Skip to main content
Hide Articles List

4 articles on this Page

MARWOLAETH Y PARCH. J. ELIAS…

News
Cite
Share

MARWOLAETH Y PARCH. J. ELIAS HUGHES, M.A. Ddechreu yr wythnos hon bu farw y gwr da uchod, ar ol dioddef cystudd maith a phoenus am flynyddau lawer. I fwyafrif o'r to presennol yn Llundain, enw dieithr yw'r enw John Elias Hughes, eto efe oedd un o'n prif oleuadau pulpudaidd ugain mlynedd yn ol yn y ddinas hon. Fel gweinidog ar Eglwys Wilton Square y daeth yn adnabyddus, ac yma y llafunodd o Fehefin 1883, hyd Mehefin 1900, pryd y gorfodwyd ef gan afiechyd i ymneilltuo i dawelwch ardal Llanelwy i geisio adnew- yddiad iechyd. Ond myned o ddrwg i waeth wnaeth ei anhwyldeb-y parlys-a boreu'r Sul diweddaf daeth y rhyddhad y bu ei -enaid yn dyheu mor hir am dano. Yn ystod tymor maith ei weinidogaeth yn Llundain cyfrifid Mr. Hughes yn un o wyr blaenaf y pulpud, ac yn foneddwr o'i wadn i'w goryn. Roffid ef gan ei bobl ei hun a chan bawb y deuai i gyffyrddiad a hwy, fel mai chwith oedd ganddynt glywed am ei ymadawiad yn 1900, pryd y rhodd wyd iddo dysteb anrhydeddus fel cydnabyddiaeth fechan o'r parch cyffredinol a deimlid tuag ato. Brodor o Bryneglwys yn lal, swydd Ddin- bych, ydoedd, a ganwyd ef yn amaethdy y Pentre-isaf, Tachwedd 5ed, 1849. Ei dad oedd y Parch. David Hughes, Plas Adda, Meirion, a bu ef farw yng Nghorwen, tua 19 mlynedd yn ol. Enw ei fam oedd Lydia, yr hon oedd ferch i'r enwog Ann Roberts, Pentre, Bryneglwys, yr hon a fu yn offeryn i ddechreu yr achos Methodistaidd yn y plwyf hwnnw. Ceir hanes y wraig rinweddol hon a'r achos Methodistaidd ym Mryneglwys yn Hanes Methodistiaeth Cymru." John Elias oedd y pedwerydd o unarddeg o blant, a rhoddodd ei fryd ar y dechreu i fod yn siopwr, ond nid oedd awyrgylch oeraidd a difater y byd masnachol yn dyg- ymod a'i anian grefyddol ef, a phenderfynodd baratoi ei hun at waith y pulpud. Aeth i ysgol yng Nghaer, ac oddiyno i Goleg y Bala, dan y diweddar Lewis Edwards, ac yna i Brifysgol Edinburgh, lie y graddiodd yn M.A. yn 1880. Dechreuodd ar ei waith bugeiliol trwy gymeryd gofal o'r eglwys Fethodistaidd yn Llanelwy yn 1880. Ym mhen tair blynedd wedyn cafodd alwad daer ac un- frydol oddiwrth Eglwys Wilton Square, yr hon a dderbyniodd yn galonnog. Tra yn Llanelwy ymbriododd a Miss Jennie Jones, merch Mr. Jones, Glandwr, Llanelwy, ac i'r lie hwn yr ymneilltuodd o Llundain yn 1900, ac y preswyliodd weddill ei ddyddiau. Y mae tri o'i frodyr wedi ymfudo i San Francisco, lie y maent yn fasnachwyr cyf- rifol, ac mae brawd arall iddo, William Gladstone, yn parhau yn un o ffyddloniaid yr Eglwys yn Wilton Square. Brawd arall iddo ydyw'r Dr. Job Medwyn Hughes, Ruthin, lie yr oedd John Elias wedi myned ers ychydig ddyddiau i newid awyr. Yng nghartref ei frawd y bu farw, a dydd Mercher diweddaf aed a'i weddillion i fynwent Llanelwy, lie y daearwyd hwynt yng nghanol arwyddion o alar, a chydymdeim- lad tyrfa at y weddw a'i plant sydd yn aros. Er fod Mr. Hughes yn rheng flaenaf y pregethwyr, nid oedd wedi ysgrifennu ond ychydig o erthyglau yn ystod ei oes. Pre- getbai yn felus a chynhwysfawr heb fod yn faith na chwmpasog. Un o apostolion y bregeth fer ydoedd efe, gwr a allasai ddweyd mwy mewn hanner awr nag ami i bregethwr awr pan fo'r hwyl hiraf arno. Yr oedd 01 astudiaeth ar yr oil o'i gyfansoddiadau, ond yr anffawd yw nad oes ond braslun o honynt wedi eu hysgrifennu ganddo. 0 dan bwys y gwaith yn Llundain tor- rodd ei iechyd i lawr, ond ymladdodd yn wrol am flynyddau gan hercian i'r addoldy megys gwr o dan boenau dirfawr. Methodd pob dyfais ag atal ei anhwyldeb, ac er mor brudd yw colli cyfeillion pan megys yng nghanol eu defnyddioldeb, mae'n anhawdd peidio edrych ar yr ochr oleu a llawenhau ei fod bellach yn rhydd ac yn ei elf en ymhlitli plant y goleuni a theulu yr iechyd hir barhaol. Yn ei angladd yn Llanelwy prydnawn ddydd Mercher, cynrychioliwyd C.M Llun- dain gan y Parch R. 0. Williams, Holloway, a Mr. Richard Thomas, Charing Cross, ac Eglwys Wilton Square gan Mr. William Evans, blaenor hynaf yr Eglwys. Treulir y Sul nesaf (yfory), yn Sul coffhad am dano yn Wilton Square. Pregethir yn y boreu gan y gweinidog presennol, y Parch. G. H. Havard, B. D., ac yn yr hwyr gan ei hen gyfaill mynwesol, a chydweithiwr ar hyd y blyn- yddoedd y bu Mr. Hughes yn Llundain, y Parch. J. E. Davies, M.A., Jewin.

Gohebiaethau.

YN Y WASG, AC YN BAIOD YN…

Advertising