Skip to main content
Hide Articles List

2 articles on this Page

LLE'R BREGETH YN EIN HEGLWYSI.

News
Cite
Share

LLE'R BREGETH YN EIN HEGLWYSI. Dylid rhoddi lie pwysig i bregethu yn y byd. Dyma'r prif foddion a ordeiniodd y Gwaredwr i achub y byd ac i adeiladu ei eglwys. Pregethwr oedd Efe ei bun, ac i bregethu yr anfonodd ei ddeuddeg dysgybl mor fuan ag y cafodd hwy yn ddigon egwyddorol eu hunain i ymddiried y gwaith iddynt. I rai amcanion yr ydym yn barod i gydnabod fod yr argraph-wasg yn gyfadd- asach, a'i ddylanwad yn eangach. I ddysgu gwleidyddiaeth, hanesiaeth, a'r celfau a'r gwyddorau manwl, y wasg sydd gymhwysaf. Llyfr sydd oreu i astudio unrhyw beth y mae eisieu hamdden i sefyll uwch ei ben a manylu arno. Ond, i apelio at yr holl ddyn, y deall, teimlad, a'r ewyllys, i dynu sylw yr anystyriol, i ddeffro yr enaid cysglyd, i greu ffvdd lie nad yw, a'i chryfhau lie y mae- mewn gair i achub pechaduriaid-pregethu yw y moddion effeithiolaf. Pregethwyr yr Oesau Gynt. Yr ydym yn gweled mai trwy bregethu yr Efengyl yn ei phurdeb gan ddynion llawn o'i hysbryd y cafwyd pob diwygiad mawr y bendithiwyd y byd a'r eglwys ag ef. Yn gynar yng nghanrifoedd cyntaf Cristionog- aeth yr ydym yn darllen am bregethu grymus Chrysostom ac ereill, yn yr Eglwys Ddwyreiniol; ac Awstin a'i gydweithwyr yn yr Eglwys Orllewinol, yn creu cyfnod newydd yn y ddwy eglwys hynny. Trwy bregethu Luther a Chalvin a Knox a'u cydweithwyr y cafwyd y Diwygiad Protestanaidd; a thrwy bregethu y ddau Wesley a Whitfield a'r diwygwyr Cymreig y dygwyd o gwmpas y Diwygiad Methodistaidd. Gadwer i bregethu ynte ei le, y lie a roddir iddo yn y Testament Newydd. Gan y lliaws o swyddogion ac aelodau un blaid grefyddol yn y deyrnas hon nid yw y bregeth braidd yn dyfod i'r cyfrif o gwbl, ac y mae anwybodaeth, cysgadrwydd meddwl, a ffurfioldeb yn dilyn. Hen Gewri Cymru Fu. Yr ydym ni fel cenedl, ac hwyrach y goddefir i mi ddweyd, nid fel Methodistiaid yn arbennig, wedi cael ein bendithio, o leiaf yn y blynyddoedd sydd wedi myned heibio, a gweinidogaeth eithriadol gref. Dynion anghyffredin fel pregethwyr a ddefnyddiodd yr Ysbryd Glan i roddi cychwyniad i ni fel Cyfundeb, ac wedi hynny i beri ein cynnydd. Un felly oedd Howel Harris. Yn y cyfnos tywyll, pygddu, Fe ddaeth dyn fel mewn twym ias, Yn llawn gwreichion goleu tanllyd, 0 Drefecca fach i maes. Pan ofynodd y diweddar Dr. Owen Thomas i hen wr yn ardal y Drefnewydd, a fuasai ym moreu ei oes yn gwrandaw Harris, pa fath bregethwr oedd, "W el," meddai, "yr oedd y dyn hwnnw yn dweyd am uffern fel pe buasai o wedi bod ynddi hi." Pregethwr hynod oedd Daniel Rowland, y pregethwr mwyaf yn Ewrop," meddai Jones, Llangan, am dano mewn Ilythyr o'i eiddo at Lady Huntington. Pregethwyr eithriadol rymus, drachefn, oedd Dafydd ac Ebenezer Morris. Morrisiaid mawr lesu." Mynai un dyn ar ol gwrandaw Robert Roberts, Clynog, mai angel oedd, ac nid dyn. A dywedai Dafydd Cadwaladr ar ol gwrandaw John Elias, pan nad oedd ond ychydig o fisoedd oed fel pregethwr, "Yr Arglwydd a'i cadwo i ddweyd y gair. Y mae y bobl yn rhwym o goelio pob peth a ddywedir ganddo." A chofia y niter fwyaf ohonom ni yn dda am ^Edward Mathews, Owen Thomas, David Saunders, John Hughes, Caernarfon a Thomas Charles Edwards. Ai gormod dweyd y rhoddwyd i Gyfundeb bychan y Methodistiaid Calfinaidd y pregethwyr efengyl goreu a gafwyd er dyddiau yr apostolion ? Pregethwyr yr Oes Hon Ond, meddir o bosibl, beth am bregethu a phregethwyr y dyddiau hyn? Ymha le y mae y pregethwyr sydd yn awr o'u cymharu a'r pregethwyr a In? Cyn ateb y cwesti- ynau yna, y mae gennyf un neu ddau o bethau i'w dweyd (1) Nid oedd yr oil o'r tadau yn wyr cedyrn. Eithriadau oedd y dynion yr ydym newydd eu henwi yn eu hoes hwythau. (2) A chaniatau nad yw gweinidogaeth y pregethwyr sydd yn awr mor effeithiol a'r eiddo y tadau, ac nis gallwn wadu ysywaeth, nad felly y mae ond a chaniatau hynny, ai nid yw y gwrandawyr wedi newid, hefyd ? Nid ymysg erlidwyr y cawn ni y dynion caletaf, eithr ymysg y rhai sydd wedi eu dwyn i fyny yn swn yr efengyl a chynefino a hi. Pe medrai ein ffyrdd a'n hystrydoedd siarad, hwy ddywedent nad ydym ni, dynion yr oes hon, o lawer cyn drymed a'r bobl oedd yn rhodio ar hyd-ddynt pan oeddynt hwy yn newyddion fod y rhai hynny yn gadael ol eu traed yn ddwfn ar eu holau, tra nad oes yr argraff leiaf wedi ei gadael ar ol tyrfa ohonom ni. Yr ateb yw, newyddion ac heb galedu oedd y ffyrdd pan yn derbyn argraff ddofn, ond wedi caledu trwy eu mynych fathru y maent yn awr; dyna paham na dderbynient argraff. Y mae y dynion mor drymion yn awr a'r pryd hwnnw. Hwyrach y gellir amddiffyn pulpud yr oes hon i ryw raddau ar yr un tir. Pobl wedi cynefino a'r efengyl hyd at ymgaledu yw ein gwrandawyr. Yn Fwy Dysgedig Mewn rhai pethau, yr ydym yn gyfartal i'n tadau, ac yn rhagori arnynt. (1) Y mae gweinidogaeth y dyddiau hyn yn llawer mwy dysgedig nag yr ydoedd hanner cant, ac yn enwedig gan' mlynedd yn ol. Ac y mae yn anhebgorol angenrheidiol iddi fod felly, pe na byddai ond am y cynydd sydd wedi bod ymysg ein gwrandawyr, heb son am y gelynion i'r efengyl y mae galw arnom yn awr ac yn y man i'w hateb. (2) Yr ydym yn dal gafael yr un mor gadarn a hwythau yng ngwirioneddau mawrion y drefn i gadw, a hynny gyda'r golygiadau cliriach ac eangach a gyhoeddir gennym ninnau. Nid ydym ni yn ymrwystro gydag ystyr y geiriau "Dwy- fol waed, iawn, cydbwys, marw dros bawb," etc. (3) Pellach na hynny, y mae ein pregethau fel cyfansoddiadau ar bapur yn well na'r eiddynt hwy. Ond os yw y pregethau yn well, y mae y pregethu yn waelach. Paham ? le, paham ? Yma yr ydym yn dyfod o hyd i'n gwendid. Rhaid i ni addef ein bod yn llai na'r tadau mewn nerth, a hynny drwy nad ydym mor argy- hoeddedig a hwy am bwysigrwydd ein cenadwri, nac mor awyddus a hwy am ei gweled yn ateb diben. Yn Llai Ysbrydol Mewn gair, y mae ynom lai o ysbryd y weinidogaeth nag oedd ynddynt hwy—llai o ing am gadw dynion. Beth bynnag oedd eu diffygion, yr oeddynt hwy yn angerddol o ddifrif, ac am hynny yn nerthol trwy Dduw. Dylem ninnau fod felly. Ac y mae ein hamgylchiadau presennol ni yn ein galw yn arbennig i fod felly. Y mae y dyfodol pell yn glir. Nid oes berygl na wel yr lesu o lafur. ei enaid nes ei diwallu." Ond beth am y dyfodol agos? Yr ydym ni wyneb yn wyneb a dynion sydd yn dysgu nad yw pechod ond gwendid anosgoadwy creadur; nad yw ond ymofyniad-trwsgl mae'n wir- am Dduw, ac hwyrach yn gam mewn dad- blygiad. Myn ereill mai anwybodaeth, ac anwastadrwydd cymdeithasol cymdeithas ydyw hanfod trueni y byd ac y mae y nifer sydd yn credu ac yn dysgu hynyna yn lliosogi. Ai nid yw hyn yn ein galw i ddifrifwch, ac i ddysgu i ddynion bethau amgen? Y mae drwg y byd yn ddyfnach na'i anwybodaeth, ac yn ddyfnach na'i dlodi, ac yn waeth na'i fychandra. Ac i ddyfod yn nes adref, y mae y cynnydd mawr fu ar ein nifer yn adeg y diwygiad yn parhau i gael tolli arno. Ugain Mil o Wrthgilwyr Dywed yr ystadegau eleni fod niter ein cymunwyr yn llai o 808 na'r flwyddyn flaen- orol, a 4,606 nag oeddynt bum' mlynedd yn ol; a'r nifer a wrthgiliodd yn y pedair blynedd diweddaf yn 20,609. Ac nid yw gysur yn y byd mai yr un gwyn sydd gan enwadau ereill. Gwir mai adweithiad yr adfywiad ydyw, ond y mae yn bruddaidd meddwl am dano. Yr oedd yr apostol Paul yn rhybuddio yr Ephesiaid a dagrau. Pa fodd y gwnawn ni gyda'n gwrandawyr ? Ofni yr wyf-gobeithio fy mod yn cam- gymeryd-nad oes digon o ddifrifwch, nid o fygwth, nac o bruddglwyfedd wyf yn feddwl, ond o earnestness yn ein pregethau. Na chamgymerer fi. Nid hoenusrwydd, na humour" o fewn terfynau wyf yn feio. Gall yr humour mwyaf byw, a'r earnest- ness mwyaf angerddol gydfyw. Martin Luther oedd un o'r dynion hoenusaf yn Germany; ond a oedd ar gyfandir Ewrop ddyn mwy o ddifrif ? Tybiaf fod cysgod humour mewn mwy nag un o sylwadau y pregethwr difrifolaf a fu yn y byd erioed Edrychwch ar adar y nefoedd, oblegid nid ydynt yn hau nac yn medi, nac yn cywain i ysguboriau." A phwy o honoch gan ofalu a ddichon ychwanegu un cyfudd at ei faint- ioli? Ystyriwch lili y maes, nid ydynt yn llafurio nac yn nyddu." "Chwi a delwch fwy na llawer o adar y to." Mwy o earnestness a llai o "humour" Fy mrodyr ieuainc, gwnewch eich pregethau mor bert a chywrain ag a mynoch. Y mae llawer sylw wedi ei gadw ar got am yr un rheswm ag y cadwyd Moses yn fyw- am ei fod yn dlws. Ond gwyliwch roddi achlysur i ysgafnder. Gwareder ni rhag y pregethwr y mae y bobl yn disgwyl am dano i beri iddynt chwerthin. Gyda dysgeidiaeth well, pregethwch hen efengyl dydd y Pente- cost, hen efengyl y Diwygiad Protestanaidd, hen efengyl Trefecca, Llangeitho, a Green y Bala, a hynny gydag eneidiau wedi eu trwytho yn y gwirionedd. Yr hyn sydd ar ol ym mhregethau y blynyddoedd hyn ydyw ysbryd y weinidogaeth. (Y Parch. Francis Jones, Abergele, yng Nghymanfa y Methodistiaid.)

Advertising