Welsh Newspapers

Search 15 million Welsh newspaper articles

Hide Articles List

5 articles on this Page

Am Gymry Llundain.

News
Cite
Share

Am Gymry Llundain. EGLWYS ST. PADARN.—Cynhelir y gwas- anaethau arbennig ynglyn ag agoriad yr Eglwys hon yn ystod y Sul yfory. Gweler yr hysbysiad. RADNOR STREET. — Mae eglwys Radnor Street, Sloane Square, wedi llwyddo i sicrhau dau o ddoniau mwyaf poblogaidd yr enwad Anibynol i wasanaethu yno yn y cyfarfodydd arbennig ar y Sul cyntaf o Fai. I HAMMERSMITH.—Deallwn fod y Parch. F. Knoyle wedi penderfynnu aros yn Hammer- smith, a glynnu wrth yr achos Cymreig yn hytrach na myned at y Saeson, fel yr hys- byswyd yn flaenorol. DATTERSEA RisE.-Cynhaliw yd cyfarfod terfynnol y Gymdeithas Lenyddol nos Fercher, 13eg cyfisol, pryd y daeth cynulliad lliosog i fwynhau y rhaglen ddyddorol oedd wedi ei threfnu. Yn yr adran gerddorol gwasanaethwyd gan Miss Morfudd Rees, Miss Daulcie Bell, Miss May Thomas (Ham- mersmith), Mr. Evans (Eos Ceredigion), Mr. Tom Hughes, a Mr. J. Jones, gyda Mr. J. Islwvn Lewis wrth y berdoneg. Ar yr ail a'r canu cafwyd rhai cystadleuon difyr, ac hefyd manteisiwyd ar y cyfarfod i gyflwyno bathodyn aur i Mrs. Jenkin Davies, Amner Road, yr hwn a eniHodd am werthu tocynau ynglyn a'r Eisteddfod ychydig amser yn ol Rhoddwyd danteithion i'r dorf gan Mr. a Mrs. Davies, Trinity Road, i'r rhai y diolch- wyd yn gynnes am eu caredigrwydd. Llywydd y gweithrediadau am y noson oedd y boneddwr adnabyddus Mr. J. Myrddin Lewis, Garrett Lane. DIRWEST.—Cafodd Cymdeithas Ddirwestol y Chwiorydd Charing Cross Road wledd nodedig yn eu cyfarfod terfynnol nos lau ddiweddaf. Cadeiriwyd gan Mrs Mary Davies, a chafwyd araith ddylanwadol iawn ganddi. Dilynwyd hi gan Lady Herbert Roberts, yr hon a siaradodd mewn dull swynol ac effeithiol dros ben. Cafwyd hanes y gwaith yn Llundain gan Mrs. Wynne Roberts, ysgrifennyddes Undeb Merched Cymreig Llundain. Hefyd, cafwyd datganiad melus a meistrolgar o rai o ganeuon gwerin Cymry gan Miss Megan Evans-" Y Gwcw Fach a'r Hufen Melyn." Talwyd diolch gwresog i'r Cadeir- ydd gan Mrs. Herbert Lewis. CYNGERDD MR. VINCENT DAVIES.-Nos lau ddiweddaf cynhaliwyd cyngerdd blynyddol Mr. T. Vincent Davies yn y Queen's Hall, Langham Place, a chafwyd cynulliad da, rhaglen ddyddorol, a datganiadau tra effeith- iol. Cymerwyd rhan gan Mdme Edith Hands, Miss Florence Jenkins, Miss Margaret Pierce, Mr. Gwilym Wigley, Mr. Tim Evans, Mr. Thomas Howell, Mr. Theo. L. Davies )violin), Mr. Hector Adkins (flute), a Mr. T. Vincent Davies (piano) Cynhwysai y rhaglen chwech o ddarnau lleisiol ac offer- ynol gan Mr. Davies, pa rai a dderbyniwyd gyda chymeradwyaeth a brwdfrydedd. Yn y rhifyn nesaf rhoddir nodiadau ein goheb- ydd cerddorol ar y gwahanol unawdwyr. UNDEB GWEINIDOGION CYMREIG LLUNDAIN. —Cynhaliodd yr Undeb uchod ei gyfarfod misol brydnawn Llun, Ebrill 18, yn Shirland Road, W., dan lywyddiaeth y Parch. Herbert ,Morgan, B.A., Castle Street. Dechreuwyd y cyfarfod gan y Parch. W. Rees, Kensington. Pasiwyd penderfyniad o gydymdeimlad a phlant a pherthynasau y diweddar Barch. John Elias Hughes, M.A., Wilton Square gynt, yr hwn a fu farw yn Ruthin brydnawn Saboth, Ebrill 17. Efe oedd un o gymer- iadau gloywaf y ddaear.—Pasiwyd pender- fyniad o gydlawenhau a'r Parch, a Mrs. J. E. Davies, Jewin Newydd, ar briodas eu merch. Mae Mr. Davies yn un o brif ddynion cenedl y Cymry. Darllenodd y Parch. John Humphreys, City Road, bapur ar Ysbryd- oliaeth yn yr Ysgrythyrau ac yn llenyddiaeth yr oesau." Papur wedi ei feddwl yn glir a grymus, ac wedi ei ysgrifennu mewn brawddegau caboledig a iaith lefn glasurol. Cynnyrch cyffyrddiad Ysbryd Duw ag ysbrydoedd dynion sanctaidd a da yw yr Ysgrythyrau. Duw yn llefaru drwy ym- wybyddiaeth a phrofiad dynion puraf daear roddodd i ni lenyddiaeth sydd gynnorthwyol i ddyn Duw i gyflawni holl ofynion Duw arno. Cafwyd ymddiddan gwerthfawr ar y mater gan bawb oeddynt yn bresennol.— Rhoddodd y Parch. T. F. Jones a Mrs Jones, Mrs. W. Price a Miss Price, Cambridge Gardens, Mrs. Lewis a Miss Davies, Harrow Road, dderbyniad caredig i'r Undeb i Shir- land Road, a diolchwyd yn wresog iddynt am eu croesaw calonog. BORO'Dydd Gwener, Ebrill 22, hwyl- iodd y chwaer ieuanc, Miss Mary Ann Jones, aelod ffyddlon yn eglwys y Boro', i Canada. Bwriada wneud ei chartref yn y Drefedig- aeth honno. Genedigol yw o Llanarth, Sir Aberteifi. Talodd ymweliad a'i chartref, Frondirion, yn ddiweddar er ffarwelio a'i rhieni. Mae yn eneth ieuanc ragorol. Ym- adawodd o Lerpwl am Montreal brydnawn ddoe ar fwidd yr s.s. Pricess of Britain. Aeth nifer i'w gweled yn cychwyn o Euston. Boed llwydd mawr iddi yn ei byd newydd. HAMMERSMITH.—Brydnawn Iau yr wyth- nos ddiweddaf, yn yr addoldy uchod, unwyd mewn cwlwm priodasol Mr. R. Lloyd Morgan (ail fab Mr. a Mrs. E. D. Morgan), Bramley Road, North Kensington, a Miss Annie Thomas, merch hynaf y diweddar Mr. David Thomas a Mrs. Thomas, St Albans Terrace, Bedford Park. Gwasanaethwyd ar yr acblysur gan y Parchn. F. Knoyle, B.A., a W. Rees, South Kensington. Rhoddwyd y briodferch ymaith gan ei mam, ac yn gweini arni oedd Misses Katie a Florrie Thomas (chwiorydd), Misses Hilda a Dilys Evans (cyfneitherod), a Miss Oassie Morgan (chwaer y priodfab)—Mr. W. James Morgan, yntau yn gofalu am ei frawd. Wed i'r gwasanaeth croesawyd nifer mawr o berthynasau a chyf- eillion yn y Broadway Hall, Hammersmith,, ac ymadawodd y ddeuddyn dedwydd i dreulio eu mis mel yn Brighton, a phawb yn dymuno yn dda iddynt.

[No title]

Y DYFODOL.

[No title]

NODIADAU LLENYDDOL.