Skip to main content
Hide Articles List

2 articles on this Page

A BYD Y GAN.

----TY'R GLEBER.

News
Cite
Share

TY'R GLEBER. [GAN AELOD Y MAESDREFI] Wythnos ddyddorol fu hon yn y byd gwleidyddol. Bu sibrwd ar y dechreu fod y Cyngor sydd yn ystyried hawliau Ty'r Arglwyddi, wedi troi yn fethiant, ac nad oes obaith y gellir cael un math o gytun- deb ar seiliau cyfeillgar fel hyn. Cyn byth yr ymedy y Ty Uchaf a'i hawliau tybiedig rhaid i'r werin eu mynnu trwy nerth braich. Y mae'r awgrymiadau a wneir yn awr ac eilwaith gan amryw o'r arweinwyr yn ffafriol i'r syniad o fethiant, a phrin y credwn fod y Rhyddfrydwyr yn cadarnhau eu safle os yn -eytuno i ohirio y dyfarniad hyd ryw amser amhenodol, a hwythau eisoes yn gwybod mai ofer hollol fydd yr holl ymdrafodaeth O'r ochr arall hwyrach fod y sibrydion hyn yn anamserol ac y gellir drwy ryw gynllun benderfynnu ar lwybr canol a'u harweiniant allan o'r helynt. Mae disgwyl pryderus am y dyfarniad, ac addewir y ceir datganiad Ilawn gan y Prif Weinidog cyn y gohirir y Senedd dros wyliau Awat. Y Gyllideb. Yn ychwanegol at y dyddordeb ynglyn a'r Veto hwyrach mai Cyllideb Mr. Lloyd George oedd yr hyn barodd fwyaf o siarad yr wyth- nos hon. Profodd y Canghellor ei hun yn feicstr ar ei dasg, ac mae'r Gyllideb wedi •cael derbyniad hynod o boblogaidd gan bob dosbarth-ag eithrio'r dafarn. Yr hyn barodd syndod ynglyn a hi oedd y ffaith na wnaeth Mr. George unrhyw gyfnewidiad yn llhollau'r diodydd meddwol. Yr oedd y Wasg Doriaidd wedi bod yn awgrymu am gytundebau cudd cydrhwng y Weinyddiaeth a'r Gwyddelod, ond prawf y Gyllideb hon nad oes un math o fargeinio wedi cymeryd lIe o gwbl. Saif yr holl dollau yn yr unfan, ac mae'r cynllun a ddechreuwyd mor feidd- gar y llynedd gan Mr. Lloyd George i bar- fiau mewn grym am flwyddyn arall. Nid syndod felly fod yr wrthblaid yn wangalon 3c fod y cri yn erbyn y tolIau anghyfiawn wedi llwyr gilio o'r tir. Y Rhagolygon. Er mai proffwydo dinystr wnaed gan yr "Wrthblaid y llynedd pan yn condemnio y Gyllideb yr oedd yn hapus clywed y Cang- hellor yn son am welliantau wrth adolygu gwaith y flwyddyn; a rhagor na chanmol y -canlyniadau, proffwydai y deuai amser braf i asnach a phopeth yn ystod y flwyddyn oedd I ddyfod. Yr oedd rhagolygon masnach am eleni," meddai, "yn rhagorol, a'r flwydd- yn nesaf hyderai y byddai masnach yn well II ag y bu erioed yn hanes y wlad. Yr oedd Prinder gwaith yn darfod yn raddol. Yr un a-mser y llynedd, yr oedd cyfartaledd yr ang- kyflogedig yn wyth y cant, yn awr nid yw ond pedwar y cant. Yr oedd yr oil o'r toethi a'r tollau oeddynt yn dangos oreu gyflwr masnach yn ffynnu, felly yr oedd ef 1 w gyfiawnhau dros wneud ei amcangyfrif ar y dybiaeth y bydd i'r gyllid chwyddo drwy gynnydd masnach." 'Gofalu am yr Hen. Er fod y tollau i aros fel y maent, nid yw'r Llywodraeth yn aros yn yr unfan. Y Mae un bendith i'r hen a'r methedig eto i'w gweled ynglyn a'r Gyllideb hon. Fel y gwyddis, ni roddid blwydd-dal ond i'r hen :cedd heb gael elusen, yn ol y Ddeddf a basiwyd ar y cychwyn ganddynt. Wedi gweled y canlyniadau yr oeddent yn barod i ,ad-drefnu y cynllun, ac ar ol y laf o lonawr nesaf rhoddir blwydd-dal i bob un oedd Wedi cael cymorth plwyfol hyd yn awr. °lygai yr ychwanegiad hwn gynnydd o ddwy filiwn a hanner o bunnau yn y draul, a diau y trefnir cynllun i gyfarfod a'r cyn- nydd haeddiannol hwn. Ar y cyfan yr oedd ,Y Gyllideb yn gampwaith, ac nid oes unrhyw berygl y condemnir y trefniadau gan yr Arglwyddi y waith hon. Pa Ie mae'r Cymry ? Nid yw'r aelodau Cymreig wedi bod yn selog iawn dros eu presenoldeb y dyddiau hyn. Cynrychiolir y blaid gan rhyw hanner dwsin o'r rhai mwyaf ffyddlawn, ond nid yw'r cydweithrediad a ddylasai fod i'w weled yn y blaid ar hyn o bryd. Mae nifer o fan achosion wedi digwydd y gallesid creu cynnwrf, sef ynglyn a phenodiad swyddogion dwyieithog i brif swyddi ein gwlad. Buwyd yn holi y Postfeistr Cyffred- inol beth amser yn ol, ond nis gallasai hwnnw weled fod un rheidrwydd cael swyddogion dwyieithog i brif drefi y Dywys- ogaeth. Pan gafwyd cyfle i brotestio yn erbyn y syniad nid oedd un o'r aelodau yn ddigon gwrol i wneud hyn. Er hynny da gennym ddeall i Mr. Ellis W. Davies a dau neu dri ereill wneud math o brotest egwan cyn diwedd yr wythnos ynglyn a phenod- iadau ereill, ac fel ffrwyth i'w protest hwy y gwelir rhai cyfnewidiadau cyn bo hir. MR. WILLIAM BRAOE, A.S. Diogelu'r Glowr. Un o'r aelodau hynny sydd yn gweithio yn ddistaw dros ei etholwyr a'i ddosbarth ydyw Mr. William Brace, ac ar un neu ddau o achlysuron yn ddiweddar y mae wedi bod yn pleidio dros y glowr ar lawr Ty'r Cyff- redin. Nid ydyw safle'r gweithiwr yn ardal y glofeydd yr hyn ddylai fod, ac mae'n gofyn am ofal parhaus i ddiogelu ei fywyd, ei gyflog, a'i oriau gwaith. Bwriedir yn awr benodi nifer o swyddogion i archwilio y gwahanol weithfeydd yn y Deheubarth, a myn yr aelodau Cymreig fod y rhai a ben- nodir yn abl i siarad y ddwy iaith fel ag i ymgynghori a'r gweithwyr yn ogystal ag a'r meistriaid. Mae'r Ysgrifennydd Cartrefol wedi addaw rhoddi ystyriaeth briodol i'r pwnc, ac ond i'r aelodau gydweithio a Mr. Brace, ac ereill o gynrychiolwyr Llaf ur, y mae gobaith y caiff y Cymry eu lie haeddiannol yn y swyddau hyn. Manion Buwyd yn sibrwd yr wythnos ddiweddaf fod Mabon i gael ei benodi yn fath o oruch- wyliwr ar ran y llywodraeth. dros ardal y gweithfeydd glo yn y Deheudir. Mae Syr A. M. Mond yn parhau i gymeryd dyddordeb ym mhynciau Cymreig, ac mae mor ffyddlon yn ei bresenoldeb yn West- minster ag unrhyw un o'n haelodau. Ni welwyd ond tri neu bedwar o'r aelod- au yng ngwyl y Cymmrodorion nos Fawrth ddiweddaf. Bu raid i'r Canghellor aros yn y Ty, ond daeth Mrs. Lloyd George yno i fwynhau y wledd a baratowyd.