Welsh Newspapers

Search 15 million Welsh newspaper articles

Hide Articles List

4 articles on this Page

CYMANFA'R PASC.

News
Cite
Share

CYMANFA'R PASC. METHODISTIAETH YN LLUNDAIN. Pa bryd y dechreuwyd Cymanfa'r Pasc ymhlith Cymry Llundain, nid oes sicrwydd, ond y mae ar fin cyrraedd ei chanfed flwyddyn. Ac er fod yr hanes swyddogol yn cyrraedd yn ol i 1813, neu 1812, rhaid cofio fod cyfarfodydd pregethu wedi eu cynnal ar y Pasc yn Llundain cyn diwedd y ddeunaw- fed ganrif, fel mai nid peth dieithr yw cael uchel wyliau y pregethwyr ar yr adeg hon o'r flwyddyn. Ond y mae gwedd tra gwahanol i'r cyn- ulliadau a geir yn awr i'r hyn a welwyd ddechreu y ganrif o'r blaen. Yn lie un neu ddau o leoedd pregethu, ac ychydig ffyddlon- iaid yma ac acw yn y ddinas, y mae'r Cymry wedi ad-feddiannu y ddinas wrth y miloedd, a'r eglwysi Cymreig uwchlaw 30 mewn nifer. O'r nifer hwn, saif y Methodistiaid Calfinaidd ar ben y rhes, fel prif enwad y Cymry, ac o dan nawdd y Cyfundeb hwn y cynhelir Cymanfa'r Pasc. Ystadegau y Flwyddyn. Erbyn adeg cynnal y Gymanfa y mae holl gyfrifon y Cyfundeb yn cael eu cyhoeddi, a gofelir am y rhain gyda'r fath fanylder ag sy'n brawf o lafur dirfawr ar ran yr ystadegwyr. Yn y llawlyfr gyhoeddwyd ar foreu'r Grog- lith ceir fod sefyllfa y Cyfundeb yn Llun- dain ar hyn o bryd fel a ganlyn Capelau a Lleoedd Pregethu 16 Canghenau Ysgolion 9 Gweinidogion 14 Pregethwyr 8 Aelodau 4263 Plant 1236 Gwrandawyr 5955 Athrawon yr Ysgol Sul 247 Ygolheigion. 2190 Prawf yffigyrau hyn fod adran helaeth o Gymry Cymreig y ddinas yn perthyn i'r Cyfundeb Methodistaidd, a dengys y ffigyrau mai nid gwanhau, eithr myned ar gynnudd y mae'r Eglwysi. Yn rhagor na bod yn enwad poblogaidd mae'r Cyfundeb yn llawn gweithgarwch yn ogystal, fel y gwelir oddi- wrth y symiau a gasglwyd tuag at yr achosion :— Casgliadau yr Eglwysi £ 3996 At Ddileu Dyled Capelau 1722 Ardreth Eisteddleoedd 892 Cyfanswm y Casgliadau 9188 Cyfrifir fod gwerth presennol yr eiddo ym meddiant y Cyfundeb dros gan mil o bun- nau, ac o'r sum hwn y mae dyled drom o £ 43,026 yn aros heb ei thalu. Yr eglwysi mwyaf Iliosog eu haelodau gan y Cyfundeb yn Llundain ydynt- Charing Cross 771 Jewin Newydd 646 Falmouth Road 391 Shirland Road 385 ac mae rhagolygon cynyddol i amryw o'r achosion newydd sydd wedi eu sefydlu yn ystod y deng mlynedd diweddaf hyn. Doniau Dieithr. Trefnir i nifer o wyr blaenaf y Cylundeb dalu ymweliad a'r Eglwysi ar adeg y Gym- anfa, ac eleni cafwyd presenoldeb y gwyr da. hyn- Parchn. David Williams, Llanwnda; J. Cynddylan Jones Robert Jones, y Rhos; John Williams, Caergybi; W. Elias Wil- liams; Ellis James Jones; John Williams, Brynsiencyn Robert Williams, Glanconwy David Hoskins W. R. Jones T. M. Pierce D. H. Lloyd; Jenkin Jones, Barri David Davies, Miskin; a Gwilym Williams, Cei- newydd. Daeth mwyafrif y brodyr hyn ynghyd i'r Seiat Gyffredinol, yr hon a gynhaliwyd yn New Jewin foreu'r Groglith am ddeg o'r gloch. Llywyddwyd y gweithrediadau gan y Parch. John Thickens-cadeirydd y Cyf- arfod Misol-a daeth cynulliad mawr ynghyd. Y Parch. Ellis James Jones oedd y gwr a drefnwyd i wneud sylwadau ar yr ystadegau, a doeth y gwnaed y penodiad, canys un o hen fugeiliaid eglwys Lundeinig yw'r Parch. Ellis J. Jones. Dyddorol oedd ei glywed yn adrodd rhai o'i brofiadau pan yma yn llaf- urio, ac yn cymharu sefyllfa lewyrchus bresennol yr Eglwysi i'r hyn oeddent 25 mlynedd yn ol, pan ddaeth ef yma yn fugail am y tro cyntaf. Yr oedd yn llawen ganddo weled y cynnydd, a deall fod popeth yn llwyddo yn eu mysg; ac er cymaint yr anhawsterau ieithol a theuluol, credai fod cenhadaeth arbennig gan yr Eglwysi Cym- reig i'w cyflawni.

[No title]

Advertising

Am Gymry Llundain.