Welsh Newspapers
Search 15 million Welsh newspaper articles
4 articles on this Page
Advertising
1 JTTT TT » STDn^I^JLjiIESl^ B A I I I m In any part of London and Suburbs with M ) U RICH, GOOD KEEPING MILK III llll DIRECT FROM THE FARMS. ■ t J t t Over 50,000 Samples tested annually in our Laboratories. WHOLESALE ONLY. DAIRY SUPPLY CD., LTD., Chief Office: MUSEUM ST., LONDON, W.C.
UNDEB Y CYMDEITHASAU DIWYLLIADOL.
UNDEB Y CYMDEITHASAU DIWYLLIADOL. Y CYFARFOD PEN-TYMOR. Mae un flynedd ar hugain wedi myned heibio er y sefydlwyd Undeb y Cymdeithas- au Diwylliadol yniysg Cymry Llundain, ac mae'r yrfa lwyddiannus y mae wedi ei chael ar hyd yr amser, a'r gefnogaeth barod a roddir iddi gan ein hieunctyd llengar yn ddigon i gyfiawnhau ei bodolaeth. Amcan pennaf yr Undeb ydyw uno y gwahanol Gymdeithasau llenyddol sydd ynglyn a'r gwahanol sefydliadau Cymreig yn y ddinas, a chan fod y rhain yn rhifo 23 ar hyn o bryd, gwelir fod gan yr Undeb fan- tais i wneud llawer o ddaioni ynglyn a meithrin yr ysbryd Cymreig, a rhoddir cyfeiriad priodol i'r materion yr ymdrinir arnynt yn y Cymdeithasau hyn. 0 bryd i bryd y mae rhai o oreugwyr y genedl yn Llundain wedi llywyddu gweith- rediadau yr Undeb, ac eleni cafwyd gwasan- aeth profiadol Syr E. Vincent Evans i gyfarwyddo ei gwahanol fudiadau, a phrofodd y tymor yn un hynod o ddyddorol. Yn ol adroddiad yr ysgrifennydd ar derfyn y tymor gwnaed ymgais i noddi'r wybodaeth ynglyn a Chaneuon Gwerin Cymru yn ystod y tymor trwy gynnal cyngerdd hollol Gym- reig, ac hefyd rhoddwyd darlith arbennig gan Mr. Gwynne Jones—cadeirfardd Eistedd- fod Llundain-ar rai o awdwyr y Cywydd yn llenyddiaeth yr hen oesoedd. Rhagor na hyn cafwyd nifer o gynulliadau buddiol yn y gwahanol Gymdeithasau, a'r oil a'u tuedd i gyffroi y meddwl Cymreig, ac i wneud y Cymro ieuanc i deimlo yn falch ei fod yn perthyn i genedl mor ragorol. Llywyddwyd y cyfarfod pen-tymor gan Syr E, Vincent Evans, a rhagor na llywyddu y cynulliad, rhoddodd groesaw cynnes i'r rhai ddaethant ynghyd trwy gyflwyno gwledd o de a danteithion iddynt ar y cych- wyn. I'w gefnogi yn y cyfarfod daeth amryw o arweinwyr y bobl ieuainc, megys y Parchn. J. C. Davies, H. Elfet Lewis, D. Tyler Davies, a John Humphreys, ac fel siaradwyr cafwyd presenoldeb Lady Herbert Roberts, Mr Ellis W. Davies, A.S., a Mr. Aneurin Williams, A.S. Cafwyd araith swynol iawn gan Lady Roberts yn dangos rhagoriaethau cenedl y Oymry a'r fantais o fwynhau dwy lenydd- iaeth. Anogai bawb i ymgydnabyddu a goreuon y cynyrchion hyn a rhagor, apeliai ar i'r bobl ieuainc feithrin y cariad priodol tuag at y celfau cain, yr hyn oedd wedi ei esgeuluso mor hir gennym fel pobl. Pwysleisio y pwysigrwyd o gael Diwylliant ynglyn a'n Haddysg wnaeth Mr. Ellis W. Davies. Nid i fod yn feirniad crebachlyd ond i addysgu'r ffordd sut i ddyfod yn Gymry llawn yn yr ystyr oreu. Nid yw addysg bob amser yn brawf o Ddiwylliant, meddai, canys yr oedd rhaio'r bobl mwyaf diwylliedig y gwyddai ef am danynt yn rhai na cbawsant ond ychydig o fanteision addysgol. Yn y pymdeithasau llenyddol hyn y mae dyn leuanc yn cael cyfle i feddwl a dysgu fod dwy ophr i bob cwestiwn, ac wrth gymeryd golwg eangfrydig ar wahanol bynciau yr oeddem i gael y dadblygiad priodol o'r gallu meddyliol. Araith ragorol ydoedd hon, yn llawn o synwyr cyffredin. Fel y mae'n hysbys, gorwyr i Iolo Mor- ganwg yw Mr. Aneurin Williams, yr A.S. newydd, ac mae'r gorwyr hwn yn meddu cryn lawer o gariad ei hen daid tuag at lenyddiaeth a mudiadau Gwlad y Bryniau. Cafwyd araith fer ganddo yn llawn cydym- deimlad a gwaith y Cymdeithasau Llenyddol yn ein plith. Ar derfyn y gyfres ragorol o anerchiadau, diolchwyd yn gynnes i'r siaradwyr gan Mri. John Hinds a T. J. Evans, ac yna i'r Marchog Cymreig am lywyddu mor ddeheuig gan Mri. D. R. Hughes ac A. E. Rowlands. Yn ystod y cyfarfod cafwyd caneuon penigamp gan Miss Annie Thomas, Miss Maggie Pierce, Mr. W. H. Jones a Mr. Stanley Davies, i'r rhai y cyfeiliwyd gau Mr. W. Rees, organydd Jewin.
[No title]
Nid yw Sosialwyr Canolbarth Morganwg yn foddlawn ar gurfa Mr. Hartshorn yn yr ethol iad ddiweddaf, ac awgrymant y priodol- deb o'i ddwyn allan eto i ymladd yn erbyn Mr. Gibbins ar adeg yr etholiad nesaf. Mae cynrychiolydd o Swyddfa'r Rhyfel yn bwriadu talu ymweliad a Ffair Llanbedr Ceredigion ar yr 8fed o Fai er gweled a fydd yno rai ceffylau ar werth fyddant yn addas at wasanaeth milwrol. I goffhau Diwygiad '59," y mae mudiad ar droed i osod cofadail ar fedd David Morgan, Ysbytty Ystwyth. Ychydig amser yn ol cyhoeddwyd hanes David Morgan a'r Diwygiad gan ei fab, y Parch. J. J. Morgan, Wyddgrug. Mae Mr. Ellis J. Griffith, A.S., wedi ei ddewis yn aelod o'r Athenasum Club. Y Parch. J. Myfenydd Morgan ddisgwylir i bregethu yng ngwyl flynyddol yr Eglwys Gymreig yn yr East End. Un o hoelion wyth y pulpud Eglwysig yw Myfenydd, a gwr sydd yn werth ei glywed yn traddodi y genadwri.
Advertising
T. R. THOMAS & CO., Dairy Transfer Agents Experts and Valuers 143, STRAND, W.C. TELEPHONE 2078 GERRARD. MILK: N.E.-Genuine concern 105 gls. dy. 4d.; 3 pram rounds extensive premises low rent; 14 good cows; owner retiring £ 1500 MILK: Lee-Old estd. Same hands 30 years. 33 gls. dy. 4d.; good inventory nice shrp 7 rooms, yard, stabling, side gatts, &c. Rent £ 45. £375. MILK: Putney, nr.—66 gls. dy. 4d. on 3 rounds; goods £ 16 wk.; milk bought 1/3; nice shop, large house, yard, side gates, Ac rent £ 50 £ 850 MILK: St. Peter's Park-Select concern. 42 gls. dy. 4d.; 930 wk. in butter, eggs, cream, &c.; 2 prams: convenient premised 2650 MILK: West—22 gls. 4d.; shop 236 -wk. £ 320 MILK Bow—17 gls. dy.; shop JEZO wk.; r. Y,35 2150 MILK Walworth—Indoors. Takings 235 wk. 2150 MILK Paddington-14 gls. 4d shop 210 wk. 2160 MILK' Harrow—30 gls. 4d.; pretty shop F,220 MILK: Chelsea. Indoors. Takings £30 wk. E100 MILK: Kilburn—19 giS. 4d.; shop 213 wk. 2270 MILK: Catford-2t, Lis. 411.; pram £ 210 MILK: S.W.-34, gls. 4d.; shop 217; 1 pram £ 375 MILK: North WEst-good position; 6:J. gls, 4d.; butter, eggs, &c.; pram rounds pretty shop £t!50 MILK: Near in-60 gls. dy. 4d.; 2 prams; counter saies 945 wk.; 11 cows low rent P,750 MILK: South East-Profitable concern 60 gls. dy. 4d., little 3d.; 2 prams low rent 2650 YN Y WASG, AC YN BAROD YN FUAN, 50 o DONAU CYNULLEIDFAOL ar Emynau Adnabyddus a Chynefin GAN T. VINCENT DAVIES. PRIS: Hen Nodiant, 2s.; Sol-ffa, Is. 6d. Telerau Neilltuol i danysgrifwyr 0 6 copi ac uchod. Esiamplau o 12 o'r Tonau (Hen nodiant yn unig heb y geirian) i'w cael ar dderbyniad dau stamp Id. gan yr Awdwr, 31, LUCERNE ROAD, HIGHBURY, N. (1). I have perused with interest your Dfuildeg o Donau Cynulleidfaol," and am glad to find they are in reality strong congregational tunes, and not of the effeminate part song type. HARRY EVANS, F.R.C.O. (2). Your tunes are very well written. The airs are melodious and natural, and the harmonies musicianly and effective. D. EMLYN EVANS. (3). All these tunes before me are broad and stately, as hymn tunes should be. Not the stateliness of the old school, which was also lold. Yuu have succeeded in giving life to every fibre. J. T. REES, Mus.Bac. (4). I am sure they ou;ht to be attractive and useful, as they shew sound workmanship and a com- mendable avoidance of the crude harmonies too prevalent in many of our hymn tunes. DAVID THOMAS, M.A., Mus.Doc. (5). Two things struck me when looking through your book (i) th* originality of the melody (ii) the masterly flow of the harmony. I also notice that the tunes are quite solid in style. CARADOG ROBERTS, Mus.Bac., F.R.C.O. (6). I find that they are tuneful and artistic, and will prove useful to congregations who wish to have effective hymn tunes, without a single intricate passage. J. H. ROBERTS, Mus.Bac. (7). Yr wyf yn cael yn eu plith donau rhagorol, yn enwtdig 41 St. Deiniol," "Llanbedr," "Dewi Sant," Hirwaen," a "Diangfa." Y mae cynganeddion yr olaf mewn manau yn neillduol o rymus a chyfoethog. JOHN PRICE, Rhymn-y. (8). I am much interested in your book, a; d must congratulate you upon a series of tunes as meritorious in musicianship as they are devo- tional in character. T. WESTLAKE MORGAN. (9). I have examined the tunes carefully, and (an heartily recommend them, as they ar ail singable and devotional, several of them having much of the Welsh feeling and I feel sure the 91 hwyl" will manifest itself when they are sung. PETER EDWARDS (Pedr Alaw), Mus.Bac. "bW_ PRELIMINARY ANNOUNCEMENT. BECHSTEIN HALL. Davies. Tfoeai Tieeital Thursday, June 16, 8.15.