Welsh Newspapers

Search 15 million Welsh newspaper articles

Hide Articles List

2 articles on this Page

Am Gymry Llundain.

News
Cite
Share

Am Gymry Llundain. Y SULGWYN.-Cafwyd hin ddymunol i fwynhau Gwyl y Sulgwyn, a bu'r gwibdeith- iau ar y Llun yn hynod boblogaidd. CYFARFODYDD PREGETHU. Cynhaliodd Eglwys y Boro' gyfres nodedig o gyfarfod- ydd pregethu yn adeg y Sulgwyn, a chafwyd odfeuon hwyliog dros ben. Y pregethwyr oeddent y Parch. Eager James, Aberteifi, a'r Parch. 0. L. Roberts, Liverpool. BAZAAR Y WESLEYAID.—Ddiwedd yr wyth- nos nesaf cynhelir nodachfa fawr ynglyn a'r Wesleyaid yn Llundain. Bydd yr wyl yn agored am y tri diwrnod olaf o'r wythnos, a hyderwn y ca'r brodyr bob cefnogaeth gan eu cydgenedl o bob enwad yn y brif-ddinas. CYDNABOD CYDYMDEIMLAD.-Dymuna Mrs. Williams a'r teulu, Umberston Street, Com- mercial Road, gydnabod yn ddiolchgar y datganiadau o gydymdeimlad a dderbyn- iasant oddiwrth eu lliosog gyfeillion yn eu trailed diweddar. Mae'r rilfer mor fawr fel y mae'n amhosibl eu hateb yn bersonol, felly dymunir arnynt dderbyn y gydnabyddiaeth hon dan yr amgylchiadau. DYFOD Yli OL.-Mae'r Parch Peter Hughes Griffith wedi dechreu ar ei daith adref o Australia, lie yr aeth am fordaith i adnew- yddu ei iechyd, a hydera y bydd yn abl i ail-ddechreu ar ei waith bugeiliol yn Charing Cross Road cyn diwedd mis Mehefin. EGLWYS ST. BENET.—Wythnos i'r Sul diweddaf gwasanaethwyd gan y Parch. T. Tudor Thomas, gynt Rheithor Llanwrtyd, yn absenoldeb ein Ficer, oherwydd afiechyd. Gwnaed cyfeiriadau addas a thyner at far- wolaeth y Brenin Iorwerth yn y pregethau, canwyd emynau addas, hefyd chwareuodd yr organydd Funeral March (Chopin), a'r an- brwol Dead March in Saul (Handel), ac yna canwyd gan y gynulleidfa "Duw Gadwo'r Brenin" gydag un-llef. Y Sul- gwyn yr oedd yn llawen gennym groesawu y Parch. J. Crowle Ellis ar ei adferiad i'w iechyd, pryd y cawsom dri o wasanaethau a dau weinyddiad o'r Cymun Bendigaid, o'r hon wledd llawen oedd gweled agos i gant o'r aelodau yn cyfranogi, er fod cynifer yn yr Hen Wlad.-Llun y Sulgwyn Aeth ael- odau ein Hysgol Sul a'u cyfeillion eleni i Eastcote, llecyn bardd yn ymyl Pinner. Yr oedd y tywydd yn ardderchog, a mwyn- haodd pawb eu hunain yn ysblenydd. Da gweled cymaint wedi ymgynull.—Gwasan- aeth Coffadwriaelhol Cynhaliwyd gwasan- aeth yn yr eglwys hon am un o'r gloch ddydd Gwener (20fed), yr un adeg a'r gwasanaeth claddu yng Nghapel St. George, Windsor. CYNGERDD A HWYL.—Cred aelodau y gwahanol Gymdeithasau sydd ynglyn a chapel y Tabernacl Cymreig King's Cross fod llwyddiant eu bywyd crefyddel yn Llun- dain i'w briodoli i raddau helaeth i'r am- gylchoedd y maent yn feunyddiol ynddynt, ac i'r amcan o gael adloniant priodol ar ddyddiau haf, pan yn rhydd oddiwrth eu gwahanol orchwylion masnachol y maent wedi sefydlu Clwb Chware, dan nawdd arweinwyr crefyddol y lie, ac mae'r mudiad wedi troi yn liesol iawn heb son am y llwyddiant, digamsyniol. Llywyddir y mudiad gan y prif fardd Elfed ei hun, ac rnae maes eang wedi ei sicrhau yn ardal Cricklewood, lie y trefnir ymarfer mewn tennis, cricket, a chwareuon ereill bob Iau a Sadwrn drwy yr haf. Profwyd poblogrwydd y clwb gan y nifer enfawr o ieuenctyd yr eglwys ddaethant i'r budd gyngerdd gyn- haliwyd yn yr ysgoldy nos Iau, y 12fed o'r mis hwn, pryd y gorlenwyd yr ystafelloedd eang gan y cannoedd ieuenctyd ddaethant yngyd. Croesawyd yr aelodau gan wledd o de moethus, rhoddedig gan Mr. a Mrs. J. Edwards, Hastings Street, yr hyn a wnaeth- ant a llaw haelionus. Yna llywyddid y MR TIM EVANS Yn dadleu dros Chwareuon. cyngerdd gan Mr. Tim Evans, Jewin, un o'r Cymry ieuainc hynny sydd yn llawn scl dros lwyddiant ei gydgenedl yn Llundain, a chefnogwyd pob mudiad dyrchafol. Tref- nwyd rha-glen faith o ganu ac adrodd, a gwasanaethwyd y rhan hon gan Misses Florence Jenkins, Maggie Davies, a Jessie Lewis Mri. Joseph Lloyd, W. Bevan, Stanley Davies, Jack Edwards, a Luther Evans, ynghyd a "Chanorion Elfed." At y rhai hyn sicrhawyd gwasanaeth y crythor enwog, Mr. Philip Lewis, yr hwn roddodd foddhad mawr i'r dorf a'i hedmyga. Gofalwyd am y cyfeiliant gan Miss Sallie Jenkins, yr hon sydd bob amser yn llanw ei lie yn hynod feistrolgar. Gan fod yr elw at dalu treuliau y Clwb, llwyddwyd i wneud swm sylweddol o'r cyngerdd, a chaed anerchiadau edmygol o'r anturiaeth gan Mri. T. E. Morris, LL.B., D. Rowland Thomas (y bargyfreithwyr), Glyn Evans, T. J. Evans, a H. P. Roberts. Gellir cael y manylion ynglyn a threfniadau y Clwb oddiwrth yr ysgrifennydd, Mr. Cyrus J. Evans, 20, Canonbury Grove, N., neu Mr. W. Edmunds, 11, Vere Street, W.

NODIADAU LLENYDDOL.