Welsh Newspapers

Search 15 million Welsh newspaper articles

Hide Articles List

4 articles on this Page

[No title]

News
Cite
Share

Yr oedd y Parch. H. Elfet Lewis, M.A., yn 'un o'r siaradwyr yn y U-yrihadiedd fawr Grefyddol gynhaliwyd yn Edinburgh yr wythnos hon. Mae mudiad ar droed i godi cofgolofn ar fedd y bardd Glaslyn, yr hwn a huna ym Mynwent Beddgelert. Trefnir fod cronfa goffa y diweddar T. E. Ellis i'w defnyddio tuag at sefydlu ysgolor- iaeth yn y Gymraeg ynglyn a phrifysgol Cymru. Ddydd Mercher diweddaf hwyliodd y Hong "Terra Nova o Gaerdydd i chwilio am y Pegwm Deheuol. Captain Scott sydd a gofal yr ychydig anturiaethwyr oedd at ei bwrdd, a'r ail swyddog ydyw Lieutenant Evans. Bwriada y trefnwyr fod am ddwy ilynedd ar y daith.

SALES AND WANTS.

Advertising

Am Gymry Llundain.