Welsh Newspapers

Search 15 million Welsh newspaper articles

Hide Articles List

4 articles on this Page

Gohebiaethau.

News
Cite
Share

Gohebiaethau. DILYN CAMRAU El THAD." Cywiro Camgymeriad. MR. GOL.-A welwch chwi yn dda ganiatau ychydig o'ch gofod i mi i gywiro y camhysbysiad a ymddangosodd yn y LONDON WELSHMAN, Ebrill 9fed,. tudal. 6, lie y dywedir fy mod i yn dilyn camrau fy nhad, trwy ddechreu pregethil," a fy mod "wedi gwasanaethu droion yn rhai o'r eglwysi Cymreig yn Lerpwl." Nid oes gair o wirisnedd yn hyn. Ni bum erioed yn pregethu yn un man; ac y mae gennyf lawer gormod o barch i syniadau fy nhad ar y mater hwn, ac yn enwedig i ddysgeidiaeth amlwg y Testament Newydd ar y mater i feddwl am bregethu. Tra yr wyf yn credu y gall merched fod yn ddef- nyddiol iawn mewn llawer o gylchoedd gyda chrefydd, yr wyf hefyd yn credu fod y Testament Newydd yn gwahardd yn bendant iddynt bregethu, a hynny nid am ryw resymuau perthynol i amgylchiadau pethau yng ngwlad Groeg yn yr oes apostolaidd, ond am resymau sydd yn parhau byth mewn grym, ac yr un mor gymhwysiadol at eglwysi pob oes a gwlad ag oeddynt at eglwysi gwlad Groeg yn yr oes apostol- aidd. Gweler 1 Tim. ii. 12-14. Os y Testament Newydd sydd i fod yn rheol i bersonau ac eglwysi, byddai yn ddyddorol cael gwybod paham y mae eglwysi yn peidio dewis merched yn ddiaconesau, o'r hyn y mae gennym esiampl yn y Testament Newydd (Rhuf. xvi. 1, 2), ac ar yr un pryd yn codi merched i bregethu, yng ngwyneb gwaharddiadau pendant y Testament Newydd.—Yr eiddoch, ELIZA EVANS. [Y mae'n flin gennym i ni wneud camgymeriad a Miss Evans. Deallwn oddiwrth ein gohebydd, yr hwn roddodd y nodiad i ni, mai ar sail adroddiad a glywodd o Lerpwl y gwnaeth y ylw —GOL.]

[No title]

Advertising

Am Gymry Llundain.