Skip to main content
Hide Articles List

2 articles on this Page

TY'R GLEBER.

News
Cite
Share

SYR J. PRICHARD-JONES, BARWNIG. TY'R GLEBER. [GAN AELOD Y MAESDREFI ] Y Cyngor Cyfrin. Beth ddaw o'r Cyngor sydd yn ceisio n penderfynnu gwaith a dyledswyddau Ty'r Arglwyddi ? Myn rhai ddarogan mai gwas- toatf ar amser ydyw'r cyfaa, ac na Iwyddir byth i gwtogi dim ar hawliau y Ty Uchaf loild drwy orfodaeth lem, ond ceir ereill yr Un naor barod i gredu fod ychydig o synwyr cYffredia yngweddill ymhlith mawrioa ein gwlad, fel y gwelant mai doethach fydd dyfod 1 delerau ya hytrach na gorfodi y werin i hawlio eu ddiddymiad yn Ilwyr ar adeg yr y C5 Etholiad Cyffredinol nesaf. Gan fod rhai o arweinwyr yr Arglwyddi eu hunain yn cyd- nabod gwendid eu safle, diau y llwyddir i €ymodi y gwahanol farnau ac y cytuair ar lvvybr canol a alluoga'r Rhyddfrydwyr i fyned ymlaen a'u cynlluniau deddfol megys ynt. Nid yw'r ymdrafodaeth i'w wneud yn gyhoeddus, ac ni chaiff y wlad gyfle i ddim lloiid i roddi barn ar adroddiad y Prif Wein- Idog, yr hyn a obeithir a wneir yn gyhoedd- ar lawr Ty'r Cyffredin cyn adeg ymwa- hanu dros wyliau Awst. Ac os deuir i gytundeb ar y trefniadau, mae pob argoelion y gwelir Senedd-dymor yn yr Hydref fel ag a gaed y flwyddyn ddiweddaf. 'Creu Arglwyddi Newydd. Ar un wedd mae'r Weinyddiaeth yn drych yn anghyson a hi ei hun. Sonia un cyfeiriad am ddiddymu Ty'r ^rglwyddi, tra ar yr ochr arall wele hi yn nifer o Arglwyddi o'r newydd. Gwir 0c* y Rhyddfrydwyr yn unol dros gwtogi gallu y Ty Uchaf, ond hyd nes y gwneir hyn, ofer yw anwybyddu ei fodolaeth. Ac mae'n 1'heol gan y naill blaid a'r llall i ddewis nifer bersonau sydd yn hawlio neu yn haeddu ^tlau, a'u cyflwyno i ystyriaeth y brenin ar ^egau arbennig bob blwyddyn. Ac mae'r ^estr a gyflwynwyd yr wythnos ddiweddaf ddyddorol dros ben. Yn y lie cyntaf, y^chefir saith o bersonau i blitb. urddasol- |°n y Uchaf, ac mae'r saitti yn gymer- adau teilwng o fri ac anrhydedd y safle Newydd yn eu hanes. Gwir nad oes yr un saith yn Gymro; er hynny, nid llai eilwrig ydynt o roddion y teyrn drwy ei ^y^ghorwyr. Yn ychwanegol at y rhai hyn Penodwyd pump yn aelodau newydd o'r a^rin-gyng°r, unarddeg yn farwniaid, a deg- ^gain yn farchogion, heb son am nifer o n*r°ddion ereill! arw arWnig Cymreig. Dn o'r newyddion mwyaf poblogaidd ymhlith Cymry'r ddinas oedd deall fod Mr. Prichard-Jones wedi cael ei le haeddiannol ar yr achlysur presennol! Am ei nawdd- ogaeth i len ac addysg Cymru," meddai'r hysbysiad swyddogol, y cyflwynwyd yr an- rhydedd hwn arno; ac nid oes neb yn y blynyddoedd diweddaf hyn wedi gwneud yn rhagorach na Mr. Pritchard Jones yn y cyfeiriad hwn. Nid yn unig ynglyn a mud- iadau Cymreig y ddinas hon y gwelid Mr. Jones yn cymeryd rhan amlwg, eithr ym mhrif fudiadau ei genedl, lie nad oedd rhag- furiau enwad neu blaid yn un rhwystr ar y ffordd. Un o fechgyn Sir Fon yw'r Barwnig newydd, a daeth i Lundain yn gynnar yn ei yrfa i wneud ei fare fel dyn o fusnes. Wedi gwasanaethu am flynyddau fel clerc siop, daeth yn un o berchenogion y ffirm Dickens a Jones, Regent Street, ac mae bri y masnachdy hwnnw yn hysbys i bawb drwy'r ddinas heddyw. Brodor o Niwbwrch ydyw, ac mae ei frodyr a'i berthynasau yn aros mewn parch yn yr hen ardal o hyd. I ddangos ei gariad at ei fangre enedigol beth amser yn ol, sefydlodd Ddarllenfa hardd a nifer o elusendai rhagorol, y rhai a gostias- ant dros 123,000. Yn ddiweddarach dan- gosodd ei haelioni trwy gyflwyno mil o bunnau i gronfa Ooleg Prifysgol Bangor yn 1902, ac ychwanegodd ddwy fil arall yn SYR J. D. REES, AS. 1907, pan fu'r lireuin Iorwerth yno yn gosod cerryg sylfaen yr adeilad newydd. Y llynedd penderfynodd ddangos ei gariad at addysg a'i hoffder at Goleg Bangor trwy addaw neuadd addas ynglyn a'r lie newydd, yr hyn a gyst tua phumtheng mil o bunnau, a sicr y cedwir ei enw mewn coffhad yn hir fel y gwr a ddygodd brif faich y coleg rhagorol hwn. Syr J. D. Rees." Fel un o gefaogwyr pennaf y llywodraeth yn yr India, cyflwynwyd y teitl o K.C.S.I. ar yr aelod dros Fwrdeisdrefi Maldwyn. Gwr o haniad Cymreig ydyw Mr. J. D. Rees, ac wedi gwneud enw iddo ei hun fel swyddog a barnwr yn yr India, lie y bu yng ngwasan- aeth y goron am flynyddau lawer. Ar ol ymneilltuo o faes ei lafur, wele ef yn cymeryd rhan yng nghyngorau gwleidyddol ei fam- wlad, ac er yn cynrychioli Oymru, eto yn parhau i gymeryd dyddordeb neilltuol yn holl fudiadau Iadiaidd y wlad hon. Mae yn wr craft us fel trefnydd, yn hyddysg yn holl fudiadau y pleidiau Indiaidd, ac er yn siaradwr parhaus, yn ddyn ag y bydd raid gwneud sylw o hono o hyn allan. Yn ol ei deitl newydd bydd yntau yn hawlio y cyf- archiad cydnabyddedig i Farchogion y deyrnas hon. Yn ychwanegol at y rhai hyn mae dau neu dri o fan swyddogion Ileol wedi derbyn anrhydedd yn ol hawliau eu gwa- hanol swyddi. D.A." yn gwrthod "Syr." Un o'r aelodau mwyaf talentog fu erioed dros ran o Gymru yw Mr. D. A. Thomas. Mae yn siaradwr hyawdl, yn wleidyddwr craff, yn alluog iawn mewn cylchoedd mas- nachol ac yn wr o ddylanwad ymhlith uchelwyr y deyrnas. Er hyn oil y mae yn gorfod cydnabod fod ei yrfa seneddol wedi troi yn fethiant Beth sydd i gyfrif am hyn ? Ored ef ei hun mai'r hen syniad nad oes le i fasnachwr yng nghyngorau ein Gweinyddiaeth, ac mai cyfrinfa i gyfreith- wyr yn unig ydyw. Gall fod peth gwir yn hyn; ond credaf, o'r ochr arall, fod a fynno D. A. ei hun a'i aflwydd. Rhyw gritic parhaus yw yr aelod dros Gaerdydd wedi bod ar hyd yr amser. Nid yw wedi ceisio at gyflawni yr un gwaith mawr gwrol, eithr boddlona ar fan fudiadau a chodi man an- hawsterau ar y ffordd pan fo rhyw fater gwir bwysig yn dyfod ger bron. Yn ei araith yr wythnos ddiweddaf cyhoedda D. A. ei fod yn bwriadii ymneilltuo cyn bo hir, ac yna bydd raid i Gaerdydd edrych allan am gynrych- iolydd arall yn y man. Mae'n debyg i'r Weinyddiaeth geisio cydnabod dylanwad D. A. drwy gynnyg rhyw fath o anrhydedd iddo. Beth oedd yr anrhydedd nis gallaf ddweyd i sicrwydd, ond os mai Syr yn unig gynygiwyd iddo, nid yw yn syndod gennyf iddo ei wrthod, canys ni wnai dim llai na sedd yn Nhy'r Arglwyddi foddloni yr aelod uchelgeisiol o Gaerdydd. Chwith fydd ei golli o'r cylch Cymreig, ond yn sicr rhaid i ni gael gwr a gydweithia yn well nag efe pan yn dewis olynydd iddo ar ran prif ddinas y Deheubarth.

[No title]