Skip to main content
Hide Articles List

3 articles on this Page

Y PRYDFERTH MEWN CREFYDD.

News
Cite
Share

Y PRYDFERTH MEWN CREFYDD. Gwir fod Mr. Lloyd George yn cael ei gydnabod yn weinidog," ond nid yn ami y clywir am dano yn derbyn cyhoeddiadau.yn y pulpud Cymreig. Ond dyna fu ei hanes y Sul diweddaf, canys efe oedd pregethwr mawr" oedfa'r prydnawn yng nghapel Castle Street, lie y mae mor gartrefol bob amser a phe ar ei aelwyd ei hun. Gwyl Sul y blodau oedd yr atyniad yn Eglwys Castle Street, ac mae'r Canghellor yn hen gyfarwydd a bod yn llywydd ar un o'r cynulliadau yn yr wyl flynyddol hon. Eleni eto llwyddodd i roddi ei bresenoldeb ar yr achlysur, a'r canlyniad fu i'r neuadd a'r capel gael eu llanw ag edmygwyr y gwron Cymreig a charedigion yr achos yn y lie. Pwysleisio'r wedd genhadol wneir ar adeg yr wyl hon. Dechreuwyd gyda chyfarfod gweddi yn blygeiniol iawn, ac yna rhoddwyd boreufwyd i bawb oedd wedi dyfod ynghyd. Yn odfa'r boreu cafwyd araith gan un o genhadaseu y Bedyddwyr, ac yna bregeth amserol gan y Parch. Herbert Morgan. Yn y prydnawn trefnwyd cyfarfod dan nawdd yr Ysgol Sul, ac yn hwn llywyddwyd gan y Canghellor. Yr oedd y lie yn orlawn, a threfnwyd rhaglen o gan ac anerch. Yr unawdwyr oeddent Miss Winifred Lewis, Miss Mildred John (ar y crwth), a Mr. Ivor Walters, tra y rhoddodd y cor, dan arwein- iad Mr. J. Nicholas Lewis, ddatganiad pryd- ferth o un o'n hanthemau goreu. Gan fod y capel wedi ei addurno mor swynol a blodau, yr oedd naws hafaidd ar yr holl gyfarfod. Traddodwyd arawd ar y Blodau fel yn portreadu y prydferth yn ein crefydd gan Mr. J. Hughes, a bodd- lonodd y Canghellor drwy wneud cym- hwysiadau pellach ar rai o sylwadau oedd yn y papur a ddarllenwyd. Crefydd a lie i flodau ynddi, ebai Mr. Hughes, oedd Cristionogaeth. Y mae mwy o brydferthwch, mwy o naturioldeb, mwy o dynerwch, a thiriondeb, mwy o sirioldeb a gobaith yn perthyn iddi nag i un grefydd arall. Crefydd heb flodau oedd crefydd yr Hen Destament. Gwelodd eu beirdd 61 dwylaw Duw ar y greadigaeth-y nefoedd yn datgan ei ogoniant, y ffurfafen yn mynegu gwaith ei ddwylaw, ond ni welsant Dduw yn y blodau. Gardd heb flodau ynddi oedd Gardd Eden. Ond pan wnaeth yr Arglwydd Iesu ei ymddangosiad, dangosodd Ef i'r byd law Tad yn paentio'r lili. Ystyriwch lili y maes," &c., dygodd bethau tlysaf, ceinaf natur, a phethau tlysaf, prydferthaf y natur ddynol i ddangos i'r byd y fath un ydyw Duw. Y mae blodau wedi cael lie amlwg yn llenyddiaeth Cymru. Y mae beirdd Cymru am yn agos i chwe chanrif wedi bod yn ymhyfrydu canu am flodau a dail. Apostol prydferthwch oedd Dafydd ap Gwilym cyfnod digon tywyll ar amryw o ystyron, oedd y cyfnod y bu ef fyw ynddo rhwng Llewelyn ap Gruftydd ac Owen Glyndwr. Cyfnod tywyll yn hanes crefydd ydoedd. Yr oedd y Ffransisciaid a'r Dominisciaid—y Brodyr Ilwydion a duon, urddau fuont yn fawr eu sêl dros burdeb crefydd, a gwnaeth- ant lawer dros grefydd-erbyn hyn wedi dirywio, heb fawr yn aros ond ffurf a defod, a seremoni wag. Crefydd y mynachdy a'r lleiandy oedd crefydd yr oes crefydd heb le i flodau ynddi. Yr oedd dydd pethau gwell gerllaw yr oedd dydd John Wicliff yn ymyl- Seren foreu y Diwygiad. Ete oedd y cyntaf yn y wlad hon i gyfieithu y Beibl i iaith y bobl. Mewn nos lied ddu, ynte, yr ymddangosodd seren ddisglaer Dafydd ap Gwilym yn nurfafea llenyddiaeth ein gwlad, i gyfeirio meddwl y genedl at geinder a thlysni. Mae yn amlwg fod Dafydd ap Gwilym yn ddyn crefyddol: iaith crefydd yw iaith ei ddisgrifiadau o aderyn a llwyn. Mae y fwyalchen, y ceiliog bron- fraith, yr eos gefnllwyd ysgafnlef i gyd yn moli eu Creawdwr. Yn ei Gywydd i'r Hedydd dywed:- Dysgawdwr mawl rhwng gwawl a gwyll Disgyn nawdd Duw ar d' esgyll; Maled pob mad greadur Ei Greawdr pefr Lywiadr pur. Er yn ddyn crefyddol fe ddaeth i wrthdarawiad ag awdurdodau crefyddol ei ddydd Safai ef dros natur- ioldeb a chydymdeimlad mewn crefydd ac yn erbyn gorthrwm llys eglwysig. Yr oedd am le i'r prydferth mewn crefydd. Y mae yn annerch Ileian yr oedd yn anaturiol i ferch, meddai Dafydd, gau ei hun i fyny yn ei chell. Gwahodda hi i blith y blodau a'r dail i syllu ar dlysni anian yn y gwanwyn. Meddai- Paid er Mair, a'r pader main, A chrefydd myneich Rhufain Na fydd leian y gwanwyn Gwaeth yw lleianaeth na llwyn. Dyred i'r fedw gadeiriog, I grefydd y gwydd a'r gog Ac yno ni'n gogenir Ennill Nef yn y llwyn ir. A chadw i'th got lyfr Ofydd A phaid a gormod o ffydd. Ninau gawn yn y gwynwydd Yn neutu'r allt, enaid rhydd. Canlyniad rhoddi mynegiant i syniadau o'r fath yna fu i Dafydd dynnu'r brawd du a'r brawd llwyd yn ei ben. Meddai- "Yna cefais druth atcas Gan y brawd a'r genau bras." Dywed y brawd du wrtho, mai y tan aniffoddadwy fydd ei ran, os na ddiwygia. Os yw yn rhaid i ti gael canu i ferch," meddai, paham na baet yn canu i Mair ? Paham y defnyddi dy awen i foli dyn gwell yw moli Duw na mawlhau dyn. Paham y rhaid i ti fod yn wahanol i feirdd ereill." Yr oedd am i Dafydd fod fel lolo, hen fardd y fro. Yr oedd lolo yn hen fachgen hawdd ei drin, mae'n debyg. Tybiaf mai gwr mwyn, tawel, hafaidd ei ysbryd, oedd Dafydd eto, mae'n amlwg ei fod wedi colli ei dymer gyda'r brawd du. Meddai- Cosbwr y marwol bechawd Casbeth gennyf bregeth brawd." Dal i ganu mae Dafydd ap Gwilym er pregeth ac er bygythion y brawd du. Canu am y dail a blodau dolydd, ymhyfrydu mewn ceinder a thlysni. Gwell ganddo ef addoli Duw yn y llwyn ir na gwisgo poen- wisg yng nghell y mynach ni fynnai gredu fod cariad yn bechod a thlysni yn beth i ymochel rhagddo. Y mae yr hen gweryl rhwng Dafydd ap Gwilym a'r brawd du, i raddau mwy neu lai, yn myned ymlaen o hyd trwy'r canrifoedd. Hwyrach mae Piwritaniaeth sydd wedi bod y dylanwad cryfaf yng nghrefydd Cymru. Dynion rhagorol oedd y Piwritaniaid-yr hen Anghydffurfwyr Cymreig-dynion oeddynt a chenadwri oddiwrth Dduw i'w hoes. "Lief Duw yn Ilif o dan" ar eu gwefusau. Hwy fu'n deffro'n cenedl i deimlo hawliau Duw ar fywyd ac ymarwedd- iad. Eto, crefydd heb le i flodau ynddi oedd crefydd y Piwritan. Wrth gau'r prydferth allan o'n crefydd yr ydym yn gwneud i ffwrdd ag un o'r nerthoedd cryfaf mewn bod. Y Beirdd onide, sydd yn gweled y prydferth-hwy sydd yn casglu'r blodau. Ond mae y beirdd wedi cyfansoddi eu darnau mwyaf gorchestol pan o dan ddylanwad teimlad dwys ac angherddol— rhywbeth wedi digwydd yn eu bywyd a'u profiad, oedd wedi eu cynhyrfu i waelodion eu bodolaeth. Cyfansoddodd Teunyson ei "In Memoriam pan wedi colli ei gyfaill mwyaf mynwesol. Cyfansodd- odd Islwyn ei Ystorm "—y darn mwyaf gorchestol o farddoniaeth yn ein hiaith, mi gredaf-pan oedd ef ei hun yn yr ystorm yng nghanol profiad chwerwaf ei fywyd. Cyfansoddodd Ceiriog un o ddarnau tlysaf yr iaith, Ti wyddost beth ddywed fy nghalon," pan oedd sibrwd ei fam wedi cyffwrdd tannau tyneraf, dwysaf ei enaid. Mae yr un peth yn wir am emynau Pantycelyn ac Ann Griffiths. Pa ddwysaf ac angherddolaf teimlad y bardd, tlysaf oil fydd ei flodau. Prawf hynyna fod y gallu i weled y pryd- ferth, i ymhyfrydu yn y tlws a'r cain, yn un o reddfau dyfnaf ein bodolaeth. Rhaid felly ei bod yn un o'r rhai cryfaf. Dylanwad distaw ydyw dylanwad prydferthwch, ond nid yw yn llai nerthol oherwydd hynny. Yr ydym ni yn "yr oes hon yn credu llawer iawn mewn swn. Rhyfedd gymaint o egni sydd yn cael ei wario i wneud twrw. Oes yr hysbysebu ydyw hon, oes udganu a churo tabur- ddau. Ni fyn pobl gredu fod dim gwaith yn cael ei wneud os na bydd swn. Yn y byd gwleidyddol fe ddywedir wrthym fod yr arweinwyr yn ceisio dyfod i ryw benderfyniad ar un o bynciau dyrus y dydd. Maent wedi penderfynu gweithio'n ddistaw. Rhyfedd yr helynt mae hynny yn achosi. Myn rhai nad oes dim yn cael ei wneud, nas gellir gwneud dim tra mae ereill yr un mor sicr, fod pob egwyddor yn cael ei gwerthu, pob deddf yn cael ei thorri. Mae distawrwydd yn mynd ar nerves pobl y dyddiau hyn. Nid oes swn gan brydferthwch. Credwn y caiff y prydferth ei le mewn crefydd, oblegid bywyd prydferth oedd bywyd ei Sylfaenydd. Yr oedd yna rhyw dawelwch urddasol ynglyn a'r Arglwydd lesu. "Ni waedda, ni ddyrchafa, ni phair glywed ei lef yn yr heolydd." Ni byddai Ef byth yn hysbysebu, byth yn udganu o'i flaen. Fe ddaw crefydd yn brydferthdch o yfed yn helaethach o ysbryd ei Sylfaenydd. Mae angen am y Piwritan a'i sel ysol dros burdeb moes a rhodiad addas, ond yn sicr y mae yna le hefyd i'r tyner a'r tlws. Y dyn sydd wedi syrthio ymysg lladron, yn gorwedd yn archolledig ym min y ffordd, wedi cael t i drin yn arw yn ei frwydr ag amgyichiadau'r byd, neu ynte wedi ei glwyfo yn dost yn y frwydr a'i bechod, bamariad trugarog yn unig fedr ddangos Duw i ddyn felly. Gadewch i ni gael crefydd eang ei golygwedd, crefydd yn llawn naturioldeb, crefydd yn llawn cariad a thosturi, tiriondeb a thyiierwch, yn llawn daioni a chymwynasgarwch—yr egwyddorion hynny ac sydd megys peraroglau yn natur Duw ei hun. Blodau hyfryd Wisgo'r cdat ar f,,l y nef. Ar derfyn y papur addefai Mr. Lloyd George fod Mr. Hughes wedi dangos cryn feidd- garwch. Efe oedd y cyntaf i godi Dafydd ap Gwilym i'r pulpud, ond yr oedd llawer o addasrwydd yn y dewisiad, canya Dafydd oedd y pennaf o apostolion prydferthwch yn ein llenyddiaeth. Adgofiai'r dyfyniadau o Ap Gwilym ef am edmygia-d George Borrow o'r bardd Cymreig. Ac os oedd rhywrai yn bresennol heb ddarllen Borrow anogai hwy ar bob cyfrif i wneud hynny. Mynnai rhai beirniaid ddweyd mai bardd mewn cariad 3 Morfudd oedd Dafydd, ond yn ei gywydd gwahawdd i'w fun ni cheir ond molawdau i'r coed, i'r awel, i'r daran, i'r blodau, heb son am Forfudd, ac nid rhyfedd i Borrow waeddi allan-nid addolwr o Forfudd ydoedd eithr addolwr o natur a'i cheinder 'Roedd yn llawen ganddo glywed yr apel am wneud ein crefydd yn fwy pryd- ferth. Cul yw y ffordd," medd yr hen ddywediad, ond nid oes yr un ffordd yn rhy gul nas gellir plannu blodau ar hyd ymyl y llwybr. Ofnai ef fod llawer o'r prydferth wedi ei yrru ymaith gan yr hen dadau Piwritanaidd. Dyna ei brofiad personol ef, canys dygwyd fi i fyny," meddai, "gyda'r sect fanylaf o addolwyr. Prin y cydna- byddent werth yr Ysgol Sul am nad oedd son am Ysgol Sul yn y Beibl, eto coffa da am yr hen Biwritaniaid hyn. Maent wedi gweled eu camsyhiad erbyn heddyw, ac wedi deall y rhaid gwneud crefydd yn beth atyn- iadol i'r plant os am gadw y plant o fewn y corlannau. Ac o ran hynny dylid gwneud crefydd yn atyniadol i bawb o honom, canys plant ydyw llawer o honom ar ol tyfu i fyny. Nid oes ond y prydferth i'w weled ym mhob man yn natur. Er teithio ar draws cyiandiroedd ni welir unman nad yw Haw y Oreawdwr wedi bod ar ei oreu, a chan mai ei law Ef sydd wedi gwneud y cyfan, y mae y syniad o gau y prydferth allan o grefydd yn gwneud cam ag awdwr crefydd, ac mae yn llawenydd gennyf ein bod ni, unwaith mewn blwyddyn o leiaf, yn ad-uno'r blodau a'n crefydd ar brydnawn Saboth hapus fel hwn. Yn oedfa'r hwyr pregethwyd i gynulleidfa fawr eto gan y Parch. Herbert Morgan, B.A., a chafwyd gwasanaeth hwyliog drwyddo. Rhoddwyd y casgliadau am y dydd i'r Zenana Mission, a gefnogir gan enwad y Bedyddwyr.

YR EITHINEN.

[No title]