Welsh Newspapers
Search 15 million Welsh newspaper articles
3 articles on this Page
Advertising
PHONE: 14153 CENTRAL. V EDWARDS & DAVIES, TAILOBS, I 121, NEWGATE STREET, E.C. Gold Medallists & Winners of the White Rose Trophy, 1905, 1906, 1908 & 1909. Lounge Suits, in blue serge, worsted, &c., from 49/6 Morning Coat and Vest, in black and grey cheviots, from 42/6 ro Cashmere Trousers from I 2/6 Spring Overcoats from 44/6 Norfolk Jacket and Knickers from 45/- Personal attention given to every Customer. THE CENTRAL INSURANCE COMPANY, LIMITED. Guaranteed by the Liverpool, and London & Globe Insurance Co. Assets exceed £ 11,000,000. Fire, Burglary, Workmen's Compensation, Accidents, Third Party Indemnity, Plate Glass, Loss of Profits, &c., &c. Write for Prospectus: Head Office-1, CORNHILL, LONDON, E.C. HUGH LEWIS, Manager and Secretary.
TRECH GWLAD NAG ARGLWYDD."
TRECH GWLAD NAG ARGLWYDD." Ar ol cryn lawer o betruso mae'r arwein- wyr Rhyddfrydol wedi dechreu o ddifrif ar y frwydr fawr dros hawliau y werin ac mae'r wlad yn llawenhau wrth glywed swn buddugoliaeth yn yr ornest. Yr wythnos ddiweddaf penderfynodd Ty'r Cyffredin na chaniateir i'r Arglwyddi, o hyn allan, ymyrryd o gwbl a materion ariannol y wlad, a'r wythnos hon wele'r Gyllideb wrthodedig yn cael ei gwthio drwy y ddau Dy gydag ychydig gyfnewidiad ond heb ddadlu dim ar ei mgn adrannau. Dyma'r unig gynliun roddai foddlonrwydd i'r cyhoedd. Yn ystod 1909 treuliwyd chwe mis o amser i ddadlu ei gwahanol rannau, a bu'r cyfan dan ystyr- iaeth yr etholwyr ar adeg yr etholiad ddi- weddaf a chan i'r wlad roddi ei bendith ar awgrymiadau Mr. Lloyd George ni fyddai ond gwastraff ar amser i ail-ymladd y frwydr drosodd. Gwaith y Weinyddiaeth heddyw yw gwthio y cyfan drwy y ddau Dy ar fyrder, canys dyna oedd dedfryd y cyhoedd pan wnaed yr apel atynt ar ddechreu y flwyddyn hon. Mae'n wir fod pob math o esgusodion wedi eu dyfeisio gan yr Wrthblaid i'r amcan o ddyrysu bwriadau y Rhyddfrydwyr, ond mae'r rhagolygon heddyw yn ein cadarnhau yn y syniad fod yr holl gynllwynion wedi myned yn ofer. Anhawdd dychmygu y gallasai unrhyw ddosbarth o bobl iselhau eu hunain fel ag a wneir gan yr Wrthblaid yn awr, canys nid oes yr un trie gwleid- yddol nac unrhyw haeriadau anwireddus heb eu ddefnyddio i'r amcan o droi y Rhydd- frydwyr allan, neu beri anghydfod cyd- rhwng y pleidiau. Mae'r holl wasg Doriaidd wedi gwneud ei heithaf i bardduo cymeriad yr arweinwyr, ac mae pob symudiad ar ran Mr. Lloyd George wedi ei gamesbonio i'r cyhoedd. Nid yw prif bapur y deyrnas, y Times, heb syrthio i droion bawaidd, a bu raid iddo wneud ymddiheurad i Mr. Asquith ddechreu yr wythnos hon am gyhoeddi nifer o anwireddau am dano. A dyma'r blaid sy'n honni pob rhinwedd daionus a phob gronyn o foneddigeirwydd! Nid syndod fod y wlad wedi cael hen ddigon ar gynllwynion o'r fath! Mor bell ag y mae a fynno Ty'r Cyffredin a'r Gyllideb, mae'r cyfan wedi ei bender- fynnu. Caiff yr holl fesur ei ail gyflwyno i Dy'r Arglwyddi yr wythnos hon, ac ni feiddia'r trawsion hyn ei wrthod yr ail waith. Diau y rhoddir y flaenoriaeth i'r Mesur ar bob mesur arall mor fuan ag y cyflwynir ef i'r Ty Uchaf, a hawdd casglu y bydd ar ddeddflyfr y wlad cyn adeggwyJiau y Sulgwyn. Ni feddyliodd yr Arglwyddi mai i hyn y deuai eu gweithredoedd pan yn ymddwyn mor ffroenuchel tuag at y Gyllideb yn mis Tachwedd diweddaf. Rhagor na llwyddo i ddyrysu safle ariannol y wlad am chwe mis y maent wedi cychwyn cadgyrch wleidyddol nas gwelir ei gorffen hyd nes y bydd Ty'r Arglwyddi wedi ei ysgybuo yn llwyr o'r tir. Ar ol ymdrin a'r Gyllideb daw cynllun cwtogiad awdurdod yr Arglwyddi ger bron, a'r farn gyffredin yw, mai cytuno i gynllun y Weinyddiaeth a wneir. Os mai ymddwyn yn ystyfnig wna'r Duciaid eto, yna rhaid fydd cael etholiad arall; ac yn yr etholiad honno penderfynnir unwaith am ganrif beth fydd tynged y Ty Uchaf. Nid yw'r wlad mor ffol a chaniatau i gael ei rheoli gan bersonau mor anghyfrifol ag sydd yn y Ty hwn, ac os daw chwyldroad, yna, ar ben yr Arglwyddi eu hunain y daw'r canlyniadau. Ond un peth sydd sicr, nid y werin sydd i gael ei threchu yn yr ornest. Mae'r hen ddywediad Trech gwlad nac Arglwydd mor sier o gael ei wireddu heddyw ag y gwireddwyd ef ymhob gornest dros ryddid ac iawnder yn yr oesau gynt.
[No title]
Ar ol y Sulgwyn daw Mr. Lloyd George a'i Gyllideb newydd am 1910 ger bron Ty'r Cyffredin. Gan fod y galwadau ariannol mor fawr eleni disgwylir y bydd ychwanegiad dirfawr ar rai trethoedd. Disgwylir etholiad hynod fywiog yn rhan- barth Crewe yr wythnos nesaf. Mae Mr. McLaren i ymladd brwydr y Rhyddfrydwyr, a Mr. Welsford eto i bleidioachos y Toriaid. Cymer yr etholiad le ddydd Gwener. Mae Mr. William O'Brien wedi colli ymddiriedaeth ei gefnogwyr ar ol ei yrai- ddygiad bawaidd tuag at Mr. Lloyd George. 0 hyn allan bydd yn fath o Ishmael gan bob aelod o'r blaid Ryddfrydig. Mr. William George, o Griccieth, sydd wedi ei benodi gan y Blaid Gymreig i roddi tystiolaeth ar ran Oymru o flaen y Ddir- prwyaeth ynglyn a phenodiad Ustusiaid. Bydd gan Mr. George lawer i'w ddweyd ynglyn a'r Ustusiaid Ceidwadol geir ar hyd a lied Cymru.