Welsh Newspapers
Search 15 million Welsh newspaper articles
3 articles on this Page
Advertising
Special Offer to 'Kelt' Readers, ÂÂ.AÃ.A.ÃÃ.Ã..A. CAMBRIA FOUNTAIN PEN FOR 3/6 EACH. GUARANTEED FOR TWO YEARS.- II"A. jlliil •■it.a m»j———— illllllilH! A PERFECT Writing Implement m at last within the reach of all. Jig ij|ij ■c^^r:.o P|H| Superior to any offered at I )i 111 Half a Guinea, and suitable to all writers. C» jfj i Large 14 Carat Gold Nib, in I BNM all points and degrees of flexi- II bility. um (o«§^D 1191 Best Vulcanite holder, twin feed and British make through- out. c) j4 Will prove a faithful com- panion for a lifetime with fair t i wear and use. (C::D Every pen carefully tested and S guaranteed for Two Years. T jf » IKflf Send a steel nib and style of l|H writing, and we will fix you up ?!& with a reliable pen-and not a toy. Money Returned if not satisfied. PRICE 3s. 6d. POST FREE. Send for one at once and save 7s. AGENTS WANTED EVERYWHERE. To be had only at "KELT" OFFICE, 302, GRAY'S INN RD., LONDON, W.C.
CYMRU a'r CYFNEWIDIAD.
CYMRU a'r CYFNEWIDIAD. Erbyn hyn, y mae'n arrilwg i bawb fod marwolaeth ein teyrn wedi achosi cyfnewid- iadau dirfawr yn y cynlluniau gwleidyddol; ac mae'n amserol i ni sylwi beth fydd dylanwad y cyfnewidiadau hyn ar ein symudiadau cenedlaethol, mcr bell ag a wnelont a'n cynrychiolwyr yn Westminster. Heddyw, mae'r pedair cenedl a wasanaethir gan yr aelodau yn Nhy'r Cyffredin yn eu galar, ac ni chlywir, ar bob llaw, ond teyrn- ged uchel o barch i enw a choffa y Brenin lorwerth. Yn ei fywyd, gwnaeth ef ei oreu i gymodi pob plaid, a gweithiai yn egniol dros hawliau a rhyddid pob dosbarth o'i bobl. Gwir ei fod yn gredwr cryf yn unol- iaeth y Senedd ond nid oedd heb gydnabod hawliau arbennig y cynrychiolwyr o'r Ynys Werdd a diau pe cawsai estyniad einioes, y buasai yn dyfeisio rhyw gynllun a foddlonai y Gwyddelod, yn ogystal a derbyn bendith y rhai a edrychant ar Ymreoiaeth fel heresi gwleidyddol, neu fudiad anheyrngar o'r fath waethaf. Yn ei farn ef, yr oedd teyrn garwcb pobl yr Ynys Werdd yn beth liawn mor anwyl a phwysig a theyrngarweh pendefigion yr ynys hon, ac ni fuasai yn anfoddlawn i ymddiried i bobl y wlad honno drefnu eu deddfau, pe gallesid gwneud hynny yn unol a gofynion y Senedd ym Mhrydain heb un anhawster. „ Ond heddyw mae son am Ymreolaeth yn amhosibl. Rhaid i'r Brenin newydd gael cyfle i brofi ei safle cyn y beiddia unrhyw seneddwr godi ei lais i ddadlu'r fath bwnc. Mae'n wir fod barn y wlad wedi addfedu llawer iawn er dyddiau Mr. Gladstone, ac fod mwyafrif trigolion y deyrnas hon yn barod i gymodi a'r Gwyddel, os gellir dyfeisio cyfundrefn a weithia yn hwylus cydrhwng y ddwy wlad. Ac os. daw cyfle i'r Brenin Sior weithredu ei ddoniau heddychol, diau y pleidia rhyw gyfundrefn a esyd derfyn ar yr ymladdfeydd gwleidyddol hyn cydrhwng Prydain a'r Iwerddon ar bob pwnc o ddeddfu a threfniant cyllidol a gynnygir o fewn Ty'r Senedd. Yn ei arddangoseg o'i alar am y Brenin lorwerth, y mae'r Gwyddel yn llawn mor ddwys a'r Sais, ac mae'r cynrychiolwyr yn Westminster wedi profi eu bod yn fedd- iannol ar deimladau mor dyner, ac mor wir hiraethlawn, a chynrychiolwyr unrhyw blaid neu genedl sydd yno. Ond ar hyn o bryd y mae cais y Gwyddel am ei hawliau yn hollol amhosibl! Yr unig bwnc y mae Cymru yn teimlo unrhyw ddyddordeb arbennig ynddo ydyw pwnc Datgysylltiad yr Eglwys, a rhaid cyd- nabod ar unwaith fod hwnnw mor farw a'r Frenhines Anne! Yn wir, os nad am byth, am dymor hirfaith iawn. Nid am fod un- rhyw gyfnewidiad barn ymhlith yr aelodau Rhyddfrydig, eithr am fod yn amhosibl dwyn y fath gynllun i weithrediad ar hyn a bryd. Gallesid yn hawdd ddanfon Mesur Cymreig drwy y Cyffredin, a hynny gyda mwyafrif sylweddol, ond peth arall hollol fyddai cael bendith yr Arglwyddi arno. Ac ofer, yn wir, fydd unrhyw ymgais ar y pwnc hyd nes symudir pob anhawster ynglyn a'r sefydliad urddasol hwn, a reolir mor gaeth gan Dduciaid ac Esgobion a chefnogwyr pybyr yr Eglwys Sefydledig. Yr oedd ym mwriad y Weinyddiaeth i osod rheolau arbennig mewn grym ynglyn a safle y Ty Uchaf; ond y mae hyn, hefyd, yn amhosibl ar hyn o bryd. Cyn y gellir ad-drefnu perthynas y naill Dy a'r Hall, rhaid wrth gynorthwy y Brenin, ac nis goddefai unrhyw blaid i'r Teyrn newydd gael ei boeni a. cheisiadau mor bwysig a hyn cyn ei fod yn wir wedi ei goroni a'i gydnabod yn gyffred- inol fel gwr yn meddu yr hawl a ofynir oddiar ei ddwylaw. Mae barn y wlad yn unol dros ohirio y trefniadau newyddion hyn. Yng ngwyneb y sefyllfa newydd hon, afraid ydyw i Gymru ddisgwyl am unrhyw welliant cyffredinol am y ddwy flynedd nesaf. Bydd yn amhosibl cwblhau y trefn- iadau ynglyn a choroniad Sior V cyn pen deuddeng mis, ac aiff haf y flwyddyn nesaf heibio cyn y bydd swn olaf y rialtwch Brenhinol hwn wedi cilio o'n clustiau. Hyd hynny disgwylir i'r Wein- yddiaeth bresennol aros mewn swydd a dylanwad, ac yna i apelio i'r wlad am adnew- yddiad einioes yn gynnar yn y flwyddyn wedyn. Golyga hyn mai yn nechreu 1912 y daw yr Etholiad Cyffredinol, ac yn naturiol bydd gwaith y flwyddyn honno yn cael ei gyfyngu yn hollol i drefnu rhaglen y blaid fydd mewn awdurdod. Y mae, felly, yn rhaid i Gymru druan aros yn dawel am ddydd ei rhyddid, yr hwn, drwy y trychineb anisgwyliadwy ddaeth i ran y teulu Bren- hinol yr wythnos ddiweddaf, sydd yn awr wedi ei ohirio am ysbaid hirfaith. Ond nid oes eisieu i ni ddigaloni na llaesu dwylaw. Rhaid bod yn ofalus i bar- hau i adgoffa ein cynrychiolwyr o'u dyled- swyddau, fel ag i sicrhau ein hawliau yn yr adeg briodol, canys ni ddylai Cymru fod yn ol i'r un wlad yn ei gofynion, fel pan ddel yr adeg i roddi clustymwran- dawiad i gais y werin, fod ein hen gais ni yn cael ei le haeddiannol yng nghynlluniau ein deddfwrfa pan yr ail ddechreua o ddifrif ar ddiwygiadau angenrheidiol ein teyrnas.
[No title]
Fel datganwr a chyfansoddwr yn unig y mae Mr. Trefor Evans yn adnabyddus hyd yn hyn, ond deallwn yn awr ei fod yn dyfod i sylw fel arweinydd cymanfaoedd canu. Efe sydd wedi ei benodi i arwain y Gymanfa nesaf yn ei ardal enedigol, yr hyn brawf ei fod yn cael parch ac anrhydedd gan "ei bobl ei hun."