Welsh Newspapers

Search 15 million Welsh newspaper articles

Hide Articles List

4 articles on this Page

PRIODAS MISS CASSIE DAVIES,…

News
Cite
Share

PRIODAS MISS CASSIE DAVIES, JEWIN. Dydd Sadwrn, Mawrth 12fed, daeth cyn- ulliad mawr ynghyd i gapel Jewin Newydd i gymeryd rhan yn nefod briodasol un o ferched poblogaidd yr eglwys, ac i ddymuno byd dedwydd i'r ddeuddyn ar eu huniad hapus. Y briodferch ydoedd Miss Cassie Davies, yr hynaf o ferched y Parch. J. E. Davies, M.A. (Jewin) a Mrs. Davies, a'r priodfab y Dr. R.PercivalJones" Derwen- deg," Pontlottyn, Mynwy-mab hynaf Mr. Roger Jones, B.A., Prifatbro Ysgol Sirol Pengam, Mynwy. Un o'r bechgyn ieuainc talentog hynny sydd wedi enwogi ei hunain ymyd y meddyg- on yw Dr. Jones, a chafodd yrfa lwyddiannus iawn yn Ysbytty'r Brifysgol yn Llundain ac ar ol gorffen ei yrfa addysgol, llwyddodd i gael ei benodi yn un o brif feddygon i lofa y Powell-Duffryn. Yr oedd merched ieuainc yr eglwys wedi addurno yr adeilad yn hardd ar yr achlysur, ac edrychai'r cyfan fel gardd ffrwythlawn a pheraidd. Pan ddaeth yr orymdaith i'r capel, canwyd y gerdd briodasol ar yr organ gan Mr. W. Rees. Y Parch. J. J. Roberts Iolo Caernarfon," oedd yn rhoddi'r cwlwm priodasol, a chynorthwywyd ef gan y Parch. Thomas Thomas, Aberaman (ewytbr y briod- ferch), a Mr. W. Prydderch Williams. Gweinyddwyd ar y priodfab gan ei frawd, Mr. Cyril Jones, Cyfreithiwr, Bargoed; a'r morwynion a weinent ar y briodferch oedd- ent Miss May Davies (chwaer), a Miss Ethel Jones (chwaer y priodfab). Rhoddwyd Cassie" ymaith gan ei thad, ac edrychai yn swynol iawn mewn gwisg o bali, lliw'r ifori, a chanddi glwm o flodau'r aeron fel eoronbleth. Ar ol y ddefod yn y capel aeth y cwmni i westy'r Charterhouse, lle'r oedd boreufwyd wedi ei baratoi, ac y croesawyd y gwahodd- digion gan y rhieni a'r par ieuanc. Cyn ymwahanu dymunwyd hir oes i'r ddeuddyn gan Mr. J. H. Jones, Y.H., Abertillery, a ehan Mr. D. Edwards, Jewin, a diolchwyd yn gynnes i'r dorf gan Dr. Jones ar ei ran ef a'i briod. Yn y prydnawn ymadawodd y par ieuanc i draethau Cernyw, lie y treulir y mis mel. Daeth dros 200 o anrhegion drudfawr i'r par ieaanc cyn dydd y briodas, yr hyn brawf eu poblogrwydd a'r dyddordeb gymerai eu cyfeillion yn yr uniad. CYFARCHIADAU Y BEIRDD. Cassie anwyl Cofiaf heddyw Am holl swyn dy foreu gloyw, Yn enethig lawn o burdeb, Lon dy wenau, lan dy wyneb,— Lawn o chwareu a sirioldeb, Fyw o dlysni a newydd-deb. Cofiaf di: mae modrwy euraidd Weithian ar dy law gyfluniaidd. Gwelais di yn tyfu'n wylaidd, Yn bereiddfwyn a charuaidd,— Tyfu mewn diwylliad grasol, Ac mewn defnyddioldeb swynol,- Mewn hawddgarwch a doethineb, Mewn anrhydedd a duwioldeb. Deffro bu dy addewidion Gwynion ynom ber obeithion Wele hwynt yn gyflawniadau Disglair weithian ger ein bronnau, Gwraig fireiniaf wyt yr awrhon I anwylyd pur dy galon. Am dy briod claer ei fonedd, Mab athrylith Ilawn o rinweddl-- 0 hawddgarwch ac anrhydedd, Clywaf hanes rhagoriaethau Mawrion prydferth—rhyfeddodau Mewn medrusrwydd a dirnadaeth, Mewn enwogrwydd a gwasanaeth,— Hanes gwir orchestion gloywon Ydynt yn fendithion mawrion,— Hanes Ilwyddiant gostyngedig, Gydag urddas nef-anedig. Boed ei freintiau yn cynhyddu, Boed ei glodydd yn ymledu- Byddi di yn anadl newydd Bellach yn ei enaid beunydd. Gwened Duw a dynion arnoch, Nodded nefol byth fo drasoch,- Cariad pur fo yn eich hysbryd, Llewyrch lor fo ar eich bywyd Ac atebed eich gweddiau Drwy afrifed drugareddau. Cyfarwydded Crist eich camrau,, Tyfed blodau ar eich llwybrau, Boed eich byd yn Eden iraidd Boed eich dyddiau oil yn hafaidd Boed eich cartref byth yn noddfa Boed eich diwedd pell yn Wynfa. loto Caernarfon. Teg gariad plant y cewri-yn awyr New Jewin wnaeth godi Yn uwch, uwch ac hoywach i Roi eu bryd ar briodi. Mae heddyw glod i'r meddyg glwys-yn ben Banon hardd glyn Tawys Yn iach i roi bellach bwys Ar hudol lawnt Paradwys. Gymraes gu am wresog gan—hen Walia Hwyliwch i wlad Forgan; Rhudd yw y wawr rhydd eirian Haul i deml croesawol dan. Morganwg, muriau gwynion-au noddo A'u mynyddoedd sythion Dal heb weled helbulon, Neu drais dig bradwrus don. Ion, dy aden nodedig-o estyn Drostynt yn arfredig; A dedwydd hynt iddynt yn ol I fyd hudol gwynfydedig. Tywnog Jeffreys.

[No title]

Advertising

A BYD Y GAN.