Skip to main content
Hide Articles List

4 articles on this Page

Am Gymry Llundain.

News
Cite
Share

Am Gymry Llundain. PARATOI. Mae'r trefniadau gogyfer a thymor y gaeaf eisoes yn dwyn ffrwyth. Mae Cymdeithas Lenyddol Jewin Newydd wedi cyhoeddi rhaglen yr Eisteddfod fawr gynhelir yno yn niwedd Tachwedd nesaf, ac mae'n llawn o destynau sydd yn debyg o apelio at Gymry ieuainc llengar y ddinas hon. GWIBDAITH Y TYLAWD.—Ynglyn a'r ad- roddiad yn ein rhifyn diweddaf dylasem nodi fod y pump cenhadwr yn bresennol. At y rhai a enwyd gennym yr oedd Mr. Davies, o'r Boro', ysgrifennydd gweithgar y mudiad, a Mr. Davies, Wood Green. Hefyd y gantores fu'n swyno'r dorf ar y maes gyda'i chaneuon oedd Miss Marguerite Evans, Falmouth Road (ac nid Miss Morgan). Da yw deall i'r holl drefniadau ynglyn a'r wyl brofi yn llwyddiant mawr. EGLWYS ST. BENET.—Mae y Parch. J. Crowle Ellis, Ficer St. Benet, wedi bod yng Ngogledd Cymru yn mwynhau ychydig seibiant ar ol ei anhwyldeb diweddar, a hyderwn y daw yn ol yn fuan wedi ennill llawer o nerth. Gwasanaethwyd yn ei le gan y Paifch. L. D. Thomas, Ficer gweithgar Eglwys St. loan, Plumstead. Er mai yn Saesneg y gwasanaetha Mr. Thomas, mae ei Gymraeg yn loew iawn. Nos Sul nesaf gwasanaethir gan y Parch. H. Watkins, B.A., caplan yr East End. Y DIWEDDAR DR. W. E. JONES.—Un o aelodau parchus yr Eglwys yn St. Benet oedd y diweddar Ddr., a chwith gan lawer o'i gydnabod fydd clywed am ei farw sydyn. Cymerwyd ef yn glaf wythnos i'r Llun diweddaf. Gwnaed operation (appendicitis) arno ddydd Mawrth, ond bu farw boreu Mercher, a chladdwyd ef ddydd Sadwrn, yr oil mewn llai nac wythnos er yr amser yr oedd yn ei sedd arferol yn yr eglwys nos Sul, Mehefin 26ain. Chwareuwyd y Dead March in Saul nos Sul diweddaf gan yr organydd er coffa bychan am gyd-aelod mor ddisglaer ei dalentau. ARWERTHIANT FFERMYDD YN SIR. ABER- TEIFI.—Gwelwyd nifer o Gymry Llundain mewn arwerthiant o nifer o ffermydd yn Tregaron ddydd Mawrth diweddaf, ac wedi cystadleuaeth galed prynwyd fferm o'r enw Llanerchgoch rhwng Llangeithio a Penuwch, gan Mr. Dan Williams, 137, King's Cross Road, am £867. GWASANAETH GWYL DEWI.—Mae'r cyfeill- ion ynglyn a'r Wyl Gymreig yn Eglwys Gadeiriol St. Paul, yr hon a gynhelir y tro nesaf ar nos Fawrth, Chwefror 28ain, 1911, wedi sicrhau y Parch. T. Jesse Jones, M.A., Ficer Gelligaer, i fod yn bregethwr; a seindorf y Grenadiers, dan arweiniad Dr. A. Williams, i gynorthwyo gyda'r cor yn y mawl. Y CYMMRODORION.-Ar wahan i'w gwasan- aeth i lenyddiaeth a hanes Cymru, y mae Cymdeithas Anrhydeddus y Cymmrodorion yn fawr ei bri fel elfen bwysig ym mywyd cymdeithasol y Cymry yn Llundain a phrofodd hynny nos Fawrth ddiweddaf drwy wahodd arweinwyr ein cenedl i ymgomwest fawr yn Neuadd y Drapers, yn Throgmorton Street. 0 wyth o'r gloch hyd tua hanner nos yr oedd y cannoedd yn dylifo i'r lie ac er fod y noson yn hynod ystormus, daeth cynulliad rhagorol i gymeryd rhan yn y gweithrediadau. Gan fod Neuadd y Drapers yn un o'r rhai harddaf yn y ddinas, yr oedd pawb ar eu goreu ym mwynhau y darluniau a'r cywreinion celfyddydol oedd yn y lie. Croesawyd y gwahoddedigion gan Arglwydd Tredegar, ar ran y Gymdeithas, a chan Dr. K. R. Fletcher, pennaeth Urdd y Draperiaid, ar ran perchenogion y neuadd. Cynorthwyid y rhai hyn gan Syr John Rhys, Dr. Henry Owen, Syr Vincent Evans, ac ereill o swydd- ogion y Gymdeithas. GYDA'R CWMNI.—Pwy oedd yn bresennol ? Mae'r rhestr yn rhy faith i'w henwi, ond yr oedd arweinwyr y cylchoedd masnachol a chrefyddol o'r byd Cymreig yno, heb son am aelodau Seneddol rai, a phroffeswyr o bob gradd. Trefnwyd pob math o foethau ar eu cyfer, yn ogystal a gwledd o gerddoriaeth nodweddiadol o honom fel Cymry. Yn y brif ystafell, 'roedd cerddorfa swynol yn chwareu yn ystod y noson, ac mewn ystafel] arall cafwyd alawon Cymreig gan Miss Megan Evans, Miss Marguerite Evans, Mr. David Evans, a Mr. W. Douthitt, a chyfeiliwyd iddynt gan Mr. David Richards a Madame Clara Novello Davies. Hefyd, adroddwyd darnau yn hynod o swynol gan Miss Ethel Humphreys. Ar derfyn y wledd talwyd diolch cynnes i'r Drapers am fenthyg y neuadd, ac am eu croesaw rhagorol, ar ran y Gymdeithas, gan Arglwydd Tredegar a Dr. Henry Owen. PENODIAD I GYMRO.—Bydd cyfeillion Mr. J. S. Williams, o Marshall & Snelgrove, yn falch i glywed ei fod wedi cael penodiad pwysig fel prynwr mewn firm arall yn y Brif-ddinas. Mae Mr. Williams yn adna- byddus i gylch eang yn ei fasnach, ac ymhlith Cymry ieuainc y dref; a dymunir am bob llwydd iddo yn ei faes newydd. CYFARFOD SEFYDLU.—Nos Fawrth a dydd Mercher yr wythnos hon bu cyfarfodydd sefydlu y Parch. S E Prytherch—gynt o Falmouth Road-yn Eglwys M.C. Llanbedr- Pont Stephan, Ceredigion. Cymerwyd cryn ddyddordeb yn yr amgylchiad gan y cyfeill- ion yn ei gylch newydd, a bu'r odfaon yn llawn ac yn hwyliog iawn. Ar ran C.M. Llundain bu'r Parchn. J. E Davies, M.A, a G H. Havard, B.D., a Mr. Morgan, o eglwys Falmouth Road, yn ei gyflwyno. Cymerwyd rhan gan y Parchn. W. Prytherch, Abertawe, a Rees Morgan, Llinddewi-brefi, yn ogystal ag amryw o Weinidogion perth- ynol i'r enwadau ereill yn y dref. Y PARCH. ELWYN THOMAS.-Siom a thrist- wch i Eglwys Anibynol Norwood, Lerpwl, ydoedd yr awgrym a glywodd o enau ei bugail, y Parch. H. Elwyn Thomas, gynt o Tolmers Square, Llundain, nos Sul diwedd- af, sef y byddai'n terfynnu ei gysylltiad gweinidogaethol yno tis Medi nesaf a hynny oblegid rhybudd y meddygon mai gwell iddo fyddai peidio enbydu ei iechyd drwy wynebu gaeaf arall mewn hinsawdd cyn oered. Fel y gwyddis, dychwelodd Mr. Thomas o'i chwe mis encil yn yr Aifft, lie y cafodd adnewyddiad nerth a hoen. Y mae agos bum mlynedd er pan yr aeth i Lerpwl yn ddilynydd y cennad aur-ennau Thomas Yates. Derbyniwyd yr ymddiswyddiad gyda gofid dirfawr, a phasiwyd fod ei gydnabydd- iaeth i'w thalu'n llawn hyd diwedd y flwydd- yn. Y mae Mr. Thomas yn hysbys i'r Cymry fel pregethwr coeth, gafaelgar; fel dar- lithydd hyddysg a thryfwl o ffraethineb ac fel awdwr nofelau o'r eiddo ei hun cystal a chyd-awdwr a'r diweddar Watcyn Wyn, ffraeth ei bin a Chymraeg ei anian.

NODIADAU LLENYDDOL.

Y DYFODOL.

A BYD Y GAN.