Welsh Newspapers
Search 15 million Welsh newspaper articles
4 articles on this Page
[No title]
M.A.,D.D., rheithor Nutfield, a chafodd wrandawiad astud gan y gynulleidfa fawr oedd wedi dyfod ynghyd. Ddydd Sul a nos Lun ddiweddaf parhaodd y gyfres cyfarfodydd, a chafwyd odfeuon 11awn ar bob amgylchiad. Y pregethwyr oeddent Parch. D. Jones (Abererch) yn Gymraeg, a'r Parch. Dan Bryant, D.C.L., yn Saesneg.
Am Gymry Llundain.
Am Gymry Llundain. CYFARFODYDD MAL-Mae amryw ddoniau dieithr ar ymweliad a Llundain y dyddiau hyn, a cheir gwasanaeth rhai o honynt yn ein pulpudau yn ystod y ddau Saboth nesaf. LLAWENYDD Y BEDYDDWYR, Iihoddodd dewisiad Dr. Edwards, Caerdydd, fel cadeir- ydd Undeb y Bedyddwyr Seisnig foddbad arbennig i'w gyfeiliion yn Llundain. Er yn hen o ran nifer ei flynyddoedd, y mae y Dr. yn parhau yn ieuanc ei ysbryd, ac yn cymeryd rhan flaenllaw yn holl fudiadau dawnus ei genedl. ANRHYDEDDU SYR SAM.—" Syr Sam y myn y werin barhau i alw Prif Farnwr Llys yr Ysgariadau, ac nid yw yntau wedi ym- chwyddo dim ar ei benodiad. Pe bae ambell i gyfreithiwr wedi esgyn i'r fath fri, anhawdd fuasai cael het ddigon fawr i gynnwys ei ben chwyddedig. Ond chwareu teg i Syr S. T. am lynnu wrth ei symlder Cymreig. UNDEB Y GWEINIDOGION.- Yng nghyfarfod diweddaf yr Undeb hwn trefnwyd ar raglen y tymor dyfodol (1910 11) fel a ganlyn Hydref 10, 1910, Tyfiant Dynol," Mr. R. Jones-Mason. Tachwedd 14, Pragmataeth," Mr. D.Tyler Davies. Rhagfyr 13, Ffyn- Donau Diwinyddiaeth Paul," Mr G. H. Havard, M.A., B.D.. Ionawr 9, 1911, Myn- achaeth," Mr. W. Rees. Ghwefror 13, Socialaeth a'r Eglwys," Mr. J. E Davies, M.A. Mawrth 13, Eneideg ac Anfarwoldeb," Mr. H. Elfet Lewis, M.A. Ebrill 10, Neges Oucken," Mr. T. F. Jones. Mai 15, "Iach- had drwy Ffydd," Mr. D. Davies. Dyna ddigon 0 waith efrydu am flwyddyn beth bynnag. Da gennym fod yr Undeb yn fyw i ddadleuon a chwestiynau y dydd. Hwn yw un o'r mudiadau pwysicaf ymysg ein cenedl yn y ddinas. Cyrhaedda ei ddylanwad ymhell, a hynny heb yn wybod i neb. Hyfryd yw gweled gweinidogion pob enwad yn unQ ynghyd er dyrchaliad cymdeithas mewn gwybodaeth ac ysbrydolrwydd. CYNGERDD Y COR.-Nos Fawrth nesaf y cynhelir y cyngerdd mawr hwn yn y Queen's Hall, a hyderwn y rhoddir iddo bob calondid a chefnogaeth. Ar hyn o bryd mae gan Mr. Merlin Morgan ddefnyddiau gwych yn ei gôr, a sicr y gwnant enw da iddynt eu hunain ar yr amgylchiad presennol. Ond cael ein prif gorau i astudio rhai o'r can- tawdau clasurol yma, dylent Iwyddo i symud ymaith yr anfri a osodir arnom fel pobl, nad ydym yn genedl gerddgar. Da gennym ddeall fod y rhagolygon yn bur addawol am gynulliad llawn. "MR. WILLIAM GEORGE.—Cafodd brawd y Canghellor gynulliad llawn yng nghapel y Parch. Sylvester Home prydnawn Sul di- weddaf, a rhoddwyd derbyniad calonnog iddo. Er nad yw William mor hyawdl a ffraeth a'ifrawd enwog, y mae yn siaradwr rhwydd ac yn feistr ar ymadroddion effei thiol. Gwr y ffeithiau celyd yw ef wedi bod erioed, a gwyr ei bwnc yn dda pan yn ymdrin arno o flaen y cyhcedd. EGLWYS ST. MAIR, CAMBERWELL.-Cynhelir gwasanaethau arbennig ynglyn a'r Eglwys uchod ddydd Sul, Mai 8fed. Edrycher yr hysbysiad. MARWOLAETH.—Bydd yn ddrwg gan liaws cyfeillion y Parch. Daniel Jones, M.A. (diweddar curad Weston ger yr Amwythig), glywed am ei farwolaeth, yr hyn a gymerodd le, yn dra disymwth, o brain fever," Ebrill 19eg, 1910, yn 34 mlwydd oed. Yr oedd Mr. Jones yn frodor o Bontrhydfendigaid, Sir Aberteifi, ac yn adnabyddus iawn i luoedd o Gymry Llundain. Claddwyd ef ym Mynwent Ystrad Fflur, ddydd Llun, Ebrill 25ain, yngwydd Iluoedd o'i gyfeillion a'i gydnabod. Heddwch i'w lwch.
TY'R GLEBER.
TY'R GLEBER. [GAN AELOD Y MAESDREFI] Mae'r wlad yn myned i ddinystr. Dyna farn Mr. Balfour, ac mae'r wasg Seisnig yn y mwyafrif yn cadarnhau ei alarnad Jeremi- aidd. Yn ei araith ddydd Mawrth dywed- odd y cyn-brif weinidog mai unig amcan y blaid bresennol mewn awdurdod oedd din- ystrio y Cyfansoddiad PrydeiDig," ac mae'r Cyfansoddiad Prydeinig yn rhyw gyswynair rhyfedd yng ngolwg yr wrthblaid bresennol. Y mae'r honiad yn wir i raddau, canys amcan pennaf y Rhyddfrydwyr yw dinystrio y llyfetheiriau sydd wedi eu gosod gan y mawrion ar werin y deyrnas hon. Mynnant ddinystrio hawliau anheg Ty'r Arglwyddi; gallu trahaus yr yswain gwledig honiadau anghristionogol yr Eglwys Wladol, yn ogystal a nifer o feichiau anghyfiawn ereill, ac nid syndod fod y cyfcethogion yn dechreu crynnu ac ofni. Yr wythnos hon mae'r Weinyddiaeth wedi danfon y Gyllideb i Dy'r Arglwyddi unwaith yn rhagor, a'r tro hwn caiff y Mesur fynediad rhwydd trwy y He cysegredig hwnnw. Nid am fod unrhyw gyfnewidiad wedi cymeryd lie yn ei wahanol adrannau, eithr am fod y wlad yn ei hawlio. Ac wrth basio y Mesur hwn mae cri yr Arglwyddi am eu safle fel pobl i unioni pob camwri yn cilio i'r gwynt am byth. Ond nid yw'r Uchelwyr hyn yn barod i ganiatau pob cais a wneir gan y bobl gyff redin. Profwyd hyn yn eglur yn y ddadl nos Fawrth ar gynllun newydd Y sgol Howell, Dinbych. Fel mae'n hysbys, mae ym mwriad yr awdurdodau yno i osod yr ysgol dan reolaeth y Cyngor Sir, ar yr un tir a'r Ysgolion Canolraddol Cymreig. Ond gan fod perygl i'r naws Eglwysig gael ei golli o'r ysgol, y mae Esgob Llanelwy yn milwrio yn erbyn y syniad. Ni fu ef nai frodyr Arglwyddol yn ddigon gonest i addef mai y bwgan enwadol" oedd wrth wraidd y cyfan, eithr ceisiasant daflu anfri ar safon addysg yr Ysgolion Sirol. Awgryment y byddai gosod Ysgol Howell ar yr un safon a'r ysgolion ereill yn iselhau yr hen sefyd- liad, ond gwyr pawb sy'n gwybod y ffeithiau ynglyn ag Ysgol Howell nad yw ei disgyblion yn rhagori dim ar y rhai a droir allan o ysgolion cyffredin y Sir. Ategwyd yr Esgob gan Arglwydd Lans- downe, yr hwn a fanteisiodd ar yr amgylch- iad i bardduo cymeriad yr adran Gymreig o'r Bwrdd Addysg. I'r bobl fawr hyn y mae'n rhywbeth rhyfygus i'r blaid Rydd- frydol fentro ar unrhyw welliant; ac mae'r cyfnewidiad ynglyn a'r Bwrdd Addysg, oherwydd ei fod yn fath lwyddiant, yn ddolur tost i'w llygaid, a rhaid ei ddifrio ar bob amgylchiad. Canlyniad y drafodaeth yn y Ty Uchaf oedd gwrthod y trefniant newydd, a rhaid i Ysgol Howell fyned ym mlaen fel o'r blaen. Yn Nhy y Cyffredin bu'r aelodau yn dra bywiog yn dadlu dros y Gyllideb, a chafodd Mr. Lloyd George fwyafrif sylweddol ar bob ymraniad. Ar ol yr holl siarad hyn dylai'r Gyllideb hon gael lie arbennig ar Ddeddf- lyfr y wlad, a diau y caiff hefyd, canys bydd rhai o'i bwriadau yn parhau mewn grym am flynyddau lawer. Bu'r aelodau Cymreig yn cael ymgom gyda rhai o arweinwyr Ymneilltuol y genedl ddydd Mawrth. Mae mudiad ar droed i ad- drefnu y gadgyrch dros Ddatgysylltiad, a gwnaeth y ddirprwyaeth fu'n annerch yr Aelodau eu cais yn hynod deg a chlir. Yn ol pob argoelion caiff y pwnc hwn Hylw unol y blaid yn y tymor nesaf, a diau y gwelir y Mesur Cymreig cyn hir wedyn ar ei ffordd i Dy'r Arglwyddi. Mae yn hen bryd i ni gael Hanes Cymru wedi ei sylfaenu ar ffeithiau swyddogol sydd yng nghadw yn y Record Office. Gan fod amryw filoedd o hen ysgrifau a llu o faterion yn cynnwys ffeithiau am droion gwleidyddol ein gwlad yn yr oesoedd boreu heb erioed weled goleu dydd, myn Mr. W. Llewelyn Williams gael rhyw amcangyfrif o'u nifer a'u cyflwr presennol. Mae ef wedi bod yn gofyn am restr gyflawn o'r trysorau hyn, ond myn yr awdurdodau osod y mater o'r neilltu dan yr esgus y byddai'r gost yn fawr i roddi'r holl ffaith fel y myn Mr. Williams. Er hynny, nid gwr i fod yn dawel yw'r aelod dros Gaerfyrddin, a diau y ceir cyn hir gipdrem gywir ar y miloedd ffeithiau hyn, a. fyddent o les dirfawr i'r sawl sydd i roddi i ni yn yr oes a ddel wir hanes y genedl a'i chysylltiad a Lloegr yn y blynyddoedd blinderus gynt.
Advertising
CAMBRIAN ATHLETIC ASSOCIATION (WELSH TABERNACLE, KING'S CROSS.) 'J-J-J'J,rr'_f,<J N teaTconcert 1) On THURSDAY EVENING, May 12th in the LSCTURE HALL, Welsh Tabernacle, King's Cross. Chairman = TIM EVANS, Esq. Artistes- Miss NANCE JE*K(NS Mr. JACK EDWARDS Miss MAGGTE DAVIES ;vlr, Wiu, BEVAN Miss JESSIE LEWIS vir. IEUAN KELIX Mr. LUTHER EVANS Mr. S AM.KY DAVIES Violin » = AR. PHILIP LEWIS. "CAiroBioa' ELFEn- Conductor — Mr. Stanley Davies. Accompanist Mr. D. RICHARDS. Tea from 6.30 to 7.45. Concert at 8 o'clock. Admission Sixpence. LLYFRAU NEWYDD. YR EPISTOL AT Y PHILIPPIAID, Esponiad newydd y Parch. J. CYNDDYLAN JONES, D.D. I'w cael gan Mr. J. Jones, 6, Oakley Crescent, City Road. Telerau i Ysgoiion a gyaierant ddwsin ac uchod, 2/6 yr un. COFIANT Dr. REES, BRONANT, Yn awr yn barod. I'w gael yn y cyfeiriad uchod. Bydd yn hyfrydwch gan y Golygydd dderbyn Gohebiaethau ac erthyglau i'w hystyried, ond nis gellir ymrwymo i ddychwelyd ysgiifaa wrthodedig.