Welsh Newspapers
Search 15 million Welsh newspaper articles
2 articles on this Page
Advertising
zfhtxjXJ G:R,:E].A.:M:, GOOD KTBEPIHG, Y T —. MILK, A FREE FROM PRESERVATIVES. ERbV IDELilVEHIES — TWICE TO bb P 7* RTS. FREETH & POCOCK, Ltd., Head Dep6t: ALBERT EMBANKMENT, S.E. Tel. No.: Hop 1249. West Central Dep6t: WAKEFIELD ST., JUDD ST., W.C. Tel. No.: Holborn 1676. PHONE: 14153 CENTRAL. EDWARDS & DAVIES, TAILORS, T A-, 1, 121, NEWGATE STREET, E.C. Gold Medallists & Winners of the White Rose Trophy, 1905, 1906, 1908 & 1909. ~~— I Lounge Suits, in blue serge, worsted, &c., from 49/6 Morning Coat and Vest, in black and grey cheviots, from 42/6 Cashmere Trousers- from 12/6 Spring Overcoats from 44/6 Norfolk Jacket and Knickers from 45/- Personal attention given to every Customer.
- MARW IORWERTH Y SEITHFED.
MARW IORWERTH Y SEITHFED. Mae'r Brenin wedi marw." Dyna'r newydd trist ledaenwyd, er syndod a galar i bawb, ddiwedd yr wythnos ddiweddaf. Yn hwyr nos lau deallodd y Llundeinwyr fod eu teyrn yn dioddef dan anwyd trwm. Foreu Gwener cyhoeddwyd led-led y byd newyddiadurol ei fod yn beryglus wael, eto ni freuddwydiodd neb ei fod mor agos i'w ddiwedd. Cyn hanner nos wele'r newydd galarus yn dweyd ei fod wedi huno gyda'i dadau, a syfrdanwyd yr holl fyd gan sydyn- rwydd y digwyddiad. Ni fu teyrn ar orsedd erioed a berchid yn fwy na Iorwerth. Nid yn unig ei bobl ei hun oedd ei edmygwyr, eibhr cydnabyddid drwy holl wledydd cred ei fod yn un o'r dynion callaf a mwyaf galluog fel gwlad- lywydd o unrhyw deyrn yn yr oesau diwedd- araf hyn. Cododd ei ymherodraeth eang i fri digymar drwy ei gariad at ryddid a'i sel dros iawnder. Casheai bob mudiad a du- eddai i greu anghydfod, a phan fyddai un- rhyw gamddealltwriaeth rhwng y wlad hon a gwledydd mawr y Cyfandir, efe oedd y cyntaf i geisio am heddychu'r pleidiau a chlirio pob angbydwelediad. Ac mae ei golled yn anfesuradwy i Iwyddiant yr Ymherodraeth, yr hon a lywyddodd mor ragorol. Naw mlynedd y teyrnasodd fel Brenin, ond gellir dweyd iddo gymeryd rhan flaen- llaw yn nhrefniadau Ilywedraethol y wlad hon er yn foreu iawn, canys efe oedd cyn- rychiolydd ei fam weddw-y Frenhines Victoria-ym mhrif droion yr Ymherodraeth am flwyddi lawer tra yn gwasanaethu fel Tywysog Cymru, fel pan ddaeth yr amser iddo esgyn i'r orsedd yr oedd wedi cael profiad helaeth yn holl waith y Deyrnas a'i bwriadau. Ganwyd ef yn 1841, a chan mai efe oedd etifedd yr orsedd, gofalwyd am yr addysg oreu iddo; ac nid rhyw addysg unochrog gafodd ychwaith, canys cafodd brofiad hel- aeth ymhob adran, a bu'n teithio drosgyfan- diroedd er mwyn ymgydnabyddu a hanes ac arferion gwledydd ereill. Wedi ei ddyfod i oedran gwr, daeth yn ffefryn gan bawb, a chan y cymerai gymaint dyddordeb mewn rialtwch a chwareuon ei wlad, daeth i gyff- yrddiad agos a. phob dosbarth o bobl. Drwy hyn cafodd brofiad o fywyd yn ei holl agweddau, a diau i hyn ddylanwadu yn ddirfawr ar ei ysbryd rhyddfrydig a chyd- ymdeimladol. Cymerodd ran flaenllaw mewn amryw fudiadau Cymreig, ac efe oedd y Canghellor cyntaf ar ein Prifysgol. Bu ar ymweliad a Chymru ar amryw achlysuron, a siaradai yn uchel am ein gwlad a'n pobl yn wastadol. Hedd fo i'w.lwch, a bred i'w olynwr ddilyn ei gamrau heddychol a llwyddiannus.