Skip to main content
Hide Articles List

2 articles on this Page

TY'R GLEBER.

News
Cite
Share

TY'R GLEBER. [GAN AELOD Y MAESDREFL] Gan fod dyddordeb cyffredinol yn cael ei gymeryd yng ngwaith y Oyngor Cyfansodd- iadol-yr hwn, fel y tybir, sydd i bender- fynnu unwaith am byth safle, neu berthynas, y ddau Dy'r Senedd-y mae'r addewid am adroddiad gan Mr. Asquith ddydd Llun nesaf wedi gordoi pob dadl a phwnc yr wythnos hon. A ydyw'r Cyngor wedi llwyddo yn ei ymdrafodaeth, neu a ydyw'r holl lafur wedi myned yn ofer ? Dyna'r holiadau oedd ar wefusau pawb drwy'r wythnos ac mae -cymeriad, os nad yn wir bodolaeth, y Blaid Ryddfrydig yn dibynnu ar yr hyn gyflwynir gan y Prif-weinidog i'w ganlynwyr nos Lun nesaf. Addaw Gorffen. Sibrydid ar lawr y Ty ddechreu yr wyth- .nos fod ym mryd y Ddirprwyaeth ar yr Eglwys yng Nghymru gyflwyno adroddiad yflawn cyn yr adeg yr ymwahenir dros y gwyliau. Prin yr ydwyf yn credu fod hyn yn bosibl, canys y mae Uiaws o bynciau heb eu penderfynnu eto gan y Dirprwywyr, ac nid rhywbeth i'w ddanfon allan ar antur ydyw adroddiad o fath hwn. Yn wir, os Jiad ydym yn camgymeryd ni welir yr adroddiad allan tan y Nadolig, ac er mwyn sicrhau hynny rhaid i rai o aelodau y Ddir- prwyaeth gydymffurfio ag amryw bethau nad oes a wnelont a phwnc Datgysylltiad yng Nghymra. Y Mesur Cymreig. Mae'n amheus gennym a gyflwynir y Mesur Datgysylltiad hyd nes cael digon o amser i astudio ffigyrau adroddiad y Ddir- prwyaeth Eglwysig, a chan nad oes obaith y gellir gwneud y fath Fesur yn Ddeddf yn ystod y flwyddyn ddyfodol, hwyrach fod aelodau y Ddirprwyaeth yn teimlo nad oes eisieu brysio gyda'r gwaith o gwbl. Clem Edwards. Dyma ddewis-ddyn y Blaid Ryddfrydol ym Morganwg fel yr ymgeisydd am sedd wedi i Syr Alfred Thomas roddi'r goreu i Dy'r Cyffredin. Nid gwr dieithr ym mywyd gwleidyddol Cymru ydyw Mr. Edwards, eithr bu'n aelod am dymor hir tros Fwrdeis- drefi Dinbych, lie y gorfu iddo ddioddef curfa adeg yr Etholiad CyfEredinol ddi- weddaf. Ymysg y rhai oeddent yn cael eu henwi gyda Mr. Edwards oedd Mr. Leif Jones a Mr. W. R. Davies (Pontypridd); ond wedi deall fod y blaid yn bur gadarn o blaid gwr o brofiad Clem, ac fod ei ymgeisiaeth yn cael ei gefnogi gan yr awdurdodau yn Llun- dain, penderfynasant i dynnu eu henwau yn ol ar y funud olaf, ac felly penodwyd ef gydag unfrydedd. Ar ol cael ei ddewis, traddododd Mr. Edwards araith effeithiol o flaen y gynrychiolaeth, a gwnaeth argraff hynod foddhaus arnynt. Jlcn Ymladdwr. Er yr adeg y daeth i'r Senedd gyntaf, nid yw Mr. Edwards wedi bod yn cuddio ei ddoniau. Y mae yn ddadleuydd effeithiol ac yn siaradwr o gryn fri a dylanwad. Yn ystod y Senedd ddiweddaf bu yn ddrain yng ttgobenydd yr awdurdodau yn Downing St., gan eu bygwth yn "barhaus am na roddent y ,lie priodol i Fesur Datgysylltiad. Rhagor na hyn yr oedd yn feirniad craff o'r Blaid Gymreig a'i chynlluniau, ac yn parhau i gondemnio Syr Alfred am ei ddifrawder. Nid oedd digon o "fynd yn yr hen arwein- ydd i foddio gwr o dymer fywiog fel efe ac y Inae'n ddoniol gweled yn awr mai sedd Syr Alfred, wedi'r cyfan, yw ei ddinas noddfa. Un o Foys y South." Gall Mr. Edwards apelio at bobl Morgan wg fel un o wyr y Deheubarth, canys un o fechgyn Sir Faesyfed ydyw. Fel newydd- iadurwr y daeth i fri gyntaf, a thra ar y wasg yn Llundain y dechreuodd gymeryd dydd- ordeb ym mhynciau Llafur. Cymerodd ran flaenllaw yn y streic a gymerodd le yma yn y dociau, yn 1889, ac o'r adeg honno hyd yn awr y mae wedi siarad a gweithio llawer dros hawliau y dosbarth gweithiol. Gan fod pwnc LIafur yn un o bynciau mawr etholaeth Morganwg, bydd Mr. Edwards yn gaffaeliad mawr yn y lie, canys nid yw'r glowyr, gyda phob parch i'r rhai sydd wrth yllyw heddyw, wedi codi arweinyddion disglair hyd yn hyn. Ceir gweled a lwydda Mr. Edwards i roddi ton newydd i'r mudiad llafur yn y rhan hon o'r wlad. Yr Aelodau Newydd. Nid anfantais i Gymru, nac i'r Rhydd- frydwyr, ydyw fod rhai Ceidwadwyr yn aelodau tros Gymru. Rhoddir mantais drwy hyn i ni glywed y ddwy ochr i'r pynciau Cymreig ar lawr y Senedd. Ac mae'r ddau sydd yn y Cyffredin yn awr yn rhai gwir alluog, ac yn Ilawn beiddgarweh. Ceir adroddiad mewn colofn arall o waith Mr. Ormesby Gore yn dadlu yn erbyn Mesur diwygio'r Ddeddf ynglyn a Chau'r Tafardai ar y Sul, ac er fod ei resymau yn ymddangos yn wan a diswmp, rhaid addef fod yn werth i MR. CLEMENT EDWARDS. -C ni glywed y ddwy ochr, er mwyn gwneyd y Mesur mor gadarn ag sydd bosibl. Ddechreu yr wythnos hon bu Mr. Venables Llewelyn, yr aelod Ceidwadol dros y Deheubarth, yn holi yr Ysgrifennydd Cartrefol ar fater y Ddirprwyaeth Eglwysig, gan ofyn pa bryd yr oeddem i ddisgwyl yr Adroddiad hir- addawedig. Yn ei ateb, dywedodd Mr. Churchill fod yr Adroddiad ar fin ei gwblhau, ond fod un o'r aelodau heb ddychwelyd ei nodiadau i'r Cadeirydd, fel ag i sierhau adroddiad unol. Addawodd Mr. Churchill y gwnai ohebu eto i'r Cadeirydd, fel ag i hyrwyddo y gwaith ymlaen Os llwyddir, felly, i gael yr adroddiad yn fuan, y mae pob lie i gredu mai i ofal a sel Mr. Llewelyn yn gwthio yr awdurdodau y mae i ni briodoli byn. Rhifo'r Bobl. Myn yr Arglwyddi gael Cyfrifiad Crefyddol o bobl y deyrnas hon y flwyddyn nesaf. Cymer y Cyfrifiad Cyffredirjol le ddechreu Ebrill, ac yn y papurau sydd i gael eu paratoi yn ystod y gaeaf dyfodol, mae'r Ty Uchaf wedi penderfynnu y dylid cael colofn newydd, yn yr hon y gall pob person ddatgan i ba enwad y mae'n perthyn. Ond ni wneir y mater yn beth gorfodol. Bydd pob un at ei ryddid i ateb y cwestiwn ai peidio, felly prin y credaf y bydd o un lies gwirioneddol. Ar y goreu nis gall rhagor na bod yn fath o gadarnhad i'r ffigyrau a gyhoeddwyd eisoes gan y gwahanol sectau crefyddol. Yr Esgobion Cymreig yn Nhy'r Arglwyddi yw y rhai sydd wedi dadleu daeraf dros y cyf- rifiad crefyddol hwn. Gwyddant hwy yn dda beth fydd y canlyniadau yng Nghymru os cerir y peth i weithrediad. Gwyddant, yng nghyntaf, nad oes neb a hawlia ei fod yn perthyn i unrbyw enwad Ymneilltuol oni fydd yn aelod cyflawn o'r enwad hwnnw. Nid oes hawl gan wrandciwr mewn capel Metho- distaidd neu Fedyddiol i osod ei hun i lawr ar bapur swyddogol ei fod yn Fethodist neu Fedyddiwr. O'r ochr arall, gall pob un, fel dinesydd plwyfol, hawlio ei fod yn aelod o Eglwys Loegr. Yn yr ail le, gwyr yr Esgobion Cymreig yn dda fod adran liosog o'n gweithwyr gwledig heddyw na feiddiant ddweyd ar goedd eu bod yn ddim ond Eg- lwyswyr er nas mynychant un lie o addoliad y naill flwyddyn ar ol y llall. Ond er fod yr Arglwyddi yn awyddus i aicrhau'r cyfrifiad hwn prin yr ydym yn credu y caniateir eu cais gan aelodau Ty'r Cyffredin.

Am Gymry Llundain.