Skip to main content
Hide Articles List

2 articles on this Page

-----A BYD Y GAN.

News
Cite
Share

A BYD Y GAN. [GAN ALAWYDD]. Eisteddfod a hanes iddi ydyw Eisteddfod y "gadair ddu," pryd y cyhoeddwyd ar ddydd yr wyl fod y bardd oedd i dderbyn anrhydedd y gadair wedi marw cyn clywed am ei lwyddiant. Cafwyd hanes cyffelyb ynglyn a chystadleuaefch gerddorol yn Aber- tawe ychydig ddyddiau yn ol. Cynygiwyd banner gini o wobr am gyfarisoddi ton ar eiriau arbennig, a dyfarnodd Mr. Tom Price gyfansoddiad neilltuol yn oreu. Erbyn n galw ffugenw'r cy&tadleuydd yn y cyfarfod cyhoeddus, deallwyd fod y gwr ieuanc, oedd awdwr y d6n, wedi cyfarfod a damwain angeuol ychydig ddyddiau ar ol danfon ei gyfansoddiad i mewn, Tymor praddaidd. Gan fod y Brenin wedi marw, bu raid gohirio nifer o gyngherddau pwysig yn ystod yr wythnos ddiweddaf. Yr oedd y cbwareudai, hefyd, wedi bwriadu cau eu drysau am dros wythuos o amser, ond gan i'r Brenin newydd ddeall y byddai hyn yn golygu colled enfawr i nifer o'r chwareuwyr, cyhoeddwyd rhybudd arbennig -ddechreu yr wythnos ddiweddaf am gadw y fath leoedd yn agored mor bell ag ydoedd yn bosibl. Ar ddiwrnod yr arigladd disgwylir tyrfa fawr i fod yn bresennol, ac -felly priodol fydd troi y cyfan yn ddiwrnod o wyl geaedlaethol. MaJame Teify Davies. Mae'n hyfrydwch gennyf fod yn alluog i gyflwyno i ddarllen- wyr y CELT y darlun diweddaraf o'r gantores boblogaidd hon. Y chydig ddyddiau yn ol dych- welodd hi a'i priod o wlad y gorllewin ar ol gyrfa hynod o lewyrekus yno. Cymaint, yn wir, fu'r galw am glywed Madame, Teify Davies fel na chafodd ond ychydig ddyddiau segur yn yr Unol Daleithau, ac mae wedi ymrwymo i fyned yn ol am dymor arall yn yr Hydref. Cyn iddi ddod yn ol rhoddodd hi a'i phriod recital arbennig yn New York, a deallaf i'r anturiaeth gael cefnogaeth galonnog gan ei hedmygwyr yno. Dywed y Drych am y cyngerdd, yr hwn a roddwyd y nos Sadwrn cyn iddi hi a'i phriod hwylio, iddo droi allan yn llwyddiant tu hwnt i bob disgwyliad. Mae'n wir fod nos Sadwrn yn noson braidd yn anffafriol i gynnal cyngerdd o'r iath, ac yn anffortunus hefyd yr oedd yn y ddinas nifer o swperau a chyfarfodydd cyhoeddus ereill yn -cael eu cynnal yr un noson, ond er pob an- fantais, fe fa i athrylith a chlod y Gymraes gerddorol enwog, ynghyd a'i phriod talentog, swyno ynghyd gynulleidfa fawr a pharchus "0 gerddorion a Chymry amlycaf y ddinas i wrando arnynt, a phrofiad pawb o'r presen- olion oedd, iddynt gael gwledd gerddorol na chawsant erioed ei gwell, ac nad anghofiant am amser maith." *Cancuon tair gwlad. Yr oedd Madame Davies yn ei hwyliau goreu, yn medru taro tant y lleddf a'r lion, fel y dewisai, ac yn synnu pawb trwy ei gallu i ganu mor soniarua ac mor rhwydd ganeuon mewn ieithoedd ereill ag y canai yr hen Gymraeg. Yr oedd y rhaglen yn un amrywiol a chyfoethog iawn, ac yn gynwys- edig o Operatic Airs, Folk Songs, Duets, ac amryw ganeuon newydd hollol o waith Prof. Meyrowitz ei hunan, y rhai a gawsant dder- byniad brwdfrydig iawn. Er fod yr holl gyngerdd yn cael ei gyunal gan Mrs. a Mr. Meyrowitz-Davies yn unig, yr oedd y cyfar- fod yn 11awn dyddordeb o'r dechreu i'r diwedd, y gymeradwyaeth yn fyddarol barhaus, a'r dorf wedi eu swyno gymaint gan felusder y wledd, ac elfeithiolrwydd y gerddoriaeth uchelryw, fel nad oedd modd eu digoni. Diau y bydd gall Gymry New York adgofion maith a melus iawn am y cyngerdd eithriadol hwn, a Ilawen iawn fyddant o gael ei gyffelyb yn faan eto. Dymunwn o galon bob llwyddiant i'r gan- tores athrylithgar hon a'i phriod talentog." Ei galwadau Llundeinig. Bwriada Madame Davies gyflawni nifer o ymrwymiadau yn Llundain a phrif drefi Lloegr cyn myned am dro i'r Cyfandir, a phreswylia ar hyn o bryd yn 10, Willow Road, Hampstead. Y mae hi a'i phriod yn edrych yn gampus ar ol eu taith bleserus. MADAME MEYROWITZ TEIFY THVIES. Dirywiad y GynvanTa Gina. In Bu'r Gymanfa Ganu yn sefydliad poblog- aidd yn ein plith, fel cenedl, ond mae lie i ofni ei bod yn cael ei hesgealuso yn fawr yn y blynyddoedd diweddaf hyn. Ond feallai mai bai y pwyllgorau Ileil yn bennaf ydyw hyn. Amcenir mewn rhai ardaloedd i wneud y Gymanfa yn rhywbeth tebyg i Wyl Gerddorol y Sais, gan anghofio fod gwahaniaeth dirfawr cydrhwng y naili a'r Hall. Cwynai Mr. David Jenkins, Mus Bac y dydd o'r blaen, fod gormod o awydd i osod anthemau anhawdd yn y rhaglenni yn byt- rach na chael cyfres o donau addas i ganiadaeth y cysegr. Gan mai llawforwyn i'r addoliad cyhoeddus ydyw'r Gymanfa, dylid cofio hynny bob amser pan yn dewis tonau gogyfer i'r wyl. Torri cyhoeddiad. Mae rhai o'n cantorion yn gorfod torri eu cyhoeddiadau weithiau oherwydd anhwyl- derau, a haeddant gydymdeimlad ond pan y mae cor yn torri ei gyhoeddiad saif pethau yn dra gwahanol. Cafwyd prawf o hyn yn Nghasnewydd y dydd o'r blaen pan y gwysi- wyd arweinydd Cor Meibion Treorci am dorri ei gyhoeddiad ynglyn a chyngerdd ym mis Hydref diweddaf. Mae'n debyg fod trefn- wyr y Grocers Exhibition yng Nghasnewydd wedi sicrhau y cor Brenhinol hwn i roddi cyngerdd ynglyn a'r arddangosfa. Gwnaed y cytundeb ar ran y cor gan Mr. Llewelyn Thomas, mab yr arweinydd, pan oedd y cor ar ei daith yn ol o Affrica. Pan ddeallodd y tad fod y mab wedi cytuno am bris rhy isel, ceisiodd ad-drefnu'r telerau, ond gwrthododd trefnwyr yr arddangosfa newid dim. Y canlyniad fu i Gor Treorci wrthod dod, a bu raid cael parti arall. Yn y llys hawlid iawn yu erbyn y cor, a llwyddwyd yn yr ymgais, canys gorfodwyd Mr. Thomas i dalu chwe gini a'r costau. Awdwr Hen Wlad fy Nhadau." i.. I • J J A Z _h; Mae mudiad ar droed i goai cofgolofn ar fedd leuan ab Iago, awdwr ein Hanthem Genedl- aetkol. Un o breswylwyr ardal Pontypridd oedd leuan ab lago, a theimlir gan lawer y dylid cadw ei goffa yn fyw ymhlith cerddorion yn ogystal a phob cenedlaetholwr Cymreig. Yr wythnos ddiweddaf ffurfiwyd pwyllgor i ymdrin a'r bwriad, a cheisiwyd gan Arglwydd Tre- degar i fod yn llywydd. Am- cenir casglu swm o ddwy fil o bunnoedd. Defnyddir rhan o'r arian tuag at godi cof-golofn ar ei fedd, a defnyddio y gweddill o'r swm i sefydlu ysgoloriaeth gerddorol ynglyn ag un o'n colegau cenedlaethol, a hyderir cael cefnogaeth unol i ddwyn y cynllun i ben. Coffa "Meirionfab" Ychydig amser yn ol soniais am y mudiad sydd yn Llundain i osod cof-golofn ar fedd y di- weddar Mr. David Jones, Com- mercial Road, yr hwn fu'n arweinydd y gan yng nghapel y Gohebydd," Barretts Grove, am flynyddau meithion. Yn rhagor na bod yn gefnogydd i ganiadaeth y cysegr yn ei eglwys ei hun, bu Meirionfab yn flaenllaw iawn ymhob mud- iad cerddorol ymhlith Cymry Llundain am ddeugain mlynedd o amser. Yr oedd yn flaenllaw iawn gyda'r Eisteddfod Genedl aethol yn 1887, a phenodwyd ef ar bwyllgor Eisteddfod 1909, ond cyn i'r wyl ddyfod ymlaen yr oedd ef wedi ei alw adref. Bu ef a'i gor yn enwog am flynyddau, ac enillasant lu o wobrau mewn gwahanol gystadleuon. Gan fod ei weddill- ion yn gorwedd yng nghladdfa Abney Park, teimlir yn gyffredinol mai y gwasanaeth lleiaf all Cymry'r ddinas wneud i un lafur- iodd mor egniol ydyw gosod beddfaen teilwng i nodi ei orweddfan. Mae pwyllgor wedi ei benodi eisoes, ac mae nifer o symiau wedi dyfod i law, a chan fod y gronfa ar gael ei chau, dymunir ar i bawb hoffent uno yn y gronfa i ddanfon eu tanysgrifiadau ar fyrder i'r ysgrifennydd, 'Mr. John Richards, 20, Redburn Street, Chelsea, S.W. Ceir y manylion eto ynglyn a'r golofn ac amser y dadorchuddiad.

[No title]