Welsh Newspapers

Search 15 million Welsh newspaper articles

Hide Articles List

2 articles on this Page

YMADAWIAD GWEINIDOG,

News
Cite
Share

YMADAWIAD GWEINIDOG, Y PARCH. S. E. PRYTHERCH YN SYMUD I GEREDIGION. Yn ymadawiad y Parch. S. E. Prytherch o Eglwys Falmouth Road, cyll y Cy fundeb Methodistaidd yn Llundain un o'r pregeth- wyr galluocaf, a Chymry'r ddinas un o'r cymeriadau mwyaf hawddgar o'u plith. A dangoswyd hyn mewn modd digamsyniol nos Fercher ddiweddaf, pryd y cynhaliwyd cyfarfod "ffarwel" yng nghapel Falmouth Road. Daeth tyrfa fawr ynghyd, a thystiol- aeth unol yr holl fiodyr ydoedd fod un o oreuon y ddinas yn myned i'w gadael, ac y bydd bwlch anhawdd ei lanw yn aros yn hir yng ngbylchoedd Cymreig y ddinas. Mae pymtheng mlynedd wedi myned heibio er yr adeg y daeth Mr. Prytherch i'r cylch. Ei faes cyntaf ydoedd Stepney, neu eglwys Mile End Road yn awr, ac ar ol gwasanaethu yno am tua dwy flynedd, der- byniodd yr alwad daer ac unfrydol gafodd oddiwrth Eglwys Falmouth Road, ac yno am y 13 mlynedd hyn y mae wedi gweinidog- aethu gyda'r fath fedr a llwyddiant, nes gwneud ei enw yn berarogl yn ein plith. Hana o gyff pregethwrol, canys mab ydyw i'r diweddar William Prytherch, Nant- garedig, Sir Gaerfyrddin, ac yno ei ganwyd ac y treuliodd flynyddoedd ei fachgendod. Oafodd ei addysg foreol yng Nghaerfyrddin, Caerdydd, a Phrifatbrofa Edinburgh, ond nid oedd y rhai'n ond megis rhagbaratoad iddo, canys y mae yn fwy o efrydwr heddyw nag erioed, a theimlir hynny bob amser gan ei bregethau gafaelgar a'i gynyrchion ymar- ferol. Yn y cyfarfod ymadawol nos Fercher cafwyd cipolwg ar y gwaith enfawr gyf- lawnwyd ganddo yn ystod ei arosiad yn Falmouth Road. Mae'r Eglwys wedi cyn- yddu yn ddirfawr er yr adeg y dechreuodd yno, ac y mae wedi lledu ei changhenau i wahanol gyfeiriadau. O'i deadell hi y tarddodd yr Eglwys yn Clapham Junction, ac mae gwedd lewyrchus iawn ar y ferch honno. Yn ddiweddarach sefydlwyd Eglwys Lewisham mewn cyfeiriad arall, a golygai hynny leihad yn nifer y fam eglwys. Rhagor oa hyn sefydlwyd canghennau ysgolion yn Dulwich a Brixton er hyn oil, mae'r hen sefydliad yn Falmouth Road yn fwy ei fri heddyw nag erioed. At y cynnydd dirfawr hwn cyfeiriwyd at ei lafur ef a brodyr y lie yn lleihau dyled y fam eglwys, ac yn gwario miloedd ereill mewn adgyweiriadau a cbael organ newydd, yr hyn sydd wedi gwneud y capel yn un o'r rhai tlysaf yn ein mysg fel Cymry. Cyfeiriwyd at ei weitbgarwch mewn modd arbennig yn yr anerchiad oreuedig gyfiwyn- wyd iddo yn y cyfarfod, yr hon a ddarllenai fel a ganlyn ANERCHIAD, cyflwynedig gan Eglwys y Methodist- iaid Calfinaidd, Falmouth Road, Llundain, i'r Parch. S. E. Prytherch ar ei ymadawiad i Gymru. Barchedig Frawd,—Gyda theimladau gofidus y der- byniasom ni, bobl eich gofal yn Falmouth Road, y newydd am eich bwriad i symud i faes arall i lafurio, a chymaint yw ein hymlyniad wrthych, fel nas gallwn ganiatau i chwi dorri'r cysylltiad agos sydd wedi bod rhyngom, heb ofyn gennych ddwyn gyda chwi ryw arwyddion o'n serch tuagatoch a'n gwerthfawrogiad o'ch llafur. Yn ystod y deuddeng mlynedd a hanner y buoch yn myned i mewn ac allan yn ein mysg fel Gweinidog yr Eglwys, cawsom chwi bob amser yn Arweinydd doeth a diogel, yn ymddwyn yn deilwng o urddas eich swydd aruchel, ac y mae eich llafur a'ch ffyddlondeb mewn amrywiol gylchoedd wedi cyn- hyrchu ffrwyth toreithiog, ac o dan fendith amlwg Cofiwn yn dda am y ddyled lethol oedd arnom fel Eglwys pan y daethoch atom ond trwy eich llafur a'ch ymroddiad chwi yn bennaf y mae dros 24,000 o'r ddyled wedi diflannu, ac nid yw'r gweddill sydd yn aros ond swm cymharol fychan. Cofiwn hefyd am y draul yr aed iddi ynglyn a'r organ newydd a'r ad- gyweiriadau ar y capel, a'r modd effeithiol a llwydd- iannus y darfu i chwi weithio i berffeithio ein haddoldy prydferth. Bu eich llafur gyda'r plant yn amhrisiadwy o werthfawr. Ystyriwn fod gennych ddawn eithriadol i arwain y plant; enillasoch serch y rhai bychain, a thrwy eich hyftorddiant a'ch dylanwad, yr ydych wedi gadael argraff er daioni ar eu meddyliau nas gellir byth ei ddileu. Yn gyffelyb y llafuriasoch gyda phobl ieuainc yr Eglwys, ac y mae i chwi le dwtn a chynnes yn eu serchiadau. Buoch dyner a charedig wrth gleifion yr Eglwys, yn ymwelydd cyson a hwynt, ac yn gysurwr diddan i lawer o honynt yn ysbytai y ddinas. Pa le bynnag yr arweinir chwi bydd bendith y lhaws y gwnaethoch garedigrwydd iddynt mewn cystuddiau a phrofedig- aethau yn sicr o'ch dilyn Uwchlaw popeth, chwi a fuoch yn ffyddlawn i fynegi i ni holl gyngor Duw o'r pulpud. Nodweddid eich gweinidogaeth bob amser gan feddylgarwch a barai i ninnai feddwl drosom ein hunain, a gosod y gwirionedd at ein calonau. Gellwch fod yn sicr na lafuriasoch yn ofer, ond yn hytrach y bydd yr had da a hauasoch yn tyfu ac yn dwyn ffrwyth wedi i chwi gefnu arnom. Yn y Cyfarfod Misol chwi a fuoch yn wr o gyngor a chadernid cymerasoch eich rhan o bob cyfrifoldeb, ac y mae eich enw yn anwyl yn yr holl Eglwysi. Gwyddom na chawsoch fod heb eich croes, ac nid croes ysgafn fu afiechyd eich anwyl briod am gynnifer blwyddyn. Llawenychwn yn y ffaith fod Mrs. Prytherch yn well, a gweddiwn am iddi gael llwyr adferiad yn awyr y wlad. Eiddunwn i chwi bob bendith a daioni, a bydded i chwi eto oes faith i lafurio yng ngweinidogaeth y Gair, a chyda gwaith y Deyrnas yn gyffredinol. Byddwch wych, a'r Arglwydd a'ch bendithio, ac a'ch gwnelo yn fendith. Ydym ar ran yr Eglwys :—Blaenoriaid D. C. Davies, Morgan Morgans, William Hughes, Thomas Roberts, Samuel Davies, D. R. Hughes, John Jones, Henry T. Lewis, a William Williams. Pwyllgor: Daniel Davies, E. W. Davies, William Hughes, Isaac Price, a Thomas Williams Ysgrifenyddion: Evan Jenkins a John Williams. Llywyddwyd y cyfarfod nos Fercher gan Mr. Morgan Morgans, blaenor hynaf y lie. Dechreuwyd y gweithrediadau gan y Parch. D. Tyler Davies, ac yna siaradwyd gan Mr. W. Hughes, yr hwn a roddodd hanes cys- ylltiad yr eglwys a'i gweinidog, ac am y golled a deimlir ar ei ol. Ar ran y Cyfarfod Misol siaradwyd gan y Parch. W. Thickens, Willesden Green, a chefnogwyd ef gan Mr. T. Woodward Owen, yr hwn a gyfeiriodd at ddyfodiad cyntaf Mr. Prytherch i Lundain. Bu yn bregethwr i'r bobl ieuainc, meddai, canys angenrhaid pennaf Cymry ieuainc Llundain heddyw yw dyn o feddwl eangfrydig a choeth. Yn nesaf, talwyd gwarogaeth uchel i waith Mr. Prytberch gan y Parch. D. C. Jones o'r Boro', yr hwn fu yn gymydog agos iddo ar hyd y blynyddau, a dywedodd os oedd eglwys erioed heb gael gweinidogaeth gref, nid eglwys Falmouth Road oedd honno. Wedi i i Dr. Robertson, Brighton, ymadael a maes ei lafur yr adnabyddwyd ef gan y byd, a chredai ef mai ar ol i Mr. Prytherch ymadael a Llundain y deuai ei gydgenedl i'w adna- bod ef. Ar ol hyn cyflwynwyd anerchiad oreuredig iddo gan Mr. D. R. Hughes, oriawr a chodaid o aur gan Mr. D. C. Davies, un o'r blaenor- iaid, nifer o lyfrau gwerthfawr gan Mri. Joseph Davies ac Esmond Evans ar ran y bobl ieuainc, pwrs 0 aur i Mrs. Prytherch ar ran y chwiorydd gan Mrs. Morgan, ac yna ddesc ysgrifennu hardd i'r mab. Cynrychioliwyd y Cyfarfod Misol gan Mr. W. Price, Paddington, yr hwn, ynghyda Mr. Morgan Owen, a roddasant cheque am £25 iddo fel arwydd o gydnabyddiaeth y frawd- oliaeth o'r tuallan i gylch Eglwys Falmouth Road. Diolchwyd yn garedig am y cyfan gan y Parch. S. E. Prytherch, a thystiodd fod yr arddangoseg hon o gydymdeimlad ei gyd- genedl yn Llundain yn beth nas anghofiai byth. Yn ddilynol cafwyd geiriau edmygol am dano gan y Parch. J. E. Davies, M.A., yr hwn sydd wedi ei benodi i fyned i'w gwrdd sefydlu yn Llanbedr. Gan fod dau 0 offeiriaid wedi dyfod i'r cyfarfod i ddangos eu teimladau da tuag at Mr. Prytherch galwyd arnynt i siarad. Dywedodd y Parch. W. Griffith, Holloway, ei fod yn edmygydd mawr o hono fel dyn, ac ar ol darllen y llyfrau roddwyd iddo yn y cwrdd hwn eto, nis gallai lai na dweyd gwae chwi, bobl Llambed." Gofidiai Dr. D. Bryant, yr hwn sydd yn gweinidogaethu yn y plwyf agosaf i Fal- mouth Road, fod y Cymry yn gadael i ddyn o alluoedd Mr. Prytherch fyned i guddio ei dalentau i unigedd mynyddoedd Cymru, a hyderai y gwelid ef yn ol eto cyn hir. Yn ddilynol cafwyd ychydig eiriau gan y Parch. John Humphreys (W), W. Rees (B), a. therfynwyd trwy weddi gan y Parch. D.. Oliver.

Am Gymry Llundain.