicrhau fod mwyafrif ein harweinwyr ym myd addysg wedi deall beth yw prif anghenion y bobl yn hyn o faes, ac nid yn rhyw nifer o specialists crancyddol wedi eu trwytho a phob ffiloreg perthynol i'r sefydliadau yn Rhydychen a Chaergrawnt. Yr anffawd yw, nad oes un gwr ymysg y Cyngor a hawlia edmygedd neu ffyddlondeb ei gydaelodau. Maent oil mor gydradd gyffredin fel nad ydyw yn ddichonadwy iddynt gydsymud ar linellau diwygiadol. Ond gan fod cyflwr ariannol y gwahanol golegau ynglyn a'r Brifysgol mor anfodd- haol, dylai'r Cyngor ofalu am lu o ad-drefn- iadau mor fuan ag y gellir, fel ag i roddi y cyfeiriad priodol i'r gyfundrefn ac i ad-ennill ei safle i'r Brifysgol yn ein tir. Pwy o'n hedmygwyr addysgol a grea y chwyldroad angenrheidiol ? Mae digon o gyfleusterau yn aros yr unig angen ydyw'r gwr a garia y gwaith i fuddugoliaeth
BEDD TWM O'R NANT.
BEDD TWM O'R NANT. Ar gof-lech yn yr Eglwys Wen, gerllaw Dinbych, ceir a ganlyn:- Y maen hwn a osodwyd Gan Gymdeithas y Gwyneddigion ER COF AM THOMAS EDWARDS, NANT, Bardd rhagorol yn ei oes. Bu farw Ebrill 3ydd, B A 1810. Ei oedran 71. Geirda roe i gywirdeb -yn bennaf Ni dderbyniai wyneb v A rhoe senn i drawsioeb, A'i ganiad yn anad neb. (WM. JONES, Bardd Mon.) Er cymaint oedd braint a bri-ei anian Am enwog farddoni, Mae'r awen a'i haccen hi Man tawel yma'n tewi. (JOHN THOMAS, Pentrefoelas).
[No title]
Un o nodweddion y Blwyddiadur Cynull- eidfaol" sef dyddiadur yr Anibynwyr Cymreig—ydyw'r lie pwysig a roddir i Ffeiriau Cymru." Pa angen sydd am roddi'r fath wybodaeth i bregethwyr yr Ani- bynwyr nis gwyddom, os nad er mwyn eu calonogi i droi at fasnach, am fod y gydna- byddiaeth am bregethu mor fychan yn yr holl eglwysi! Y mae Mr. Austin Jenkins, Cofrestrydd Coleg Caerdydd, wedi cyflwyno ei ymddi- swyddiad. Bydd yn chwith gan lawer ei golli. Y mae wedi cyflwawni gwasanaeth gwerthfawr i addysg yn y ddinas, ac wedi bod yn gyfarwyddwr doeth i do ar ol to o efrydwyr. Ond er yn ymddiswyddo caiff gant a banner o bunnau y flwyddyn o tension- Nid drwg.