Welsh Newspapers
Search 15 million Welsh newspaper articles
4 articles on this Page
Advertising
THE "STANDARD" MILK CAN. The 6an with a Reputation. Special Off er- Half Pints, 6/6 doz. Pints, 7/- Quarts 13/ L.0 -1 sizes in pi-oportion. The Old-fashioned Hand-made Milk Can that will last. Prompt Deliveries on the Shortest Notice. Write for Catalogue DAIRY OUTFIT CO., LTD., KING'S CROSS, LONDON. ALDRIDGE9S HORSE REPOSITORY. Should you require to purchase a HORSE for business on THE MILK ROUND or for pleasure attend Messrs. ALDRIDGE'S Sales on Wednesdays and Saturdays at 10.30 a.m., UPPER ST. MARTIN'S LANE, LONDON, W.C. Horses of every class old by Auction each Wednesday an Saturday. On view Mondays and Thursdays. Catalogues forwarded YN Y WASG, AC YN BAEOD YN IUAN, 50 o DONAU CYNULLEIDFAOL ar Emynau Adnabyddus a Chynefin GAN T. VINCENT DAVIES. PRIS: Hen Nodiant, 2s.; Sol-ffa, Is. 6d. Telerau Neilltuol i danysgrifwyr o 6 copi ac uchod. Esiamplau o 12 o'r Tonau (Hen nodiant yn unig heb y geiriau) i'w cael ar dderbyniad dau stamp Id. gan yr Awdwr, 31, LUCERNE ROAD, HIGHBURY, N.
[No title]
(1). I have perused with interest your "Deuddèg C) Donau Cynulleidfaol," and am glad to find they are in reality strong congrgational tunes, and not of the effeminate part song type. HARRY EVANS, F.R.C.O. (2). Your tunes are very well written. The airs are melodious and natural, and the harmonies, musicianly and effective. D. EMLYN EVANS. (3). All these tunes before me are broad and stately, as hymn tunes should be. Not the stateliness of the old school, which was also oold. You have succeeded in giving life to every fibre. J. T. REES, Mus.Bac. (4). I am sure they ought to be attractive and useful,. as they shew sound workmanship and a com- mendable avoidance of the crude harmonies too- prevalent in many of our hymn tunes. DAVID THOMAS, M.A., Mus.Doc. (5). Two things struck me when looking through your book (i) th* originality of the melody (ii) the masterly flow of the harmony. I also notice that the tunes are quite solid in style. CARADOG ROBERTS, Mus.Bac., F.R.C.O. (6). I find that they are tuneful and artistic, and will prove useful to congregations who wish to have effective hymn tunes, without a single intricate passage. J. H. ROBERTS, Mus.Bac. (7). Yr wyf yn cael yn eu plith donau rhagorol, yn enwedig "St. Deiniol," "Llanbedr," "Dewi Sant," "Hirwaen," a "Diangfa." Y mae cynganeddion yr olaf mewn manau yn neillduol o rymus a chyfoethog. JOHN PRICE, Rhymney. (8). I am much interested in your book, and must congratulate you upon a series of tunes as, meritorious in musicianship as they are devo- tional in character. T. WESTLAKE MORGAN.. (9). I have examined the tunes carefully, and can heartily recommend them, as they are all singable and devotional, several of them having much of the Welsh feeling; and I feel sure the hwyl" will manifest itself when they are sung. PETER EDWARDS (Pedr Alaw), Mus.Bac.
Advertising
Y DYFODOL. Boed i Ysgrifenyddion y gwahanol Gymdeithasau an/on ar fyrder restr o'u cyfarfodydd arbennig, i'w gosod yn y Golofn hon. flgg" Gosodir y Cyfarfodydd, etc., a hysbysebir yn y CELT, yn rhad yng ngholofn Y Dyfodol," ond codir tal o ls. yr un am y rhai na hysbysebir. Ebrill. 10-11—Eglwys St. Benet. Gwasanaeth blynyddol. Pregethwr, Parch. D. Fisher, B.A., Dewi Sant, Caerdydd. 14—Queen's Hall. Mr. T. Vincent Davies's Concert Wilton Square. Darlith gan y Parch. John Williams, Brynsiencyn. 20-St James' Hall. Cyngerdd Eglwys Castle Street, 21-St. Padarn, Holloway. Cyfarfod Agoriadol. Cyfarfod Terfynol yr Undeb yn Jewin. 24-St. Padarn. Cyfarfod Pregethu. 27-Clapham Junction. Cyngerdd a Chyfarfod Te Blynyddol. Mai. 2—Queen's Hall. Cyngerdd Mawreddog y Cor Cymreig. Hydref. 6—Wilton Square. Te a Chyngerdd Blynyddol. All Communications to the Editor or to the Publisher should in future be addressed to KELT OFFICE, 302 GRAY'S INN RD., LONDON, W.C.
Am Gymry Llundain.
dadlu yn hyawdl dros Atheisiaeth, ac yn taflu gwawd ar ben y neb a gredai ddysgeid- iaeth yr Hen Lyfr. Yr hyn a wnai yr am- gylchiad yn fwy poenus fyth oedd y ffaith fod y person hwn yn flaenor gweithgar gyda'r Methodistiaid hyd yn gymharol ddiweddar. SANCTEIDDIO'R CHWAREUDY.—Cred y Parch. T. Phillips, Bloomsbury, fod yn bosibl troi'r chwareudy i fod o wasanaeth daionus i'r oes bresennol, a phe byddai ganddo ddigon o gyfoeth anturiai sefydlu un o'r newydd i ddysgu crefydd a moesoldeb i'r tyrfaoedd. Hwyrach fod gormod o ragfarn yn bodoli yn erbyn y chwareudy, eto ciedwn y byddai'n waith anhawdd codi'r sefydliadau presennol i'r safon uchel a geisiai'r Parch. T. Phillips bortreadu. Y DIWINYDDION DADLEUGAR. Mae'n frwydr boeth eisoes ymhlith y Diwinyddion pa un ai yr Heft ynte'r Newydd sydd i fod yn ben. Bu Dr. Forsyth, o Hackney, yn euro yn erwin ar ddisgyblion Campbell y dydd o'r blaen yn Hull, ac y mae'r Parch. Camp- bell Morgan eto wedi cadarnhau ei syniadau erlidgar. Ar waetha'r cyfan y mae'r Parch. R. J. Campbell yn parhau mor boblogaidd ag erioed yn y City Temple, ac mae ei syn- iadau yn ennill ffafr gan y lliaws yn y gwahanol eglwysi. Trwy erlid y mae gwneud heresi yn boblogaidd, a diau y gwelir yr hyn a elwir yn heresi gan Dr. Forsyth a'i blaid yn gredo safonol yr Ani- bynwyr cyn y daw oes arall i ben BORO'. Dydd Mercher, Mawrth 30, hwyliodd Mr. Charles Davies, 44, Red Cross Street, Borough, S.E., i Canada ar fwrdd yr agerlong Pomeranian, perthynol i'r Allan Line. Cyflwynodd ei gyfeillion yn y Boro' iddo Feibl hardd ar ei ymadawiad, ac aeth nifer o honynt i'w weled yn cychwyn o Surrey Commercial Docks. Bwriada ym- sefydlu yn West Ontario. Lliosog yw mintai y rhai ymfudant i Canada y blyn- yddoedd hyn. Gwir fod yno ddigon o le iddynt, eto buasai yn burion peth i'r ymfud- wyr hyn gofio mai disgrifiadau disglair o'r wlad a'i manteision roddir gan y Llywod- raeth-nid yw yn haf o hyd yn Canada nac yn unlle arall. Dymuna ei gyfeillion yn y Boro' lwc dda i Mr. Charles Davies yn ei wlad newydd. Mae yn ddyn ieuanc rhag- orol. Y DDIRPRWYAETH EGLWYSIG.-Oherwydd ei alwadau yn yr Uchel Lys, nid yw'r Barnwr Vaughan Williams yn abl i roddi llawer o'i amser, ar hyn o bryd, at achosion y Ddirprwyaeth Eglwysig; ond mae'r Dir- prwywyr yn disgwyl yn ddyddiol am wahoddiad i gyfarfod, gan fod argoelion y gellir cytuno ar adroddiad lied unol. Os llwyddir i sicrhau hyn ni fydd bodolaeth y Ddirprwyaeth wedi bod yn ofer. Miss AMY EVANS. Da gennym glywed fod y gantores swynol hon wedi ei sicrhau i ganu yn rhai o'r prif operaon sydd i ym- ddangos yn Llundain y tymor nesaf. Mae Miss Evans wedi llwyddo i ennill clust y cyhoedd yn gynnar yn ei gyrfa, a sicr y ceir ei gweled, cyn hir, gyda'r goreuon a godwyd yn y ddinas hon. JEWIN. Cynhaliwyd cyfarfod terfynol Cymdeithas Ddiwylliadol Jewin nos Fawrth ddiweddaf, o dan lywyddiaeth Mr. David Edwards. Cafwyd cyfarfod hynod o lwydd- iannus. Dewiswyd y Parch. J. E. Davies, M.A., yn llywydd, a Mr. Dan Williams yn drysorydd. Etholwyd Mr. Evan Evans (Garnault Place), a Mr. Fred Rees, King's Cross, yn ysgrifenyddion, ac ail-benodwyd y personau arferol yn bwyllgor. DILYN CAMRAU EI THAD. Nid yw yn syndod i'w chyfeillion yn y ddinas glywed' fod Miss Eliza Evans-merch yr Hybarch Ddr. Owen Evans, o King's Cross gynt-yn dechreu pregethu. Y mae wedi gwasan- aethu droion yn rhai o'r eglwysi Cymreig yn Lerpwl, a dywedir ei bod yn pregethu yn gymeradwy iawn. Hwyrach y ceir ei chlywed yn rhai o bulpudau yr Anibynwyr yn Llundain cyn bo hir. YR AELOD NEWYDD.—Rhoddodd yr awdur- dodau Rhyddfrydol yn Llundain bob croesaw i Mr. F. W. Gibbins ar ei ddyfodiad i'r Senedd-dy ddechreu'r wythnos, a bu'r Master of Elibank yn siriol iawn wrtho gan ei wahodd i ginio, a'i wneud mor gartrefol ag ydoedd bosibl. TAITH I'R GORLLEWIN. Mae'r bardd- bregethwr Elfed yn bwriadu talu ymweliad a'r America yn ystod yr Hydref dyfodol, a bydd yn absennol o'r wlad hon am ddeufis o amser. Bydd yn hwylio oddiyma yn niwedd Awst, a threfnir iddo ymweled a phrif eglwysi y Cymry yn yr Unol Daleithau cyn y daw yn ol. Penderfynodd Pwyllgor Eisteddfod Gened- laethol Colwyn Bay nos Iau i gyflogi Mabon fel arweinydd am ddau ddiwrnod. Er mwyn arbed amser bydd i'r corau ganu yn y drefn yr ymddangosent ar y rhaglen, a dodir yr enwau i lawr yn y drefn y derbynir hwy. Mr. Yerburgh, A.S., tros Gaer, fydd yn Llywyddu dydd Iau gyda Mr. Lloyd George. Y mae wedi cyfrannu 50p tuag at yr Eis- teddfod. Gadawodd Mr. James Allanson Picton, eiddo gwerth 44,609p 5s. 10c. Gadawodd gyflog blwyddyn i bob un o'i wasanaethydd- ion a fu gydag ef am dair blynedd llawn pan y bu farw chwe mis o gyflog i'r rhai fu gydag ef am lai na thair ond mwy na dwy flynedd; lOOp yn ychwanegol i'w arddwr, William Downton. Gadawodd lyfrau i Golegau Bangor ac Aberystwyth, a gadawodd ei ystad i'w dri mab, ond fod ei weddw i'w meddu tra y bydd hi fyw.