Welsh Newspapers

Search 15 million Welsh newspaper articles

Hide Articles List

3 articles on this Page

GORMOD 0 ATHRAWON.

News
Cite
Share

GORMOD 0 ATHRAWON. Yng Nghynadledd yr Athrawon yn Ply- mouth yr wythnos ddiweddaf ymdriniwyd a phwnc haedda lawer mwy o sylw yng Nghymru nag a roddir iddo, sef yw hynny, fod gormod o'n pobl ieuainc a'u bryd ar fod yn athrawon neu athrawesau yn yr ysgolion elfenol a chanolraddol. Bod yn athraw yw'r uchelgais esyd rhieni o flaen eu plant fyn- ychaf yng Nghymru, ae, yn sicr, y mae'n uchelgais ganmoladwy, ond, yn anffodus, fod bryd cynifer o'n pobl ieuainc yn rhedeg i'r un cyfeiriad, tra yr esgeulusir galwedig- aethau ereill 11awn mor anrhydeddus a mwy enillfawr. Cyffelyb yw ystsid pethau yn Lloegr hefyd, a thrwy'r deyrnas, o ran hynny. O'r 4,836 adawsant y colegau hyfforddiadol yng Ngorffennaf, 1909, yr oedd cynifer a 1,528 heb swydd ym mis Hydref, ac nid yw pethau nemor gwell erbyn hyn, ysywaeth. Cyn y daw amgenach trefn ar fyd yr ysgol a'r athraw, rhaid cael diwygiad trylwyr yn y dull presennol o reoleiddio'r ysgolion. Fel y gwyddis, gwna Bwrdd Addysg bopeth i hwylysu cerddediad y disgybl-athraw i'r coleg hyfforddiadol-agorir y drws led y pen i'r sawl fedd y cymhwysderau angenrheid- iol; ond y foment yr enillant dystysgrif gwynebant ar fyd reolir gan y trethdalwr, ac nid ychydig yw'r beichiau roddir ar ei ys- gwyddau ef yn y dyddiau hyn. Yn wir, mae'r beichiau bron yn annioddefol, ac os na ddaw rhyw gyfnewidiad buan y mae lie i ofni y bydd yn rhaid hyd yn oed i addysg ein plant ddioddef o'r herwydd. Gwaith y Bwrdd Addysg yn y cysylltiadau hyn ydyw hwylysu ffordd y dysgybl-athrawon a'u cymhwyso i ymgymeryd a swydd athraw ond y trethdalwr sy'n gorfod dod o hyd i'r arian i gynnal yr ysgolion a thalu cyflog yr athrawon. Y canlyniad uniongyrchol yw fod dosbarthau o hanner cant neu bedwar ugain o blant yng ngofal un athraw neu athrawes, tra y gwyr y cyfarwydd fod ugain neu lai yn ddigon o ddosbarth i unrhyw athraw a pho fwyaf y dosbarthau yn yr ysgolion, lleiaf o athrawon fydd eisieu. Dyma'r unig arf amddiffynnol fedd y treth- dalwr. Gwyr pawb fod hyn yn gam a'r plant a'r athrawon, ac fod yn amhosibl i'r athraw, boed fedrused ag y bo, i wneud yr hyn sy'n deg a phob plentyn ymddiriedir i'w ofal, heb son am dalu sylw i'r gwahaniaeth yn eu cyneddfau meddyliol a'u gallu i ddir- nad ystyr a neges y wers. Yn wir, y mae'n syndod fod yr athraw yn llwyddo cystal, ar lawer ystyr a thra bo'r trethdalwr yn gorfod dwyn y baich bron yn gyfangwbl, nis gellir disgwyl nemor ddiwygiad yn y drefn bres- ennol. Dadleua'r athrawon mai dyledswydd y Bwrdd Addysg yw dwyn cyfran helaeth o'r baich, ac yn ol y rhagolygon presennol o bob cyfeiriad, dyna fydd ffurf y diwygiad nesaf. Pe bai Cymru yn anad un wlad yn sylwedd- oli yr hyn gyll drwy'r drefn bresennol, y mae'n anhawdd credu na fyddai ar unwaith yn codi ei llais yn groch, ac yn gwneud i'r Bwrdd Addysg, o fodd neu anfodd, ddwyn y baich bron yn gyfangwbl. Yn y cysylltiad- au hyn y mae'r Almaen ymhell ar y blaen dosbarthau bychain yngofal athraw sydd yno, a chaiff hwnnw hamdden a chyfle i aatudio tueddfryd meddwl pob dysgybl- mewn gair, rhoddir ystyr lythrenol i'r adnod honno, Hyfforddia blentyn ymhen ei ffordd," neu, yn fwy cywir, fel y dylai'r adnod ddarllen, yn unol a gogwydd ei feddwl." A thra bo cynifer o athrawon yn segur, a bryd pobl ieuainc ar ddilyn ol eu traed, cymwynas fawr ag addysg fyddai i'n hawdurdodau addysgol droi eu bryd i lwyb- rau ereill, megys Gwasanaeth y Goron. Y mae'n syndod na fuasai mwy o Gymry yn mynd i mewn drwy borth cyfyng y Gwasan- aeth Gwladol, yn lie gadael yr holl swyddau enillfawr hyn i'n cymdogion. Cemlyn yn y Weekly Mail.

Am Gymry Llundain.

TY'R GLEBER.