Welsh Newspapers

Search 15 million Welsh newspaper articles

Hide Articles List

1 article on this Page

Am Gymry Llundain.

News
Cite
Share

Am Gymry Llundain. Y GWYLIAu.-Dyma'r Pasc wrth y drws ac arwyddion fod yr haf yn dynesu. DIWEDD TYMOR.— G-yda dyfodiad y Pasc mae'r Cymdeithasau Llenyddol yn gorffen eu tymor. Nos lau ddiweddaf rhoddodd Cym- deithas Jewin ei chyngerdd olaf, a heno (nos Sadwrn) bydd tymor Cymdeithas y Taber- nacl yn dirwyn i'r terfyn. Y GROGLITH.—Cynhelir Cymanfa Ganu yr Anibynwyr ar y Groglith, yng Nghapel y Tabernacl, King's Cross, fel arfer. Yn y prydnawn cynhelir odfa arbennig i'r plant, dan lywyddiaeth Mr. Gregory Kean-hen athraw ffyddlon ar blant Ysgol Sul am dros 30 mlynedd-ac yn yr hwyr ceir gwledd o gan, fel arfer, gan yr eglwysi unedig. CYMANFA'R METHODISTIAID. Dyma adeg uchel-wyl yr Hen Gorff yn Llundain, a dis- gwylir nifer o gewri y Cyfundeb i wasan- aethu yr eglwysi ar yr achlysur. EGLWYS DEWI SANT.—Cynhelir y cyfarfod cystadleuol ynglyn a'r eglwys hon ar nos Gwyl y Banc fel arfer. Mae nifer o gystad- leuon dyddorol wedi eu trefnu, a cheir rhaglen ond anfon at yr ysgrifennydd lleol. TORRI CYHOEDDIAD. Ni ddaeth Mr. Edgar Jones, A.S., i gyfarfod dirwestol Falmouth Road, nos Iau cyn y ddiweddaf, fel yr hysbyswyd. Mae'n debyg i'w alwadau Seneddol ei rwystro i adael cyffiniau Ty'r Cyffredin. NODACHFA LWYDDIANNUS. Llwyddodd y cyfeillion ynglyn a'r gan gen Ysgol Gymreig yn Poplar i gael nodachfa hynod lewyrchus yn Charing Cross yr wythnos ddiweddaf. Yr oedd neuadd y capel wedi ei harddu yn ddestlus, a llanwyd y lie a phob math o nwyddau deniadol. Ddydd Iau agorwyd y gweithrediadau gan Mrs. Mond, priod yr aelod dros Abertawe. Llanwyd y gadair gan Mr. Howell J. Williams, C.S.LI., yr hwn a groesawodd Mrs. Mond mewn araith hapus, gan ddatgan ei ddiolch i'r foneddiges am ei pharodrwydd yn dyfod yno ar fyr rybudd. Yr oedd yn llawen ganddo weled yr Aelodau Seneddol Cymreig yn gwneud cymaint dros Gymru, ond o ran hynny dylent wneud rhywbeth fel ad-daliad am gael cynrychioli'r fath etholaethau diogel yn ein Senedd. Atebodd Mrs. Mond mewn araith swynol gan ddymuno pob llwydd i'r mudiad ar ran y Cymry yn ardal Poplar. Ddydd Gwener agorwyd y gweithrediadau gan Lady Bryn- mor Jones, a daeth Syr Brynmor yno i gynorthwyo ei briod, a chaed ychydig syl- wadau amserol ganddo. Yn ystod y deu- ddydd bu'r cyfeillion yn hynod o fywiog yn prynnu a gwerthu, a da gennym ddeall fod elw sylweddol wedi ei wneud o'r anturiaeth. Bu catrawd liosog o ffyddloniaid yn gweithio yn egniol am wythnosau, a da yw gweled coroni eu hymdrechion ar ran gwaith mor haeddianol. Y GYMANFA DDIRWESTOL.-Daeth cynulliad llawn i gapel Falmouth Road nos Iau, Mawrth lOfed, er cymeryd rhan yn y Gym- anfa Ddirwestol, a llywyddwyd yn hynod fedrus gan Mr. Timothy Davies, Y.H.—gwr sydd bob amser ar ei oreu dros ddyrchafu ei gydgenedl yn Llundain. Yn anffodus ni ddaeth yr aelod newydd dros Ferthyr yno fel y disgwylid, ond gwnaed y diffyg i fyny gan siaradwyr effeithiol ereill. Rhoddodd yr ysgrifennydd, Mr. Isaac Lloyd, Chelsea, adroddiad calonogol am sefyllfa y mudiad Dirwestol yn Llundain, ac am y gwaith daionus wneid dros achos sobrwydd ynglyn a'r gwahanol eglwysi. Cyfrifid fod yn agos i 75 y cant o'r holl aelodau eglwysig yn Ddirwestwyr. Wedi cael adroddiad yr ysgrifennydd, cododd Mr. Timothy Davies gan draddodi araith fyw ar y difrod echrys- Ion wnai'r fasnach feddwol ar ein gwlad ac yn bennaf ar ein cydgenedl yn Llundain. Ar ol hyn rhoddodd Mr. D. R. Daniel wedd newydd i ni ar achos sobrwydd gan bwys- leisio'r angenrheidrwydd o addysgu ein gweinidogion yn benodol yn y broblem fawr hon. Nid rhywbeth i'w gyflawni mewn un dydd oedd sobri'r Deyrnas hon, eithr gwaith graddol a pharhaol ydoedd. Rhaid i ni arfer dulliau newydd i wrthweithio'r dylan- wadau newydd sydd yn y tir, a'r ffordd effeithiolaf i wneud hyn oedd drwy sicrhau fod ein harweinwyr yn gwybod eu gwaith. Rhaid dysgu ein pobl ieuainc yn ein colegau sut i fyw yn ymatferol, nid ceisio stwffio eu hymenydd a phroblemau damcaniaethol sut y daeth pechod i'r byd, eithr gwynebu ffeith- iau gyda difrifwch a threfnu sut i yrru pechod o'r byd. Wedi hyn cafwyd aoerch- iadau gan y Parchn. T. F. Jones (Shirland Road), S. E. Prytherch (Falmouth Road), a G. H. Havard, Wilton Square. Canwyd yn ystod y cyfarfod gan Miss Maud Williams, Holloway, a Mr. Joseph Davies, Dockhead, a diweddwyd drwy weddi gan y Parch. D. Tyler Davies, Clapham Junction. CYDNABOD GWASANAETH.—Un o gefnogwyr pybyraf cor meibion Merlin Morgan yn ystod yr wyth mlynedd ddiweddaf fu Mr. J. T. Jones, cyn drysorydd y mudiad. Yn anffodus bu raid i Mr. Jones yn ddiweddar ymddeol a'r gwaith a'r god, fel y bu raid i'r meibion chwilio am arall i lanw'r bwlch Nos Sadwrn ddiweddaf galwyd aelodau y cor ynghyd wrth fwrdd gwledd i'r amcan o gyflwyno anrheg sylweddol i Mr. Jones am ei lafur gyda'r cor o'r dechreu hyd ei yma- dawiad. Yn Reggiori'i Restaurant y cafwyd y cyfarfod, a llywyddwyd gan Mr. E. T. Williams, cyn ysgrifennydd y cor. Ar ran y meibion, cyflwynwyd i Mr. Jones anerchiad, ynghyd ag oriawr aur o'r gwaith goreu, ar yr hon yroeddcyflwyniad addas wedi ei gerfio. Siaradwyd gan Mri. Merlin Morgan, Mr. W. J. Jones, a Mr. E. J. Williams, yn edmygol iawn o lafur Mr. J. T. Jones. Rhoddwyd areithiau ereill gan Mri. Stanley Davies, T. J. Evans, ac E. A. Jones, tra y bu nifer o aelodau y cor yn dyddori'r cynulliad a nifer o ganeuon hynod o swynol. Yr oedd y cyfan mewn cywair hapus, ac yn brawf fod cor y bechgyn yn sefydliad hir-barhaol, gan fod yr oil o'r aelodau yn teimlo yn berffaith hyderus yng ngwaith y tymor. BORo'Nos Iau, Mawrth 10, cynhaliodd Cymdeithas Lenyddol yr eglwys uchod gyngerdd uwchraddol. Noson y meibion ydoedd. Llywyddwyd gan Mr. William Jones, Thames Street, yr hwn sydd yn un o ffyddloniaid y Gymdeithas Lenyddol yn y Boro', fel y bu drwy ei oes. Llywyddodd yn fedrus yn ol ei arfer. Cymerwyd rhan yn y gweithrediadau gan Mri. Trevor Evans, W. R. Watkins, H. J. Parker, Fred Sayer, David Blakey, E. R. Wood, T. E. Evans, Harry Watkins, Thomas Gibbon James, Emrys James, Haydn Jones, John Myrddin Lewis, D. Waters, William Jones, John Islwyn Lewis, a Chor Meibion y Boro', dan arweiniad Mr. D. James, A.C. Gwnaeth pob un ei waith yn rhagorol, a chafwyd un o'r cyngherddau hyfrydaf. Rhoddodd Mr. J. Morgan Jones, 7, Crooked Lane, wledd o de a danteithion i bawb ar ganol y cyngerdd, a mwynhawyd y cwbl gan y dorf fawr a ddaeth ynghyd. Diolchwyd yn wresog i bawb am y wledd i'r corff a'r meddwl. .MARW-GOFFA.-Saboth, Chwefror 20, bu farw Mrs. Gwen James, anwyl briod Mr. Evan James, Einion Stores, Glandyfi, yn 77 mlwydd oed. Treuliodd hi a'i phriod eu bywyd priodasol maith yn y Bryngwyn Isaf, Llanfihangel, hyd o fewn i ddwy flynedd yn ol, pryd y rhoisant i fyny y tyddyn, ac y symudasant i fyw i Glandyfi. Nid oedd iechyd y ddau yn gryf iawn, eto nid oedd dim yn arwyddo fod angau mor agos i Mra. James Ei meddyg ydoedd Dr. James,. Lodge Park, yr hwn a ofalai yn ffyddlon i wneud popeth ellid ei wneud erddi i'w chadw yn fyw. Daeth y diwedd yn sydyn. Cladd- wyd hi ddydd Gwener dilynol ym mynwent. Penygarn, ym mhresenoldeb tyrfa fawr o'i chydnabod a'i hedmygwyr. Gweinyddwyd yn ei hangladd gan y Parchn. H. Roberts, D. C. Jones, Wnion Evans, W. Morgan,, a, T. J. Morgan. Dynes ragorol iawn oedd Mrs. James. Gweinyddodd lu 0 gymwyn- asau i'r anghenog mor ddidwrf a disgyniad gwlith y bore. Bydd adwy ledan ar ei hoi yn ei holl gylchoedd. Erys ei choffadwriaeth yn werddlas dros lawer oes. Boed nodded ddwyfol i'w' phriod a'i phlant yn nydd yr ystorm. MARWOLAETH MRS. JONES, SOUTH SIDE, CLAPHAM COMMON, S.W.—Gyda gwawr y Saboth, Chwefror 20fed, ehedodd ysbryd y chwaer anwyl uchod at Dduw yr hwn a'i rhoes ef." Bu yn gwaelu yn raddol er's- rhai blynyddau, ond daeth y diwedd yn anisgwyliadwy-a hi yn 70ain mlwydd oed. Ganwyd Mrs. Jones yn ardal Bethania, Sir Aberteifi: hanai o deulu oedd yn nodedig ar gyfrif ei rhagoriaethau. Llanwodd ei thad y swydd o flaenor yn eglwys y Metho- distiaid Calfinaidd yn eglwys Bethania am flynyddoedd lawer, ac erys ei enw yn ddyl- anwad dyrchafol yn yr eglwys a'r gymdog- aeth hyd heddyw. Yr oedd ei ferch yn deilwng gynrychiolydd o'r cyff anrhydeddus y tarddodd o hono nid ydoedd yn ofynol i neb fod yn hir yn ei chymdeithas cyn deall ei bod yn wraig uwchraddol mewn amryw gyfeiriadau. Daeth i Lundain tua 30ain mlynedd yn ol, yn llawn gobeithion a chyn- lluniau am ddyfodol gwyn a dibrofedigaeth ond! yn fuan iawn wedi ymsefydlu yn y brifddinas galwyd arni i ddilyn gweddillioa marwol ei phriod hoff i dy ei hir gartref. Disgwyl pethau gwych i ddyfod Croes i hynny maent yn dod." Yn ffodus iddi hi, yr oedd yn adnabod Tad yr amddifaid a Barnwr y gweddwon," a. chafodd Ef yn llond ei addewidion trwy gydol ei phererindodaeth. Trwy fendith Duw ar ei ymroddiad a'i dyfalbarhad, llwyddodd i orchfygu pob rhwystr, a dygodd ei theulu i fyny yn anrhydeddus. Hanner addolid hi gan ei phlant ei hun, ac anwylid hi yn ddirfawr gan bawb a'i hadwaenai. Yr oedd yn gymeriad prydferth rhyfeddol: meddai bersonoliaeth gref ac urddasol. Yr oedd yn foneddiges wrth natur, a choronid y cwbl gan brydferthwch sancteiddrwydd. Y mae yn Llundain lawer o wragedd sydd yn golofnau mewn defnyddioldeb distaw, ond byddai yn anhawdd cyfarfod ag un sydd yn rhagori yn y cydgyfarfyddiad o bob dawn fel y ceid yn Mrs. Jones. Yr oedd yn nod- edig ar gyfrif glendid ei gwefusau: ni chyfodai enllib, ac ni wrandawai ar absen. Cymerodd ddyddordeb dwfn yn symudiadau yr eglwys yn Falmouth Road, ac yr oedd bob amser yn barod i gydweithredu mewn cyfraniadau a gweithgarwch er llwyddiant yr achos. Yr oedd crefydd yn ei chalon: yr oedd iddi air da gan bawb, a chan y gwir- ionedd ei hun. Gosodwyd yr hyn oedd. farwol o honi ym meddrod y teulu, yn Ilford, y dydd Sadwrnn canlynol—ynghanol ar- wyddion o barch ac o hiraeth gwir. Gwasan- aethpwyd yn yr amgylchiad gan ei gweinidog —Parch. S. E. Prytherch. Cymerodd y gwasanaeth yng nghapel Falmouth Road y nos Sul dilynol, ei gyweirnod oddiwrth ei marwolaeth. Yn ychwanegol at bregeth angladdol gan y gweinidog, cafwyd sylwadau