Welsh Newspapers
Search 15 million Welsh newspaper articles
2 articles on this Page
[No title]
MR. MERLIN MORGAN.
A BYD Y GAN.
A BYD Y GAN. fGAN ALAWYDD]. Mr. Merlin Morgan. Deallaf fod Mr. Merlin Morgan yn bwr- iadu ymddiswyddo o fod yn organydd ar Eglwys Charing Cross Road gan fod ei alwadau ar hyd yr wythnos mor lliosog. Mae Mr. Morgan wedi gwasanaethu yr -eglwys hon am flynyddoedd gyda ffydd- londeb mawr, a chwith fydd ei golli o'r "Cylch Cymreig fel un o'r organwyr mwyaf llwyddiannus yn ein mysg. Y Cor Cymreig. Er ymneilltuo o ofal yr ofleryn yn Cbaring "Cross ni chollir gwasanaeth Mr. Merlin Morgan yn llwyr, canys y mae wedi trefnu i gadw y Cor Cymreig i fyned ymlaen fel yr oedd yr hyrwyddwyr wedi addaw ar y ^ychwyn. Ar hyn o bryd ni chynhelir llawer o rehearsals, gan fod tymor y gwyliau ar ddechreu, a phob cyngerdd wedi ei roddi o'r tteilltu yn awr hyd ddechreu tymor y gaeaf. Ar ol ail-ymaflyd a'r gwaith yn yr Hydref bwriedir rhoddi cyngerdd arall o dan reol- .aeth y cor. Diwrnod mawr i blant y Gobeithlu oedd ,dydd Sadwrn diweddaf, pryd y tyrrasant o "ob rhan o'r deyrnas i'r Palas Grisial' i gnu am y goreu, yn ogystal ag i fwvnhau diwrnod hapus yn yr adeilad swynol hwn. Yr oedd rhai o gorau y Deheudir yn cymeryd dyddordeb arbennig yn yr wyl, canys aeth cor o blant Caerdydd yno gyda'r gobaith y Uwyddai i gipio un o'r prif wobrau. Yn ,anffodus curwyd hwy gan gor Reading, a l'haid i blant Caerdydd ymfoddloni ar fod yn ail am y tro hwn. Deallaf fod y canu a'r toefniadau yn hynod o foddhaol trwy y dydd. "oymanfa Gerddorol Harlech. Cynhaliwyd yr wyl ddyddorol hon ddydd Mercher yr wythnos ddiweddaf, a daeth torfeydd o bob cyfeiriad i gymeryd rhan ynddi. Fel yn y blynyddoedd a aethant cynhaliwyd y gymanfa yn yr Hen astell. Cymerwyd rhan gan Gor y Gym- dan arweiniad Mr. 0. 0. Roberts, yr hen arweinydd enwog o Ddolgellau. Cyn- ^ysai y cor oddeutu tri chant ar ddeg o j^isiau o Borthmadog, Blaenau Ffestiniog, iowyn, Dolgellau, Idris, Corwen, Talsarnau, enrhyn, Harlech, Llanegryn, Llan Ffestin- iog, Trawsfynydd, Nefyn, Abermaw, Mach- ynlleth, ac Aberystwyth. Mrs. Mary Davies. Y bencerddes o Lundain oedd yn lly- wyddu cyfarfod y bore, ac wrth anerch y dorf, dywedodd i'r gymanfa ddiweddaf gael ei chynnal yn Harlech bedair blynedd ar hugain yn ol, ac yr oedd y pwyllgor presen- nol yn haeddu clod am ei hail-gychwyn, a rhoi cefnogaeth i gerddoriaeth er ei fwyn ei hun. Yr oedd cystadleuon yn dda ynddynt eu hunain, ond ni ddylid eu defnyddio ond at godi safon cerddoriaeth. Wrth derfynu, dywedodd Mrs. Davies iddi wneud ei hym- ddangosiad cyntaf fel cantores yng Nghymru yng Nghymanfa Harlech, a chredai i Mr. Ben Davies wneud yr un modd. Hyderai y byddai i'r gymanfa fod yn foddion i roi cychwyniad i gantorion ereill yn y dyfodol. Llywyddwyd yn y prydnawn gan Mr. L. J. Roberts, arolygydd ysgolion, a chaed an- erchiad fuddiol ganddo yntau. Canwyd amryw o donau, anthemau, a chydganau o 11 MRS. MARY DAVIES. waith ylcerddorion goreu. Yr oedd y dat- ganiad o'r don Moab yn ardderchog. Ca,torion o Lundain. Yn yr hwyr perfformiwyd y "Messiah" gan y cor, yn cael eu cynorthwyo gan sein- dorf, o dan arweiniad Mr. Vasco V. Akeroyd, Lerpwl. Y prif gantorion oeddynt Madame Laura Evans-Williams, soprano Miss A. E. Davies, Penrhyndeudraeth, contralto; Mr. David Ellis, Llundain, tenor; a Mr. David Hughes, bass. Yr oedd y gynulleidfa mor fawr a'r gwres mor llethol fel y llewygodd amryw o'r merched a'r plant. Llywyddwyd gan Syr Osmond Williams, ac yr oedd Lady Williams ar y llwyfan gydag ef. Yr oedd y canu yn ardderchog, ac nid oes amheuaeth nad yw y gymanfa wedi ail-gychwyn gyda llwyddiant anarfeiol, ac y bydd byw am lawer blwyddyn. Cymro yn ennill bri dros y Werydd. Edrydd y Drych hanesyn am Gymro ieuainc sydd yn ennill bri mawr yng nghylchoedd cerddorol yr America, sef Mr. J. E. Roberts, Rochester, Pa. Brodor o Penrhyndeudraeth ydyw Mr. Roberts, mab David Roberts (Dewi Gerddor), a brawd i Mr. Berwyn Roberts, y baritone o Lerpwl. Aeth Mr. Roberts i'r America yn 1900, a thaflodd ei goelbren yn Beaver, Pa., rhyw 30 milldir o Pittsburg, lie y trigai ei ewythr. Ymhen ychydig wythnosau dewiswyd ef yn organydd ac yn arweinydd y cor yn y Christian Church. Ar y pryd yr oedd yn y cor ddeg o aelodau, na wyddent nemawr i ddim am ganu. Cafwyd gwared o honynt, a dechreuwyd ffurfio cor newydd, gyda phed- war o aelodau. Cyn pen dwy flynedd dechreuodd y cor ddyfod i enwogrwydd, ac aeth ei fri ar led trwy ddyffryn y Beaver. Tyrrai y bobl yno o'r cymydbgaethau cylch- ynol, a phan ddadgenid cantawdau, anhawdd fyddai cael eisteddle yn yr addoldy. Enyn- odd sylw swyddogion y First Presbyterian Church yn New Brighton, ac yno y mae heddyw yn unawdwr tenoryddol ac yn ar- weinydd -y cor, gan ennill y cyflog uchaf a delir yng nghapel Dyffryn y Beaver. < Yn Gyfansoddwr Gwyeh. Y mae yn athraw cerddorol llwyddiannus, a chanddo ddosbarth eang o ddysgyblion. Treulia bob awr hamddenol i gyfansoddi, a'i gyfansoddiadau cerddorol sydd wedi denu sylw a bryd y criticyddion cerddorol, a thalant deyrnged o barch iddo fel cyfan- soddwr diymhongar o alluoedd uwchraddol, gan broffwydo iddo yrfa lwyddiannus ag sydd yn sicr o ddwyn enwogrwydd a bri yn ei rhawd. Ymhlith y gweithiau y cyfeirir atynt y mae yr anthem ganadwy a llyfn, My Defense is of God," yr hoh a gyhoedd- wyd gan Theodore Presser; Peace, Perfect Peace," anthem hymnawl i bedwarawd neu wythawd cymysg a nodweddir gan syml- rwydd a swynder, gydag esgyneb clodus ag y gallai cor o ragor nag wyth o leisiau wneud cyfiawnder ag ef. Yn ei anthem Heaven is my Home," ceir unawd i denor, ac unawd pert i soprano mewn anthem arall, Beloved if God so Loved Us." Heblaw yr uchod, mae Mr. Roberts wedi cyhoeddi hanner dwsin o anthemau ereill, gyda rhagor ar hanner eu gorffen. Ymhlith ei ganigau y mae un ag sydd yn debyg o ddyfod yn bob- logaidd, "My Rose and Song." Mae wedi cyfansoddi amryw o ganigau ereill, ac un- awdau i'r berdoneg, ond cyfrifir yr uchod ymhlith ei orchestion. MR. MADOC DAVIES. Mr. Madoc Davies. Mae Mr. Madoc Davies yn cael ei gydnabod bellach fel un o'r athrawon mwyaf medrus sydd gennym ym myd y gan, a phrawf ei nifer dysgyblion fod gan yr efrydwyr bob ymddiriedaeth ynddo. Nos Fawrth ddi- weddaf, gwahoddodd nifer o edmygwyr cerdd i'w breswylfod, yn 495, Oxford Street,