Welsh Newspapers
Search 15 million Welsh newspaper articles
5 articles on this Page
Advertising
1 MF » W *T DAIRYIIIEBT SUPPLIED |B fin I I SB In any part of London and Suburbs with H/l ) H RICH, GOOD KEEPING MILK 111 | | I It DIRECT FROM THE FARMS. Over 50,000 Samples tested annually in our Laboratories. WHOLESALE ONLY. DAIRY SUPPLY CO., LTD., Chief Office; MUSEUM ST., LONDON, W.C.
A BYD Y GAN.
A BYD Y GAN. [GAN ALAWYDD]. Yr ochr draw i'r Werydd. Y Llun olaf o Fai cafwyd Eisteddfod fawr yn Wilkes-Barre, yr Unol Daleithau, a phrof- odd yn llwyddiannus iawn. Yr oedd liawer o gystadlu yn yr adran gerddorol, ond darnau Seisnig oedd y testynau bron i gyd. Y Sadwrn cyn hynny bu Eisteddfod fawr arall yn West Pawlet, a'r cystadlu ar y canu yn hynod fywiog. Rhagor na'r cystadlu yr oedd y pwyllgor wedi sicrhau gwasanaeth Miss Mary King Sarah, yr hon aeth drosodd beth amser yn ol gyda chor meibion y Moelwyn. Rhoddwyd croesaw cynnes iawn i'r gantores o Gymru, a bu raid i un o englynwyr hanner-Seisnig y dref draethu ei glod fel a ganlyn :— Erys y mirain Rose Mari "—'n ocean 0 fiwsig, by golly Yn ei swyn gofynais i Ai angel yw'r young lady ? Grwn am dalentau disglair y gantores hon, a diau eu bod yn llawn haeddu'r clod Ameri- canaidd a ddynodir, a "by golly" yn yr englyn uchod. Canu i Swyddi. Nid Miss King Sarah yw'r unig un o aelodau cor y Moelwyn sydd wedi llwyddo drwy ei thaith i ennill edmygedd yr Ameri- canwyr. Mae'r gwr ieuanc fu'n trefnu gyrfa y cor-Mr. Owen Williams, B.A., o Blaenau Festiniog wedi ymsefydlu yn TJtica fel cyfrifydd mewn swyddfa leol, ac tttae bachgen arall o'r Llan wedi cael ei benodi yn denorydd yn y Tabernacle Baptist Church. Gan fod y fath infer o'n cyd- wladwyr yn esgyn i leoedd pwysig oherwydd eu lleisiau swynol, nid yw'n syndod fod y -fath awydd ymhlith ein cantorion am fyned ar daith ar draws yr Unol Daleithau. Pob Uwydd i'r rhai sy'n esgyn i fri, er dyrchafu enw da Cymru, a chyfoethogi y byd cerdd- orol ar yr un pryd. Mr. James Sauvage. Ar un adeg nid oedd cantor mwy pob- logaidd yn Llundain na'r baritone diddan Mr. James Sauvage, a sicr y bydd llawer o'i hen gyfeillion yn llawenhau wrth ddeall ei fod ar fin talu ymweliad arall a'r hen wlad. Mae Mr. Sauvage wedi ennill parch ac anrhydedd yng ngwlad y Gorllewin, lie y gwasanaetha fel Athraw y Gan yn un o golegau goreu yr America. Merch i'r di- weddar LIew Llwyfo ydyw Mrs. James Sauvage, a bu hithau yn gantores wych yn ei dydd. Gobeithia Mr. Sauvage fedru aros ynaa am rai misoedd, gan ddychwelyd i'r America eto erbyn tymor y gaeaf.
GYDA'R WAWR.
Yr hybarch Evan Jones, Caernarfon, sydd yn bugeilio Eglwys Charing Cross y Suliau hyn. Daeth catrawd gadarn o gefnogwyr Dat- gysylltiad i Dy'r Cyffredin ddydd Mawrth i ddweyd eu barn wrth yr aelodau, a bu'r gynhadledd yn un hynod o foddhaol y tro hwn. 1 ■ • GYDA'R WAWR. Mae gwyll y nos yn cilio, Gyda'r wawr; Mae anian dlos yn deffro, Gyda'r wawr Yr adar yn y coedydd Gyfarchant y boreuddydd A chydgan newydd newydd, N Gyda'r wawr Cawn alaw yr ehedydd, Gyda'r wawr. Y ser ant i freuddwydio, Gyda'r wawr; A'r lloer i dawel huno, Gyda'r wawr; Tra'n disgwyl gwenau'r heulwen, Y cymyl yn eu helfen A nofiant y ffurfafen, Gyda'r wawr: Arddunol yw'r ddaearen, Gyda'r wawr. Mae'r gwlith fel drudfawr berlau, Gyda'r wawr; Ar ruddiau'r tyner flodau, Gyda'r wawr Sibrydon y cornentydd Ymdreiglant drwy y dolydd Sy'n canmol y Creawdydd, Gyda'r wawr Rho'nt Iddo foliant bsunydd, Gyda'r wawr. ROSSERONIAN.
Y WYLAN.
Y WYLAN. Wylan dirion, Merch y werydd; Llawn o swynion Ydwyt beunydd Molaf di Wylan gu. Wyt yn wylaidd Brydferth wylan, Ton arianaidd Fryn dy anian Rhoddodd lor I ti for. Hoffi ewin Brig y wendon, Adsain telyn Yw i'th galon Tonau erch Bri dy serch. Bron yr heli Yw dy gariad, v Delw'i lesni Sy'n dy lygad Fel y don Glan yw'th fron. Beiddgar ynni Fedd dy galon, Yng nghwmpeini lach awelon; Cartref brad Morwyr mad. Ar ei llydain Nwyfus edyn, 0 gylch Prydain Gwel hi'n disgyn; Ar y don Sigla'n Ilon. Cryd y wylan Ydyw'r cefnfor, Car ei hanian Arw oror; Nofia hi Ar y lli. Ni faidd arswyd Lethu'i hyder, Gwel yr abwyd Yn y dyfnder Gobaith hon Yw y don. lachus awel Glan y werydd, Fyn y dawel Wylan beunydd Gwyn ei byd Ar ei hyd. LLINOS WYRE.
Advertising
WELSH BAPTIST CHURCH, Castle Street East, Oxford Circus, W. ANNUAL = r(ou)er$<tfer0iee6 On Sunday, June 26, 1910. ORDER OF SERVICES. 8.30 a.m.—Prayer Meeting. 9.0 a.m.—Zenana Missionary Breakfast. 10.0 a in. -Missionary Met ting. Address, &c. 11.0 a.in.-Engli,h Service. Preatiher: Rev. HERBERT MORGAN, B.A. (Pastor). Solo The LoiM is my Shepherd" Misa Blodwen Lloyd. 1.0 p.m.—Zenana Missionary Luncheon. 3.0 p.iii.-Suiiday School Meeting. Chairman: The Right lion. D. LLOYD GEORGE, M.P. (Chancellor of the Exchequer). Paper by Mr. John Hughes. R citation by Miss A L. Hnn Uey. Solos Nearer my Grad 1 o Thee Miss Winifred Lewis. Be thou Faithful unto Death Mr. Ivor Walters. Violin Solo Miss Mildred John. 4.30 p.m.—Tea in the Lecture Hall and Library. 6.30 p.m.—Welsh Service Special Sermon to Young People. Rev Herbert Morgan, B.A. Anthem by the Choir. Flowers may be ssnt to the Chapel on Saturday, Jur e 25th, and will be thankfully received by he Committee. H. WILLINGS & CO., Recognised Agents & Valuers to the fyfilk Trade, 125, FLEET STREET, E.e. TELEPHONE: 150 HOLBORN. London Cowkeeperg-30 barns daily at 4d. (nearly all) on 2 prams; 250 week shop trade house, shop, sheds, yard, &c., rent jE45 long lease. Very few book debts. l'rit e 2750, including 12 good cows. West End-22 barns dy. at 4d. on 2 prams; very compact; R,15 shop trade very low rent. A v ry genuine concern. Any trial allowed. Price £ 495. H. Willings & Co., above. WELSHMAN & KELT OFFICES, THE LONDON WELSHMAN AND KELT is a high-class Family Paper, and counts among its contributors the most prominent Welsh Scholars and Writers. All Communications to the Editor or to the Publisher should in future be addressed to KELT OFFICE, 302 GRAY'S INN RD., LONDON, W.C. Miss eEINWEN VRIeE (Medallist R.A.M.), RECITER. At Homes, Concerts, Banquets, etc. For Terms ancl, Vacant Dates apply- 93, CAMBRIDGE GARDENS, N. KENSINGTON, W.