Welsh Newspapers

Search 15 million Welsh newspaper articles

Hide Articles List

2 articles on this Page

TY'R GLEBER.

News
Cite
Share

TY'R GLEBER. [GAN AELOD Y MAESDREFI] Nid oedd and cynrychiolaeth fechan o'r Aelodau Cymreig yn bresennol ar ddydd cyntaf ail-agor y Senedd. Disgwylir y byddant i gyd yma erbyn dechreu yr wyth- nos, canys y mae cyfarfod arbennig o'r Blaid i gyfarfod i ymdrin a gwahanol bync- iau a threfnu sut i weithredu am y gweddill •o'r tymor. Yn ystod yr wythnos nesaf, hefyd, daw dirprwyaeth ar ran yr Ymneilltuwyr Cym- reig i bregethu iddynt eu dyledswyddau yngiyn a phwnc Datgysylltiad. Rhvwsut neu gilydd y mae'r hen fater hwn yn cael ei osod o'r neilltu ar bob adeg ddichonadwy i'r Blaid. Nid oes yr un o'r aelodau yn ei garu, a byddai yn dda gan y mwyafrif o Eonynt pe gadewsid ef i gael cyntun am ugain mlynedd arall, canys ni wneir dim ond cyffroi teimladau sectol pan yn rhoddi ystyried i'w gynlluniau. Un peth, meddant, yw dadlu droa yr egwyddor o Ddatgysylltiad, ond mater arall yw penderfynnu sut i'w roddi fflewn gweithrediad. Rhag y digwydd i ni gael Etholiad arall n ar fyr rybudd, deallaf oddiwrth rai o'r ael- odau iddynt dalu ymweliadau lawer a gwa- banol rannau o'u hetholaethau yn ystod y aeibiant, ac yn ol pob rhagolygon mae'r wlad yn berffaith gadarn o du y syniad i gwtogi ar awdurdod Ty'r Arglwyddi. Nid oes dim wedi ei wneud eto ynglyn a phenodi olynydd i Syr Alfred Thomas. Mae'r etholaeth yn un eang, a chynrychiol- aeth Llafur yn lied gadarn ymysg yr ethol- Wyr, fel y credir yn gyffredin na Iwydda yr nn Rhyddfrydwr claiar gael ei ddewis fel ymgeisydd. Yr unig obaith i'r Rhudd- frydwyr, meddir, yw sicrhau gwasanaeth gwr o gyfoeth a dylanwad, neu ynte ddilyn •camrau Merthyr a chael un o feibion y werin & gyfuna y ddwy-blaid ar Jinellau hollol G-enedlaethol.

Advertising