Welsh Newspapers

Search 15 million Welsh newspaper articles

Hide Articles List

5 articles on this Page

CYFARFODYDD.

News
Cite
Share

CYFARFODYDD. CYFARFOD MISOL LLUNDAIN. Jewin Newydd, Ebrill 27ain, 1910. Llywydd, Parch. J. Thickens. 1. Dechreuwyd gan y Parch. F. Knoyle, B A. 2. Cadarnhawyd cofnodion y C.M. blaenorol. 3. Darllenwyd llythyrau yn cydnabod cydymdeimlad y C M. oddiwrih Mri. E. W. Jones, Holloway, a R. Humphreys, Willesden Green. 4. Cydnabyddwyd yn gynnes iawn bresenoldeb y Parch. J. J. Roberts (Iolo Caernarfon) yn y cyfarfod. Llawenhawyd oherwydd gweled y Parch. D. Davies, Walham Green, gyda ni eto ar ol ei hir gystudd, ac hefyd oherwydd penderfyniad y Parch. F. Knoyle, B.A., i barhau i wasanaethu y Cyfundeb o fewn cylch ein C.M. 5. Coffahwyd yn dyner ac yn hir- aethus am y Parch. J. Elias Hughes, M.A., yr hwn fu yn weinidog cymeradwy a llwyddiannus iawn ar Eglwys Wilton Square am ddwy flynedd ar bymtheg, ac a gadwodd ei aelodaeth yn yr eglwys honno ac yn y C.M. hyd ei fedd. Cafwyd sylwadau tra gwerth- fawr gan y Parchn. J. E. Davies, M.A., S. E. Prytherch, Mr William Evans, ac Iolo Caernarfon am alluoedd, cymeriad, a gwasanaeth eithriadol Mr. Hughes, a phasiwyd yn unfrydol, drwy i'r holl » frawdoliaeth godi ar eu traed, Ein bod yn cydym- deimlo yn ddwys a'r plant sydd yn awr wedi eu gadael heb dad na mam, ac a. brodyr a chwiorydd a pherthynasau ein hanwyl frawd yn eu hiraeth a'u trallod mawr Penderfynwyd hefyd osod yng ngof- nodion y C.M werthfawrogiad o garedigrwydd mawr Eglwys Wilton Square tuagat Mr. Hughes a'i deulu, yn arbennig yn ystod ei afiechyd maith a blin. Diolchwyd i'r Parch. R O. Williams am gynrychioli y C.M. yn yr angladd yn Llanelwy, ac i Mr. R. Thomas am ei sylwadau gwerthfawr wrth wneud cotia am Mr. Hughes yng Nghymdeithasfa y Wyddgrug. Hysbyswyd am waeledd diweddar Mrs W. Prydderch Williams, ond datganwyd llawenydd am ei hadieriad, a phenderfynwyd anfon annerch y C.M. yn serchog iawn at y teulu. Cydymdeimlwyd a Mr. H. T. Lewis, Falmouth Road, a'r Parch. W. W. Lewis, Abertawe, oherwydd marwolaeth eu mam, ac a Mr. T. R. Jones, Clapham Junction, yng ngwyneb marwolaeth ei frawd yntau 6. Agorwyd y gist i ddychwelyd gweithredoedd Eglwys Falmouth Road, Mr. G. W Jones yn gofalu am y cofnodion. Yn unol a rhybudd y Parch. D. Oliver, penodwyd Mr. E. Daniels yn ofalwr sefydlog y gist, i gadw y cofnodion angen- rheidiol, ac i wneud ymchwiliad i gynnwys y gist ar hyn o bryd. 7. Rhoddodd ein cynrychiolwyr i'r Cymdeithasfaoedd adroddiad dymunol o weithred- iadau y Cymdeithasfaoedd, Mr. T. Benjamin yn adrodd am Gymdeithasfa'r Pentre, a'r Parch. R. 0 Williams am Gymdeithasfa'r Wyddgrug. 8. Ystyr- iwyd a chymeradwywyd ceisiadau rheolaidd am fenthyg arian yn ddilog o Gronfa Fenthyciol y C.M. 9. Adroddiad Pwijllgor yr Achosion Veiv.,ydclion.-Hys- bysodd yr ysgrifennydd, Mr. G. W. Jones, ei fod wedi tretnu a'r Parch. S. E. Prytherch i bregethu i'r cyfeillion yn Watford nos Sul, Mai laf, ac i'r Parch. G. H. Havard i bregethu yno Mai 29ain. Hefyd fod eglwysi Shirland Road, Willesden Green, Mile End Road, a Hammersmith, wedi cydsynio a chais y Pwyllgor am gael gwasanaeth eu gweinidogion i Wat- ford un nos Sul yn y flwyddyn. 0 barth i Gymry Southampton, hysbyswyd fod yno anhawster i gynnal gwasanaeth Cymreig yn y lie oherwydd mai ychydig iawn yw nifer y Cymry sydd yno, ac mai anaml yr erys y morwyr yn y lie dros ragor nag un Sul. Pender- fynwyd fod grant o 250 yr un i'w roddi i eglwysi Stratford, Lewisham, Walthamstow, Wood Green, ac Ealing. Diolchwyd i Mri. W. Hughes ac R. Lloyd am archwilio cyfrifon yr eglwysi sydd yn derbyn grants o'r C.M Anogwyd yr holl eglwysi i orffen eu trefniadau gweinidogaethol gogyfer a chwe mis olaf o'r flwyddyn yn gyflawn ac mewn pryd, a'u cyhoeddi a'u hargrarfiu yn y Cylch." 10. Adroddiad y Pwyll- gor Ariannol (a) Cyflwynwyd nodyn am £50 o Eglwys Willesden Green i'w ddiddymu (b) Awdur- dodwyd y Llywydd, yr Ysgrifennydd, a Mr. G. W. Jones, Lewisham, i arwyddo nodyn newydd am E160 i eglwys Lewisham (c) hysbyswyd fod y pwyllgor wedi ystyried ystadegau ariannol eglwysi Stratford, Lewisham, Walthamstow, Wood Green, ac Ealing, ac yn cymeradwyo rhoddi y grants i'r eglwysi hyn a awgrymai gan is-bwyllgor yr Achosion Newyddion. il Adroddiad y Pwyllgor Diruestol: (a) Penodwyd y Parch. D. Tyler Davies yn llywydd y pwyllgor am y flwyddyn, a Mr. 1. T. Lloyd yn ysgrifennydd (b) anogir yr eglwysi hynny sydd eto heb sefydlu Cym- deithas Ddirwestol, i wneuthur hynny ar unwaith. 12. Adroddiad y Pwyllgor Adeiladu (a) Hysbyswyd fod y pwyllgor yn cymeradwyo cynllun capel newydd Willesden Green. Bwriedir iddo eistedd 400. Hyderir na fydd traul ei adeiladu uwchlaw 23,900, ac y gellir cael telerau boddhaol oddiwrth yr Ecclesi- astical Commissioners. Enwyd i lawnodi y gweith- redoedd gyda'r ymddiriedolwyr y Parch. J. Thickens, Mri. E. Hughes. W. Lewis, T. Williams, W. E. Evans, o Willesden Green, a'r Parch. D. Tyler Davies, Mri W. Price, Shirland Road, a Howel J. Williams, Charing Cross Road. 13. Hysbyswyd y orffennir y casgliad o fewn cylch y C.M at dysteb y Parch. T. J. Wheldon, B.A., ddiwedd mis Mai 14. Gohiriwyd penodi cynryohiolwyr i'r Gymanfa Gyfi- redinol hyd y C M. nesaf. 15. Diweddwyd gan Mr. f. J. Anthony, Shirland Road.

Am Gymry Llundain.

BYDD YN SIRIOL.

[No title]

NODIADAU LLENYDDOL.