Welsh Newspapers
Search 15 million Welsh newspaper articles
5 articles on this Page
Advertising
«■ ■»> try DAIRYMEKT SUPPLIED tat M II I # In any part of London and Suburbs with ll/l I I U RICH, GOOD KEEPING MILK IVI I I ft DIRECT FROM THE FARMS. H W fl HI g V Over 50,000 Samples tested annually in our Laboratories. WHOLESALE ONLY. DAIRY SUPPLY CO., LTD" Chz"if Office: MUSEUM ST., LONDON, W.C
Arholiad yr Orsedd.
Arholiad yr Orsedd. Wele'r merched a'r meibion sy wedi llwyddo i basio arholiad yr Orsedd mewn lien a chan URDD BARDD Owen Robert Owen (Glanffrwd), 7, Green Terrace, Ebenezer, Caernarfon; Tom Evans (Obeli), 274b, St. Paul's Road, Highbury, Llundain; E. Myfyr Evans (Myfyr), Athrofa'r M.C., Aberyst- wyth R. R. Parry (Brynala), Bryn Ala, Gwalch- mai John Charles Jones (Glan Dulyn), 4, Eifion Terrace, Tal y Sarn; Nantlle. URDD OFYDD Parch. T. E. Gravell (Erasmus Gravell), Cold Inn, Begelly, Penfro: Miss Maggie Richards (Megan Dwyfor), Tir Bach Isaf, Llanys- tumdwy; Miss Emily Thomas, Isfryn, Hendy, Pont ar Dulais. URDDAU CERDDOROL: Pencerdd Miss Gwladys Pritchard (Pencerddes Llwyfo), 290, Anfield Road, Liverpool; David Evans (Pencerdd Elidir), Ty Coch, Dinorwig, Llan Beris. CERDDOR: Cadwaladr Williams (Alaw Eifion), 17, Chapel Street, Porth Madog. CERDD OFYDD: Robert Hugh Roberts (Alaw Meirion), 60, Tennyson Street, Liverpool; Caradog Jones (Alaw Berwyn), 3, Berwyn Street, Carrog, Corwen; Samuel Roberts (Alaw Alltud), 83, Breeze Hill, Walton, Liverpool John Ifor Jones (Alawydd Fferws), College Green, Hendre Road, Pant y Ffynnon. Y rhai'n oedd yr arholwyr :— Bardd Yr Archdderwydd, Pedrog, a Gwili. OFYDD Berw, Dewi o Geredigion, a Tryfan. CERDDOROL: J. H. Roberts, Mus Bac., Lerpwl; J. T. Rees, Mus.Bac., Aber Ystwyth; a L. J. Roberts, M.A. Arwisgir yr ymgeiswyr llwyddiannus yn yr Orsedd agored yng Ngholwyn Bay. Yr Eisteddfod Genedl- aethol, Dydd Iau, Medi 15. [Eijionydd Caernarfon, Cofiadur yr Orsedd.']
Advertising
H. WILLINGS & CO., Recognised Agents & Valuers to the ltfilk Trade, 125, FLEET STREET, E.C. TELEPHONE: 150 HOLBORN. Stepney, E.—Great bargain. Only £36. Doing 3t barns daily at 4d. and E20 shop trade. Rent only 12s., 1-t off yard at 6s. Pram, and all utensils, for £ 36. Call at once, ti. Willings & Co. Kilburn. near—13—14 bariis dy 4d. on one pram shop 912-Ell week net rent £L3 p.a.; washes 3s. A very cjmpact and profitable coiie t-ii. 9350. Ealing, near-22 barns dy. at 4d. on 2 prams; zC14 shop trade very nice shop, house, dairy, &c.; rent 245; lease 217 years wages 26s. Price £ 600. Miss 6EINWEN VRIeB (Medallist R.A.M.), RECITER. At Homes, Concerts, Banquets, etc. For Terms and Vacant Dates apply- 93, CAMBRIDGE GARDENS, N. KENSINGTON, W. YN Y WASG, AC YN BAROD YN FUAN, 50 O DONAU CYNULLEIDFAOL ar Emynau Adnabyddus a Cbynefin GAN T. VINCENT DAVIES. PRIS: Hen Nodiant, 2s.; Sol.ffa, Is. 6d. Telerau Neilltuol i danysgrifwyr o 6 copi ac uchod. Esiamplau o 12 o'r Tonau (Hen nodiant yn unig heb y geirian) i'w cael ar dderbyniad dau stamp Id. gan yr Awdwr, 31, LUCERNE ROAD, HIGHBURY, N. THE LONDON WELSHMAN AND KELT Official or Leg_'ll Announcements, Profes, sional Notices, Company Prospectuses, &c.- will be charged at the rate of Sixpence a line per insertion. Eight lines to the inch. It circulates among the 50,000 Welsh residents in London, and has. a large and influential circulation throughout Wales and the Provinces. The only Welsh Paper Published in London EVERY SATURDAY. ONE PENNY.
"CYMRU A'R WYBODAETH NEWYDD."
"CYMRU A'R WYBODAETH NEWYDD." A oes llai o esgusawd tros weithredu yn anghyfiawn wedi ein hysbysu mai nid Moses ysgrifenodd y Pum Llyfr ? Ai hawddach byw yn heddychol a'n gilydd os credwn na thaflwyd Jonah erioed i fol y morfil ? A ydyw aflendid a godineb yn fwy ffiaidd ac atgas wedi ein hysbysu na ddal- iwyd y wraig mewn godineb ? Methaf yn glir a gweled fod y goleuni newydd deflir ar y pethaf awgrymir uchod yn tueddu, mewn unryw fodd, i ddyrchafu a chyfoethogi bywyd Cymru, yn gymdeithasol, foesol, neu ysbrydol. Ac os yw y pregethwr yn credu nad ydynt, peidier a'i feio am wrthod pre- gethu yr hyn na chred. Gall ftorddio pre- gethu egwyddorion teyrnas Dduw, hyd yn oed ar ol edrych, o'i fyfyrgell, ar feirniaid America, yr Almaen, a Lloegr, yng ngyddfau eu gilydd. Dywedaf eto, gyda'r pwyslais nawyaf a allaf, Nid swydd y pregethwr fel pregethwr, ydyw cyhoeddi, egluro, beirniadu neu gondemnio y Wybodaeth Newydd. Cadwed y Pulpud ei draddodiad fel ffynnon cysur, ffynhonell nerth a mangre ymgeledd i enaid yn chwilio am ei Dduw. Ymha le, ynte, y dylai arweinwyr crefydd gyflwyno y Wybodaeth Newydd i sylw'r bobl ? Mewn llawer lie. Yn gyntaf ac yn bennaf, trwy y Wasg. Fel y dengys "M C." yn ddeheuig iawn, mae Gwasg Lloegr wedi gwneud, ac yn gwneud, gwaith aruthrol yn y cyfeiriad hwn. Ceir llyfrau Seisnig yn rhwydd ac yn rhad yn taflu goleuni ar unryw gangen o'r Wybodaeth Newydd. Paham nad yw yr un peth, i raddau, yn bosibl yng Nghymru ? Ym- ddengys i mi fod rhai awduron Cymreig yn disgwyl Cymro fod yn ddigon crefyddol i dalu dwbl gwerth eu llyfr. Hwyrach fod a Wnelo pwnc y cylchrediad rywbeth a hyn. Ond os wyf yn deall arwyddion yr amserau yn iawn, mae marchnad i lyfrau o'r natur yma yng Nghymru ar hyn o bryd. Ym- hellach, rhaid ein bod yn neilltuol o dlawd fel cenedl os nad oes yn ein plith ddynion digon galluog a dysgedig i gyfansoddi, yn Gymraeg neu yn Saesneg, lyfrau pwrpasol a phriodol ar gyfer y, gynhedlaeth sydd yn codi. Credaf, fel "M. C. mai trychineb sydd yn aros enwadau crefyddol ein gwlad, Os na lwyddir i arwain meddwl ieuenctyd yr eglwysi i dir scr a diogel. Rhaid cael COstrelau newyddion i ddal a chadw y gwin newydd. Dyledswydd yr eglwysi, trwy eu graddedigion a'u dysgedigion, ydyw dar- paru y costrelau. Dylai pob esboniad gyhoeddir dan nawdd y gwahanol gyfun- debau amcanu dod i fyny a safon beirniad- aeth yr oes; a dylai pob llaw-lyfr fod yn ddigon cryf ac iach i ddal goleuni treiddgar y Wybodaeth Newydd. Rhaid i'r Eglwys ddim. ofni, rhaid i'r enwadau ddim arswydo, rhag rhoddi eu nawdd a'u cefnogaeth i nnrhyw lenyddiaeth neu wybodaeth deifl oleuni newydd ar hanes crefydd naturiol neu ddatguddiedig.-( Y Parch. J. Pritchard, M.A., M.D., yn Y Geninen" am Orffennaf.)
[No title]
A.r barwydydd heolydd Castellnedd, yr arwyddair mawr a groesawai y pregethwyr Metbodistiaid yr wythuos hon ydoedd, Beware of pickpockets." Mae Mr. Donald Maclean, cyfreithiwr o Gaerdydd, a chyn-aelod Seneddol dros Caer- baddon, wedi ei ddewis yn ymgeisydd Rhyddfrydol dros Peebles a Selkirk erbyn yr etholiad nesaf. Sibrydir yn y cylchoedd cyfreithiol fod Mr. Ellis J. Griffith ar fin cael ei benodi yn farnwr ar lys y manddyledion yn swydd Lancaster. Os gwneir hyn daw sedd wâg ym M6n, a mawr fydd yr ymgiprys am dani. Mr. W. J. Bryan, y gwleidyddwr mawr o'r America, oedd un o brif ymwelwyr y Gyn- hadledd Grefyddol yr Alban yr wythnos ddiweddaf. Dichon mai am ei fod yn gref- yddwr selog y bu'n aflwyddiannus i ennill y gamp fel Arlywydd yr Unol Daleithau yn yr etholiad ddiweddaf Mae'n rhaid i'r cantorion yma gael curo arnom byth a beunydd am nad ydym fel cenedl yn gwneud yr hyn a ddylem, yn eu golwg hwy, i wella ein cerddoriaeth. Dyma fel bu Rarri Evans yn pregethu yr hen genadwri yn Eisteddfod Brymbo yr wythnos ddiweddaf Y rheswm ein bod ni'r Oymry'n colli'r dydd hefo chanu corawl ydyw hyn 'Does neb a wfid nad gennym ni y mae'r ddawn a'r reddf a'r anian ond rhy chwannog oeddym i orffwys a dibynnu ar hynny, nes peri i'n difrawder a'n diffyg dyfalwch droi'n felltith ac nid yn fendith. Oherwydd ein diffyg dyfalbarhad, cipiai'r Saeson heibiom, gan ennill y ras fel yr enillodd y tortoise hwnnw ar yr ysgyfarnog falch honno yn nameg yr iEsop diddan- ddoeth." Ddydd Mawrth diweddaf, yng Ngholeg yr lesu, Rhydychen, anrhegwyd Syr John Rhys, y prifathro, gan Gymmrodorion y Brifddinas, a cherfddelw ohono 'i hun, gwaith Mr. Goscombe John.—Mr. Henry Owen, wrth ei chyflwyno, a sylwodd ei bod yn ddelw o'n prif ysgolhaig Cymreig ac yn waith prif ddelwedydd Cymru.—Syr Frank Edwards a ddywedodd eu bod yn anrhydeddu un a safai gyda'r uchaf ymysg ysgolheigion Ewrop, un oedd a'i glod yn hysbys led y byd, a gwr yr oeddynt fel Cymry yn falch o hono.