Skip to main content
Hide Articles List

2 articles on this Page

YR EGWYDDOR NEWYDD.

News
Cite
Share

YR EGWYDDOR NEWYDD. Un o'r adnodau anhawddaf ei deall yn y Testament Newydd ydyw honno a draetha mai i'r hwn y mae ganddo y rhoddir iddo, &c." ond y mae un dosbarth o ddynion ar hyd yr oesau wedi ceisio ei hesponio yn llythrennol, fel math o gyfiawnhad i'r modd y maent ar bob achlysur yn crafangu am gyfoeth y byd hwn. Yr egwyddor hon, neu yr eglurhad fydol roddir i'r adnod, sydd wedi bod yn sylfaen i'n bywyd gwleidyddol, a'n cynlluniau deddfol, am genedlaethau lawer yn y deyrnas hon. Cyfiawnhau a chadarnhau safle y cyfoethog a'r tir-drach- wantwr fu prif waith y Senedd am y tair canrif ddiweddaf; ond y mae arwyddion bellach fod y byd am ymwrthod a'r hen ddysg, ac yn awyddus i weithredu ar linellau mwy ymarferol a chyfiawn. Pan benodwyd Mr. Lloyd George i ofalu am fuddiannau y deyrnas hon, cyhoeddodd yn gynnar yn ei yrfa mai ei fryd pennaf fyddai gosod beichiau trethol y wlad yn gyfartal ar y bobl yn ol eu gallu i'w dal. Byddai raid i'r cyfoethog dalu yn ol ei gyfoeth, a'r tlawd gael ei esgusodi yn unol a'i anallu i gynnal y baich. Hyn yw'r egwyddor sydd ynglyn a'r Gyllideb ddi- weddaf, a dyna yn ddiau y rheswm paham y mae'r cyfoethog a'r tirfeddiannwr mor ddig wrth y Canghellor Cymreig; ond y mae'n eglur mai yr egwyddor hon fydd sylfaen pob cynllun ariannol rhagllaw. Rhaid i bob gwr, bellach, gyfrannu yn ol maint ei gyfoeth, a thalu rhan o gostau y wlad yn oly buddiannau sydd yn ei feddiant. A'r syndod yw, fod y werin bobl wedi dioddef mor hir, ac wedi cyanal y rhan drymaf o'r beichiau heb rwgnach ac heb ymladd eu hawliau cyn yn awr Wedi i'r egwyddor bresennol gael prawf priodol gan y wlad, ac i'r bobl weled pa mor hawdd fydd cynnal y beichiau cynyddol osodir arnynt y naill flwyddyn ar ol y Hall, ni chlywir mwyach y cri am osod tollau ar fwydydd a chysuron angenrheidiol ereill. Y mae dydd y toll ar angenrheidiau wedi myned heibio, a'r gred fod yn rhaid i ni ddioddef y tlawd fyth yn ein mysg ya dechreu troi yn heresi; a daw gwawr well ar Brydain, ond iddi lynnu wrth y cynlluniau ymarferol sydd yn awr yn sylfaen i'n treth- oedd. Anhawdd yw credu mewn gwelliantau pan y golyga hynny ragor o gost, a diau mai dyna oedd wrth wraidd yr holl wrthwynebiad ar ran y duciaid a'r Tafarnwyr a'r cyfoeth- ogion i awgrymiadau Mr. Lloyd George. Ond y proffwyd o'r mynyddoedd sydd wedi troi yn orchfygwr, a sicr y bydd i'r egwyddor newydd y mae wedi ddwyn i'n trefniant gwladol droi yn un o'r bendithion pennaf a brofodd y deyrnas hon erioedd.

Advertising