Welsh Newspapers
Search 15 million Welsh newspaper articles
3 articles on this Page
Advertising
TZETIE CENTRAL I INSURANCE COMPANY, LIMITED. GUARANTEED BY THE HiteriMffl antr Hontron aub Oilahe insurance ata. 1 f Assets exceed £ 11,000,000. I FIRE. BURGLARY. J WORKMEN'S COMPENSATION. PERSONAL ACCIDENT. THIRD PARTY INDEMNITY, Including Driving Accidents. PLATE GLASS. I LOSS OF PROFITS. I KINDLY § attention is called to the Company's FORE- I MOST" Personal Accident & Disease Policy, which WRITE FOR I provides for Free Medical Attendance of Assured's I DDftQPPrTlK I own Doctor» ,n addition to the usual Compensation FKUbPfcClur* I for Accidents and Diseases. Office for THE LIVERPOOL & LONDON & GLOBE for ———— L I F E ———— INSURANCE. Head Office: 1, CORNHILL, LONDON, E.C. (\ HUGH LEWIS, Manager & Secretary. THE "STANDARD" MILK CAN. The 12an with a Reputation. Special Off er- Half Pints, 6/S doz. Pints, 7/- Quarts 13/ 6,, OUTFIT C-1- Larger sizes in The Old-fashioned Hand-made Milk Can that will last. Prompt Deliveries on the Shortest Notice. Write for Catalogue DAIRY OUTFIT CO., LTD., KING'S CROSS, LONDON. D. GOOKSEY & SON, Inexpensive and Modern Funerals. Cremation. Country Burials, &c. (Price; List on application.) 366, UPPER STREET, ISLINGTON, and 62, AMWELL STREET, PENTONVILLE Carriage Department 97, CHAPEL STREET Telephone Nos. 30 and 601, NORTH. The Editor invites correspondence. All letters must be signed with the full name of the writers and the address must also be given, not neces- sarily for publication, but as a guarantee of good faith. UNIVERSITY COLLEGE OF WALES, Aberystwyt. (ONE OF THE CONSTITUENT COLLEGES OF THE UNIVERSITY OF WALES). President-THE RIGHT HON. LORD RENDEL. Principal-T. F. ROBERTS, M.A. (OxoN.), LL.D. (VICT.). STUDENTS are prepared tor Degrees in Arts, U Science (including the applied Science of Agricul- ture), Law, and Music. Sessional Composition Fee, 210, with additional Laboratory Fees foi Science Students. Registration Fee, 21. Men students reside in registered lodgings in the town, or at the Men's Hostel-Warden: Professor J. W. Marshall. M.A. Women students reside in the Alexandra Hall of Residence for Women-Warden: Miss E. A, Fewings. For full particulars respecting the General Arts and Science Departments, the Law, Agriculture and Day Training Departments, the Department for the Training of Secondary Teachers, and the Hostels, apply to J. H. DAVIES, M.A Registrar.
__._----_--_--_____--CYMRU…
CYMRU A'R PULPUD. A barnu oddiwrth yr ystadegau a g) f- Iwynwyd yng Nghymanfa lfynyddol y Metho- distiaid Calfinaidd yng Ngbastellnedd yr wythnos hon y mae cyflwr crefyddol y genedl ar y goriwaered. Cadarnheir hyn gan gyfrifon yr holl enwadau Ymneilltuol, ac mae'n hen bryd i'n harweinwyr roddi yr ystyriaeth ddyladwy i'r sefyllfa ddifrifol ynglyn ag eglwysi ein gwlad. Addefir gan y Cyfundeb Methodistaidd ei hun fod dros ugain mil o aelodau wedi gwrthgilio yn ystod y pedair blynedd diweddaf hyn, a deallwn fod yr un gwyn ynglyn a'r enwadau ereill. Yn ei araith o'r gadair ceisiai'r Llywydd am y flwyddyn ddweyd nad yw'r pulpud ei hun yn cyfateb a gofynion yr oes, ac os oes gwir yn hyn y mae'n werth i'r awdurdodau ymholi a oes modd cael diwyg- iad, ac a fyddai cyfnewidiad cynllun ynglyn a'r fugeiliaeth yn foddion effeithiol i wrth- weithio yn erbyn y trai mawr hwn. Ein perygl fel crefyddwyr ydyw credu fod y sefydliad a'r trefniadau yn berffaith ym mhob dim; a chan ei fod wedi ateb y diben mor rhagorol yn yr oesoedd gynt ei fod yn bopeth ellir ddymuno i gyfarfod a gofynion y byd yn yr oes hon. Addefai y Llywydd fod mwy o ddiwylliant yn y pulpud heddyw nag erioed yn ei banes, eithr gofidiai ar yr un pryd nad oedd mor ddylanwadol yn ei genadwri. Nid oedd gennym y to hwnnw o bregethwyr allent dynnu gwlad gyfan ar ei gliniau, a'r rheswm am hynny oedd ein bod yn rhy barod i wneud y capel yn fath o chwareudy, lie y ceir darlithoedd cywrain a mwynhad llenyddol am awr o amser. Gwir fod angen codi safon y pulpud; er hynny, credwn mai cam yn ol fyddai rhedeg i eithafion yn ol traed yr hen gewri gynt. Nid yr un yw meddwl y werin heddyw a'r hyn ydoedd ganrif yn ol. Mae diwylliant ac addysg wedi newid gwedd y gwrandawyr yn ogystal a safon y pregethwyr, ac mae lie i ofni mai nid arwain y bobl wna'r pulpud, eithr canlyn o hirbell a mabwysiadau y cyn- lluniau newydd gyda hwyrfrydigrwydd bob amser. Torri tir newydd oedd dirgelwch llwyddiant yr hen gewri, ac hyd nes y ceir to arall o gewri a fyddant barod i arwain y lluoedd i feusydd newydd o feddwl a phorth- iant ysbrydol, ofnwn mai cynyddu wna nifer y gwrthgilwyr y naill flwyddyn ar ol y Hall. Tra y parheir i edrych gyda gwg ar y pregethwyr mwyaf Rhyddfrydig eu syniadau, ac y parheir i lynnu wrth hen gredoau yr oes o'r blaen, ofer meddwl am sicrhau cefnogaeth yr ieuenctyd, y rhai sydd yn dyheu am ryw arweiniad a ddengys iddynt fod yn werth byw yn dda yn y byd hwn er mwyn sicrhau y bywyd gwell a addewir i gredinwyr ar ol eu myned tu hwnt i'r lien. Hyderwn y caiff y mater amserol hwn ei sylw priodol ar fyrder yn ein gwlad cyn y daw dydd galar yr enwadau, ac y gofidir fod Ysbryd yr Arglwydd wedi cilio o'r tir."
[No title]
Dydd Iau diweddaf cyhoeddwyd Eis- teddfod fawr Caerfyrddin. Mae arwyddion fod Mr. Alfred Mond, yr aelod dros Abertawe, yn datblygu i fod yn fwy o Gymro na'r aelodau Cymreig eu hunain. ———— Y Prifathro Owen Prys fydd llywydd Cymanfa Gyffredinol y Methodistiaid Calfin- aidd am y flwyddyn nesaf.