Welsh Newspapers

Search 15 million Welsh newspaper articles

Hide Articles List

3 articles on this Page

PRYDAIN AI THEYRN.

News
Cite
Share

PRYDAIN AI THEYRN. Un brenin a a, arall a ddaw. Nid yw Ilaw angeu yn ymwrthod a'r mwyaf urdd- asol yn ein byd, ac nid oes na chyfoeth na gwychder a all osgoi neu ohirio ddydd. y cyfrif. Ddechreu yr wythnos ddiweddaf yr oedd pawb yn Lloegr yn ceisio darogan belli fyddai ymddygiad ein teyrn Iorwerth tuag at fwriadau Mr. Asquith a'i Weinyddiaeth. Cyn boreu Sadwrn wele'r holl gynlluniau wedi eu chwalu a'r Brenin Iorwerth yn gorwedd yn farw yn ei balas, wedi ei dorri i lawr yn 69 mlwydd oed gan ymosodiad aydyn o ddolur y galon ac enyniant yr ysgyfaint. Ni fu'n dioddef ond ychydig dros bedair awr ar hugain, a chan ei fod o gyfansoddiad mor iach ac mor hoyw ei gerddiad ag erioed, ni feddyliodd neb fod y fath dro i ddyfod ar hanes ein gwlad ar mor lleied o rybudd. Seneddwyr ar eu gwyliau. Pan dorrwyd y Senedd i fyny yr oedd y Brenin yn mwynhau iechyd rhagorol. Yr oedd wedi cael ychydig seibiant yn hinsawdd dyner gwlad Ffrainc, ac wedi cael adgyf- nerthiad i'w hoywder arferol yn ol pob ym- ddangosiad. Gan nad oedd yr un arwydd o wendid arno aeth ei brif Seneddwyr ar grwydr. Yr oedd y Prif Weinidog yn yr Yspaen. Llefarydd y Ty yng ngwlad y Twre, a phrif swyddogion y Weinyddiaeth agos oil wedi gwasgar i bJb cyfeiriad. Ar C5 y fyr rybudd cawsant eu galw adref, ac mae'r Senedd wedi ail-gyfarfod er ym Jrin a mater- ion perthynol i'r sefyllfa newydd a grewyd gyda'r fath sydynrwydd. Sior y Pumed. Mae'r Tywysog Sior wedi esgyn i'r "Orsedd, a'r holiad heddyw ydyw, Pa fath Frenin a fydd ? I raddau helaeth iawn efe a ddilyna gamrau ei dad, ond dylid cofio fod -cryn wahaniaeth yn syniadau ac arferion y mab a'r tad. Gwr tawel yn cam unigedd yw Sior, heb fawr o'i fryd ar rialtwch a rhodres maes y rhedegfeydd ceffylau, ac heb fod yn ffafriol iawn i rai o reolwyr presennol llysoedd uchaf mewn cymdeithas. Diau y ceir llawer o gyfnewidiadau graddol, ac y gwelir to newydd o amgylch yr Orsedd am y gweddill o'n dyddiau. Yr oedd y tad yn toff iawn o ymweled a'r Cyfandir, ond prin y mae'r mab yn ffafriol i syniadau tramorol. Y byd Seisnig yw ei fyd ef, a syniadau Seisnig sydd yn ei reoli yn hollol, ac hwyrach y golyga hyn lawer mwy o graffder a phwyll ar ran ein Seneddwyr sut i ymdrin a phob anghydwelediad a gwledydd o'r tuallan yn y tymorau sydd i ddod. Y Cyfnewidiad Gwleidyddol. Nis gallai tro mwy anffodus ddigwydd yn hanes Prydain na marwolaeth Iorwerth yn y cyfwng presennol. Yr oedd rhai pobl wedi gobeithio y gwelid ef yn penderfynu safle y ddau Dy'r Senedd, ac yn cymodi'r pleidiau yn y frwydr agoshaol. Efe oedd yr unig berson, yn ol barn y cyhoedd, a allasai gadw chwyldroad draw; ac mae'r cyfnewidiad ,sydyn presennol wedi gyrru llawer i ofni'r gwaethaf am gyflwr llwyddiannus ein gwlad. Pwy bynnag sydd i fod wrth y llyw, rhaid iddo fod yn wr cadarn a gwrol, canys y mae troion dyrus ymlaen a'r unig obaith yw, fod 4Stor yn ddigon craff i gael ei arwain, fel y bydd y werin bobl yn alluog i osod eu hym- ddiriedaeth yn hollol yn ei ddwylaw yn yr adeg gyfyng hon. A geir Etholiad ? Yn lIe cael etholiad ym mis Gorffennaf, fel y disgwylid, y mae'r rhagolygon wedi newid. A fydd i'r Rhyddfrydwyr ohirio'r frwydr rhyngddynt a Thy'r Arglwyddi? Y mae rhai pobl yn credu hynny, ond y mae'n amlvvg na chtir mo gefnogieth y Blaid Wyddelig i unrhyw ohiriad ar hyn o bryd. Feallai y cytunir i gynllun newydd, ac y dylauwaaa Sior ar y Ty Uchaf i gydym- ffurfio a barn y Cyffredin, gan nad oes yr un cyallun newydd yn y Mesur a osodir ger broa. Ond beth bynnag a wneir ynglyn a'r Arglwyddi y mae'n amlwg y bydd raid cael y Gyllideb am 1910 drwy y ddau Dy ar fyrder. Mae bwriadau y Weinyddiaeth ynglyn a hon eisoes wedi eu trefnu, a gwyr pawb am Mr. Lloyd George na fydd iddo ymwrthod ag unrhyw egwyddor er boddio unrhyw blaid neu adran. Y farn gyffredin ydyw y gedy'r Toriaid i'r Rhyddfrydwyr gael eu ffordd yn hollol am flwyddyn ar y dealltwriaeth nad ymyrrir a dim un pwnc dadleuol na'r un cwestiwn chwyldroadol nes bo'r coroni wedi ei orffen a'r Brenin newydd wedi cael profiad digonol i ddwyn ei wahanol gynlluniau i weithrediad. Blwyddyn o baratoi Am y deuddeng mis nesaf, felly, caiff y gwahanol bleidiau ddigon o amser i wneud eu trefniadau gogyfer a'r etholiad nesaf. Ac nid etholiad ar bwnc Ty'r Arglwyddi fydd honno cofier, canys bydd yr etholwyr wedi hen anghofio ystranciau y Duciaid erbyn hynny. Bydd dwy Gyllideb arall wedi eu pasio ar 01 Oyllideb 1909, ac ni fydd yn bosibl i'r Rhyddfrydwyr godi eu cri yn erbyn y Ty Uchaf. Yn wir mae'r rhagolygon yn elra ffafriol i'r Arglwyddi os llwyddir i gadw pwnc y Feto o'r naill du am y tymor presen- nol. Gan y credir yn gyffredin fod y Brenin newydd yn dra ffafriol i'r syniad Diffyndollol y mae'n eglur mai hwnnw fydd cri y Toriaid eto yn. adeg yr ap61 nesaf at yr etholwyr felly rhaid i'r Rhyddfrydwyr fod ar eu gwylia iwriaeth, a gofalu nas gadewir yr un cyfle i fyned heibio i addysgu y werin yn eu dyledswyddau yn yr ornest nesaf. Y Gladdedigaeth Yn Windsor, ym meddrod y teulu, y gosodir gweddillion Iorwerth i orwedd, a chymer y gwasanaeth pruddaidd le ddydd Gwener nesaf. Yn ystod yr wythnos rhoddir cyfle i'r deiliaid dalu eu gwarogaeth i goffa eu teyrn diweddar, canys gosodir yr arch mewn man cyhoeddus yn neuadd West- minster, lie y gall pawb fyned i gael cipdrem arni. 0 Westminster cludir y gweddillion i Windsor, a daw mawrion pob gwlad i'r cynhebrwng i ddangos eu teimladau da tuag atom fel gwlad, a'u hiraeth am wr oedd mor hoff ganddynt ymysg llywyddion y ddaear.

[No title]

NODIADAU LLENYDDOL.