Welsh Newspapers
Search 15 million Welsh newspaper articles
3 articles on this Page
Advertising
CARMARTHENSHIRE. Parishes of LLMWRDA AND LLANSADWRN. Exceptionally Important Sale of a Charming Freehold Property, Containing nearly 600 ACRES of rich Pasture, Meadow and Arable Lands, and well-cared-for Woodlands, forming an ideal Sporting Estate, overlooking the beautiful Vale of Towy, and most conveniently situated, close to the Llanwrda Railway Station, on the L. & N.W. and G.W. Rail- ways, consisting of 4 large Freehold Farms. 6 Freehold Small Holdings (from 5 to 40 acres), and a valuable Corn Mill. 4 Freehold Accommodation Fields. 12 Freehold Building Sites, in the village of Llanwrda. 7 Freehold Shops and Dwelling Houses, &c. in ditto, comprising altogether 37 SEPARATE LOTS, Which will be offered for Sale by Public Auction, at the TOWN HALL, LLANDOVERY, on FRIDAY, JULY 29th, 1910, at 2 o'clock p.m., by WILLIAM & WALTER JAMES (Fellows of the Auctioneers' Institute). Plans, particulars and conditions of Sale may be had on and after July 14tb, from the Auctioneers, 7, Goat Street, Swansea, and Frondeg, Llangadock, or from Mr. LEWIS BISHOP, Solicitor, Llandilo. UNIVERSITY COLLEGE OF WALES, Aberystwyth (ONE OF THE CONSTITUENT COLLEGES OF THE UNIVERSITY OF WALES). President-THE RIGHT HON. LORD RENDEL. Principal-T. F. ROBERTS, M.A. (OXON.), LL.D. (VICT.). STUDENTS are prepared tor Degrees in Arts, JO Science (including the applied Science of Agricul- ture), Law, and Music. Sessional Composition Fee, 210, with additional Laboratory Fees for Science Students. Registration Fee, 21. Men students reside in registered lodgings in the town, or at the Men's Hostel-Warden: Professor J. W. Marshall, M.A. Women students reside in the Alexandra Hall of Residence for Women-Warden: Miss E. A. Fewings. For full particulars respecting the General Arts and Science Departments, the Law, Agriculture and Day Training Departments, the Department for the Training of Secondary Teachers, and the Hostels, apply to J. H. DAVIES, M.A., Registrar. Wood Green Welsh Baptist Mission, SHAFTESBURY HALL, BRAEMAR AVENUE. Cynhelir Gwasanaeth ar bob Saboth- BOREU, 11.0. HWYR, 6.30. YSGOL am dri y prydnawn. QroQsatD a Zerbyniad Cynnos. All Communications to the Editor or to the Publisher should in future be addressed to "KELT" OFFICE, 302 GRAY'S INN RD., LONDON, W.C. 7 THE "STANDARD MILK CAN. The ean with a Reputation. Special Offer- Half Pints, 6/6 doz. Pints, 7/- „ ■ftfeU Quarts 13/- „ Larger sizes in proportion. The Old-fashioned Hand-made Milk Can that will last. Prompt Deliveries: en the Shortest Notice. Write for Catalogue DAIRY OUTFIT CO., LTD., KING'S CROSS, LONDON. PUBLISHERS' NOTE. The Publishers of "The London Welsh- man and Kelt" will be pleased to hear from any Reader :or Newsagent who ex- periences a difficulty in obtaining this paper. To avoid any delay a standing order should be given to a Newsagent, or at the Railway Bookstall, so that they can make the necessary arrangements to obtain a supply punctually each week.
Y DDWY OCHR.
Y DDWY OCHR. Mae rhyw doa ryfedd o deyrngarwch wedi dod tros. y genedl y dyddiau hyn yoglyn a chodi cofadail i'r diweddar Frenin Iorwerth. Gwelir y Wasg Seisnig yn ein tir megys wedi deffro i'r ffaith nad oes gennym unrhyw sefydliad na chofadail lie y gall Cymry'r oes hon gael cipolwg ar gof- ebau'r Cymry gynt, ac awgrymir ganddynt y gellir cychwyn y fath le gyda phriodoldeb er cof am y Brenin lorwerth! Mae'r syniad mor wrthun a chwerthinllyd i'r Cymro ac y gall fod mor deyrngar ac urddasol i'r Sais. Yr ydym era blynyddau wedi bod yn son am godi coffa i'r Tywysog Llewelyn, yr olaf o Deulu Brenhinol Cymry, ac eto nid oes dim wedi ei wneud, rhagor na phasio penderfyn- iadau; a byddai yn sen oesbl ar ein teyrn- garwch i'r ysbryd cenedlaethol os mai gwr dinod fel lorwerth fydd y cyntaf i gael ei fawrhau gennym. Ac edrych arno o safbwynt yr arwr cenedlaethol, onid gwr hynod o ddinod fu Iorwerth ? Fel ei dad, coffheir am dano gan ei gydoeswyr fel dyn da, o ysbryd heddychol, a thyna'r oil. Beth yw hanes ? holai un o'r awdurdodau goreu yn llenyddiaeth Lloegr, onid adroddiad o fethiantau a chamgymeriadau bywyd?" Ac ni cheir dim o'r rhain a goffhant deyrnasiad Iorwerth i'r oesau a ddel. I'r hanesydd a ddaw ni fydd ei yrfa ond tymor o heddwch dinod. Eithr am hen arwyr y genedl Gymreig, mae eu methiantau yn lleng, a dylem eu coffhau gyda phob parchedigaeth. Ond er gwaeddi am hynny ar hyd y blynyddau, nid oes neb hyd yma wedi Ilwyddo i wneud dim a haedda ei alw yn gofeb teilwng i neb o'r hen arwyr cenedlaethol gynt. Awgrymwyd gan rywrai mai math o ail- adroddiad o Fynachlog Westminster sydd arnom eisieu yng Nghymru er creu brwd- frydedd cenedlaethol yn y to ieuanc sydd yn codi. Gwir y buasai sefydliad parhaol o'r fath yn rhywbeth dyddorol ar ddiwrnod ffair, neu ar rhyw wyl arbennig arall; ond pa leshad yw cael adeilad a bery am oesau, os yw'r genedl ei hun yn graddol ddarfod o'r tir Gwyr y rhai sydd yn adnabod Cymru oreu mai ei gelyn pennaf hi yn awr yw'r Ddarfodedigaeth, ac mai'r angen cyntaf yw sefydlu rhywbeth a rydd adfywiad corfforol i gychwyn ac yna ond cael cenedl iach a chadarn mae gobaith y ceir ychydig adfyw- iad yn yr ysbryd cenedlaethol i ddilyn. Mae pwnc iechyd y Cymro wedi ei esgeuluso yn rhy hir, ac os na wneir rhywbeth i liniaru y dioddefaint yn ein mysg fel pobl, ni fydd angen am adeiladau na chofebau i ddangos i estroniaid pwy fu gynt yn noddwyr i'r genedl fu'n preswylio yng Nghymru! Syniad hapus, felly, o eiddo yswain ieuanc Llandinam yw cael rhyw adeilad, neu ysgol, a rydd i bobl ieuainc Cymru wersi mewn deddfau iechyd, a chyfleustra i gael ym- wared o'r gelyn difaol pan yn dechreu ymaflyd yn eu cyfansoddiadau. Ac mae'n hen bryd i Gymru ddysgu rhywbeth am yr ochr allanol, a'r presennol, ynglyn a bywyd. Am dros ganrif o amser y mae wedi cael arweiniad doeth a diogel am yr ysbrydol a'r dyfodol, ond tra y bu ein pregethwyr a'n diwygwyr crefyddol yn pwysleisio am genhedlaethau eu gwersi pwysig hwy, wele bentrefi afiach yn codi a phreswylfeydd i heintiau yn britho ein cym- moedd wrth y miloedd. Gadawai'r awdur- dodau lleol i bobl breswylio mewn cytiau ydynt yn warth i wareiddiad, a megid plant yn ardaloedd y glofeydd mewn hofelau nas gallai creaduriaid y maes breswylio ynddynt yn hir heb nychu i farwolaeth. A'r hyn sydd ei angen pennaf heddyw ydyw cyfle i wella'r allanolion, ac ond sicrhau hyn y mae gobaith y gwelir cenedl y Oymry eto yn genedl gref ac iachus, ac nid rhyw eiddilod diswmp fel ag a geir ymhob cynulliad o Gymry heddyw. Os oes coffa Iorwerth i fod, gwneler hynny mewn modd y gall yr oes a ddel edrych ar ei goffhad yn rhywbeth fu o les parhaol i ni fel pobl ac fel gwlad.
[No title]
Bwriada aelodau y Ddirprwyaeth ynglyn a'r Eglwys yng Nghymru i gyfarfod yn Llundain ddydd Mercher nesaf i ystyried yr "adroddiad," yr hwn sydd ar fin cael ei gyhoeddi. Bu Esgobion Llanelwy a Ty Ddewi yn siarad yn Nhy'r Arglwyddi nos Fawrth ddi- weddaf. Gwneud cais oeddent am ofyn i bob un yn y cyfrifiad cyffredinol nesaf i ddweyd i ba en wad crefyddol y perthynai.