Welsh Newspapers
Search 15 million Welsh newspaper articles
6 articles on this Page
Advertising
H. HILLINGS 6 CO., Recognised Agents & Valuers to the ftfilk Trade, 125, FLEET STREET, E.O. TELEPHONE: 150 HOLBORN. Stoke Newington—16 gallons; sound trade; all 4d. on pram good shop trade; rent only 232. Good chance to improve. Price £ 160.—Willings. Baker Street-22 gls. dy. 4d.; 215 week in refresh- ments all good payers rent 25/- week inclusive. A genuine place. £ 240.—Willings & Co. Southwark-54 gls. dy. 4d. on 2 prams; 215 shop large house, shop, shed for 16 cows. Price e650, including 8 cows.
Y DYFODOL.
Y DYFODOL. Boed i Ysgrifenyddion y gwahanol Gymdeithasau anfon ar fyrder restr o'u cyfarfodydd arbennig, i'w gosod yn y ftolojn hon. 94-T Gosod-r y Cyfarfodydd, &c., a hysbysebir yn y CELT, yn rhad yng ngholofn Y Dyfodol," ond codir tdl 0 Is. yr un am y rhai na hysbysebir. Mehefin. 15-Palinouth Road. Cyfarfod Ymadawol y Parch. S E. Pryihercli, 16—Bechstein Hall. Recital. Mr. Gwynne Davies. Gorphenaf. 7—Camberwell. St. Mary's Church Garden Party. 7-Wanrlsworth. London Welsh F.C. Garden P,rty. Hydref 6—Wilton Square. Te a Chyngerdd Blynyddol. 20—Shirland Road. Annual Concert. Tachwedd. 17-Eisteddfod Fawreddog Capel Stratford. 24-Eisteddfod Flynyddol Jewin. Rhagfyr. 1—Cyngerdd Blynyddol Cymdeithas y Tabernacl. Chwefror. 18—Eisteddfod Flynyddol Cymdeitbas y Tabernacl Cymrcig, King's Cross.
PUBLISHERS' NOTE.
PUBLISHERS' NOTE. The Publishers of "The London Welsh- man and Kelt" will be pleased to hear from any Reader or Newsagent who ex- periences a difficulty in obtaining this paper. To avoid any delay a standing order should be given to a Newsagent, or at the Railway Bookstall, so that they can make the necessary arrangements to obtain a supply punctually each week.
Advertising
WELSHMAN & KELT OFFICES, THE LONDON WELSHMAN AND KELT is a high-class Family Paper, and counts among its contributors the most prominent Welsh Scholars and Writers. All Communications to the Editor or to the Publisher should in future be addressed to KELT OFFICE, 302 GRAY'S INN RD., LONDaN, W.C. MADOV, DftYIES, H.R.e.M., Teacher, L..C.M. Voice Production and Solo Singing. Telephone 8914 Central. NOTE NEW ADDRESS:— 495, OXFORD STREET, W. (Near Marble Arch). NOTE.-Advertisements must reach the Office by Wednesday morning for insertion in the current week's number. Advertise- ments for insertion in THE LONDON WELSHMAN AND KELT will be trans- ated into Welsh free of charge. Bydd yn hyfrydwch gan y Golygydd dderbyn Gohebiaethau ac erthyglau i'w hystyried, ond nis gellir ymrwymo i ddychwelyd ysgtifaa t;wrthodedig.
Advertising
1 l"TT TT »sitjf*i3»i*i:ES:E* ■ JH III# In any part of London and Suburbs with Iftll I I li RICH, GOOD KEEPING MILK IVI I I I II DIRECT FROM THE FARMS. ■ VI I I I I I Over 50,000 Samples tested annually in our Laboratories. WHOLESALE ONLY. DAIRY SUPPLY CO., LTD., Chief Office: MUSEUM ST., LONDON, W.C.
Bwrdd y Gol.
Bwrdd y Gol. Edrychai pawb yn fwy siriol yn y cyfarfod yr wythnos hon, ac yr oedd yn amlwg fod pethau yn dyfod yn ol i'w hen gynefin. Yr oedd y prudd-der cenedlaethol a achoswyd gan y digwyddiad bren- hinol wedi llethu pawb am wythnosau, ac i ychwan- egu at hyn profodd y corned ddigynfton yn gymaint siom nes pery pawb i anobeithio. Erbyn deall fod argoelion am ychydig fywiogrwydd ynglyn a'n helyntion Seneddol, y mae'r beirdd a'r llenorion wedi gwisgo gwedd hapusach, a daeth cynulliad llawn ynghyd, ac ymhlith y cwmni gwelwyd dau neu dri o'n Seneddwyr blaenaf yn awyddus i glywed beth oedd barn y Doethawr ar fwriadau y Senedd. Tra yn son am y Corned, mynnai rhai o'r frawdol- iaeth farddol gyweirio eu tannau er mwyn canu yn rhagorach na'r rhai sydd eisoes wedi ymddangos yn y CELT, ond y drwg ydyw, fod pob un o honynt yn canu clodydd i'w chynffon fawr Ond teimlad y Gol. ar ol gweled y seren y noson o'r blaen ydyw, fod gormod 6 helynt cneifio mochyn wedi bod ynglyn a hi, mwy o wich nag o wlan." Ar yr un pryd, teimiai fod cryn 'deilyngdod yn englyn y bardd Efrog, yr hwn a bregethai ei hanes fel a ganlyn- O'i phen hir a'i chynffon arian-mae deddf Am y daith yn datgan Mai Duw lor yw y fflam dan Droellia o'i godre allan. Dyna un o'n gwendidau ni fel beirdd, ebe'r Bachgen Main. Yr ydym yn mynnu pregethu neu dynnu rhyw foeswersi bob amser o bob pennill neu ddig- wyddiad. Mae'n hen bryd i ni droi i fod yn naturiol, a chanu yn y cywair lion, gan adael i bob un dynnu ei wers ei hun o'r gerdd, ac yr wyf yn hyderu yr alltudir Beirdd y pruddglwyf o'r ystafell hon am dymúr hir"- BEIRDD Y PRUDDGLWYF. [Y tant lleddf a nodweddai'r beirdd yr wythnos hon.- Celt," Mehefin 4ydd, 1910.J I. Y mae rhai o feirdd ein bro At wylo'n meddu talent, Llifa'u dagrau nos a dydd 'N afonydd ger rhyw tynwent, Pe syrthiai ar eu pen y lloer A'u pader oer nis peidient. II. Pan y claddwyd ful Cae.du,- Hen Nedi yr oernadau,— Canai'r beirdd a gwyneb syn Fil wedy'n o folawdau Pery'r s6n am dano'n hir A nedir marwnadau. III. Pan fo blodau tecca'n bau Yn berlau ar bob irlwyn, Pan fo cusan awel Fai Ar ruddiau pawb mor addwyn, Wylo'rol y gaeaf wnant Ni wenant yn y Gwanwyn IV. Erbyn 'Steddfod fawr Pant-teg Telyneg net a luniwyd Ffodus fardd daeth swllt i'w ran, O 'r arian ar ddim wariwyd I ba beth bu'r gwastraff hwn ? Fe wn gan rai ofynwyd. V. Am Bryddestau-coffa maith Och unwaith ni achwynwyd, Dim ond un stol dderw gain Rhwng ugain a gynygiwyd Pwy er mwyn ryw bedair punt Wnai helynt ar un aelwyd ? VI. Feirdd y pruddglwyf tewch a son, Go wirion yw eich geiriau, Clywch y plant yn dweyd yn hyf Mai digrif gwel'd eich dagrau, ✓ Heddyw hysbys yw i'r byd Mai fraud i gyd yw'r ffrydiau. Y Bachen Main. Llonnodd pawb wrth glywed can y Bachgen Main," ond protestiai Llwyd ap Owain yn erbyn gwaith y bardd yn defnyddio geiriau sathredig fel fraud a net mewn cerdd mor amserol. Yr oeddech," rneddai, yn protestio yn erbyn gwaith y pregeth- wyr yn defnyddio geiriau Seisnig yn eu pregethau yn eich rhifyn diweddaf, ac mae yr un mor briodol ac amserol i chwi brotestio yn erbyn arfer y beirdd yma yn beuthycia geiriau estronol i bardduo ein llenydd. iaeth goeth ni. Ond dichon mai gwr o r Deheubarth ydyw'r awdwr, a dyna sydd yn gytrifol am yr amry- fusedd." Hold on," gwaeddai Norick, "peidiwch bod mor barod i gyhuddo neb heb sail i'ch gosodiad. Mae beirdd y Deheubarth mor deyrngar i'r iaith a neb o honoch yn y Gogledd a rhagor na hyn, y meddyg iacha dy hun.' Nid eisieu protestio sydd, eithr gwrthdystio. Ac am ganu cerdd syml mewn Cym- raeg clir, pa angen am well engraifit na'r eiddo Isgarn, un o fechgyn awengar ein hardal ni ym Mlaen Caron, Ceredigion. Gwrandewch arno :— SALM BUGAIL. Mab y mynydd wyf fi Cynefin a gwynt a gwlaw Dringat y llethrau serth, A phastwn yn fy llaw. Rhued y ddrycin ddu Ei hudgyrn, os myn yn uwch, Mi ganaf yn ngoleu'r mellt, A chanaf yn swn y lluwch. Wyf hoff o'r unigedd maith, Wyf hoff o'r tawelwch pell; Na berw y ddinas fawr Mae trwmgwsg y mynydd yn well. Awelon y mynydd sydd Yn 'hedeg yn hoyw, chwim, A'i hysgeifn gusanau iach Bob amser i'w cynyg im'. Caf orig o wir fwynhad, Weithiau, ar dorian nant, Wrth wrandaw y bwrlwm dwr Yn canu fel cor o blant. Gwell gennyf fywyd rhydd Y mynydd, a'i olygfeydd, Nag ymerodraethau'r byd, A'u gofid a'u dychrynfeydd. Ni cheisiaf addoli neb, Ni phlygaf i undyn byw Bydded yr hwn a fo- Ni phlygaf i neb :—ond Duw. Mab y mynydd wyf fi, Hyd yr unigedd maith Symledd y brwyn a'r grug Sydd yn fy mywyd a'm hiaith. Isgarn. Wedi i "Norick" eistedd, cafodd glod byddarol gan Feirdd y Deheubarth oedd yn bresennol, a dywedai Glan Llethi" a "Trefhedyn" nad oedd angen iddynt hwy, mwyach, i draethu eu cynyrchion yn y cyfarfod hwn, eithr y buasent yn cadw'r cyfan erbyn esgyn i ben y Maen Llog yn Colwyn Bay ar adeg yr Eisteddfod, pryd y gallent brofi i'r Athro Morris Jones ac ereill fod cryn lawer o ddawn Dafydd ap Gwilym yn aros o hyd rhwng Ilethrau Ceredigion glyd. Cyn i'r Doethawr gael amser i draethu ei gyngor i'r beirdd dyma'r Seneddwyr yn dfichreu anesmwytho, a rhag eu colli cyn cael eu gwers haeddiannol, wele'r Gol. yn eu hannerch er mawr foddhad y dorf, a diau y gweithredant yn ystod yr wythnosau nesaf yn unol a'i farn a'i gyfarwyddyd.